Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o ddyluniad y CBGY

Casgliad electronig o ddata ar lefel unigol ynghylch y gweithlu ysgolion mewn lleoliadau a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru yw'r Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion (CBGY).  Cyflwynwyd y casgliad yn 2019 ac mae’n casglu gwybodaeth ym mis Tachwedd bob blwyddyn.

Mae casgliad CBGY wedi’i rannu’n ddwy ran CBGY Ysgol a CBGY Cyflog, Adnoddau Dynol ac Absenoldebau.

Caiff Datganiad Ysgol y CBGY ei gwblhau gan ysgolion a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru, gan gynnwys Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCD). Mae ysgolion yn cofnodi a diweddaru data ar y gweithlu drwy gydol y flwyddyn yn eu meddalwedd System Rheoli Gwybodaeth (SRhG).  Mae rhan fwyaf o’r eitemau data a gesglir yn y CBGY Ysgol yn eitemau data ciplun. Mae hyn yn golygu eu bod yn adlewyrchu’r gweithlu fel ar ddyddiad y Cyfrifiad. Cyflwynwyd modylau newydd ar gyfer recriwtio, cadw staff a chyflenwi i’r casgliad 2021. Mae’r modylau yma yn casglu gwybodaeth hanesyddol dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf cyn y dyddiad cyfrifiad (h.y. 1 Medi 2021 i 31 Awst 2022). Mae’r CBGY Ysgol yn casglu gwybodaeth ar:

  • nodweddion staff (rhyw, ethnigrwydd, hunaniaeth genedlaethol ayyb)
  • rolau
  • y Gymraeg (gallu yn y Gymraeg ac addysgu/gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg)
  • pynciau a ddysgir
  • recriwtio a chadw staff (dros y flwyddyn academaidd flaenorol (h.y. 1 Medi 2021 i 31 Awst 2022))
  • cyflenwi (dros y flwyddyn academaidd flaenorol (h.y. 1 Medi 2021 i 31 Awst 2022))

Caiff Datganiad Cyflog, Adnoddau Dynol ac Absenoldeb y CBGY ei gwblhau gan awdurdodau lleol, yn ogystal ag ysgolion sydd wedi dewis peidio ag ymrwymo i gytundebau lefel gwasanaeth adnoddau dynol a/neu gyflogres gyda’u hawdurdod lleol. Caiff y data eu cynnal drwy’r flwyddyn yn eu systemau adnoddau dynol a chyflogres. Oni bai nodir isod, mae’r eitemau data a gesglir yn y CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau yn eitemau data ciplun fel ar dyddiad y cyfrifiad. Mae’r rhan yma o’r casgliad yn casglu gwybodaeth ar:

  • swyddi
  • ystod gyflog
  • cyflog sail
  • cyfwerth ag amser llawn
  • lwfansau (wedi’u derbyn yn y flwyddyn i ddyddiad y cyfrifiad)
  • absenoldebau (agorwyd neu caewyd yn y flwyddyn academaidd flaenorol (h.y. 1 Medi 2021 i 31 Awst 2022))

Caiff y data hwn eu coladu mewn datganiad CBGY electronig a gyflwynir i Lywodraeth Cymru drwy Fenter Cyfnewid Data Cymru (DEWi), sef system trosglwyddo data ar-lein diogel a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r broses hon yn cynnwys camau dilysu a gwirio amrywiol er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel i lywio’r broses o lunio polisïau.

Mae hysbysiad preifatrwydd y CBGY i aelodau'r gweithlu ysgolion yn rhoi manylion am y wybodaeth a gesglir amdanynt a'r hyn a wnawn gyda'u gwybodaeth.

Mae rhagor o wybodaeth am y CBGY, gan gynnwys nodiadau cwblhau technegol a'r hysbysiad preifatrwydd ar gael ar dudalen Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion (CBGY) ar wefan Llywodraeth Cymru.

Gwybodaeth allweddol am ansawdd

Cywirdeb

Mae’r ystadegau hyn yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd ym mhedwerydd casgliad y CBGY ac, fel y cyfryw, cânt eu cyhoeddi fel ystadegau arbrofol. Nid yw’r wybodaeth yma wedi’u dilysu’n ffurfiol nac yn derfynol. Fodd bynnag, mae’r broses yn cynnwys camau dilysu a gwirio awtomatig amrywiol er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel i lywio’r broses o lunio polisïau.  Bwriadir cyflwyno cyfnod dilysu terfynol ar gyfer casgliadau yn y dyfodol.

Yn 2019, ni chyflwynodd 4 ysgol o blith y 1,502 o ysgolion ddatganiad Ysgol ar gyfer y CBGY (cyfradd gyflwyno o 99.7%). Ar gyfer yr ysgolion hyn, cafodd y dadansoddiad staff yn ôl rôl ei amcangyfrif gan ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd ar gyfer ysgolion â nodweddion tebyg yn yr un awdurdod lleol a’r Cyfrifiad Ysgol Blynyddol ar Lefel Disgybl (CYBLD). Mae gwybodaeth arall ar y gweithlu (e.e. rhyw, oedran) wedi’u cofnodi fel ‘anhysbys’ yn yr achos yma. Ym mhob blwyddyn ers 2020, cyflwynodd 100% o ysgolion eu data CBGY Ysgol. O ran datganiad Cyflog, Adnoddau Dynol ac Absenoldeb y CBGY, cofnododd rhai awdurdodau lleol rai meysydd yn anghywir yn seiliedig ar strwythur yr eitemau data yn eu systemau Adnoddau Dynol/Cyflogres.  Mewn achosion o'r fath, mae cofnodion wedi’u mapio i god dilys yn seiliedig ar wybodaeth arall a gyflwynwyd yn eu datganiad.

Yn 2021, ni lwyddodd Rhondda Cynon Taf i gyflwyno symiau ar gyfer lwfansau fel rhan o’r data CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau. Mae symiau lwfansau wedi’u heithrio ar gyfer yr awdurdod lleol yma o’r ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi.

Yn 2021, nid oedd Wrecsam wedi gallu cyflwyno data absenoldebau athrawon trwy salwch fel rhan o’r CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau.

CBGY Ysgol

Cyflwynwyd tair eitem data newydd i’r casgliad CBGY Ysgol ar gyfer 2020: cyfwerth ag amser llawn (FTE), statws a trydydd parti. Cyflwynwyd ‘FTE’ yn lle ‘Oriau contract bob wythnos’. Hefyd, cyflwynwyd yr eitem ‘Statws’ i nodi unigolion ar absenoldeb hirdymor (e.e. unigolion ar gyfnod mamolaeth, secondiad). Er mwyn osgoi gorgyfrifo (cyfri’r rhai hynny sy’n absennol ar ddyddiad y Cyfrifiad ac y rhai hynny sydd yn cyfro’r absenoldeb), mae unigolion sydd wedi’u nodi fel ar absenoldeb hirdymor a/neu sydd â FTE yn sero wedi’u heithrio o’r ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer 2020 i 2022. Cyflwynwyd yr eitem ‘trydydd parti’ i ddynodi unigolion nad sy’n cael eu cyflogi trwy’r awdurdod lleol ac i helpu’r broses dilysu data rhwng y data CBGY Ysgol a CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau (e.e. staff wedi’u cyflogi trwy asiantaethau cyflenwi). Am y rheswm yma, nid yw ffigurau o’r CBGY Ysgol ar gyfer 2020 i 2022 yn union gymharol a 2019.

Mae tablau 1 a 2 yn dangos cyfanswm nifer staff casglwyd yn y CBGY Ysgol rhwng 2019 a 2022.

Tabl 1: Cyfrif pen athrawon yn ôl statws, 2019 i 2021

 

2019

2020

2021

2022

Cyfrif pen cyhoeddedig

26,880

25,930

26,600

26,445

Absenoldeb tymor hir

.

950

1,305

1,525

FTE = sero

.

60

0

0

Cyfanswm unigolion

26,880

26,935

27,905

27,970

Ffynhonnell: CBGY Ysgol

. Eitem data ddim yn berthnasol.

Tabl 2: Cyfrif pen staff cymorth yn ôl statws, 2019 i 2021

 

2019

2020

2021

2022

Cyfrif pen cyhoeddedig

29,025

29,055

30,035

30,860

Absenoldeb tymor hir

.

465

580

690

FTE = sero

.

300

40

1,445

Cyfanswm unigolion

29,025

29,820

30,650

32,995

Ffynhonnell: CBGY Ysgol

. Eitem data ddim yn berthnasol.

Disgrifiad o Tablau 1 a 2: Mae tablau 1 a 2 yn dangos y nifer o athrawon a staff cymorth wedi’u cynnwys yn y data CBGY Ysgol a’r nifer sydd wedi’u heithrio o’r ffigurau cyhoeddedig oherwydd eu bod wedi’u nodi fel ar absenoldeb tymor hir neu â ffigwr cyfwerth ag amser llawn o sero. Ar y cyfan, mae’r cyfrif pen cyhoeddedig a chyfanswm nifer yr unigolion yn y data CBGY Ysgol wedi cynyddu ar gyfer athrawon rhwng 2021 a 2022, er bod y cyfrif pen cyhoeddedig wedi disgyn. Ar y llaw arall, mae’r cyfrif pen ar gyfer staff cymorth wedi cynyddu dros yr un cyfnod. Mae’n bosib bod y cynnydd yma yn rhannol o ganlyniad i’r arian ychwanegol roddwyd i ysgolion gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r cynllun i “recriwtio, adfer a chodi safonau” (RAChS) i helpu recriwtio staff ychwanegol i roi cymorth i ddisgyblion yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19). Roedd staff wedi’u hariannu fel rhan o’r RAChS wedi’u cyflogi ar sail dros dro achyfran health ohonynt wedi’u cyflogi fel cynorthwywyr addysgu. Yn 2021-22, derbyniodd ysgolion £68.9 miliwn mewn arian RAChS. Gostyngodd hyn i £37.5 miliwn yn 2022-23 gall efallai esbonio’r gostyngiad yn y nifer o athrawon yn 2022. Mae gwybodaeth bellach ar yr arian RAChS ar gael at: Gwerthuso'r Rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau (RAChS)

Diffiniadau

CBGY ysgol: rolau

Defnyddir tri mesur i ddangos dosbarthiad y gweithlu ysgol: cyfrif pen, cyfwerth â pherson llawn (FPE) a cyfwerth ag amser llawn (FTE). Gweler diffiniad ar gyfer bob un o’r mesurau yma isod.

Cyfrif pen

Mae’r cyfrif pen yn rhoi cyfrif o unigolion yn eu rôl uchaf. Ar y lefel awdurdod lleol, mae bob unigolion yn cael eu cyfri unwaith ym mhob awdurdod lleol maent yn gweithio. Ar lefel Cymru, mae unigolion ond yn cael eu cyfri unwaith, beth bynnag y nifer o awdurdodau lleol maent yn gweithio ynddynt. O ganlyniad, mae’n bosib na fydd cyfanswm yr awdurdod lleol yn hafal i ffigwr Cymru.

Cyfwerth â Pherson Llawn (FPE)

Mae’r FPE yn dangos y gyfran o amser gweithio unigolyn maent yn gwario ym mhob rôl ac awdurdod lleol. Mae cyfanswm yr awdurdodau lleol yn hafal i ffigwr Cymru.

Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE)

Mae’r FTE yn dangos y gyfran o gontract amser llawn unigolyn maent yn gwario ym mhob rôl ac awdurdod lleol. Fel yr FPE, mae cyfanswm yr awdurdodau lleol yn hafal i ffigwr Cymru.

Dyma enghraifft i ddangos y gwahaniaeth rhwng y tri mesur:

Mae athro yn gweithio 2.5 diwrnod yr wythnos. Am un diwrnod mae’n gweithio fel pennaeth cynorthwyol ac fel athro dosbarth am yr 1.5 diwrnod arall.

Yn y cyfrif pen, bydd yr unigolyn yn cael ei gyfri fel 1 yn erbyn y categori pennaeth cynorthwyol (cyfrif pen yn hafal i 1).

Ar gyfer FPE, bydd yr unigolyn yn cael ei gyfri fel 0.4 yn y categori pennaeth cynorthwyol a 0.6 yn y categori athro dosbarth (cyfanswm FPE yn hafal i 1).

Ar gyfer FTE, bydd yr unigolyn yn cael ei gyfri fel 0.2 yn y categori pennaeth cynorthwyol a 0.3 yn y categori athro dosbarth (cyfanswm FTE yn hafal i 0.5).

Tra gellir cymharu’r  FPE a FPE , nid ydynt yn union gymharol i’r cyfrif pen.

CBGY ysgol: y Gymraeg

Yn dilyn sgyrsiau â defnyddwyr mae’r prif ffigurau ar yr iaith Gymraeg sydd wedi’u cyhoeddi yn y datganiad hwn ar gyfer 2021 wedi’u seilio ar gyfuno’r nifer o unigolion yn nodi eu gallu yn yr iaith Gymraeg ar lefel canolradd, uwch neu hyfedr. Mae hyn yn wahanol i gyhoeddiadau blaenorol oedd yn cyflwyno data yn cyfuno gallu lefel uwch neu hyfedr yn unig. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn cynnwys nifer o staff yn ôl lefel gallu yn y Gymraeg ar gael ar StatsCymru.

CBGY ysgol: pynciau a ddysgir

Mae’r wybodaeth a gesglir ar y pynciau a ddysgir yn seiliedig ar amserlen dros bythefnos arferol yr ysgol. Mae’r ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi yn cynnwys athrawon sy’n dysgu disgyblion blwyddyn 7 ac uwch yn unig. Y tri mesur sydd ar gael y data yma yw: cyfrif pen, cyfwerth ag amser llawn (FPE) ac oriau.

Cyfrif Pen

Yn y ffigurau yn ôl pwnc, mae athrawon yn cael eu cyfri unwaith yn erbyn pob pwnc maent yn dysgu.  Yn y cyfanswm, mae athrawon yn cael eu cyfri unwaith yn unig, pa bynnag nifer o bynciau maent yn dysgu. Felly, ni fydd swm y pynciau yn hafal i’r cyfanswm.

Cyfwerth â Pherson Llawn (FPE)

Mae’r FPE yn dangos y gyfran o amser Dysgu mae athro yn gwario yn dysgu pwnc penodol.

Os mae athro yn gwario hanner ei amser yn dysgu Saesneg a hanner ei amser yn dysgu Drama, ar gyfer yr FPE maent yn cyfri fel 0.5 yn erbyn pob pwnc ac fel 1 yn y cyfanswm. Yn y cyfrif pen, bydd yr athro yma yn cyfri fel 1 yn erbyn bob pwnc ac fel 1 yn y cyfanswm. Ar lefel pwnc, y mwyaf tebyg yw’r cyfrif pen a’r FPE, y mwyaf yw’r gyfran o amser mae unigolion yn gwario yn dysgu’r pwnc yna. Os yw unigolyn yn gwario cyfran uchel o’u hamser yn dysgu pwnc penodol, mae’n bosib bod hyn yn dangos mwy o arbenigedd  yn y pwnc.

Oriau

Mae hyn yn adlewyrchu cyfanswm yr oriau a ddysgir yn yr amserlen dros bythefnos. Mae’r tri mesur yn gymharol a’i gilydd.

CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau

Yn arferol, mae’r data CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau yn cael eu cwblhau gan awdurdodau lleol. Mae mwyafrif o’r gweithlu i’w cynnwys yn y ddau gasgliad, er mae yna rhai eithriadau. Bydd athrawon sydd wedi’u cyflogi’n ganolog gan yr awdurdod lleol lle nad ydynt yn gweithio mewn ysgol benodol yn ymddangos yn y data CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau ond nid y data CBGY Ysgol. Mae’r unigolion yma wedi’u nodi yn y sector ‘Arall’ ar StatsCymru. Hefyd, mae’n bosib bod unigolion sydd wedi’u cyflogi trwy asiantaethau cyflenwi neu sefydliadau trydydd parti wedi’u cofnodi yn y data CBGY Ysgol ond nid y data CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau. Am y rhesymau yma, bydd ffigurau cyfrif pen a nifer cyfwerth ag amser llawn ar gyflogau athrawon ac absenoldebau athrawon yn wahanol i’r rhai hynny yn y data CBGY Ysgol.

Nid yw’r ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi o’r data CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau yn cynnwys unigolion:

  • Gyda FTE neu gyflog sail yn sero
  • Mewn swydd lle and ydynt yn addysgu
  • Yn cael eu talu ar gyfradd ddyddiol
  • Ar gytundeb lefel gwasanaeth gyda’u hawdurdod lleol
  • Heb gontract agored ar y dyddiad Cyfrifiad [troednodyn 1[troednodyn 2]

Hefyd, nid yw ffigurau ar absenoldebau athrawon trwy salwch yn cynnwys absenoldebau:

  • Heb eu hagor neu gau yn ystod y flwyddyn academaidd [troednodyn 3]
  • Yn llai na 0.5 neu’n fwy na 195 diwrnod o hyd.

CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau: athrawon yn ôl ystod cyflog

Cyfrif pen

Mae unigolion wedi’u cyfri unwaith ar gyfer pob ystod gyflog maent yn cael eu talu yn erbyn (mae hyn yn wahanol i’r cyfrif pen ar gyfer y data CBGY Ysgol ble mae unigolion ond yn cael eu cyfrif yn erbyn eu rôl uchaf yn unig). Yn y cyfanswm, mae unigolion wedi’u cyfri unwaith yn unig, pwy bynnag nifer o ystodau cyflog maent wedi’u talu yn eu herbyn. Felly, mae’n bosib na fydd swm yr ystodau cyflog yn hafal i’r cyfanswm.

Cyfwerth ag amser llawn (FTE)

Mae unigolion wedi’u cyfri am y gyfran yr amser contract llawn yr ystod gyflog maent wedi’u talu yn erbyn. Os yw unigolyn yn dal mwy nag un contract ar yr un ystod gyflog, mae’r FTE wedi’i symio. Bydd athrawon sydd wedi’u cyflogi’n ganolog gan awdurdodau lleol wedi’u cofnodi yn y data CBGY Cyflogau, AD ac Absenoldebau ond nid y data CBGY Ysgol. Ar gyfer y data CBGY Cyflogau, AD ac Absenoldebau mae’r nifer cyfwerth ag amser llawn yn dangos unigolion wedi’u cyfri am y gyfran o amser contract llawn maent wedi’u talu ar ystod cyflog benodol a bydd yn wahanol i’r ffigurau nifer cyfwerth ag amser llawn ar gyfer nodweddion staff o’r data CBGY Ysgol.

CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau: lwfansau

Mae gwybodaeth ar lwfansau yn seiliedig ar lwfansau a dderbyniwyd yn y flwyddyn i’r dyddiad Cyfrifiad.

Cyfrif pen (a chyfran)

Mae unigolion wedi’u cyfri unwaith ar gyfer pob math o lwfans maent yn eu derbyn. Mae unigolion sydd wedi’u nodi yn derbyn mwy nag un taliad ar gyfer yr un math o lwfans wedi’u cyfri unwaith yn unig. Ar gyfer y cyfanswm, mae unigolyn yn cael eu cyfri unwaith, sawl bynnag gwahanol fath o lwfans maent wedi derbyn. Am y rheswm yma, mae’n bosib na fydd swm y math o daliad yn hafal i’r cyfanswm.

Taliad cyfartalog (cymedr a chanolrif)

Mae’r taliad cyfartalog yn seiliedig ar y nifer o unigolion sydd wedi derbyn lwfans. Os yw unigolyn wedi derbyn mwy nag un taliad ar gyfer yr un math o lwfans, mae’r taliad mwyaf wedi’i ddefnyddio.

CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau: absenoldebau trwy salwch

Mae data absenoldeb trwy salwch yn cynnwys absenoldebau wedi’u cofnodi yn ystod y flwyddyn academaidd flaenorol (h.y. 1 Medi 2021 i 31 Medi 2022). Mae gwybodaeth yn cael eu cyhoeddi ar gyfer unigolion â chontract agored yn yr un awdurdod lleol ar y dyddiad Cyfrifiad diwethaf.

Cyfrif pen (a chyfran)

Cyfrif o’r nifer o unigolion sydd wedi cymryd absenoldeb trwy salwch. Ar gyfer unigolion sydd wedi cymryd mwy nag un absenoldeb yn ystod y flwyddyn, mae’r dyddiau gwaith a gollwyd wedi’u symio. Bydd athro sydd wedi cymryd dau absenoldeb trwy salwch o 5 diwrnod o hyd yr un yn cael ei gyfri unwaith yn y categori ‘ Rhwng 6 a 10 diwrnod’.

Nifer o absenoldebau

Y nifer o absenoldebau salwch sydd wedi’u cofnodi. Bydd athro sydd wedi cymryd dau absenoldeb trwy salwch o 5 diwrnod o hyd yr un yn cael ei gyfri ddwywaith yn y categori ‘5 diwrnod neu lai’.

Cysylltu data CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau a CBGY Ysgol

Nid oes gwybodaeth ar sector yr ysgol (e.e. cynradd, uwchradd ayyb) yn cael eu casglu yn y CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau. Er mwyn gallu darparu data yn ôl sector ar gyfer y wybodaeth o’r CBGY AD, Cyflogau ac Absenoldebau mae’r data yn cael eu cysylltu i’r data yn y CBGY Ysgol gan ddefnyddio’r rhif yswiriant cenedlaethol a’r côd awdurdod lleol. Os yw unigolyn yn gweithio mewn mwy nag un sector yn yr un awdurdod lleol, mae’r wybodaeth yn cael eu cysylltu i’r sector mae’r unigolyn yn gweithio yn ei rôl uchaf.

Swydd

Mae hyn yn adlewyrchu’r swydd mae’r unigolyn wedi’u gofnodi yn ei herbyn yn y data cyflogres. Mae’n bosib bydd hyn yn wahanol i’r hynny sydd wedi ei gasglu yn y CBGY Ysgol sydd yn seiliedig ar y rolau mae’r unigolyn yn ymgymryd (ar sail barhaol neu dros dro) ar ddyddiad y Cyfrifiad.

Daliadaeth (Llawn amser/Rhan amser)

Yn y tabl athrawon yn ôl ystod gyflog sydd wedi’i gyhoeddi ar StatsCymru, mae’r ddaliadaeth yn dangos daliadaeth unigolyn ar ystod cyflog benodol. Os oes gan unigolyn yn dal nifer o gontractau ar yr un ystod gyflog, bydd ei daliadaeth yn adlewyrchu hyn (h.y. bydd athro â dau gontract gyda FTE yn 0.5 yr un ar y brif ystod gyflog yn cael ei gyfri fell lawn amser). Bydd unigolyn sydd â chontract 0.5 FTE ar y brif ystod gyflog a chontract 0.5 FTE ar yr ystod gyflog arweinyddiaeth yn cael ei gofnodi fel rhan amser yn erbyn y ddau ystod gyflog a’r cyfanswm ystod gyflog.

Mae’r ddaliadaeth yn cael ei gyfrifo’n wahanol ar gyfer tablau lwfansau ac absenoldeb athrawon trwy salwch. Yn yr achos yma, os oes gan unigolyn mwy nag un contract, mae’r FTE uchaf yn cael ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu bod unigolyn sydd â dau gontract 0.5 FTE yr un yn cael ei gyfri fel rhan amser.

Mae’r FTE yn eitem data ciplun sy’n adlewyrchu patrwm gwaith unigolyn ar ddyddiad y cyfrifiad. Gan fod y data lwfansau yn cyfeirio at y flwyddyn i ddyddiad y Cyfrifiad, ac absenoldebau dros y flwyddyn academaidd, mae’n bosib and yw’r FTE yn adlewyrchu patrwm gwaith yr unigolyn wrth dderbyn y lwfans / cymryd y cyfnod o absenoldeb.

Dyfarniad cyflog athrawon 2022/23

Ni chwblhawyd a gweithredu’r dyfarniad ar gyflogau athrawon ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022/23 tan ar ôl dyddiad cyfrifiad CBGY. Cyhoeddwyd cynydd o 5% i bob pwynt cyflog statudol ar bob graddfa gyflog a holl lwfansau o fis Medi 2022 ar 14 Tachwedd 2022. Yn dilyn trafodaethau health ag undebau a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) cytunwyd cynnig cyflog diwygiedig yn cynnwys cynnydd o 3% ychwanegol, gyda 1.5% ohono yn gyfunedig ac 1.5% ohono heb fod yn gyfunedig, ar 19 Ebrill 2023. Roedd hyn yn ogystal â’r codiad cyflog a dyfarnwyd yn barod a’i ôl-ddyddio i 1 Medi 2022.

