Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau

  • Kathryn Bishop, Cadeirydd
  • Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
  • David Jones, Aelod Anweithredol
  • Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
  • Lakshmi Narain, Aelod Anweithredol
  • Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
  • Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithrediadau
  • Lucy Robinson, Mewnwelediad a Strategaeth Cwsmeriaid

Ymgynghorwyr

  • Joanna Ryder, Pennaeth Staff
  • Melissa Quignon-Finch, Pennaeth AD
  • Kate Innes, Prif Swyddog Cyllid Dros Dro
  • Jim Scopes, Prif Swyddog Strategaeth Dros Dro
  • Catrin Durie, Pennaeth Cyfathrebu
  • Amy Bowden, Pennaeth Cyfreithiol Dros Dro
  • Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr Stragetaeth Trethi, Polisi ac Ymgysylltu – Trysorlys Cymru

Ysgrifenyddiaeth

  • Ceri Sullivan, Ysgrifenyddiaeth y Bwrdd

1. Croeso a chyflwyniadau

  1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Andrew Jeffreys, byddai Anna Adams yn dirprwyo.

2. Parhad busnes a llesiant staff

Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).

3. Cofnodion y cyfarfod diwethaf, cofnodion wedi’u golygu, gwrthdaro buddiannau

  1. Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn ddisgrifiad cywir o’r hyn a drafodwyd, ac roedd yr aelodau’n fodlon ar y cofnod wedi’i olygu at ddiben cyhoeddi. Byddai diweddariad ar gamau gweithredu a oedd heb eu cymryd yn cael ei anfon i’r Bwrdd ar-lein.
     
  2. Ni chodwyd unrhyw wrthdaro buddiannau newydd.
     
  3. Yng ngoleuni trafodaeth ddiwethaf y Bwrdd ar Strategaeth y Gymraeg a’i benderfyniad i gadarnhau’r datganiad gweledigaeth drafft, nodwyd y byddai erthygl newyddion yn cael ei chynhyrchu a’i rhannu gyda staff i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am ei datblygiad.

4. Llywodraethiant COVID-19

  1. Roedd papur wedi’i ddrafftio yn amlinellu’r newidiadau llywodraethiant oedd ar waith ar gyfer cyfnod COVID-19. Fe’i trafodwyd gyda’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg (ARAC) yn gynharach yr wythnos honno ar gyfer sylwadau ac roedd bellach yn cael ei drafod gyda’r Bwrdd er mwyn sicrwydd a chytuno.
     
  2. Nodwyd nad diben y ddogfen hon mo amlinellu ein fframwaith llywodraethiant yn ei gyfanrwydd, ond yn hytrach egluro ein sefyllfa a’r newidiadau proses a wnaed er mwyn sicrhau llywodraethu da yn ystod COVID-19. Bydd cynnwys y ddogfen hon, yn enwedig ei bwriad, yn cael ei rannu gyda’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am ymgynghoriad. Nodwyd hefyd y byddai’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd yn cael gwybod yn eu cyfarfod chwarterol nesaf a gynhelir yr wythnos ganlynol.
     
  3. Cytunodd y Bwrdd ar y cynigion llywodraethiant COVID-19 ond awgrymwyd mynd ymlaen â darn o waith ar wahân er mwyn ystyried y proffil risg gwahanol y mae’r sefydliad bellach yn ei wynebu.

5. Adroddiad gan y Cadeirydd

Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).

6. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol a diweddariad am Berfformiad Gweithredol

Gwybodaeth wedi’i Hepgor (Troednodyn 1).

7. Unrhyw fater arall

  1. Cafodd yr Aelodau wybod bod cydweithio’n digwydd â Thrysorlys Cymru er mwyn sicrhau bod cyfathrebu’n cyd-fynd yn ystod y cyfnod hwn, yn enwedig ynghylch datganiadau ystadegol.
     

[1] Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth ac ati neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.