Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyllid sydd wedi’i gyhoeddi gan Cymru Greadigol ar gyfer lleoliadau lleol ar gyfer cerddoriaeth yng Nghymru, fel rhan o gymorth Llywodraeth Cymru o £18 miliwn i gefnogi’r sector diwylliant wedi ei ddyrannu’n llawn bellach.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cyfanswm o £401,551.39 o gyllid wedi ei ddyrannu i 22 o fusnesau Cerddoriaeth ar Lawr Gwlad ledled Cymru a chafodd ei greu i helpu’r diwydiant cerddoriaeth yn ystod yr heriau sy’n gysylltiedig â’r achos o coronafeirws (COVID-19).

Meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:

Rydyn ni wedi gwrando ar nifer o’n rhanddeiliaid o fewn y sectorau bregus hyn. Rydyn ni yn deall bod rhain yn amseroedd ansicr i fusnesau a sefydliadau ledled Cymru ac yn cydnabod yn llawn yr heriau enfawr nas gwelwyd mo’u tebyg o’r blaen y mae y coronafeirws yn ei gael ar fywyd Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth bosibl i gefnogi cadernid, creadigrwydd a’r bartneriaeth sydd i’w weld o fewn y sector.

Gobeithio bydd y gefnogaeth yma yn help i’r sector oroesi yn ystod yr asmer anodd hwn a gobeithio i ffynnu eto – gan ddod â chymunedau at ei gilydd unwaith eto pan fydd yr argyfwng wedi mynd heibio.

Mae nifer o’r lleoliadau ledled Cymru wedi bod yn defnyddio dulliau arloesol o arallgyfeirio busnesau – gan gynnwys gwasanaethau danfon bwyd a diod; ffrydio cerddoriaeth a gwerthu nwyddau.   
 
Mae Samantha Dabb, Rheolwr Lleoliad - Le Pub a Chydgysylltydd Cymru yr Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth, yn amlinellu’r heriau sydd wedi wynebu’r sector: 

Mae lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad yn hanfodol i les ein cymunedau yn ogystal â dyfodol cerddoriaeth yng Nghymru. Hebddynt nid oes gennym leoliadau ar gyfer syniadau creadigol, dim lle i ymlacio pan dan straen ac nid oes gan y bobl fydd yn sefyll yn falch dros Gymru ar lwyfannau rhyngwladol unlle i ddechrau eu gyrfaoedd.  

Cafodd dros 50 o berfformiadau eu canslo yn y tri mis cyntaf yn unig. Mae ein gweithdai a’n dosbarthiadau i gyd wedi dod i ben. Wedi 4 wythnos roedd yn bosibl inni agor i gynnal gwasanaeth danfon bwyd poeth ac alcohol ond nid oedd hyn yn ddigon i dalu’r biliau. Rydym yn colli ein cwsmeriaid rheolaidd a’r perfformiadau, a gwneud pobl yn hapus. 

Mae’r gronfa wedi ein hachub ac roedd cael ein cydnabod am y gwasanaethau unigryw yr ydyn ni’n eu cynnig yn rhoi sicrwydd inni pan oedd yn ymddangos y byddem yn cael ein anghofio. Rydyn ni wedi arallgyfeirio y busnes yn ddiweddar gan gyflwyno gwasanaethau newydd megis llogi offer ar gyfer digwyddiadau.

Rydyn ni bob amser yn ystyried ffyrdd eraill o wneud pethau a byddwn yn parhau unwaith y byddwn allana o’r sefyllfa bresennol.

Meddai Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cymru Greadigol:

Mae’r diwydiant cerddoriaeth fyw ar lawr gwlad yn hollbwysig i ddatblygiad cerddorion yng Nghymru. Mae’r hinsawdd bresennol wedi creu amgylchiadau heriol iawn i leoliadau, eu staff a’r diwydiant cerddoriaeth yn ehangach. Crëwyd y gronfa hon i geisio ysgafnhau’r baich ariannol ar draws y diwydiant i helpu lleoliadau, stiwdios, gweithwyr llawrydd ac unrhyw un arall o fewn y diwydiant cerddoriaeth yr effeithiodd COVID-19 arnynt. 

Mae’r gronfa bellach wedi cau ac nid yw’n derbyn ceisiadau newydd.  

Mae rhagor o gyllid ar gyfer y sector bellach yn cael ei weinyddu drwy Cymru Greadigol, Cronfa Frys Datblygu Teledu a’r Gronfa Frys Datblygu Digidol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y wefan Cymru Greadigol.