Neidio i'r prif gynnwy

Pam ein bod wedi cyflwyno terfyn cyflymder o 20mya.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ydych chi yn adolygu’r terfyn cyflymder o 20mya?

Mae mwy a mwy o bobl o blaid sicrhau cyflymder diogel mewn cymunedau, a gallwn ddatblygu ar hynny. Rydym yn dal i gredu bod 20mya yn iawn, ond rydym am sicrhau ein bod yn rhoi’r terfynau cyflymder cywir ar y ffyrdd cywir.

Rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf 2024, mae Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth yn cynnal rhaglen o wrando a fydd yn cwmpasu pob rhan o Gymru, gan roi cymunedau wrth wraidd ein ffordd o feddwl, a gwrando ar leisiau’n dinasyddion. Bydd yn cwrdd â dinasyddion, gyrwyr bysiau, y gwasanaethau brys, yr heddlu, pobl ifanc, pobl agored i niwed, busnesau, cynghorwyr sir, tref a chymuned a nifer o bobl eraill – er mwyn trafod â nhw a deall eu barn ar ddiogelwch ar y ffyrdd mewn ardaloedd preswyl.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi cwrdd ag awdurdodau lleol Cymru ac wedi gwrando arnynt, er mwyn paratoi ar gyfer newid.

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol er mwyn paratoi ar gyfer newid. Mae cynghorau eisoes yn edrych ar ffyrdd lleol lle gallai fod angen newid. Rydym hefyd yn annog pobl i gysylltu â’u cyngor lleol i ddweud wrthynt lle y maent yn credu y dylid targedu 20mya.

Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth drwy diweddaru ein canllawiau yn sydyn i’w gwneud yn fwy amlwg pa ffyrdd ddylai fod â therfynau cyflymder o 20mya a 30mya. Disgwylir y bydd y canllaw eithriadau wedi’i ddiweddaru yn barod ac yn cael ei gyhoeddi Haf 2024.

Unwaith y bydd awdurdodau lleol wedi gweithio gyda chymunedau ac y bydd y canllawiau newydd wedi eu cwblhau, bydd awdurdodau lleol yn gallu dechrau ar y broses o addasu terfynau cyflymder ar ffyrdd sy’n cael eu heffeithio. Rwy’n disgwyl i’r broses hon ddechrau o fis Medi 2024 ymlaen. 

Beth os wyf o’r farn bod y terfyn cyflymder anghywir ar ffordd ar hyn o bryd?

Ni newidiwyd yr holl ffyrdd 30mya yn ffyrdd 20mya ym mis Medi 2023.

Gallwch weld map ar MapDataCymru sy’n dangos pa ffyrdd sydd wedi aros yn ffyrdd 30mya.

Ond wrth ichi deithio, mae’n bosibl y byddwch yn dod ar draws rhan o ffordd sydd:

  • yn 20mya ar hyn o bryd, a’ch bod o’r farn y dylai fod â therfyn cyflymder 30mya, neu 
  • yn 30mya ar hyn o bryd, a’ch bod o’r farn y dylai fod â therfyn cyflymder  20mya.

Gallwch gysylltu â’ch awdurdod lleol i ofyn iddynt ailystyried ffyrdd.

Bydd yr awdurdod lleol wedyn yn ystyried adborth y gymuned a’r meini prawf eithriadau wedi’u diweddaru cyn gwneud penderfyniad ar derfyn cyflymder rhan o ffordd.

Sut wyf i’n gwybod os yw ffordd yn 20mya?

Os ydych chi’n gyrru mewn ardal breswyl neu ardal adeiledig, a bod goleuadau stryd yno, yna gyrrwch ar 20mya os na welwch chi arwydd yn dweud yn wahanol.

Gweld goleuadau stryd? Tybiwch 20mya.

Mae arwyddion porth yn dangos terfyn cyflymder, yr arwyddion mwyaf wrth i chi deithio i mewn i ardal terfyn cyflymder gwahanol, i nodi’r cyflymder cywir yn glir.

