Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ystadegau arbrofol yw'r rhain yn ymwneud â gwybodaeth a gasglwyd yn y trydydd Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion (CBGY) yng Nghymru ym mis Tachwedd 2021. Mae’r CBGY yn casglu gwybodaeth ar athrawon a staff cymorth mewn ysgolion wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol yng Nghymru.

Rhwng 2020 a 2021, gwelwyd cynnydd yn y nifer o athrawon a staff cymorth yn gweithio mewn ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol (o 2.6% a 3.4% yn ôl eu trefn). Mae’n bosib bod y cynnydd yma yn rhannol o ganlyniad i’r arian ychwanegol darparwyd gan Lywodraeth Cymru i ysgolion i recriwtio staff ychwanegol i ddarparu cymorth i ddisgyblion yn ystod  pandemig coronafeirws (COVID-19).

Mae’r datganiad ystadegol yma yn cynnwys eitemau data sydd heb eu cyhoeddi yn flaenorol (taliadau ychwanegol a phynciau a ddysgir) ac eitemau newydd casglwyd am y tro cyntaf yn 2021 (recriwtio a chadw staff ac absenoldebau athrawon). Mae’r tablau StatsCymru a dangosfyrddau cysylltiedig yn cynnwys gwybodaeth fwy manwl ar y gweithlu ysgol, yn cynnwys dadansoddiadau yn ôl awdurdod lleol a sector.

Ar hyn o bryd, dylid parhau i ddefnyddio’r Cyfrifiad Ysgol Blynyddol ar Lefel Disgybl (CYBLD) fel y ffynhonell swyddogol ar gyfer ystadegau ar y gweithlu ysgol. Unwaith mae safon data’r CBGY wedi eu sicrhau yn llawn, bydd y CBGY yn disodli’r elfennau gweithlu yn y CYBLD.

Gweler ein hadroddiad ‘Canlyniadau Cyfrifiad Gweithlu Ysgolion: adroddiad ansawdd’ am fwy o fanylion ar y casgliad CBGY a chymharu eitemau data a gesglir yn y CBGY a CYBLD (ar gyfer athrawon wedi cymhwyso, absenoldebau athrawon trwy salwch a recriwtio a chadw athrawon).

Athrawon

Rolau

  • Ym mis Tachwedd 2021, roedd yna 26,600 o athrawon mewn ysgolion wedi’u cynnal gan awdurdodau lleol yng Nghymru, cynnydd o 2.6% o’i gymharu â Thachwedd 2020.
  • Roedd yna 24,700 o athrawon [troednodyn 1] cyfwerth ag amser llawn, cynnydd o 3.0% ar 2020.
  • Ar sail mesur person cyfwerth â pherson llawn [troednodyn 2], roedd yna 22,345 athro (84.0%) yn gweithio fel athro dosbarth wedi cymhwyso.
  • Roedd y mwyafrif o staff addysgu yn gweithio mewn ysgolion cynradd (49.0%) neu ysgolion uwchradd (41.6%).

Nodweddion

  • 19,815 o athrawon (74.5%) yn fenywod. Mewn rolau arweinyddiaeth, roedd menywod yn cyfri am 64.4% o athrawon [troednodyn 3].
  • 15,960 o’r holl athrawon (60.0%) yn uniaethu fel Cymraeg.
  • 305 athro (1.1%) ag ethnigrwydd Du, Asiaidd, Cymysg neu Arall [troednodyn 4]. Roedd yna gyfran lai o athrawon o gefndir ethnig lleiafrifol mewn rolau arweinyddiaeth (a, 0.5%).
  • 180 athro (0.7%) wedi nodi bod ganddynt gyflwr iechyd corfforol neu feddwl y mae disgwyl iddynt bara 12 mis neu mwy.

