Neidio i'r prif gynnwy

Gall pob un ohonom chwarae ein rhan i ddiogelu Cymru

Gall feirysau anadlol fel COVID-19 a’r ffliw arwain at risg o salwch difrifol i’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Y gaeaf hwn, gall pob un ohonom chwarae ein rhan i helpu i ddiogelu’r rheini sy’n wynebu’r perygl mwyaf.

Rydym i gyd bellach yn gyfarwydd â chymryd mesurau diogelu i gadw ein gilydd yn ddiogel. Drwy gymryd camau syml, bob dydd, gallwn helpu i leihau effaith tonnau o haint COVID-19 yn y dyfodol a helpu i leihau lledaeniad heintiau anadlol fel y ffliw.

  • Cael eich brechlyn
  • Aros gartref os ydych chi’n sâl a chyfyngu ar eich cysylltiad ag eraill
  • Golchi neu ddiheintio’ch dwylo yn aml
  • Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau gorlawn dan do neu fannau caeëdig, gan gynnwys lleoliadau iechyd a gofal
  • Cyfarfod eraill yn yr awyr agored os yw’n bosibl
  • Mewn lleoliadau dan do, awyru mwy a gadael awyr iach i mewn lle bo’n bosibl

Darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf

I gael y canllawiau diweddaraf am coronafeirws a heintiau anadlol eraill, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.