Gwybodaeth dechnegol a dogfennaeth gefndirol.
Cynnwys
Tua'r arolwg o 2017 Ebrill i Fawrth 2018
Pwrpas yr Arolwg yw i ddarparu amcangyfrif o gyflwr ac effeithlonrwydd ynni/perfformiad y stoc dai yng Nghymru. Mae’r arolwg yn cynnwys cartrefi o bob math, a phob math o ddeiliadaeth, ar wahân i eiddo gwag.
Mae ACTC 2017-18 yn arolwg cyflwr tai safonol ac mae'n debyg iawn i'r rhai a gynhelir mewn gwledydd eraill. Yn ogystal â'r pynciau arferol mae'r arolwg yn casglu gwybodaeth am broblemau a allai godi yn y dyfodol. Er enghraifft newid yn yr hinsawdd yn benodol (hafau cynhesach, gaeafau gwlypach ac ati) a gallu'r stoc dai i ymdopi.
Cynhaliwyd y gwaith maes ar gyfer Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18 rhwng Awst 2017 a diwedd Ebrill 2018. Lluniwyd sampl o gyfeiriadau wedi’u codi o aelwydydd a fyddai’n gymwys i gymryd rhan yn Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18. Arweiniodd hyn at archwiliad ffisegol o 2,549 o gartrefi ledled Cymru, a fydd yn rhoi amcangyfrifon ar lefel Genedlaethol.
Archwiliwyd yr eiddo gan syrfewyr cymwysedig, yn cael eu cyflogi gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu. Fe wnaethant asesiad gweledol o du mewn a thu allan yr eiddo. Roedd y syrfëwr hefyd yn archwilio plot yr eiddo ac yn gwneud asesiad o’r gymdogaeth leol.
Bydd gwybodaeth allweddol a gasglwyd yn yr Arolwg yn caniatáu i ni fesur:
- effeithlonrwydd ynni
- costau atgyweirio
- Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC)
- tlodi tanwydd
- System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai.