Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i unrhyw un sy'n darparu gofal a chymorth rheolaidd i ffrind neu berthynas sy'n agored i niwed. Mae'n berthnasol i ofalwyr o bob oed. Ceir hefyd adran benodol am yr help sydd ar gael i ofalwyr ifanc. 

Effaith Deddf y Coronafeirws ar hawliau gofalwyr o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn rhoi'r un hawliau i ofalwyr gael gofal a chymorth â'r rheini y maent yn gofalu amdanynt. Bydd Deddf y Coronafeirws yn helpu awdurdodau lleol i reoli'r pwysau ar ein system gofal.

Mae'n bwysig gwybod nad bwriad Deddf y Coronafeirws yw gwanhau hawliau gofalwyr yng Nghymru. Rhaid i awdurdodau lleol barhau i gynnal hawliau gofalwyr o dan Ddeddf 2014 cymaint â phosibl. Nid yw Deddf y Coronafeirws yn caniatáu awdurdodau lleol i rwystro gwasanaethau cyfan, cyfyngu arnynt na'u tynnu'n ôl. 

Mae addasiadau yn rhai dros dro, a rhaid eu bod wedi'u gwneud o ganlyniad i amgylchiadau lleol na ellir eu hosgoi. Mae angen eu hadolygu a’u terfynu cyn gynted â phosibl.

Canllawiau statudol ar y newidiadau a wnaed i Ddeddf 2014 gan Ddeddf y Coronafeirws 2020.

Cadw pellter cymdeithasol

Mae canllawiau ar gael ar y cyngor diweddaraf ar fesurau cadw pellter cymdeithasol a chorfforol yng Nghymru. Bydd cyfyngu ar y cysylltiad cymdeithasol rhwng pobl yn ein helpu i leihau trosglwyddiad y coronafeirws.

Mae’r canllawiau’n cynnwys gwybodaeth ynglŷn â ffurfio aelwyd estynedig. Nid oes angen i’r rhai rydych yn gofalu amdanynt eich rhestru chi fel aelod o’u haelwyd estynedig. Cewch barhau i ddarparu unrhyw gymorth sydd ei angen arnynt, a mynd unrhyw le gyda nhw os oes angen eich cymorth chi arnynt.

Mae’r canllawiau hefyd yn cynnwys cyngor ar gyfer ymwelwyr, gan gynnwys y rhai sy’n darparu gofal hanfodol. Cewch ymweld â’r rhai rydych yn gofalu amdanynt i ddarparu gofal hanfodol, hyd yn oed os nad ydych yn byw gyda nhw nac yn rhan o’u haelwyd estynedig.
 

Amddiffyn eich hun a'r rheini rydych yn gofalu amdanynt

Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau'r risg o haint yw golchi eich dwylo'n aml gyda sebon a dŵr am o leiaf 20 eiliad.

Mae hyn yn arbennig o bwysig pan:

  • rydych yn cyrraedd cartref y person rydych yn gofalu amdano
  • rydych wedi bod allan ac yn dychwelyd gartref at berson agored i niwed.

Mae mesurau eraill y gallwch chi a'r person rydych yn gofalu amdano eu dilyn er mwyn lleihau'r risg o haint yn cynnwys:

  • defnyddio hylif diheintio dwylo pan fyddwch yn cyrraedd adref neu’n cyrraedd y gwaith, pan fyddwch chi'n chwythu'ch trwyn, yn tisian neu’n pesychu, yn bwyta neu’n trin bwyd
  • osgoi cyffwrdd eich llygaid, eich trwyn a'ch ceg heb olchi eich dwylo
  • osgoi bod mewn cysylltiad agos â phobl sydd â symptomau
  • defnyddio hances pan fyddwch yn pesychu neu disian, yna rhoi’r hances mewn bin a golchi eich dwylo
  • glanhau a diheintio gwrthrychau ac arwynebau a gyffyrddir yn aml yn eich cartref

Mae'n bwysig eich bod yn dilyn y rheolau cadw pellter cymdeithasol presennol. Bydd hyn yn lleihau'r risg o ledaenu'r feirws i'r person rydych yn ymweld ag ef i ddarparu gofal, neu i'r person rydych yn gofalu amdano gartref.

Profi symptomau a phrofi am y coronafeirws

Mae symptomau mwyaf cyffredin coronafeirws yn cynnwys un neu ragor o'r canlynol:

  • peswch cyson newydd
  • tymheredd uchel
  • colli synnwyr arogli neu flasu, neu bod y rhain yn newid

Mae modd i chi bellach archebu pecyn profi gartref os ydych yn meddwl bod angen i chi brofi eich hun am coronafeirws. Mae hyn yn cyd-fynd â strategaeth Profi Olrhain Diogelu Llywodraeth Cymru. Gall unrhyw un sy'n profi o leiaf un o'r symptomau coronafeirws yn y rhestr wneud cais am becyn profi gartref gan ddefnyddio porthol ar-lein newydd y DU.