O ganlyniad i amseri’r cytundeb ar ddyfarniad cyflog athrawon nid oedd pob awdurdod lleol wedi gallu gweithredu’r dyfarniad cyflog cyn cyflwyno’r data CBGY. Felly, nid yw’r ffigurau ar gyflogau athrawon yn y datganiad yma yn adlewyrchu’r codiad cyflog llawn ar gyfer 2022/23.

Gwybodaeth pellach

Datganiad Ysgrifenedig: Dyfarniad Cyflog Athrawon 2022 (14 Tachwedd 2022)

Datganiad Ysgrifenedig: Dyfarniad Cyflog Athrawon 2022/23 (19 Ebrill 2023)

Diwygiadau

Ar ôl adolygu’r fethodoleg a ddefnyddir i gyfrifo’r nifer o swyddi gwag a’r nifer cyfartalog o geisiadau am bob swydd a hysbyswyd ar gyfer y flwyddyn academaidd2020/21, rydym wedi diwygio’r data ers llynedd. Mae swyddi gwag a hysbyswyd dim ond yn cael eu cyfri unwaith fel swydd iwag unigol, hyd yn oed os mae swydd yn cael ei hysbysebu mwy nag unwaith. Mae’r newid yma wedi arwain at ddiwygiadau i’r tablau StatsCymru a dangosfyrddau cysylltiedig canlynol:

  • swyddi athrawon wedi’u hysbysebu, nifer o geisiadau ac apwyntiadau yn ôl pwnc
  • nifer cyfartalog o geisiadau am swyddi athrawon yn ôl pwnc a chyfrwng swydd wag
  • swyddi cynorthwywyr addysgu wedi’u hysbysebu, nifer o geisiadau ac apwyntiadau yn ôl awdurdod lleol
  • nifer cyfartalog o geisiadau am swyddi cynorthwywyr addysgu yn ôl awdurdod lleol a chyfrwng swydd wag

Mae’r diwygiadau wedi effeithio data a gyhoeddwyd yn flaenorol fel a ganlyn:

  • Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/21, trwy gyfri swyddi fel gwag unigol roedd yna 1,503 swydd wag wedi’u hysbysebu, i lawr o 1,755. Ar gyfer ysgolion cynradd mae hyn wedi gostwng o 603 i 588 (2.5%) ac o 990 swydd i 768 (22.4%) ar gyfer ysgolion uwchradd.
  • Mae’r nifer cyfartalog o geisiadau am bob swydd athro wedi cynyddu o ganlyniad i’r newid methodoleg. Ar gyfer holl ysgolion mae wedi cynyddu o 10.3 i 12.0. Mae’r nifer cyfartalog am swyddi ag anghenion cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu o 3.9 i 5.7 a’r nifer cyfartalog ar gyfer swyddi anghenion cyfrwng Cymraeg wedi cynyddu o 13.5 i 14.2.
  • Mae swyddi staff cymorth sydd wedi’u hysbysebu wedi dilyn yr un tueddiad gyda’r cyfanswm o swyddi gwag wedi’u hysbysebu wedi gostwng o 1,152 i 948. Mae’r nifer mewn ysgolion cynradd wedi disgyn o 564 i 528 (6.4%) ac o 429 i 261 swydd wag ar gyfer ysgolion uwchradd (39.2%).
  • Mae’r nifer cyfartalog o geisiadau am bob swydd staff cymorth wedi’u hysbysebu wedi cynyddu oherwydd y diwygiad hefyd, o 7.4 i 9.0 ar gyfer y flwyddyn academaidd 2020/21. Mae wedi codi o 3.0 i 4.7 ar gyfer swyddi ag anghenion cyfrwng Gymraeg ac o 10.3 i 10.9 ar gyfer swyddi heb anghenion cyfrwng Cymraeg.

Cymharedd

Mae'r Cyfrifiad Ysgol Blynyddol ar Lefel Disgybl (CYBLD) yn casglu data ar lefel gyfanredol ar nifer yr athrawon a'r staff cymorth ym mis Ionawr bob blwyddyn (gohiriwyd y casgliad yn 2021 i fis Ebrill oherwydd ysgolion wedi cau). Mae gwybodaeth am y gweithlu ysgolion, a gasglwyd drwy'r CYBLD, ar gael yn natganiad ystadegol 'Canlyniadau'r cyfrifiad ysgolion: ym mis Ionawr 2022’ ac ar StatsCymru. Dylid parhau i ddefnyddio data a gyhoeddir yn y datganiad ystadegol ‘Canlyniadau’r Cyfrifiad Ysgol’ sy’n defnyddio gwybodaeth o’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD) fel yr ystadegau swyddogol ar y gweithlu ysgol ar hyn o bryd. Unwaith bydd safon y data a gesglir trwy’r CBGY wedi’u sicrhau ac unrhyw wahaniaethau wedi’u hesbonio bydd y datganiad yma yn darparu’r ystadegau swyddogol ar y gweithlu ysgol yng Nghymru.

Rydym wedi dechrau ymchwilio i mewn i’r gwahaniaethau rhwng data gweithlu ysgol a gesglir trwy’r CYBLD a CBGY ac yn bwriadu ymgymryd â dadansoddiad mwy manwl yn dilyn cyhoeddiad data CYBLD 2023 ym mis Medi.

Cymharu data CBGY a CYBLD: athrawon wedi cymhwyso

Mae’r gwahaniaethau rhwng niferoedd cyfrif pen a nifer cyfwerth ag amser llawn CBGY a CYBLD  yn gallu cael eu hesbonio i raddau helaeth gan y gwahaniaeth yng nghwmpas yr athrawon sydd i’w cynnwys yn y casgliadau a gan yr arian darparwyd gan Lywodraeth Cymru i ysgolion fel rhan o’r cynllun “recriwtio, adfer a chodi safonau” (RAChS) i recriwtio staff ychwanegol i roi cymorth i ddisgyblion yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19). Roedd yr holl staff cyflogwyd trwy’r RAChS wedi’u cyflogi ar sail dros dro. Mae’r CBGY yn cynnwys staff sydd wedi’u cyflogi ar gontract o 28 diwrnod neu mwy lle mae’r CYBLD yn cynnwys staff sydd wedi’u cyflogi ar gontract o dymor neu mwy. Hefyd, mae’r CBGY yn galluogi eithrio dyblygu staff sy’n gweithio mewn mwy nag un ysgol a staff sydd ar absenoldeb tymor hir sydd efallai wedi’u cynnwys yn y CYBLD.

