Neidio i'r prif gynnwy

Ym mis Mehefin 2021, cynhaliodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters, archwiliad dwfn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd hyn er mwyn nodi a blaenoriaethu cyfres o gamau gweithredu i nodi a blaenoriaethu’r hyn sydd angen ei wneud er mwyn:

  • plannu mwy o goed, a
  • chwalu’r rhwystrau i:
  1. greu coetir, gan ystyried y lefelau heriol o uchel o goed sydd angen eu plannu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd
  2. defnyddio pren o Gymru yn y maes adeiladu a’r angen i ddatgarboneiddio cartrefi Cymru
  3. annog cymunedau i blannu coed

Gallwch ddod o hyd i'r Archwiliad Dwfn i Blannu Coed: cylch gorchwyl yma.

Cyhoeddodd y Gweinidog ddatganiad ysgrifenedig: Coed a Phren ar 13 Gorffennaf yn disgrifio canfyddiadau’r archwiliad. Mae’n alwad hefyd ar i bobl weithredu i sicrhau’r newid hanfodol hwn.

Argymhellion y Tasglu

Yn ystod yr archwiliad, daeth tasglu o arbenigwyr ynghyd i gydweithio. Aelodau'r Tasglu oedd:

  • Amanda Davies (Pobl),
  • Gareth Davies (Coed Cymru),
  • Anthony Geddes (Confor),
  • Sarah Jennings (NRW),
  • Jenny Knight (Birmingham Institute of Forest Research),
  • Mark McKenna (Down to Earth),
  • Gary Newman (Woodknowledge Wales),
  • Maria Wilding (Llais y Goedwig),
  • Karel Williams (University of Manchester),
  • Sian Barnes (Cyngor Sir Powys),
  • Andrew Jeffreys (Llywodraeth Cymru).

Datblygwyd y Tasglu Coed a Phren: argymhellion i sbarduno newid. Fel rhan o’r broses, ymgynghorwyd â llawer o grwpiau â diddordeb yn ystod cyfres o weithdai:

  • UAC, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru, Stump Up For Trees, Cymdeithas y Ffermwyr Tenant, Coed Cadw ac RSPB
  • Afonydd Cymru, Butterfly Conservation Wales, Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, Ymddiriedolaethau Natur Cymru, Canolfan y Dechnoleg Amgen and RSPB.
  • Cartrefi Cymunedol Cymru, Home Builders Federation, Pontrilas Sawmills, BSW Timber, Institute of Chartered Foresters, Pryor and Rickett Silviculture.

Y Gweithgor Cyllid Coetir: Argymhellion

Nododd yr Archwiliad Manwl i Goed a Phren angen dybryd i ystyried modelau ar gyfer sicrhau buddsoddiadau mewn creu coetiroedd.

Rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2021 bu’r Gweithgor Cyllid Coetir yn ystyried opsiynau i sicrhau cydraddoldeb i ffermwyr wrth greu coetiroedd.

Mae’r papur gweithgor hwn yn amlinellu’r argymhellion.

Adroddiad Creu Coetir yng Nghymru

Aeth yr archwiliad ati i edrych yn fanylach ar yr hyn sy’n ein rhwystro rhag creu coetir ac aeth Fforwm Rheoli Tir Cymru ati i gomisiynu adroddiad ar Greu Coetir yng Nghymru.  Mae’n adolygu’r dystiolaeth ddiweddaraf ynghylch y: 

  • potensial
  • sbardunau
  • rhwystrau, a’r
  • atebion

ar gyfer creu coetir. Mae’n cynnig hefyd restr o argymhellion ar gyfer helpu i greu coetir.  Bydd yr argymhellion hyn yn galluogi rheolwyr tir i blannu mwy o goed yn amlach.