Yn cynnwys gwybodaeth ynghylch pwy all gael brecwast a beth i'w wneud os na fydd eich ysgol yn ei ddarparu.
Cynnwys
Trosolwg
Nod y cynllun Brecwast am Ddim mewn Ysgolion Cynradd yw darparu brecwast iach i blant cyn dechrau’r diwrnod ysgol.
Mae plant sy’n cael cyfle i fwyta brecwast iach a maethlon cyn dechrau’r diwrnod ysgol yn iachach ac yn fwy tebygol o gyflawni eu potensial academaidd yn llawn.
Ynglŷn â'r cynllun
Mae pob plentyn sy’n mynd i ysgol gynradd a gynhelir gan awdurdod lleol yn gallu cael brecwast am ddim yn yr ysgol os yw’r ysgol yn darparu brecwast am ddim. Gallwch ofyn i bennaeth yr ysgol a’r corff llywodraethu ddechrau darparu brecwast am ddim os yw’r ysgol yn cael ei chynnal gan yr awdurdod lleol. Os yw’r ysgol yn teimlo bod digon o rieni/gofalwyr eisiau brecwast am ddim i’w plant, gall ofyn i’r awdurdod lleol ei ddarparu. Rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu brecwast am ddim i’r ysgol oni bai ei fod yn ystyried bod hynny’n afresymol.
Mae’n bwysig ichi ddweud wrth yr ysgol cyn i’ch plentyn gael brecwast am ddim os oes ganddo ef neu hi anghenion deietegol arbennig, gan gynnwys alergeddau ac anoddefiadau. Yna, bydd yr ysgol yn gwneud yn siŵr bod yr holl bobl sy’n goruchwylio’r brecwast am ddim yn ymwybodol o hyn.
Nid yw’r cynllun Brecwast am Ddim mewn Ysgolion Cynradd yn darparu gofal plant. Mae plant yn cael eu goruchwylio yn ystod yr amser brecwast. Pwrpas hyn yw gwneud yn siŵr eu bod yn ddiogel wrth ddewis eu brecwast a’i fwyta cyn dechrau’r diwrnod ysgol.
Rhaid i ysgolion beidio â chodi tâl am unrhyw ran o’r brecwast am ddim.Gall ysgolion godi tâl am ofal plant cyn i’r sesiwn brecwast am ddim ddechrau. Cyfeirir at hyn yn aml fel ‘gofal plant cofleidiol’. Mae’r gofal plant hwn yn rhywbeth sydd ar wahân i’r cynllun Brecwast am Ddim mewn Ysgolion Cynradd.
Gwneud cais
Gallwch wneud cais am frecwast am ddim i’ch plentyn drwy gysylltu â’i ysgol gynradd i holi os yw’n cynnal clwb brecwast.
Os nad yw ysgol gynradd eich plentyn yn cynnal clwb brecwast am ddim ar hyn o bryd, bydd angen i’r ysgol wneud cais yn uniongyrchol i’r awdurdod lleol.