Cyfrif pen

Un brif wahaniaeth rhwng y CYBLD a CBGY yw’r broses casglu. Mae yna ddilysu cyfyngedig ar y data gweithlu a gyflwynir trwy’r CYBLD, lle mae yna ddilysiadau wedi’u hawtomeiddio a gwirio synnwyr mwy trylwyr wedi’u cynnwys yn y casgliad CBGY. Felly, mae’n debygol bod y data gweithlu o’r CBGY o safon uwch o ganlyniad i ddulliau casglu data a ddefnyddir.

Yn 2022, roedd yna 25,785 athro wedi cymhwyso yn ôl data CBGY o’i gymharu â 25,905 yn 2021. Mae data CYBLD 2022 yn dangos 26,865 athro wedi cymhwyso. Mae’n bosib bod ran health o’r gwahaniaeth o ganlyniad i’r broses dilysu fwy trylwyr o’r data gweithlu yn y CBGY. Yn y CBGY, mae gwallau yn cael eu hamlygu os oes unigolyn yn cael ei gofnodi fel athro cymwysedig ond heb statws athro cymwysedig (SAC). Yn y CYBLD, nid yw’n bosib cadarnhau os yw athro heb gymhwyso wedi’i gofnodi’n anghywir yn y categori athro wedi cymhwyso.

Hefyd, mae’r dilysiadau sydd wedi eu hadeiladu i mewn i’r CBGY yn gallu amlygu achosion lle mae unigolion ar absenoldeb tymor hir wedi eu nodi’n bresennol yn anghywir. Mae’r unigolion hynny sydd ar absenoldeb tymor hir yn cael eu heithrio o’r cyfrif pen sy’n cael ei gyhoeddi o’r CBGY. Er bod nodiadau cwblhau technegol CYBLD yn nodi na ddylid cynnwys unigolion ar absenoldeb tymor hir, nid yw’n bosib gwirio hynny yn y data.

Cyfwerth ag amser llawn (FTE)

Yn 2022, roedd y nifer cyfwerth ag amser llawn o athrawon yn ôl CBGY yn 24,080 o’i gymharu â 24,120 yn 2021, gostyngiad o 40. Mewn cymhariaeth, mae ffigurau dros dro o gasgliad CYBLD Ionawr 2023 yn dangos roedd yna 24,885 nifer cyfwerth ag amser llawn o athrawon wedi cymhwysoo’i gymharu â 24,655 ym mis Ionawr 2022 (cynnydd o 225). Gellir esbonio’r gwahaniaeth yn nhueddiadau niferoedd cyfwerth ag amser llawn i raddau gan yr arian RAChS a’r cynnydd mewn athrawon ar gontractau dros dro neu dymor byr yn cael eu cynnwys yn ddata CBGY 2021 ond sydd wedi gadael eu swydd erbyn CBGY 2022, ac felly ddim yn ymddangos yn ddata CYBLD Chwefror 2022.

Hefyd, gellir esbonio’r gwahaniaeth trwy’r amrywiaeth yn sut mae’r FTE yn cael eu cyfrifo yn y ddau gasgliad. Mae’r data lefel unigolyn yn y CBGY yn galluogi mwy o gysondeb yn sut mae’r data yn cael eu dadansoddi ac mae gofyn dychwelyd FTE ar gyfer bob unigolyn, gyda’r FTE yn adlewyrchu’r gyfran o gontract amser llawn mae’r unigolyn yn gweithio. Mae’r CYBLD yn casglu gwybodaeth ar ddaliadaeth (llawn amser / rhan amser) ac oriau gweithio. Ar gyfer unigolyn sydd wedi’i gofnodi fel rhan amser mae ei oriau gwaith yn cael ei rhannu â 32.5 er mwyn dynodi’r FTE. Mae’r dull yma yn tybio bod amser contract llawn yn hafal i 32.5, er mae’n bosib and yw hynny’n wir ar gyfer bob rôl. Golyga hyn bod unigolyn sy’n gweithio 20 awr yr wythnos, mewn rôl sydd ag oriau cyfwerth ag amser llawn o 25 awr, yn cael ei gofnodi fel 0.8 FTE yn y CBGY ond 0.6 yn y CYBLD.

Bydd ymchwil pellach i’r gwahaniaethau rhwng data gweithlu yn CBGY a CYBLD yn cael ei ymgymryd yn dilyn cyhoeddiad y data CYBLD diweddaraf ym mis Awst.

Cymharu data CBGY a CYBLD: cymhareb disgybl-athro

Ar lefel Cymru, mae’r gymhareb disgybl-athro yn 19.2 wrth ddefnyddio data gweithlu o’r CYBLD . Wrth ddefnyddio data gweithlu o’r CBGY, mae’r gymhareb disgybl-athro ychydig yn is yn 19.1. Mae cysondeb y gymhareb disgybl-athro yn dynodi bydd unrhyw effaith ar bolisiau yn fach pan mae data gweithlu o’r CBGY yn cymryd lle data’r CYBLD.

Cymharu data CBGY a chasgliad data cyfanredol awdurdodau lleol: absenoldebau athrawon trwy salwch

Yn 2021/22, roedd data CBGY yn nodi 18,065 athro yn cymryd cyfod o absenoldeb trwy salwch. Mae hyn dipyn yn uwch na’r 10,285 yn cymryd cyfnod o absenoldeb trwy salwch yn 2020/21 o’r data CBGY a 12,616 yn cymryd cyfnod o absenoldeb trwy salwch fel nodwyd yn y casgliad data cyfanredol awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn galendr Ionawr i Ragfyr 2020. Roedd y ddau gyfnod yma yn cynnwys amser yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19) oedd yn effeithio sut roedd ysgolion yn gweithredu. Er hynny, nid yw ffigwr diweddaraf CBGY yn anhebyg i’r casgliad data o awdurdodau lleol ar gyfer blynyddoedd blaenorol ( (16,529 yn 2017, 16,289 yn 2018 and 16,554 yn 2019). Felly, mae’n bosib bod y gwahaniaeth rhwng y nifer o absenoldebau yn CBGY a’r casgliad awdurdod lleol yn y flwyddyn ddiweddaraf o ganlyniad i’r anweddolrwydd oherwydd pandemig coronafeirws (COVID-19) ac mae’n ymddangos bod lefelau absenoldebau trwy salwch wedi dychwelyd i lefelau cyn COVID-19. Hefyd, mae’r casgliad CBGY yn cynnwys mwy o absenoldebau athrawon ysgol o’i gymharu â’r casglaid data cyfanredol blaenorol gan awdurdodau lleol ar absenoldebau gan ei fod yn casglu data o ysgolion sydd wedi’u heithrio o gytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer AD a / neu gyflogres gyda’u hawdurdod lleol. Gall hyn esbonio ychydig o’r gwahaniaeth.

