Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Diben a Chwmpas

Pwrpas y canllawiau hyn yw helpu awdurdodau lleol, cynghorau tref a chymuned, a chyrff cyhoeddus eraill i ddod i benderfyniadau hyddysg ynghylch coffáu cyhoeddus nawr ac yn y dyfodol. Bydd hyn yn eu helpu i chwarae eu rhan wrth wneud Cymru'n genedl wrth-hiliol, a dathlu unigolion o bob rhan o'n cymdeithas sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fywyd Cymru. Mae cefndir y canllawiau hyn yn cael ei esbonio yn yr Atodiad.

Nod 'Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru' yw helpu cyrff cyhoeddus i wneud y canlynol:

  • deall y materion cymhleth sy'n ymwneud â choffáu cyhoeddus yn well
  • sefydlu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau cynhwysol
  • sefydlu amcanion ar gyfer coffáu cyhoeddus
  • sefydlu meini prawf i lywio penderfyniadau ar gyfer cofebion presennol a rhai newydd
  • cymryd camau i sicrhau bod coffáu cyhoeddus yn addas ar gyfer y presennol a chenedlaethau'r dyfodol.

Mae'r canllawiau'n canolbwyntio ar goffáu pobl neu ddigwyddiadau'n gyhoeddus ac yn barhaol a bwriadol ar ffurf cerfluniau a mathau eraill o gerflunwaith, placiau, murluniau a phaentiadau mewn adeiladau cyhoeddus, ac enwau coffa ar gyfer strydoedd a chyfleusterau cyhoeddus. Fodd bynnag, gall yr egwyddorion a'r syniadau a nodir fod o gymorth wrth ystyried mathau eraill o goffáu, gan gynnwys cofebion rhyfel a choffáu lled-breifat, gydag effaith gyhoeddus fel henebion eglwysig neu eiddo preifat, yn ogystal â choffáu fel perfformiadau, digwyddiadau, gosodiadau celf, gwyliau ac arddangosfeydd deongliadol. 

Mae'r canllawiau'n adeiladu ar ganfyddiadau'r Archwiliad o Goffáu yng Nghymru, ac mae'n canolbwyntio'n gryf ar etifeddiaeth y fasnach gaethweision a'r ymerodraeth Brydeinig. Ni safodd Cymru ar wahân i gaethwasiaeth ac ecsbloetio trefedigaethol. Roedd y ddau wedi'u hymwreiddio yn economi a chymdeithas y genedl, ac yn briodol iawn, y materion hyn yw'r ffocws yma. 

Mae dadwladychu mannau cyhoeddus yn agwedd bwysig ar yr ymrwymiad i Gymru wrth-hiliol. Nid yw hyn yn golygu sensro neu ddileu'r cofnod hanesyddol, ond mae'n golygu bod anghyfiawnder hanesyddol yn cael ei gydnabod, bod enw da yn agored i drafodaeth a bod naratifau sy'n dibrisio bywyd dynol yn cael eu herio. Mae dadwladychu’n ceisio atal parhad mythau gwladychol hiliol ynghylch rhagoriaeth y gwynion, ond nid yw'n golygu cael gwared ar yr holl dystiolaeth o'r gorffennol ymerodrol. 

Mae pwyslais y canllawiau hyn ar wrth-hiliaeth, ond mae'r dull o wneud penderfyniadau maen nhw’n eu cyflwyno yn berthnasol wrth fynd i'r afael â mathau eraill o wahaniaethu, ac ym mhob maes lle gall cydbwysedd wrth goffáu fod yn broblem. Un o'r rhain yw profiad Cymru ei hun o wladychu, sy'n destun un o'r astudiaethau achos. 

Mae'r canllawiau hyn yn cyflwyno egwyddorion cyffredinol ar gyfer gwneud penderfyniadau, ond nid yw'n gwneud unrhyw argymhellion penodol ar ba benderfyniadau i'w gwneud na chamau i'w cymryd. Nid yw'n rhoi cyngor ar bob agwedd ar goffáu ychwaith; er enghraifft, polisïau cynllunio, rheoli strwythurau a restrir oherwydd eu diddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, codi arian, iechyd a diogelwch, cynnal a chadw neu atebolrwydd cyhoeddus.

Mae 'Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru' wedi'i rannu'n ddwy ran. Bydd y rhan gyntaf yn helpu cyrff cyhoeddus i ddeall problemau ac effaith coffáu cyhoeddus. Mae'r ail ran yn egluro'r pedwar cam y dylai cyrff cyhoeddus eu cymryd wrth wneud penderfyniadau ynghylch cofebion newydd neu rai sy'n bodoli eisoes. 

