Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniadau arholiadau allanol a gafodd eu sefyll gan ddisgyblion 15 oed neu 17 oed, sy'n cynnwys TGAU a Lefel A ar gyfer Medi 2019 i Awst 2020.

Disgyblion ym mlwyddyn 11

  • Yn 2019/20, roedd y canran y cofrestriadau a ddyfarnwyd A * i A, A* i C ac A* i G yr uchaf a gofnodwyd erioed. Mae'r cynnydd yn y flwyddyn ddiweddaraf yn fwy nag ym mhob blwyddyn arall.
  • Roedd canran y cofrestriadau a ddyfarnwyd ar bob gradd unigol rhwng A * i C yn uwch yn 2019/20 na'r flwyddyn flaenorol tra bod y ganran hon yn is ar bob gradd unigol rhwng D ac U / X.

Canlyniadau yn ôl nodweddion disgyblion dethol

  • Cynyddodd y bwlch rhwng bechgyn a merched dros y flwyddyn ddiwethaf ar raddau A* i A ond gostyngodd ar raddau A* i C ac A* i G. Roedd merched yn fwy tebygol o gael graddau A* ac A.
  • Gwelir yr un patrwm wrth gymharu disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'r rhai nad ydynt yn gymwys a disgyblion gwyn o Brydain â disgyblion du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Cynyddodd y bwlch ar raddau A* i A a gostyngodd ar raddau A* i C ac A* i G. Roedd canran y cofrestriadau y dyfarnwyd gradd A* i G iddynt yn 97.6 yn 2019/20, sy'n uwch na'r flwyddyn flaenorol ond yn is na 2015/16 a 2016/17. Gwelir yr un patrwm ar gyfer dyfarniadau ar raddau A* i C ac A* i A.

Disgyblion 17 oed

  • Gwelir yr un patrwm mewn canlyniadau Safon Uwch.
  • Roedd canran y cofrestriadau a ddyfarnwyd graddau A* i A, A* i C ac A* i G yn uwch yn 2019/20 nag yn y pedair blynedd flaenorol.
  • Cynyddodd y bwlch rhwng bechgyn a merched ar raddau A* i A ond gostyngodd ar raddau A* i C ac A* i E.

Nodiadau

Atal mesurau perfformiad

Oherwydd canslo'r cyfnod arholiad arferol yn 2019/20 a’r amharu parhaus ar Ysgolion oherwydd y pandemig coronafeirws (Covid-19), mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynnu peidio cynfrifo nac cyhoeddi mesurau perfformiad ar gyfer 2019/20 or 2020/21, ar gyfer Blwyddyn 11 a’r chweched dosbarth.

Mae'r dadansoddiad a gyflwynir yn y datganiad hwn yn seiliedig ar ddosbarthiadau gradd sy'n gyson â gwybodaeth arall a ryddhawyd gan Cymwysterau Cymru a'r Cyd-Gyngor Cymwysterau (JCQ) (gweler y diffiniadau). Mae'r dosbarthiadau gradd hyn yn caniatáu i'r canlyniadau gael eu dadansoddi ar lefel fwy man ac yn dangos canlyniadau ar yr ystodau gallu uchaf ac isaf.

Graddau a aseswyd gan ganolfannau

Yn dilyn canslo arholiadau cyhoeddus, mae'r holl gymwysterau a fyddai wedi cael eu sefyll fel arholiadau yn nhymor yr haf 2019/20 wedi cael eu disodli gan y radd orau o'r radd aseswyd gan y ganolfan (CAG) neu'r radd safonol a gyfrifwyd gan CBAC. Penderfynwyd ar raddau a aseswyd gan ganolfannau gan ddefnyddio amcangyfrif proffesiynol gorau'r athro o'r hyn y byddai'r disgybl yn ei gyflawni pe bai wedi gallu sefyll arholiad. Gall athrawon ddefnyddio unrhyw feini prawf y dymunant wrth amcangyfrif graddau gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) waith cwrs wedi'i gwblhau, ffug arholiadau neu gyflawniad academaidd blaenorol.

Ni fydd gan ddisgyblion y dyfarnwyd cymhwyster iddynt cyn cyfres arholiadau haf 2020 radd a aseswyd gan y ganolfan ond y graddau a gyflawnwyd ganddynt mewn arholiad ysgrifenedig.

Adroddiadau

Canlyniadau arholiadau: Medi 2019 i Awst 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 950 KB

PDF
950 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Canlyniadau arholiadau: Medi 2019 i Awst 2020 (nodiadau) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 487 KB

PDF
487 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Canlyniadau arholiadau: Medi 2019 i Awst 2020 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 57 KB

ODS
57 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.