Yn seiliedig ar ddata CBGY, y gyfran o athrawon sydd wedi cymryd cyfnod o absenoldeb trwy salwch yn 2021/22 yw 65.2%. Mae hyn tipyn uwch o’i gymharu â 2020/21 (40.0%) ond yn fwy tebyg i’r ffigurau yn y casgliad awdurdod lleol ar gyfer 2017 (61.1%), 2018 (61.2%) a 2019 (62.1%). Unwaith eto, gall hyn cael ei esbonio i raddau gan y ffaith bod data CBGY 2020/21 a’r data casgliad awdurdod lleol ar gyfer 2020 yn cynnwys cyfnod o amser yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19) oedd yn effeithio ar sut roedd ysgolion yn gweithredu gyda cyfnodau o ysgolion ar gau gan effeithio’r nifer o absenoldebau trwy salwch yn cael eu cofnodi.

Yn ddata CBGY ar gyfer 2021/22, mae’r nifer cyfartalog o ddiwrnodau gwaith a gollwyd gan bob athro sydd wedi cymryd cyfnod o absenoldeb salwch yn weddol sefydlog ar 12.8 i’w gymharu ag 11.9 yn 2020/21. Mae hyn yn weddol gyson a’r casgliad awdurdod lleol cyfanredol ar gyfer 2017 (11.0), 2018 (10.8), 2019 (11.3) a 2020 (11.5). Mae hyn yn golygu ei fod yn anhebygol i achosi newid mawr yn nealltwriaeth o gyffredinrwydd absenoldebau a hyd cyfartalog yr absenoldebau pan fydd y data yn cael eu disodli gan CBGY. Er bydd dealltwriaeth o’r gyfran o athrawon sy’n cymryd absenoldeb trwy salwch yn debygol o newid, bydd hyn o ganlyniad i ddadansoddi a chyfathrebiad gwell o’r ystadegau.

Cymharu data CBGY a CYBLD: recriwtio a chadw athrawon

Recriwtio

Yn 2021/22, roedd 2,292 swydd wag athro wedi’u cofnodi yn CBGY.  Mae hyn yn gynnydd o 789 o’i gymharu â 2020/21. Hefyd, mae tipyn uwch na’r ffigwr yn CYBLD ar gyfer Ionawr i Ragfyr 2021 (1,801) a 2020 (1,212). Mae’r gwahaniaeth yma yn rhannol o ganlyniad i’r ddarpariaeth o arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i recriwtio staff ychwanegol i helpu disgyblion yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19). Er hynny, bydd ran helaeth o’r gwahaniaeth o ganlyniad i gwmpas CBGY a’r ffaith mae casgliad ar y gweithlu ysgol yn benodol ydyw. Yng nghasgliad CBGY 2022, gwelwyd 62% o ysgolion yn cwblhau’r rhan recriwtio athrawon. Mae hyn yn cymharu i 44% o ysgolion yn cwblhau’r rhan recriwtio athrawon yn 2021 a 44% yn cwblhau’r rhan recriwtio athrawon yng nghasgliad CYBLD 2022.

Byddwn yn dadansoddi’r gwahaniaeth yn y data recriwtio athrawon yn bellach ar ôl cyhoeddi data CYBLD 2023.

Cadw athrawon

Yn 2021/22, roedd data CBGY yn dangos 1,050 athro wedi gadael y proffesiwn (heb gynnwys y rhai hynny’n gadael ar oedran ymddeol arferol). Mae hyn yn cymharu â 414 yn gadael rhwng Ionawr a Rhagfyr 2020 yn ôl data CYBLD a 612 yn 2019.

Mae’n bosib bod y gwahaniaeth yn y nifer o athrawon yn gadael yn CBGY a CYBLD ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf o ganlyniad i pandemig coronafeirws (COVID-19). Efallai bod rhai athrawon wedi dewis i aros y neu swydd yn ystod y pandemig yn 2020, a dewis gadael yn y blynyddoedd dilynol. Hefyd, yn debyg i’r data recriwtio athrawon, mae’r cynydd yn debygol of fod o ganlyniad i gwmpas CBGY a’r ffaith ei fod yn gasgliad gweithlu ysgol yn benodol. Roedd 71% o ysgolion wedi cwblhau’r rhan cadw athrawon yng nghasgliad CBGY 2022. Mae hyn yn cymharu â 56% o ysgolion yn CBGY 2021 a 26% yng nghasgliad CYBLD 2022.

Byddwn yn ymchwilio’r gwahaniaethau rhwng data cadw athrawon CBGY a CYBLD unwaith mae data CYBLD 2023 ar gael.

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA)

Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yw'r corff rheoleiddio annibynnol ar gyfer y gweithlu addysg yng Nghymru. Mae’r CGA yn cyhoeddi data a gesglir trwy Cofrestr Ymarferwyr Addysg yn ‘Ystadegau Blynyddol CGA ar gyfer y Gweithlu Addysg yng Nghymru’. Mae cofrestr y CGA yn cynnwys athrawon cyflenwi, gweithwyr peripatetig ac eraill sy’n darparu addysg neu hyfforddiant mewn ysgolion ynghyd â sefydliadau addysg eraill. Felly, mae data’r CGA yn darparu trosolwg o’r gweithlu addysg ehangach yng Nghymru Er hynny, nid yw’r CGA yn casglu gwybodaeth ar holl staff ysgolion gan gynnwys rhai categorïau staff cymorth megis staff gweinyddol, rheolwyr busnes, technegwyr a llyfrgellwyr ymysg eraill. Mae’r data CBGY yn rhoi darlun mwy manwl o athrawon a staff cymorth yn gweithio mewn ysgolion ar ddyddiad y Cyfrifiad.