Mae canllawiau ar gael ar beth i’w wneud os oes gennych chi neu’r person rydych yn gofalu amdano symptomau salwch y coronafeirws.

Mae'n bwysig iawn cadw draw oddi wrth berson sy'n agored i niwed neu rywun sy'n gwarchod ei hun os oes gennych unrhyw un neu ragor o symptomau'r coronafeirws. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ynghylch gwneud trefniadau amgen os nad ydych yn gallu parhau i ddarparu gofal.

Rydym yn deall y gallai fod yn anodd i rai pobl gadw draw oddi wrth eraill yn y cartref. Ceisiwch ddilyn y canllawiau, a dylai pawb yn eich cartref:

  • olchi eu dwylo'n rheolaidd
  • osgoi cyffwrdd eu hwynebau
  • glanhau arwynebau a gyffyrddir yn aml.

Gorchuddion wyneb

Mae canllawiau ar gael am sut a phryd y gallech wisgo gorchudd wyneb, os ydych yn dewis gwisgo un.

Sut i wneud gorchudd wyneb 3 haen.

Wrth wisgo gorchudd wyneb, dylech barhau i ddilyn yr holl fesurau posibl eraill i ddiogelu eich hun ac eraill o'ch cwmpas.  Mae hyn yn cynnwys:

  • cadw pellter cymdeithasol
  • golchi eich dwylo'n aml
  • peidio â chyffwrdd â'ch wyneb

Cyfarpar Diogelu Personol (PPE) i ofalwyr

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau am y PPE sydd ar gael i unrhyw un sy’n darparu gofal personol rheolaidd i ffrind neu berthynas sy’n agored i niwed. Mae gofal personol yn golygu dod i gysylltiad uniongyrchol â’r person rydych yn gofalu amdano. Mae’n cynnwys ei helpu i ymolchi, gwisgo, bwyta neu gymryd meddyginiaeth. Mae’r canllawiau’n egluro:

  • sut y gallai fod angen i ofalwyr di-dâl ddefnyddio PPE
  • lle i gael gafael ar PPE
  • sut i ddefnyddio PPE yn ddiogel

Gofalwyr di-dâl a gwarchod

Mae canllawiau ar gael i bobl sy'n eithriadol o agored i gael salwch y coronafeirws, a'u gofalwyr. Mae'r cyngor yn canolbwyntio ar ddilyn arferion hylendid da, yn ogystal â chadw pellter cymdeithasol lle bynnag y bo'n bosibl ac yn ymarferol.

Cynllunio ar gyfer trefniadau gofal eraill

Gallai fod angen i chi gael cynllun argyfwng yn ei le pe bai chi’n mynd yn sâl ac angen hunanynysu, neu pe na baech yn gallu darparu gofal.  Bydd hyn yn galluogi'r person rydych yn gofalu amdano i gael help gan bobl eraill i'w gefnogi gyda'i anghenion gofal. Mae cyngor ardderchog ar wefan Carers UK ar sut i greu cynllun argyfwng.

Mae'n syniad da siarad â'ch teulu, ffrindiau neu rwydweithiau eraill i drafod a fyddai modd iddynt ymgymryd â’ch cyfrifoldebau gofal yn ddiogel. Mae angen i chi sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol am y person rydych yn gofalu amdano ar gael. Bydd hyn yn sicrhau bod gan unrhyw un arall sy'n gofalu amdano yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt.

Os nad ydych yn gallu dibynnu ar gymorth ymarferol gan deulu neu ffrindiau, mae dewisiadau eraill ar gael. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • eich darparwr iechyd neu awdurdod lleol
  • elusennau
  • gwirfoddolwyr
  • busnesau

Mae'n bwysig siarad â sefydliadau am y gwasanaethau maent yn eu cynnig er mwyn eich helpu chi i drefnu:

  • cyflenwi bwyd
  • cyflenwi meddyginiaethau
  • darparu gwasanaethau hanfodol a chyflenwadau eraill i'r person rydych yn gofalu amdano.

Hyd yn oed os ydych wedi trefnu help a chymorth addas, dylech gynnwys eich darparwr iechyd neu awdurdod lleol bob tro, rhag ofn i unrhyw drefniadau anffurfiol fethu.

Os yw'r person rydych yn gofalu amdano eisoes yn derbyn gofal drwy’r awdurdod lleol neu’r system gofal iechyd, bydd hyn yn parhau fel arfer.  Bydd eich darparwr iechyd neu ofal cymdeithasol yn cymryd rhagofalon. Gallai hyn gynnwys gwisgo cyfarpar diogelu personol.

Mynediad at fwyd a meddyginiaeth

Meddyginiaethau

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a'i phartneriaid wedi datblygu adnodd i gefnogi gofalwyr. Diben hyn yw er mwyn iddynt allu cael gafael ar feddyginiaethau hanfodol yn ystod pandemig COVID-19.

