Heddiw (dydd Mawrth 4 Awst) mae’r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething yn annog unrhyw un sy’n hunanynysu gartref gyda COVID-19 i gysylltu ag 111 neu â’u meddyg teulu os nad yw eu symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod neu os ydynt yn dioddef o ddiffyg anadl neu’n chwydu, neu os yw blinder yn eu hatal rhag gwneud eu gweithgareddau arferol.
Mae'r cyngor newydd hwn yn adlewyrchu’r hyn a ddysgwyd yn sgil ton gyntaf y pandemig ac mae'n gydnabyddiaeth nad yw pawb sy'n mynd yn ddifrifol wael oherwydd COVID-19 yn dioddef o ddiffyg anadl. Nod y canllawiau newydd yw helpu pobl sy'n hunanynysu gartref drwy roi cyngor iddynt ynghylch pryd y dylent gysylltu ag 111 neu â'u meddyg teulu.
Mae'r Prif Swyddog Meddygol hefyd yn ysgrifennu at ymarferwyr cyffredinol i dynnu sylw at yr hyn a ddysgwyd o gyfnodau cynnar y pandemig ac i annog mwy o ddefnydd o ocsimetreg pwls fel rhan o'r asesiad clinigol. I gefnogi hyn, bydd rhai miloedd o ocsifesuryddion pwls yn cael eu dosbarthu i dimau gofal sylfaenol ledled Cymru i'w helpu i wneud mwy o ddefnydd o’r dull hwn.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething,
Mae'n bwysig ein bod yn parhau i ddysgu o'n profiad cynnar o'r feirws ac yn defnyddio hyn i helpu i lywio ein hymateb i donnau'r pandemig yn y dyfodol.
Mae'n bwysig nad yw pobl yn ceisio ymdopi'n rhy hir ar eu pennau eu hunain ac yn peidio â'i gadael yn rhy hwyr i gael help.
Os nad yw eich symptomau’n gwella ar ôl saith niwrnod neu os oes gennych unrhyw un o’r symptomau penodol hyn, ein cyngor yw cysylltu ag 111 neu â’ch meddyg teulu.