Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynllunio ar gyfer gweithlu ystwyth o 40%.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn bwriadu chwyldroi ei arferion gwaith, gan ddisgwyl y bydd amcangyfrif o 40% o’i weithlu yn gweithio o bell, o leiaf beth o’r amser, wrth symud ymlaen.
Cymaint yw’r hyder y bydd gweithio ystwyth a gweithio gartref yn newid cadarnhaol i’r awdurdod lleol, fel bod cynlluniau eisoes ar waith ar gyfer cau ei ganolfan ddinesig yn barhaol.
Roedd y cyngor eisoes wedi cymryd camau sylweddol tuag at ddull amgen o weithio bum mlynedd yn ôl, pan arweiniodd ymarfer arweinyddiaeth at leihau eu strwythur swyddfa.
Meddai Michelle Morris, rheolwr gyfarwyddwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:
“Ers ailwampio ein swyddfeydd yn 2017, rydyn ni wedi symud oddi wrth y model traddodiadol o bawb yn cael ei ddesg ei hun, i weithio gyda chymhareb o saith desg i bob 10 o bobl.
Roedd polisi gweithio gartref wedi galluogi wyth o bobl yn unig i weithio gartref yn llawn amser cyn y cyfyngiadau symud. Yn sgil brys y cyfyngiadau cenedlaethol, bu’n rhaid i’r cyngor symud yn gyflym fel y gallai llawer mwy o staff weithio gartref yn effeithiol.
Meddai Michelle:
“Yn fuan, fe wnaethon ni ddysgu nad yw tyˆ teras nodweddiadol o’r cymoedd bob amser yn ddelfrydol ar gyfer pobl sy’n gweithio gartref, gan nad ydyn nhw wedi’u hadeiladu gydag ystafelloedd tebyg i stydis. Pan ychwanegwch chi blant sy’n cael eu dysgu gartref at hyn, roedd yn broblem ar brydiau. Dyna pam roedd gan ein gweithlu yr opsiwn, gydag asesiad risg llawn, o fynd i’r swyddfa os na allent ymdopi gartref.
“Ar y cyfan, ymatebodd pobl yn gadarnhaol gan groesawu her ffordd newydd o weithio. Rydyn ni wedi dysgu ar hyd y ffordd, er enghraifft i ddelio â phryderon am gyfrinachedd, felly fe wnaethon ni annog pobl i ddefnyddio clustffonau ar gyfer cyfarfodydd, a helpodd.
Roedd iechyd a lles staff cyngor Blaenau Gwent yn flaenoriaeth i uwch reolwyr. Roedd arolwg
staff yn cadw llygad ar sut roedd pobl yn teimlo, gyda sesiynau un-i-un rheolaidd rhwng rheolwyr a staff i ychwanegu cyffyrddiad personol. Roedd buddsoddi mewn lles o’r pwys mwyaf, gyda bwletin bob wythnos a seminarau a hyfforddiant iechyd meddwl i helpu pob gweithiwr i adnabod arwyddion o drais domestig. Gweithiodd y cyngor yn agos hefyd gydag undebau llafur wrth wneud penderfyniadau yn ymwneud â’r gweithlu.
Ym mis Mehefin 2020, ychydig fisoedd yn unig ar ôl y cyfyngiadau symud cyntaf, cychwynnodd y cyngor ymarfer arweinyddiaeth newydd i ymchwilio i sut y gallai gweithio gartref a gweithio ystwyth gael ei gyflwyno yn y tymor hir, yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y dylid mesur perfformiad staff yn ôl canlyniadau, yn hytrach na phresenoldeb pobl mewn swyddfa. O ganlyniad i’r ymarfer hwn, mae’r cyngor yn gwneud newidiadau sylweddol.
Meddai Michelle:
“Rydyn ni’n cydnabod gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gweithlu gwasanaeth cyhoeddus yn y dyfodol, ac mae gennym gyfle i ddysgu o’r newid cyflymach o ganlyniad i’r pandemig.
“Fel sefydliad, dylem bob amser fod yn edrych i symud ymlaen a rhaid i hynny fod trwy ddatblygu gweithlu’r 21ain ganrif, sydd wedi’i baratoi’n ddiwylliannol, sy’n fedrus ac wedi’i arfogi, sydd wedi’i gysylltu â’r gymuned ac yn gallu ymateb i newid.
“Bydd llai o adeiladau, a chreu llefydd gwaith mwy effeithiol, yn cynnig sefyllfa waith ddoeth ac ystwyth, gyda’r elfen ddigidol yn greiddiol iddi.
"Bydd angen i bobl ddod at ei gilydd o hyd, ond rydyn ni’n greadigol o ran sut y cyflawnir hyn. Does dim unrhyw reswm pam na all grwpiau bach gwrdd mewn siop goffi leol na chynnal cyfarfodydd cerdded yn ein mannau prydferth. Trwy gynnwys y math hwn o hyblygrwydd, byddwn yn gwneud cynnydd sylweddol i’n nod i ddod yn garbon niwtral, a dim ond helpu ein hymgyrch barhaus am effeithlonrwydd fydd hynny.
Bydd trefniadau gweithio ystwyth Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn gofyn am newid cytundebol i’w weithlu a bydd yn gosod ei staff mewn un o dri chategori:
- Gweithiwr cartref: gyda’r cartref yn ganolfan heb fod angen mynd i’r swyddfa yn rheolaidd.
- Gweithiwr ystwyth: lle bydd yr unigolyn yn rhannu amser rhwng gweithio gartref a’r swyddfa.
- Gweithiwr gwasanaeth: lle mae’r gwasanaeth gan unigolyn yn cael ei ddarparu o adeilad pwrpasol. Gallai hyn gynnwys cogyddion ysgol neu gasglwyr sbwriel.
Meddai Michelle:
“Wrth gwrs, rydyn ni’n gwerthfawrogi bod hyn yn newydd a bydd pethau’n esblygu wrth ddysgu ar hyd y ffordd. Rydyn ni’n glir ynghylch un peth; y swydd, nid yr unigolyn, fydd yn cael ei chategoreiddio. Mae hyn yn golygu, i’r rhai na allant weithio gartref, bod opsiwn o hyd i fod yn y swyddfa. Fel rhan o’r Polisi Gweithio Hyblyg, bydd taliadau i staff sy’n gweithio gartref i gefnogi costau, fel gwresogi.
“Rydyn ni hefyd yn ymwybodol y bydd cadw tîm yn gysylltiedig a hyfforddi recriwtiaid newydd yn feysydd y bydd angen ffocws gwahanol arnynt, ond mae’r cyfyngiadau symud wedi ein dysgu y gall pobl addasu’n gyflym pan fydd ganddynt y gallu i wneud hynny.