Ni chaniateir arwyddion atgoffa bellach ar ffyrdd os mai 20mya yw’r terfyn diofyn. Arwyddion atgoffa yw’r arwyddion bach siâp cylch a welir yn aml ar oleuadau stryd. Fodd bynnag, gan eu bod yn dangos y cyflymder cywir, bydd awdurdodau lleol yn cael hyd at fis Medi 2024 i waredu’r arwyddion hyn. Mae hyn hefyd yn berthnasol i arwyddion parthau 20mya y tu allan i ysgolion a bydd awdurdodau lleol yn cael hyd at 2028 i waredu arwyddion 20mya sydd wedi eu paentio ar arwyneb ffyrdd.

Mewn unrhyw ardal 20mya heb oleuadau stryd, mae arwyddion ychwanegol yn eu lle i nodi’r terfyn cyflymder.

Ond mewn ardaloedd adeiledig, pan fyddwch yn gweld goleuadau stryd, tybiwch 20mya, os na welwch chi arwydd yn dweud yn wahanol.

Pa effaith y mae’r terfyn cyflymder newydd wedi ei chael?

Mae data 20mya cynnar a gyhoeddwyd gan Trafnidiaeth Cymru ym mis Chwefror 2024 yn dangos bod cyflymderau wedi gostwng 4mya ar y prif ffyrdd a fonitrwyd ar gyfartaledd ers cyflwyno'r terfyn cyflymder rhagosodedig 20mya yn genedlaethol. Cynhaliwyd y gwaith monitro mewn 43 lleoliad mewn 9 anheddiad.

Mae monitro yn parhau a bydd yn cael ei gyhoeddi pan fydd canlyniadau ar gael.

A fyddaf yn cael dirwy os na fyddaf yn cadw at y terfyn cyflymder newydd?

Mae GanBwyll a phartneriaid yr heddlu yn defnyddio cyfuniad o ymgysylltu a gorfodi. 

Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan GanBwyll.

A wnaiff Llywodraeth Cymru dderbyn arian o ddirwyon goryrru?

Nid yw Llywodraeth Cymru yn derbyn unrhyw arian o ddirwyon goryrru. Fel gyda phob dirwy sy'n goryrru, bydd unrhyw arian a gynhyrchir yn mynd i Drysorlys EM.

A yw’r terfyn cyflymder yn berthnasol i gerbydau brys, ee. yr heddlu, y gwasanaeth tân, ambiwlans?

Yn ôl y gyfraith, caniateir i'r heddlu, gwasanaethau tân ac ambiwlans fynd dros derfynau cyflymder i ymateb i alwadau brys. Nid yw cyflwyno'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya yn newid hynny ac felly ni ddylid gweld oedi cyn ymateb.

Mae'r heddlu'n credu na fydd amseroedd ymateb yn cael eu heffeithio ac y gallai'r ffyrdd arafach ei gwneud yn haws i'r gwasanaethau brys gyrraedd.

A yw’r terfyn cyflymder newydd wedi achosi mwy o dagfeydd traffig?

Hyd yn hyn nid oes unrhyw arwydd bod tagfeydd wedi cynyddu o ganlyniad i’r terfyn cyflymder newydd.

A yw gyrru ar gyflymder o 20mya yn niweidio ceir?

Bydd cael pobl i yrru’n arafach yn arwain at lai o grafu ar deiars, y ffyrdd a’r brêcs. Mae gyrru esmwyth, a chyflymu a brecio llai, yn cynhyrchu llai o ronynnau wrth dreulio’r brêcs a'r teiars. Gallwch darllen mwy ar wefan Trafnidiaeth Llundain.

A yw gyrru ar gyflymder o 20mya yn defnyddio mwy o danwydd?

Y ffordd rydyn ni'n gyrru sy’n dylanwadu ar y defnydd o danwydd yn bennaf - mae gyrru ar gyflymder cyson yn well na stopio ac ail-gychwyn (gweler Trosolwg NICE | Llygredd aer: ansawdd yr aer yn yr awyr agored a iechyd | Canllawiau | NICE.  Gall terfyn 20 mya diofyn a dull gyrru llyfn, helpu i osgoi cyflymu ac arafu diangen, gan arbed tanwydd.

Gall cyflymu hyd at 30mya gymryd ddwywaith yn fwy o ynni â chyflymu hyd at 20mya.

