Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi’r hawl i chi gael mynediad at wybodaeth gofnodedig sy’n cael ei chadw gan sefydliadau yn y sector cyhoeddus.

Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi’r hawl i chi gael mynediad at wybodaeth gofnodedig sy’n cael ei chadw gan sefydliadau yn y sector cyhoeddus. Gall unrhyw un wneud cais am wybodaeth – does dim cyfyngiad o ran eich oedran, eich cenedligrwydd na ble rydych chi’n byw.

Ymdrinnir â'ch cais yn unol â gwahanol reoliadau yn dibynnu ar y math o wybodaeth rydych chi’n gofyn amdani, er enghraifft:

Efallai y bydd rhai ceisiadau’n cael eu gwrthod os bydd yr wybodaeth y gwneir cais amdani yn sensitif neu os bydd y gost o’i darparu yn rhy uchel.

Sut mae gwneud cais

Cyn gwneud cais

Efallai na fydd angen i chi wneud cais i gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch. Efallai y bydd ACC yn gallu rhoi gwybodaeth i chi ar unwaith os byddwch yn cysylltu â ni. Byddwn yn cyhoeddi ymatebion i geisiadau rhyddid gwybodaeth a wneir ar-lein.

Beth i'w gynnwys yn eich cais

Os ydych chi am wneud cais, mae’n rhaid i chi ddarparu:

  • eich enw (dim angen enw os ydych chi’n gwneud cais am wybodaeth amgylcheddol)
  • cyfeiriad cyswllt (post neu e-bost)
  • disgrifiad manwl o’r wybodaeth sydd ei heisiau arnoch – er enghraifft, efallai y bydd eisiau'r holl wybodaeth am bwnc penodol arnoch chi, neu ddim ond crynodeb.

Gallwch ofyn am wybodaeth ar fformat penodol, er enghraifft:

  • copïau caled neu electronig o wybodaeth
  • fformat sain
  • print bras

Anfonwch eich cais am wybodaeth at:

Blwch Post y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth

Awdurdod Cyllid Cymru
Blwch Postio 108
Merthyr Tudful
CF47 7DL

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Ddarllenwch ein polisi preifatrwydd cyn anfon e-bost atom.

Pan fyddwch yn cael ymateb

Byddwn yn cydnabod eich cais ac fe ddylech chi gael y wybodaeth cyn pen 20 diwrnod gwaith. Byddwn yn dweud wrthych chi pryd y dylech chi ddisgwyl cael y wybodaeth os bydd angen mwy o amser arnom i’w darparu.

Pryd fydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu

Os yw’n debygol eich bod wedi anfon cais at fwy nag un o adrannau’r llywodraeth, efallai y bydd eich enw a’ch cais yn cael eu rhannu â nhw. Gwneir hyn er mwyn delio â’ch ymholiad yn fwy effeithiol. Ni fydd unrhyw fanylion eraill yn cael eu rhannu ac ni fydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio at unrhyw ddiben arall.

Costau

Mae’r rhan fwyaf o geisiadau’n rhad ac am ddim, ond efallai y bydd gofyn i chi gyfrannu rhywfaint tuag at gostau llungopïo neu bostio. Byddwn yn dweud wrthych os bydd rhaid i chi dalu cyn i ni ymateb.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar statws hawlfraint gwybodaeth os ydych yn bwriadu ei hatgynhyrchu.

Os caiff eich cais ei wrthod

Mae rhai darnau o wybodaeth sensitif nad ydynt ar gael i aelodau o’r cyhoedd. Os bydd hyn yn berthnasol, byddwn yn rhoi gwybod i chi na fyddwn yn gallu rhoi’r wybodaeth y gwnaethoch gais amdani, neu rywfaint o’r wybodaeth honno, i chi.  

Efallai y byddwn yn gofyn i chi fod yn fwy penodol er mwyn gallu darparu’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn unig.

Gallwn hefyd wrthod eich cais os bydd yn costio mwy na £600 i ddod o hyd i wybodaeth a chael gafael arni.

Adolygiadau a chwynion

Os na fyddwn yn darparu’r wybodaeth y gwnaethoch gais amdani, gallwch ofyn i ni adolygu ein penderfyniad. Os na fyddwch yn cytuno â’n penderfyniad, gallwch anfon cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.