Mae'r adnoddau'n cynnwys canllawiau i'ch helpu chi i fanteisio i'r eithaf ar eich tîm yn y fferyllfa. Mae hyn yn cynnwys manylion ar sut y gall eich fferyllydd gefnogi a deall eich anghenion. Bydd awdurdodau lleol a gwasanaethau gofalwyr hefyd yn gallu helpu pan nad oes ffyrdd eraill o nodi gofalwyr eisoes ar waith.

Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru: Gwneud y gorau o’ch tîm fferylliaeth yn ystod COVID-19.

Gwarchod

Os ydych yn gofalu am rywun sy'n gwarchod, gallwch gasglu a chludo eu nwyddau a'u presgripsiynau. 

Mae'n hynod o bwysig eich bod yn dilyn y canllawiau ar sut i ddiogelu eich hun a'r person rydych yn gofalu amdano. Mae hyn yn cynnwys:

  • golchi dwylo drwy gydol y dydd gyda sebon a dŵr am o leiaf 20 eiliad. Mae hyn yn arbennig o bwysig pan fyddwch yn cyrraedd cartref y person rydych yn gofalu amdano, neu os ydych wedi bod allan ac yn dychwelyd gartref at berson bregus
  • dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol drwy aros 2 fetr oddi wrth unrhyw un nad ydynt yn byw yn eich cartref
  • cadw draw oddi wrth rywun sy'n gwarchod os oes gennych unrhyw un neu ragor o symptomau'r coronafeirws

Mae Careres UK wedi llunio canllaw am wneud trefniadau amgen os nad oes modd i chi barhau i ddarparu gofal.

Gofalwyr ifanc

Gall gofalwr ifanc gael gafael ar amrywiaeth o wybodaeth a chyngor ar-lein, neu fathau eraill o gymorth.  Dylai'r rhain fod ar gael ar wefan yr awdurdodau lleol. 

Gallwch hefyd gael cymorth drwy sefydliadau gofalwyr lleol neu genedlaethol. Mae gofalwyr Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer gofalwyr.

Iechyd a Lles Meddyliol

Os oes gennych bryderon am yr effaith y mae'r pandemig coronafeirws yn ei chael, gallwch gysylltu â'n llinell gymorth gyfrinachol, CALL.

Ffôn: 0800 132 737 neu anfonwch neges ‘help’ i 81066. 

Mae gwefan CALL yn cynnwys syniadau i'ch helpu chi i gadw iechyd meddwl da. Mae'n cynnwys dolenni at sefydliadau eraill all gynnig cymorth emosiynol i bobl ifanc.

MEIC

Childline

Papyrus

CALL – Llinell Gymorth Iechyd Meddwl i Gymru

Canolfannau gofalwyr lleol a gwasanaethau gofalwr ifanc

Mae canolfannau gofalwyr lleol a gwasanaethau gofalwr ifanc wedi addasu'r ffordd y maent yn gwneud eu gwaith. Ar hyn o bryd, nid ydynt yn cynnig cymorth wyneb yn wyneb, ond maent yn cynnig mathau eraill o gymorth ar-lein neu dros y ffôn. Mae'n bosibl y bydd modd i chi ddod o hyd i'r wybodaeth neu'r cyngor rydych yn chwilio amdano ar eu gwefannau.

Os oes angen i chi nodi eich bod yn ofalwr ifanc, gallwch gysylltu â'ch awdurdod lleol neu linell gymorth MEIC. Gallant roi gwybod i chi beth yw'ch hawliau fel gofalwr ifanc. Mae manylion hefyd ar gael gan Gomisiynydd Plant Cymru.

Hwb

Mae gwefan Hwb Llywodraeth Cymru yn darparu ystod eang o wybodaeth, cyngor ac adnoddau. Edrychwch am yr wybodaeth ddiweddaraf ar y wefan naill ai ar y brif dudalen i'r cyhoedd neu drwy fewngofnodi i'ch cyfrif (os oes gennych un).

Gwybodaeth a chyngor am ofalu am eich iechyd a'ch lles eich hun

Rydym wedi rhoi cyngor i'r rheini sy'n gwarchod. Yma, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i ofalu am eich iechyd a'ch lles meddyliol eich hun.

Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru gyngor ar sut i ofalu am eich lles wrth aros gartref, ac awgrymiadau ar sut i leihau unigrwydd ac ynysigrwydd.

Mae Gofalwyr Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i ofalwyr. Os hoffech siarad â rhywun yn uniongyrchol, gallwch:

  • ffonio ar 0808 808 7777 (ar agor rhwng 9am a 6pm, dydd Llun i ddydd Gwener)
  • e-bostio ar Info@carerswales.org

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a'i phartneriaid wedi datblygu adnodd i gefnogi gofalwyr.

Mae Age Cymru yn cynnig gwasanaeth cynghori i bobl hŷn yng Nghymru, gan gynnwys gofalwyr hŷn.  Os hoffech siarad â rhywun yn uniongyrchol, gallwch:

  • ffonio ar 08000 223 444 (ar agor rhwng 9:30am a 4:30pm, dydd Llun i ddydd Gwener)
  • e-bostio advice@agecymru.org.uk

Rhannu’r dudalen hon