A yw gyrru ar 20mya yn cynyddu llygredd aer?

Gwelodd yr Imperial College yn Llundain fod ardaloedd sydd wedi’u cyfyngu i 20mya yn "niwtral o ran llygredd".  Mae llawer o bethau'n cyfrannu at lefelau llygredd. Maent yn cynnwys:

  • arddull gyrru,
  • cyflymu
  • brecio,
  • cyflwr cerbyd
  • pellter sy’n cael ei deithio a
  • thymheredd yr injan.

Credwn y gallai y terfynau cyflymder is yn annog mwy o bobl i ddewis ffyrdd llesol o deithio a bydd llai o geir sy’n llygru ar y ffyrdd.

Pam wnaethoch chi gyflwyno terfyn cyflymder o 20mya?

Mae’r dystiolaeth ledled y byd yn glir iawn - bydd gostwng cyflymder yn arbed gwrthdrawiadau, arbed bywydau a lleihau anafiadau – gan helpu i wella ansawdd bywyd a gwneud ein strydoedd a’n cymunedau lleol yn fwy diogel i bawb.

Roedd gwaith ymchwil a gynhaliwyd gan ymarferwyr iechyd y cyhoedd a Phrifysgol Edinburgh Napier yn amcangyfrif y gallai’r terfyn cyflymder diofyn yng Nghymru o 20mya arwain – bob blwyddyn – at oddeutu:

  • 40% yn llai o wrthdrawiadau
  • 6 i 10 o fywydau’n cael eu harbed pob blwyddyn
  • 1,200 i 2,000 o bobl yn osgoi anafiadau

Bwriad  newid hefyd fydd:

  • gwneud strydoedd yn fwy diogel ar gyfer chwarae, cerdded a seiclo
  • annog mwy o bobl i gerdded, olwynio neu feicio
  • gwneud ein cymunedau yn fwy diogel
  • gwella iechyd a lles
  • lleihau llygredd sŵn

Cafodd y ddeddfwriaeth ei chymeradwyo gan Senedd Cymru ym mis Gorffennaf 2022.

Faint mae'r newid hwn yn ei gostio?

Mae gweithredu’r terfyn cyflymder o 20mya wedi costio tua £32 miliwn.

Mae ymchwil a wnaed gan ymarferwyr iechyd cyhoeddus a Phrifysgol Napier Caeredin yn awgrymu y gallai'r gostyngiad amcangyfrifedig mewn anafiadau bob blwyddyn o gyflwyno'r terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya yng Nghymru, ddarparu tua £92m mewn arbedion atal.

Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, lai o effaith ar y GIG a'r gwasanaethau brys. Arbedion eraill a gynhwysir yw costau dynol ac allbwn a gollwyd (gan gynnwys enillion a gollir yn y dyfodol).

Nid yw yn cynnwys manteision iechyd ehangach posibl cael pobl i gerdded a beicio mwy.

A fydd hyn yn effeithio’n negyddol ar economi Cymru?

Mae ein hasesiad yn dangos y gall lleihau cyflymder i 20mya arwain at gynnydd cyfartalog o un munud fesul taith, ond bod 9 o fywydau yn cael eu hachub a 98 o anafiadau difrifol yn cael eu hatal bob blwyddyn.

Cyn i'r gyfraith gael ei phasio, lluniwyd asesiad effaith a oedd yn ystyried yr holl gostau a’r manteision posibl a amcangyfrifir. Cafodd hyn ei gynnwys yn y memorandwm esboniadol.

Roedd yn cynnwys costau unrhyw oedi i amser teithio, gan gynnwys teithiau hamdden, dros 30 mlynedd. Cafwyd rhywfaint o drafodaeth academaidd am y dull hwn.

Felly, gall rhai elfennau o’r gost a amcangyfrifir i’r economi fod yn fwy ansicr.

Mae ymchwil a wnaed gan ymarferwyr iechyd cyhoeddus a Phrifysgol Napier Caeredin yn awgrymu y gallai'r gostyngiad amcangyfrifedig mewn anafiadau bob blwyddyn o gyflwyno'r terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya yng Nghymru, ddarparu tua £92m mewn arbedion atal.