Y Gymraeg

  • Roedd 6,635 o athrawon (24.9%) yn dysgu/gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn eu swydd bresennol, â 1,665 (6.3%) arall yn gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ond ddim yn gwneud ar y pryd.
  • 10,335 o athrawon (38.9%) wedi nodi eu sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch [troednodyn 5]. Roedd y gyfran yn amrywio rhwng sectorau ysgol, gyda 44.8% mewn ysgolion cynradd a 31.9% mewn ysgolion uwchradd. Ar lefel awdurdod lleol, roedd y gyfran yn amrywio o 11.4% ym Mlaenau Gwent i 93.1% yn Ynys Môn.
Image
Map 1 yn dangos mae Ynys Môn, Gwynedd a Ceredigion sydd â'r gyfran uchaf o athrawon â sgiliau iaith Gymraeg lefel canolradd neu uwch.

Pynciau a ddysgir

Mae’r data yma yn adlewyrch pynciau a ddysgir i ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 i 13 dros amserlen pythefnos arferol.

  • Roedd y gyfran fwyaf o amserlen ysgolion yn addysgu Mathemateg (13.5%), Saesneg (12.9%), Gwyddoniaeth [troednodyn 6] (10.2%), Cymraeg (7.3%) ac Addysg Gorfforol (6.7%).
  • Ar gyfartaledd, dysgir 1 o bob 5 awr addysgu (21.0%) yn ddwyieithog neu trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Unigolion yn addysgu Mathemateg oedd yn gwario’r gyfran fwyaf o’u hamserlen yn addysgu’r pwnc hynny (83.5% [troednodyn 7]). Saesneg (78.8%), Cymraeg (76.2%) ac Ieithoedd Modern (75.5%) oedd nesaf.
Image
Mae'r siart yn dangos y pump pwnc gyda'r nifer mwyaf o athrawon yn eu dysgu yn Tachwedd 2021, sef Mathemateg, Saesneg, Gwyddoniaeth, Cymraeg ac Addysg Gorfforol.

Recriwtio a chadw staff

Mae’r data yn cyfeirio at flwyddyn academaidd 2020/21.

  • Ar gyfartaledd, derbyniwyd 10.3 cais am bob swydd wag hysbyswyd. Roedd y cyfartaledd ar gyfer swyddi cyfrwng Cymraeg (3.9) yn is o’i gymharu â swyddi cyfrwng Saesneg (13.5). Roedd y cyfartaledd ar gyfer swyddi ysgolion uwchradd (5.6) yn is nag ar gyfer swyddi ysgolion cynradd (18.7).
  • Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd roedd 1,383 o swyddi gwag hysbyswyd (78.9%) wedi’u llenwi.
  • O’r 1,045 o athrawon oedd wedi gadael y proffesiwn, roedd 335 (23.4%) wedi ymddeol (ymddeol ar oedran arferol neu gynnar).

Cyflogau a Lwfansau

  • Y nifer o athrawon cyfwerth ag amser llawn oedd 25,820, gyda 15310 (59.3%) yn cael eu talu ar yr ystod gyflog uwch
  • Roedd y cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog ar gyfer yr holl athrawon yn £42,080, cynnydd o £582 (1.4%) ar 2020.
  • Roedd athrawon ystafell ddosbarth ar draws pob sector yn cael cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog o £39,009. Roedd hyn yn amrywio o £38,812 mewn ysgolion cynradd i £39,297 mewn ysgolion uwchradd.
  • Roedd cyflog cyfwerth ag amser llawn gyfartalog ar gyfer penaethiaid [troednodyn 8] mewn ysgolion uwchradd (£95,646) tipyn uwch o’i gymharu ag ysgolion cynradd (£65,102).
  • Ar gyfartaledd, roedd dynion yn cael eu talu £2,217 yn fwy nag menywod.
  • Rhwng Tachwedd 2020 a 2021, roedd 8,360 athro (29.1%) wedi derbyn lwfans Cyfrifoldeb Addysgu a Dysgu gyda swm cyfartalog o £4,737.
Tabl 1: Cyflog cyfwerth ag amser llawn cyfartalog (cymedr) yn ôl swydd a rhyw, Tachwedd 2021
Swydd Gwryw Benyw Cyfanswm
Athro heb gymhwyso £25,692 £24,693 £25,011
Athro dosbarth £38,756 £39,088 £39,009
Ymarferydd arweiniol £56,023 £53,151 £54,276
Pennaeth (a) £73,584 £67,639 £69,952
Arweinyddiaeth arall (b) £59,669 £56,320 £57,436
Holl arweinyddiaeth £65,199 £60,179 £61,952
Cyfanswm £43,731 £41,514 £42,080

