Neidio i'r prif gynnwy

Mae prif feddyg Cymru wedi annog pawb i gymryd camau i amddiffyn eu hunain rhag Covid-19 gan fod cyfraddau achosion yn codi i'w lefelau uchaf yn y pandemig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fe wnaeth Dr Chris Jones, dirprwy brif swyddog meddygol Cymru, annog pobl ledled Cymru i gael eu brechiad atgyfnerthu a dilyn mesurau i leihau lledaeniad y feirws.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod cyfraddau achosion wedi codi'n sydyn i fwy na 910 o achosion fesul 100,000 o bobl - y lefelau uchaf ers dechrau'r pandemig.

Mae tua 6,000 o heintiau newydd yn cael eu cadarnhau bob dydd, a bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu hachosi gan yr amrywiolyn omicron newydd.

Mae mwy na 54% o oedolion yng Nghymru wedi cael eu brechiad atgyfnerthu.

Meddai Dr Jones:

"Rydym yn gweld cynnydd cyflym yn nifer yr achosion o Covid-19 a achosir gan omicron ledled Cymru. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain ymysg pobl iau a chredwn y byddent wedi cael eu dal cyn y Nadolig.

"Mae'r amrywiolyn newydd hwn yn cael ei drosglwyddo'n hawdd iawn – mae'n lledaenu'n gyflym iawn ble bynnag y bydd pobl yn dod at ei gilydd.

"Cymerwch gamau i amddiffyn eich hun a'ch anwyliaid. Mae hyn yn golygu gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do; cadw eich pellter oddi wrth bobl eraill lle bynnag y bo modd ac, os gallwch, lleihau nifer y bobl yr ydych yn eu cyfarfod yn rheolaidd.

"Os oes gennych chi symptomau, dylech hunanynysu a threfnu i gael prawf PCR.

"Cofiwch hefyd gael eich brechiad atgyfnerthu – dyma'r ffordd orau o amddiffyn ein hunain.

"Mae Cymru ar lefel rhybudd dau ac mae mesurau amddiffyn newydd yn eu lle. Mae hwn yn gyfnod pryderus ond os ydym i gyd yn gweithio gyda'n gilydd ac yn gofalu am ein gilydd, gallwn gadw Cymru'n ddiogel.”

Ar Ŵyl San Steffan yng Nghymru, daeth mesurau lefel rhybudd dau newydd i rym ar gyfer busnesau a chanllawiau wedi'u diweddaru a'u cryfhau i helpu pobl i gadw'n ddiogel gartref mewn ymateb i'r don omicron a ragwelir.

Y pethau allweddol y gall pawb eu gwneud i leihau eu risg o ddal y coronafeirws:

  • Cael eich brechu'n llawn, gan gynnwys cael eich brechiad atgyfnerthu – mae'r brechiad yn cynnig amddiffyniadau sylweddol i chi ac i'r bobl rydych chi'n gofalu amdanynt.
  • Dylech hunanynysu a chael PCR os oes gennych symptomau Covid-19. Osgoi pobl eraill pan fyddwch yn sâl.
  • Gwneud profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos os nad oes gennych unrhyw symptomau a gwneud prawf llif cyn i chi fynd allan neu gwrdd â phobl. Os yw'n gadarnhaol peidiwch â mynd a threfnwch brawf PCR.
  • Cadwch eich pellter oddi wrth eraill lle bynnag y bo modd.
  • Cyfyngwch ar nifer y bobl rydych chi'n cwrdd â nhw, yn enwedig os ydych chi'n cwrdd â gwahanol bobl yn aml.
  • Dylech gwrdd yn yr awyr agored os gallwch neu mewn mannau sydd wedi'u hawyru'n dda.
  • Dylech osgoi mannau llawn pobl lle bo hynny'n bosibl.
  • Golchwch eich dwylo; tisian i hances a chadw arwynebau mae llawer o bobl yn eu cyffwrdd yn lân.
  • Gwisgwch orchudd wyneb, yn enwedig mewn mannau llawn pobl.
  • Defnyddiwch Bàs COVID y GIG neu dangoswch ganlyniad prawf llif unffordd negyddol i fynd i ddigwyddiadau mawr, lleoliadau, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.