Canllawiau i unrhyw un sy’n casglu neu’n trin gwastraff o weithleoedd, er enghraifft, awdurdodau lleol, a chwmnïau casglu gwastraff preifat.
Cynnwys
Beth mae’r gyfraith yn ei olygu i chi
Mae gennych rôl bwysig wrth sicrhau bod y gwastraff sydd wedi’i wahanu rydych yn ei gasglu, neu'n trefnu i gael ei gasglu, yn cael ei gadw ar wahân i wastraff arall sydd wedi’i wahanu, gan gynnwys mathau eraill o wastraff, sylweddau neu wrthrychau.
Mae angen i'r bobl sy'n casglu a thrin gwastraff fod yn ymwybodol hefyd o'r cyfreithiau sy'n gwahardd llosgi gwastraff a gesglir ar wahân o ffynonellau domestig ac annomestig ac sy’n gwahardd anfon gwastraff o’r fath i safleoedd tirlenwi.
Gellid casglu’r gwastraff hwnnw naill ai o fewn adran ar wahân mewn cerbyd aml-adran, er enghraifft, neu mewn cerbydau ar wahân.
Mae'n rhaid ichi sicrhau bod y ffrydiau gwastraff hyn yn cael eu casglu ar wahân, eu cadw ar wahân i'w gilydd a ddim yn cymysgu wedi hynny:
- bwyd – ar gyfer eiddo sy'n cynhyrchu mwy na 5kg o wastraff bwyd yr wythnos.
- papur a chardfwrdd
- gwydr
- metel, plastig, cartonau a phecynnu cyfansawdd ffeibr-plastig eraill o gyfansoddiad tebyg
- cyfarpar trydanol ac electronig gwastraff bach (sWEEE) heb ei werthu
- tecstilau heb eu gwerthu
Gallwch gymysgu papur a chardfwrdd gyda'i gilydd yn yr un cynhwysydd, a gallwch gymysgu metel, plastig a chartonau gyda'i gilydd.
Nid oes angen ichi gasglu gwastraff bwyd o weithleoedd sy'n cynhyrchu llai na 5kg yr wythnos ar wahân. Gellir ei gasglu yn y cynhwysydd gweddilliol cymysg.
Mae'n rhaid ichi gydymffurfio â hyn tra bo’r ’gwastraff yn eich meddiant chi a phan fyddwch yn trosglwyddo'r gwastraff i rywun arall.
Nid oes rhaid ichi gasglu'r ystod lawn o wastraff sydd ar wahân. Gallech chi is-gontractio casglu deunyddiau penodol os oes angen, neu efallai y bydd deiliad y gweithle am gael contractau gwahanol gyda mwy nag un casglwr.
Sut y gallwch chi baratoi’ch cwsmeriaid
Yn ogystal â sicrhau eich bod chi'n barod, efallai y byddwch am helpu'ch cwsmeriaid drwy:
- Roi gwybodaeth iddynt am y gyfraith newydd a sut y bydd y ffordd y bydd angen iddynt gyflwyno eu gwastraff i gael ei gasglu yn newid.
- Darparu gwasanaeth casglu sy’n cydymffurfio â’r gofynion ac sydd wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion eich cwsmer, gyda chasgliadau dibynadwy a rheolaidd.
- Rhoi gwybodaeth am y mathau o ddeunyddiau ym mhob ffrwd wastraff y gellir eu derbyn i'w hailgylchu ym mhob cynhwysydd.
- Rhoi gwybodaeth am sut i ddefnyddio'r gwasanaeth yn effeithiol. Er enghraifft, drwy lanhau a sychu deunyddiau i leihau halogiad.
- Labelu biniau a chynwysyddion yn glir i nodi pa ddeunyddiau y dylid eu cynnwys a'u heithrio.
- Ystyried system o hapwiriadau i chwilio am unrhyw ddeunyddiau nad ydynt yn cael eu gwahanu'n gywir, rhoi adborth a'u helpu i'w gywiro.
- Rhoi gwybodaeth am sut y caiff y broses ailgylchu ei rheoli, a sut y caiff y cynnwys ei ailgylchu.
Mae gwefan Busnes Ailgylchu Cymru WRAP yn cynnwys deunyddiau ac arweiniad y gallwch eu rhannu gyda chwsmeriaid. Mae pob eicon ffrwd ddeunydd ar gael i'w lawrlwytho, gan gynnwys un ar gyfer plastig, cartonau a metel.
Bydd WRAP hefyd yn darparu canllawiau archwilio gwastraff wedi'u diweddaru a fydd yn helpu'ch cwsmeriaid i ddeall pa ddeunyddiau sydd ganddynt ar hyn o bryd.