Canllawiau ar gyfer myfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth yn ystod COVID-19:
Canllawiau gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru ar sut y gallai’r pandemig presennol effeithio ar eich astudiaethau, gan gynnwys gwybodaeth am:
- eich rhaglen addysg
- cyllid
- pa gamau y gallai fod angen ichi eu cymryd
- sut y gallwch chi gefnogi’r system iechyd a gofal yn ystod COVID-19
Mae safonau argyfwng wedi cael eu cyflwyno er mwyn sicrhau:
- y gall myfyrwyr nyrsio a bydwreigiaeth sydd yn chwe mis olaf eu rhaglenni gwblhau eu hyfforddiant
- y gall sefydliadau addysg sicrhau bod myfyrwyr yn cael cymorth a goruchwyliaeth briodol
- y gall myfyrwyr ddefnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau i gefnogi’r gwaith o ofalu am unigolion