Bydd dwy ganolfan brofi newydd i brofi trwy ffenest y car a gwasanaeth archebu ar-lein yn dechrau gweithredu yng Nghymru yr wythnos hon.
Bydd y ganolfan brofi yn Llandudno yn agor yfory (dydd Mercher 29 Ebrill) a bydd Canolfan Caerfyrddin yn dechrau profi gweithwyr hanfodol ddydd Iau (30 Ebrill).
Bydd Staff o'r GIG, yr heddlu, y gwasanaethau tân ac ambiwlans, cartrefi gofal a staff hanfodol eraill yn cael eu profi drwy apwyntiad yn y ganolfan yn Builder Street. Byddant yn cael prawf swabio eu hunain heb adael eu cerbydau.
Bydd Maes y Sioe yng Nghaerfyrddin yn gartref i ganolfan brofi newydd ar gyfer gweithwyr hanfodol yn y gorllewin. Bydd hon yn cefnogi canolfannau profi presennol eraill ar draws y gorllewin, sydd eisoes yn darparu profion ar gyfer staff y GIG a gweithwyr hanfodol, gan gynnwys yr heddlu, gwasanaethau tân ac ambiwlans, gweithwyr cartrefi gofal y a staff eraill awdurdodau lleol.
O ddydd Iau ymlaen, bydd y system archebu ar-lein newydd ar gael i'r rhai sy'n archebu prawf yn y canolfannau profi yng Nghaerdydd a Chasnewydd. Bydd y system newydd yn cael ei chyflwyno mewn rhannau eraill o Gymru.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:
Bydd y canolfannau a'r system ar-lein newydd yn helpu i sicrhau bod profion yn fwy hygyrch a'u bod yn cyflymu atgyfeiriadau.
Rwyf am sicrhau bod y broses mor gyflym a hawdd ei defnyddio â phosibl fel nad yw pobl yn gorfod aros am apwyntiadau ac felly'n gallu cadw gwasanaethau hanfodol ar waith drwy alluogi gweithwyr i gael y profion y mae arnyn nhw eu hangen yn gyflym ac yn hawdd.
Mae gweithwyr hanfodol yn cynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol, yr heddlu, y gwasanaeth tân, gweithwyr carchardai ac athrawon.