Cymhariaeth â gwledydd eraill y DU

Mae’r Adran Addysg yn Lloegr (DfE) yn cyhoeddi gwybodaeth yn flynyddol o’r Cyfrifiad Gweithlu Ysgol yn Lloegr. Rydym am weithio’n agos â chydweithwyr yn DfE i ddeall y tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng ein setiau data ac i wella cydlyniant ein hystadegau. Hefyd, Rydym yn bwriadu gweithio â Llywodraethau’r Alban a Gogledd Iwerddon i gyfathrebu data ar y gweithlu ysgol at gyfer u DU ar y cyfan. Gweler isod ar gyfer gwybodaeth bellach am y gweithlu ysgol ar draws y DU:

Lloegr

Ystadegau gweithlu ysgol ar gyfer Lloegr

Yr Alban

Ystadegau addysg ar gyfer yr Alban

Gogledd Iwerddon

Ystadegau addysg ar gyfer Gogledd Iwerddon

Baich ar ymatebwyr

Mae’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau yn cynghori cyrff cyhoeddus sy’n casglu data ystadegol y dylai’r baich i ymatebwyr fod yn gymesur i’r buddion o ddefnyddio’r data. Er mwyn deal y baich cysylltiol i’r casgliad CBGY, gofynnir i ymatebwyr rhoi gwybodaeth am yr amser i gwblhau’r casgliad CBGY Ysgol. Yn 2019, yr amser cyfartalog (canolrif) i gwblhau’r data CBGY Ysgol oedd 8 awr, gan ddisgyn i 4 awr ar gyfer 2020. Yn 2021, gwelwyd cynnydd yn yr amser cyfartalog i gwblhau’r data i 5 awr. Mae hyn yn debygol o fod o ganlyniad i gyflwyno’r eitemau data newydd ar gyfer recriwtio a chadw staff a chyflenwi. Yn 2021, roedd staff cymorth (a) yn cyfri am 79.5% o’r holl amser i gwblhau’r data. Roedd athrawon mewn rolau arweinyddiaeth yn cyfri am 7.6% o’r amser, ychydig yn is na 2020 (9.2%)

Yn 2019, yr amser cyfartalog (canolrif) i gwblhau’r data CBGY Ysgol oedd 8 awr, gan ddisgyn i 4 awr ar gyfer 2020. Yn 2022, yr amser cyfartalog i gwblhau’r data oedd 5 awr, heb newid ers 2021. Yn 2022, roedd staff cymorth [troednodyn 4] yn cyfri am 85.1% o’r holl amser i gwblhau’r data. Roedd athrawon mewn rolau arweinyddiaeth yn cyfri am 8.4% o’r amser, ychydig uwch na 2021 (7.6%)

Gwiriad Cydymffurfio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau

Mewn ymateb i drafodaethau ac ymrwymiadau wedi’u cytuno rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol, yn cynnwys undebau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) a Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ynghyd ag eraill, gofynnwyd i'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau ymgymryd â gwiriad cydymffurfio o CBGY yn erbyn Cod Ymarfer Ystadegau.

Fel rhan o’r gwiriad, penderfynodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau fesur y CBGY yn erbyn elfen ‘gwerth’ y Cod Ymarfer Ystadegau, gan ystyried gwerth y wybodaeth a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru nad sydd ar gael unrhyw le arall. Nodwyd nifer o gryfderau i ystadegau CBGY ynghyd â ffyrdd gellir gwella safon a gwerth yr ystadegau yn bellach. Mae’r rhain yn cynnwys gweithio gyda defnyddwyr ehangach er mwyn casglu barn fwy eang ar yr ystadegau gall helpu uchafu gwerth y data i’r cyhoedd a pharhau i ymchwilio ac esbonio gwahaniaethau â ffynhonellau data arall. Rydym wedi ehangu ar y gwahaniaethau rhwng CBGY a CYBLD yn y cyhoeddiad yma a byddwn yn parhau i gysylltu â defnyddwyr ac archwilio ffynhonellau data eraill ar gyfer datganiadau yn y dyfodol.

Mae ymateb y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau yn dilyn y gwiriad cydymffurfio ar at: 'OSR compliance check of SWAC'.

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae data’r CBGY yn y datganiad hwn yn ymwneud â’r sefyllfa ar 8 Tachwedd2022.

Roedd DEWi ar gael ar gyfer lanlwytho ffeiliau o 8 Tachwedd 2022. Roedd disgwyl i gyfnod casglu DEWi dod i ben yn wreiddiol ar 21 Rhagfyr 2022. Estynnwyd hyn i ddiwedd Ionawr 2023 i sicrhau bod pob ysgol ac awdurdod lleol yn gallu cwblhau a chyflwyno’u data CBGY.

Hygyrchedd ac eglurder

Rhag-gyhoeddwyd y prif ystadegau hyn cyn eu cyhoeddi ar adran Ystadegau ac Ymchwil ein gwefan.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Fodd bynnag, cyn bell ag sy’n bosib, maent wedi’u casglu a dilysu yn unol â'r pileri a'r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu'r broses o gasglu data a sicrhau ansawdd er mwyn gwella'r data.

Deddf Llesaint Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021. yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd rhoi naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Rydym am gael eich adborth

Rydym yn croesawu unrhyw adborth am unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Anfonwch e-bost at educationworkforcedata@llyw.cymru.

Troednodiadau

[1] Nid yw hyn yn gymwys ar gyfer gwybodaeth lwfansau.

[2] Ar gyfer absenoldebau athrawon trwy salwch, mae hyn cyfeirio at y dyddiad Cyfrifiad blaenorol.

[3] Ar gyfer absenoldebau wedi’u hagor yn ôl mis, nid yw absenoldebau wedi’u cau (ond heb eu hagor) yn ystod y flwyddyn academaidd wedi’u cynnwys.

[4] Yn cynnwys rheolwyr busnes, rheolwyr data a staff gweinyddol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Gareth Thomas
E-bost: educationworkforcedata@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099