Neidio i'r prif gynnwy

Detholiad yn unig o'r canlyniadau sydd yn y datganiad hwn ar gyfer Ebrill 2019 i Mawrth 2020.

Mae canlyniadau ar lawer mwy o destunau, gan gynnwys dadansoddiad manwl, ar gael yn ein dangosydd canlyniadau rhyngweithiol. Bydd adroddiadau cryno pellach ar destunau penodol yn cael eu cyhoeddi drwy gydol y flwyddyn.

Prif bwyntiau

  • Mae 41% o bobl mewn amddifadedd materol yn teimlo’n unig, o’i gymharu â 12% o bobl nad ydynt mewn amddifadedd materol.
  • Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o roi gwybod eu bod yn unig na phobl hŷn.
  • Mae gan 25% o bobl bedwar neu bump o’r ffyrdd iach o fyw (ddim yn ysmygu, yfed o fewn y canllawiau, bwyta 5 dogn o ffrwythau neu lysiau bob dydd, ac yn gwneud ymarfer corff fel y nodwyd yn y canllawiau). Nid yw hyn wedi newid yn y pedair blynedd diwethaf.
  • Mae 75% o weithwyr yn cael cyfnod absenoldeb salwch â thâl, ond dim ond 16% o bobl hunangyflogedig ac yn gweithio’n bennaf i un cwmni.
  • Mae gan 65% o unigolion dros 30 oed bensiwn yn y gweithle.
  • Nid yw 21% o bobl dros 30 oed wedi gwneud unrhyw gynlluniau ariannol ar gyfer eu hymddeoliad.
  • Mae 28% o bobl o gefndir du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi cael profiad personol o wahaniaethu yn y gwaith y llynedd, o’i gymharu â 9% o bobl o gefndir gwyn.
  • Mae 26% o bobl yn gwirfoddoli drwy roi eu hamser am ddim i sefydliad neu glwb.
  • Ymysg y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg, mae 22% yn dweud y byddai’n well ganddynt siarad yn Gymraeg gyda staff gwasanaethau a chyfleusterau lleol.
  • Mae 47% o bobl yn dweud bod eu hawdurdod lleol yn darparu gwasanaethau o safon uchel.

Adroddiadau

Arolwg Cenedlaethol Cymru prif ganlyniadau, Ebrill 2019 i Mawrth 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Arolwg Cenedlaethol Cymru prif ganlyniadau, Ebrill 2019 i Mawrth 2020: ffeithlun , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.