Neidio i'r prif gynnwy

Mae pwerau newydd wedi’u rhoi i awdurdodau lleol i gefnogi’r GIG a chynyddu capasiti ysbytai wrth i Gymru ymateb i’r pandemig coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, wedi cyflwyno'r hawliau datbylgu brys a ganiateir i ganiatáu i’r awdurdodau lleol newid defnydd adeiladau neu godi strwythurau dros dro ar dir sydd o dan eu perchnogaeth.

Bydd yr hawliau yn caniatáu i’r awdurdodau lleol ddefnyddio adeiladau megis canolfannau hamdden fel ysbytai dros dro os oes eu hangen er mwyn atal neu reoli argyfwng.

Mae gan y Goron yr hawliau hyn eisoes ar ei hystad.

Dywedodd y Gweinidog:

"Mae’r awdurdodau lleol yng Nghymru yn gwneud gwaith rhagorol wrth ymateb i sefyllfaoedd sy'n newid yn gyflym ac mae'n hanfodol ein bod yn caniatáu iddynt gyflawni eu cyfrifoldebau eang yn gyflym.

"Mae llacio'r gofynion cynllunio arferol yn caniatáu i’r awdurdodau lleol gymryd camau cyflym i ymateb i anghenion lleol.

"Nid yw ond yn gwbl briodol, wrth gwrs, eu bod yn cynllunio ar gyfer yr argyfwng ond drwy aros gartref gallwn helpu i osgoi gorfod troi at y cynlluniau hyn."

O dan yr hawliau a ganiateir, rhaid i strwythurau gael eu symud i ffwrdd a rhaid i'r tir gael ei adfer i'w gyflwr blaenorol (neu i gyflwr y cytunir arno) cyn pen 12 mis ar ôl i'r datblygiad ddechrau.

Fel arall, byddai rhaid ceisio caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddefnydd parhaus.