Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams MS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Pan gyhoeddais fod cyfres arholiadau haf 2020 wedi'i chanslo oherwydd y coronafeirws, dywedais hefyd na fyddem yn cyhoeddi mesurau perfformiad. Roedd y penderfyniad hwnnw'n ymwneud â’r holl fesurau perfformiad ysgolion ac ôl-16 ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20.

Mae'n glir y bydd yr amharu parhaus ar ysgolion a darparwyr ôl-16 â goblygiadau i’r cymwysterau a ddyfernir y flwyddyn nesaf hefyd, yn enwedig i’r rheini sy'n gyrsiau dwy flynedd. Felly, dyma roi gwybod i chi nawr y bydd y penderfyniad i atal y trefniadau arferol ar gyfer mesurau perfformiad Cyfnod Allweddol 4 a'r chweched dosbarth yn ymestyn i flwyddyn academaidd 2020/21.

Yn y sector ôl-16, bydd effaith wahanol ar ddarparwyr (dosbarthiadau chwech, sefydliadau AB, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion) a rhaglenni gwahanol. Bydd rhai deilliannau yn 2020/21 yn adlewyrchu rhaglen dwy flynedd, a bydd eraill yn seiliedig ar flwyddyn o astudio. Felly, byddwn yn mynd ati i ystyried y ffordd orau o ymdrin â’r mesurau perfformiad ôl-16 yn 2020/21. Byddwn yn ymgynghori â'r sector cyn gwneud unrhyw benderfyniad pendant, er mwyn ystyried beth fyddai'n ddefnyddiol i’w helpu gyda’u prosesau monitro a sicrwydd ansawdd eu hunain.

Bydd yn ofynnol i bob ysgol a darparwr ôl-16 barhau i gynnal hunanwerthusiad effeithiol ar gyfer gwella'n barhaus. Mae ein trefniadau gwerthuso, gwella ac atebolrwydd ni’n gofyn iddynt ystyried ystod eang o wybodaeth sy’n berthnasol i gyd-destun yr ysgol eu hun wrth hunanwerthuso a nodi blaenoriaethau ar gyfer gwella. Golyga hyn y bydd ysgolion, gyda chymorth yr awdurdodau lleol a'r consortia rhanbarthol, yn defnyddio'r gwybodaeth sydd ganddynt ar lefel disgyblion am gyrhaeddiad a deilliannau eraill i fyfyrio ar eu trefniadau presennol a'u gwella.

Yn 2020/21, fel ar gyfer 2019/20, ni fydd y data ynghylch dyfarniadau cymwysterau yn cael eu defnyddio i adrodd ar ddeilliannau cyrhaeddiad ar lefel ysgol, awdurdod lleol neu gonsortia rhanbarthol, ac ni cheir eu defnyddio i ddal ysgolion i gyfrif am ddeilliannau eu dysgwyr. Rwyf eisoes wedi rhoi sicrwydd na fydd y dyfarniadau'n cael eu defnyddio yn y modd hwn, ac roedd hyn yn hanfodol i sicrhau bod modd dyfarnu canlyniadau teg i ddysgwyr sy’n seiliedig ar raddau a aseswyd gan ganolfannau, a bennwyd heb y pwysau sy'n gysylltiedig â mesurau perfformiad neu drefniadau atebolrwydd.

Rwy'n hyderus y bydd y dyfarniadau a roddir eleni yn deg ac yn gadarn. Bydd iddynt yr un gwerth â'r rheini a gyflawnwyd gan unrhyw gohort arall, a byddant yn cael eu cyhoeddi fel Ystadegau Swyddogol, ar lefel genedlaethol, na fydd yn cynnwys mesurau perfformiad.