Lle wnaethoch chi dreialu hwn, a beth oedd y canlyniadau?

Treialwyd y terfyn cyflymder 20mya gennym mewn 8 ardal.  Y rhain oedd:

  • Y Fenni a Glannau Hafren, Sir Fynwy
  • Gogledd Caerdydd
  • Bwcle, Sir y Fflint
  • Pentref Cil-ffriw, Castell-nedd a Phort Talbot
  • Llandudoch, Sir Benfro
  • Saint-y-brid, Bro Morgannwg
  • Gogledd Llanelli, Sir Gaerfyrddin

Cewch ddarllen yr adroddiad monitro terfynol a’r adroddiad monitro cyntaf ar wefan Trafnidiaeth Cymru, sy'n manylu ar rai o'r effeithiau y mae cyflwyno 20mya wedi'u cael yn y cymunedau hyn. Mae'r cyflymder cyffredinol wedi lleihau yn yr ardaloedd hyn.

Sut mae terfyn cyflymder is yn gwella diogelwch?

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud mai'r ffordd fwyaf effeithiol o wella diogelwch cerddwyr yw lleihau cyflymder cerbydau.

Yn 2022, mae ffigyrau'r heddlu yn dangos bod 51% o wrthdrawiadau wedi digwydd ar ffyrdd 30mya.

Mae Transport for London wedi dangos, ers cyflwyno terfynau 20mya, bod gwelliannau mawr wedi bod o ran diogelwch y ffyrdd. Gwelwyd gostyngiad o 25% yn nifer y gwrthdrawiadau arweiniodd at farwolaeth neu anaf difrifol yn Ardal Tâl Atal Tagfeydd Llundain, o’i gymharu â gostyngiad o 10% ledled Llundain. 

Drwy leihau'r cyflymder diofyn, bydd yn ei gwneud yn haws i yrwyr stopio mewn pryd i atal gwrthdrawiadau.

Yn ôl Rheolau’r Ffordd Fawr, yn y pellter y gall car sy’n teithio ar 20mya stopio, bydd car sy’n teithio ar 30mya yn dal i wneud 24mya. 

Mae Sefydliad Ymchwil Trafnidiaeth Prifysgol Edinburg Napier yn pwyntio at dystiolaeth yn dangos bod person tua pum gwaith yn fwy tebygol o gael ei ladd pan gaiff ei daro gan gerbyd oedd yn teithio ar oddeutu 30mya nag y maent o gerbyd oedd yn teithio tua 20mya.

Pa effaith fydd y terfyn cyflymder yn ei chael ar amseroedd teithio?

Mae amseroedd teithio ar ffyrdd mewn ardaloedd trefol yn tueddu i gael eu penderfynu gan gyffyrdd a signalau, yn hytrach na'r terfyn cyflymder.

Mewn nifer o achosion, ni fydd gostwng y terfyn cyflymder i 20mya yn cael fawr ddim effaith ar amseroedd teithio. Lle y gwelir effaith, roedd ein dadansoddiad yn dangos y byddai'r teithiau arferol ond tua 1 munud yn hirach, ond byddai hyn yn gwneud y ffyrdd yn fwy diogel i gerddwyr a seiclwyr.

Mae'r adroddiad monitro terfynol dilynol o ardaloedd prawf cyntaf am 20mya wedi canfod yn y prif lwybrau trwodd, ar gyfartaledd, nid yw newidiadau cyfartalog mewn amseroedd teithio yn fwy nag un munud ar y cyfan, gyda rhai eithriadau o hyd at 2 funud.

Pam na ellir defnyddio’r terfyn 20mya ger ysgolion yn unig?

Dylai cyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20mya wneud plant yn fwy diogel o'r eiliad y maent yn gadael eu cartref - waeth ble maen nhw'n mynd, ac yn eu cadw'n ddiogel – o fewn a thu allan i oriau ysgol.

Ni fydd terfyn cyflymder o 20mya y tu allan i'r ysgol yn gwarchod plant ar gyfer y daith gyfan wrth iddynt gerdded neu feicio gartref, dim ond ger yr ysgol y byddai'n eu gwarchod.

