Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton, wedi cadarnhau bod claf yng Nghymru wedi cael canlyniad positif i brawf coronafeirws (COVID-19).

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma'r achos cyntaf i gael ei gadarnhau yng Nghymru.

Dywedodd Dr Atherton:

Gallaf gadarnhau bod un claf yng Nghymru wedi cael canlyniad positif i brawf coronafeirws (COVID-19).

Mae pob cam priodol yn cael ei gymryd i roi gofal i'r unigolyn ac i leihau'r risg o drosglwyddo’r haint i bobl eraill. 

Gallaf gadarnhau hefyd bod y claf wedi teithio’n ôl i Gymru o ogledd yr Eidal, lle’r oedd wedi dal y feirws.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle i sicrhau’r cyhoedd bod Cymru a'r Deyrnas Unedig wedi paratoi'n dda ar gyfer digwyddiad o’r math hwn. Gan gydweithio â’n partneriaid yng Nghymru a'r DU, mae’r ymateb yr oeddem wedi paratoi ar ei gyfer wedi cael ei roi ar waith ac mae gennym fesurau cadarn i reoli heintiau er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.

Er mwyn gwarchod cyfrinachedd y claf, ni fydd unrhyw fanylion pellach am yr unigolyn yn cael eu rhyddhau.