  1. Sefydlu fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau cynhwysol
  2. Gosod amcanion ar gyfer coffáu cyhoeddus
  3. Sefydlu meini prawf ar gyfer gwneud penderfyniadau
  4. Gweithredu

Mae astudiaethau achos ar gofebion dadleuol yn helpu i ddangos y problemau ac effaith coffáu cyhoeddus a sut y gellir eu lliniaru drwy wneud penderfyniadau sensitif a chyfunol. Mae llawer o'r astudiaethau achos yn manteisio ar brofiad y tu allan i Gymru, gan gydnabod themâu cyffredin sy'n sail i hanesion a hunaniaethau gwahanol iawn. 

Mae'r canllawiau wedi elwa ar y safbwyntiau a fynegwyd mewn cyfres o weithdai wedi'u hwyluso a ddaeth â sbectrwm eang o randdeiliaid at ei gilydd (gweler yr Atodiad). Mae'r dyfyniadau sy'n ymddangos drwy'r testun gan gyfranogwyr yn y gweithdai hyn.

Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar ddrafft cynharach o'r canllawiau hyn rhwng Hydref 2022 a Chwefror 2023, a chyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion ym mis Medi 2023. 

Cyflwyniad

Cyfranogwr mewn gweithdy:

Nid yw straeon byth yn dod i ben.

Mae coffáu pobl a digwyddiadau yn yr amgylchedd cyhoeddus, yn enwedig ar ffurf cerfluniau, cerflunwaith, placiau ac enwi strydoedd ac adeiladau, yn gyfarwydd i ni i gyd. Mae'r rhan fwyaf o'r cofebion hyn yn ychwanegu cymeriad at ein hamgylchedd ac yn gallu ein helpu i ddeall agweddau ar ein gorffennol. Er nad yw'r mwyafrif helaeth yn ddadleuol, mae rhai cofebion yn destun dadl. Mae rhinwedd neu berthnasedd rhai pobl neu ddigwyddiadau wedi cael ei herio erioed, naill ai wrth eu coffáu yn y lle cyntaf neu'n ddiweddarach wrth i safbwyntiau newid. Mae coffáu wedi bod yn broblem fyw erioed.

Nid yw'n syndod bod gan gofebion o'r gorffennol arwyddocâd negyddol ambell waith. Er enghraifft, efallai bod yr ochr 'fuddugol' mewn gwrthdaro gwleidyddol neu filwrol wedi ceisio dathlu eu harwyr gan wybod y gallai eraill fod wedi eu hofni neu eu casáu. Er bod grwpiau gwirfoddol a thanysgrifiadau cyhoeddus wedi arwain at goffáu amrywiaeth ehangach o bobl weithiau, yn amlach bu tuedd i goffáu pobl bwerus neu gyfoethog yn unig. Fodd bynnag, yn ddiweddar bu mwy o gydnabyddiaeth y dylai coffáu cyhoeddus fod yn fwy eang. Ni ddylai sarhau na brifo cyd-ddinasyddion ac ni ddylai gynrychioli unigolion dadleuol mewn ffyrdd sy'n rhannu cymdeithas. Er enghraifft, gall cenedlaethau'r presennol deimlo bod y dathliad parhaus o ffigurau sy'n adnabyddus am eu creulondeb, hiliaeth neu gysylltiadau â'r fasnach gaethweision yn parhau eu gormes ac yn anwybyddu’r anghyfiawnder  yn ymwneud â sut y cafodd y rhai a goffeir eu cyfoeth neu eu henwogrwydd. Yng ngeiriau'r nofelydd Americanaidd, William Faulkner: ‘The past is never dead. It's not even past.’ (William Faulkner, 'Requiem for a Nun', 1951)

Mae gan Gymru etifeddiaeth o gannoedd o gofebion mewn ffurfiau amrywiol. Er y gallai'r cofebion hyn fod o ddiddordeb hanesyddol neu esthetig ynddyn nhw eu hunain, efallai na fyddant yn cynrychioli dymuniadau na gwerthoedd y presennol. Fodd bynnag, gall cofebion newydd wneud iawn am y cydbwysedd hwn a chyfoethogi'r amgylchedd cyhoeddus drwy ddathlu digwyddiadau a phobl sy'n gallu bod yn fodelau rôl positif i bawb yng Nghymru.