Ffynhonnell: CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau

(a) Yn cynnwys penaethiaid gweithredol.
(b) Yn cynnwys penaethiaid dros dro, dirprwy benaethiaid a penaethiaid cynorthwyol.

Absenoldeb trwy salwch

Mae’r data yn cyfeirio at flwyddyn academaidd 2020/21 [troednodyn 9].

  • Agorwyd neu caewyd 17,475 cofnod absenoldeb trwy salwch yn ystod y flwyddyn academaidd.
  • Cymrodd 10,285 o athrawon (40.0%) o leiaf un cyfnod absenoldeb trwy salwch.
  • Collwyd 7.0 diwrnod gwaith ar gyfartaledd am bob absenoldeb trwy salwch.
Image
Mae'r siart yn dangos bod y nifer mwyaf o absenoldebau tymor byr yn agor yn mis Tachwedd cyn disgyn, gyda chynnydd eto o mis Mawrth i mis Mai.

Staff cymorth

Rolau

  • Ym mis Tachwedd 2021, roedd yna 30,035 staff cymorth, cynnydd o 3.4% o’i gymharu â Thachwedd 2020.
  • Roedd y nifer cyfwerth ag amser llawn [troednodyn 10] o’r holl staff cymorth yn 23,300, cynnydd o 4.1%.
  • Yn seiliedig ar y nifer cyfwerth â pherson llawn [troednodyn 11], roedd 15,130 (50.4%) o staff cymorth yn gweithio fel cynorthwywyr addysgu, gyda 1,590 (5.3%) arall yn gweithio fel cynorthwywyr addysgu lefel uwch (CALU).

Nodweddion staff

  • Roedd 26,410 o staff cymorth (90.3%) yn fenywod, i’w gymharu â 74.5% o athrawon.
  • 16,575 staff cymorth (55.2%) yn uniaethu yn Gymraeg.
  • Roedd 760 o staff cymorth (2.5%) o grŵp ethnigrwydd Du, Asiaidd, Cymysg neu Arall [troednodyn 4], o’i gymharu â 1.1% o athrawon.
  • Nododd 365 staff cymorth (1.2%) bod ganddynt gyflwr iechyd corfforol neu feddwl y mae disgwyl iddynt bara 12 mis neu mwy.

Y Gymraeg

  • 6,255 o staff cymorth (20.8%) wedi nodi eu sgiliau iaith Gymraeg ar lefel canolradd neu uwch, o’i gymharu â 38.9% o athrawon [troednodyn 5].
  • Roedd y gyfran o staff cymorth â sgiliau iaith Gymraeg lefel ganolradd neu uwch yn amrywio o 2.8% ym Mlaenau Gwent i 84.3% yng Ngwynedd [troednodyn 5].
Image
Map 2 yn dangos mae Ynys Môn a Gwynedd sydd â'r gyfran uchaf o staff cymorth â sgiliau iaith Gymraeg lefel canolradd neu uwch.

Recriwtio a chadw staff

Mae’r data yma yn cyfeirio at gynorthwywyr addysgu, cynorthwywyr addysgu lefel uwch, cynorthwywyr ieithoedd tramor, cyd-lynwyr AAA / ADY a staff cymorth AAA / \ADY yn unig ar gyfer 2020/21.

