Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi dioddef ymosodiad seibr yn ddiweddar a cholled data posibl yn rhan o hynny.
Rydym yn cydweithio gyda'r asiantaethau priodol i ymchwilio i'r mater ac yn gwneud popeth y gallwn i adfer y sefyllfa.
Er bod ein gwefan wedi ei effeithio, mae ein system e-bost bellach yn ddiogel ac yn weithredol yn ogystal â’r dulliau arferol o gysylltu gyda ni dros y ffôn neu’r cyfryngau cymdeithasol.
Os ydych chi'n aelod o'r cyhoedd neu'n sefydliad ac yn teimlo y gallwch chi fod wedi cael eich heffeithio oherwydd ein bod yn dal data bersonol neu sensitif amdanoch, gallwch gysylltu gyda ni ar 0345 6033221, post@cyg-wlc.cymru, neu drwy anfon neges breifat ar ein cyfrif Twitter, Facebook neu LinkdIn. Mae copi o’n polisi preifatrwydd ar waelod y dudalen hon, sy’n egluro sut ydym yn defnyddio eich data.
Mae croeso i chi gysylltu gyda ni drwy'r sianeli hyn os oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall hefyd.
Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon wrth i fwy o wybodaeth ddod i law.
Am y cyngor mwyaf diweddar ac effeithiol am ddiogelwch seibr ewch i wefan 'Cyber Aware' y Ganolfan Diogelwch Seibr Cenedlaethol.
Os ydych yn credu eich wedi bod wedi dioddef ymosodiad seibr, dylech roi gwybod i Action Fraud drwy eu gwefan, neu ar 0300 123 2040.