Ond nid dim ond gwarchod plant yw’r bwriad. Mae'r newid hwn wedi'i gynllunio i wneud strydoedd yn fwy diogel i bob un ohonom.

Ble arall mae terfynau cyflymder 20mya wedi'u cyflwyno?

Mae terfynau cyflymder 20mya yn gyffredin yn rhannau eraill y DU ac Ewrop. 

Mae terfynau cyflymder 20mya mewn grym mewn sawl dinas yn Lloegr. Mae’r Alban ac Iwerddon ar fin estyn ardaloedd 20mya a 30kmya. 

Mae ardaloedd 30mya ac 20mya yn cael eu cyflwyno ledled y byd, gan gynnwys yn:

  • Sbaen
  • Ffrainc
  • Yr Eidal
  • Y Ffindir
  • Yr Almaen
  • Ecuador
  • Lloegr
  • Yr Alban

Nid yw 20mya yn Rheolau’r Ffordd Fawr. Byddaf yn parhau i yrru yn unol â hwnnw

Diweddarwyd Reholau'r Ffordd Fawr ar-lein ar 17 Medi 2023 i adlewyrchu'r terfyn cyflymder o 20mya yng Nghymru.

Mae'r prawf theori gyrru a'r profion ymarferol hefyd wedi’u diwygio gan y DVSA.
 

A fydd cyflwyno hyn yn golygu gwario arian ar bympiau cyflymder?

Nid oes cynllun i gynnwys ffyrdd o ostegu traffig (gan gynnwys bympiau cyflymder) fel rhan o'r newid i derfynau cyflymder. Mae mesurau 'meddalach' eraill y gellid eu cyflwyno, megis defnyddio terfynau cyflymder byffer, cael gwared ar y llinell ganol, culhau'r ffordd gerbydau yn weledol, plannu ac ati.

Pam fod beiciau yn cael fy ngoddiweddyd pan dwi'n gyrru ar 20mya?

Mae terfynau cyflymder yn Rheoliadau Traffig Ffyrdd a Rheolau'r Ffordd Fawr yn berthnasol i gerbydau modur yn unig ac nid i feiciau.

Mae Rheolau'r Ffordd Fawr wedi'u diweddaru i gynnwys 3 rheol newydd ynghylch 'hierarchaeth defnyddwyr ffyrdd' newydd.

Mae'r hierarchaeth yn rhoi’r defnyddwyr ffyrdd hynny sydd yn y perygl mwyaf os bydd gwrthdrawiad ar frig yr hierarchaeth. Nid yw'n dileu'r angen i bawb ymddwyn yn gyfrifol.

Mae'n bwysig bod pob defnyddiwr ffordd:

  • yn ymwybodol o Reolau'r Ffordd Fawr
  • yn ystyriol o ddefnyddwyr eraill y ffordd
  • yn deall eu cyfrifoldeb am ddiogelwch pobl eraill

Sut bydd terfyn cyflymder is yn hyrwyddo cerdded a beicio?

Mae cyflymder is yn golygu bod pobl yn teimlo'n fwy cyfforddus i gerdded a beicio ac mae'n fwy diogel i blant gerdded i'r ysgol. Bydd pobl hŷn, pobl anabl neu bobl ag anghenion ychwanegol yn teimlo'n fwy abl i deithio'n annibynnol.

Mae cyflymder cerbydau yn un o’r prif resymau pam nad yw pobl yn cerdded neu feicio neu ddim yn caniatáu i’w plant gerdded neu feicio i’r ysgol.

Pam mae'r Gwasanaeth Tân yn rhan o ddigwyddiadau ymgysylltu 20mya?

Gan bod y Gwasanaeth Tân ac Achub yn mynychu mwy o alwadau i wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd na thanau mewn tai, mae ganddynt dîm diogelwch ffyrdd pwrpasol. Nid yw'r timau hyn yn ymwneud â galwadau i argyfyngau a'u nod yw rhoi gwybod i yrwyr am ganlyniadau gwrthdrawiadau a achosir gan oryrru.

Ar ôl gweld canlyniadau llawer o wrthdrawiadau, maent mewn sefyllfa dda i ymgysylltu â gyrwyr ac maent yn ymwneud â'r agwedd hon ar y broses o gyflwyno 20mya.