  • Ar gyfartaledd, derbyniwyd 7.4 cais am bob swydd wag. Mae’r cyfartaledd yn is ar gyfer swyddi cyfrwng Cymraeg (3.0) o’i gymharu â swyddi cyfrwng Saesneg 10.3) Hefyd, roedd y cyfartaledd yn is ar gyfer swyddi ysgolion uwchradd (3.0) o’i gymharu â swyddi ysgolion cynradd (10.0).
  • Ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, roedd 855 o swyddi a hysbyswyd (74.1%) wedi’u llenwi.
  • O’r 1,070 staff cymorth wnnaeth adael y proffesiwn, roedd 235 (22.1%) wedi symud i swyddi tu allan i addysg.

Gwybodaeth ar ansawdd y data a methodoleg

Nid yw’r wybodaeth a gasglwyd ar gyfer 2021 wedi’i dilysu’n ffurfiol nac yn derfynol.  Fodd bynnag, mae’r broses yn cynnwys camau dilysu a gwirio awtomatig amrywiol er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel i lywio’r broses o lunio polisïau.

Mae ein hadroddiad ‘Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion: adroddiad ansawdd’ yn rhoi rhagor o fanylion am wybodaeth allweddol am ansawdd a methodoleg.

Troednodiadau

[1] Mae cyfwerth ag amser llawn yn mesur y gyfran o amser contract llawn unigolyn mewn rôl. Mae unigolyn sy’n gweithio un diwrnod yr wythnos mewn rôl arweinyddiaeth ac un diwrnod yr wythnos mewn rôl athro dosbarth yn cyfri fel 0.2 yn erbyn pob rôl.
[2] Mae Cyfwerth â Pherson Llawn yn mesur y gyfran o amser gweithio mewn rôl. Mae unigolyn sy’n gweithio un diwrnod yr wythnos mewn rôl arweinyddiaeth ac un diwrnod yr wythnos mewn rôl athro dosbarth yn cyfri fel 0.5 yn erbyn pob rôl.
[3] Yn cynnwys penaethiaid, penaethiaid gweithredol, penaethiaid dros dro, dirprwy benaethiaid a phenaethiaid cynorthwyol.
[4] Yn cynnwys Du/Affricanaidd/Caribî/Du Prydeinig, Asiaidd/Asiaidd Prydeinig, grwpiau ethnig cymysg/lluosog a grwpiau ethnig eraill.
[5] Yn cynnwys sgiliau yn y Gymraeg ar lefel canolradd, uwch ac hyfrededd yn seiliedig ar y ‘Fframwaith cymwyseddau iaith Gymraeg ymarferwyr addysg’.
[6] Nid yw gwyddoniaeth yn cynnwys bioleg, cemeg neu ffiseg lle’u dysgir fel pwnc ar wahan.
[7] Mae hyn yn cynrychioli’r nifer cyfwerth â pherson llawn fel cyfran o gyfrif pen. Y mwyaf tebyg yw’r cyfrif pen a’r cyfwerth â pherson llawn y mwyaf yw’r gyfran o amser mae unigolion yn gwario yn dysgu’r pwnc yna. Os yw unigolyn yn gwario cyfran uchel o’u hamser yn dysgu pwnc penodol, mae’n bosib bod hyn yn dangos mwy o arbenigedd yn y pwnc.
[8] Yn cynnwys penaethiaid gweithredol.
[9] Mae prosesau ar gyfer cofnodi absenoldebau COVID-19  yn amrywio rhwng awdurdodau lleol. Am y rheswm yma, mae’n bosib bod data 2020/21 yn cynnwys rhai absenoldebau i ymwneud â COVID-19.
[10] Mae cyfwerth ag amser llawn yn mesur y gyfran o amser contract llawn unigolyn mewn rôl. Mae unigolyn sy’n gweithio un diwrnod yr wythnos mewn rôl cynorthwywr addysgu ac un diwrnod yr wythnos mewn rôl staff cymorth ADY yn cyfri fel 0.2 yn erbyn pob rôl.
[11] Mae cyfwerth â pherson llawn yn mesur y gyfran o amser gweithio mewn rôl. Byddai’r unigolyn uchod yn cyfri fel 0.5 yn erbyn pob rôl.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Gareth Thomas
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: educationworkforcedata@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 161/2022