Lee Waters AS, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae angen creu llawer mwy o goetir yng Nghymru. Mae angen i ni blannu 43,000 hectar o goetir newydd erbyn 2030, a 180,000 hectar erbyn 2050 i gadw at y ‘llwybr cytbwys’ a ddisgrifir gan Gomisiwn Newid Hinsawdd y DU. Mae hynny’n cyfateb i blannu o leiaf 5,000 o hectarau’r flwyddyn. Llynedd, dim ond 290 o hectarau gafodd eu plannu yng Nghymru ac nid oes mwy na 2,000 o hectarau wedi’u plannu mewn unrhyw flwyddyn ers 1975.
Rhaid wrth weithredu os ydym am ysgwyddo’n hymrwymiad i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Mae plannu mwy o goed yn hanfodol i osgoi newid trychinebus yn yr hinsawdd a gall esgor hefyd ar amrywiaeth eang o fanteision i Gymru, gan gynnwys creu swyddi ‘gwyrdd’, helpu i daclo’r argyfwng natur, gwella lles a lleihau problemau llifogydd ac ansawdd aer. Bydd llawer o’r coed a blennir yn dod yn rhan o’r Goedwig Genedlaethol newydd i Gymru.
Er mwyn gwireddu’r nod, rhaid wrth gynghrair o bartneriaid o blaid newid. Cymunedau, ffermwyr a pherchenogion tir ym mhob rhan o Gymru fydd yn plannu’r rhan fwyaf o’r coetir newydd, nid Llywodraeth Cymru. Bydd gofyn i ni harneisio brwdfrydedd cymunedau a chael hyd i atebion fydd yn gweithio er lles perchenogion tir, ond gan osgoi’r tir sydd fwyaf cynhyrchiol i ffermwyr.
Bydd bod yn sero net, yn enwedig yn y sector adeiladu, yn golygu defnyddio llawer mwy o bren yng Nghymru. Mae 80% o’r pren a ddefnyddir yn y DU yn cael ei fewnforio, a dim ond 4% o’r 1.5 miliwn m3 o bren sy’n cael ei gynaeafu yng Nghymru sy’n cael ei brosesu i’w ddefnyddio fel pren o safon adeiladu. Mae cyfran is o bren yn cael ei ddefnyddio ar gyfer adeiladu yng Nghymru nag yn yr Alban ac Iwerddon. Mae yna wir gyfle i broseswyr a gweithgynhyrchwyr pren yng Nghymru gyfrannu at ‘economi bren’ yng Nghymru gan greu swyddi newydd yng nghefn gwlad yn ogystal â datblygu cadwyn gyflenwi arloesol ar gyfer defnyddiau hirach eu hoes sy’n ychwanegu at werth.
Mae cryn gytundeb ynghylch beth sy’n ein rhwystro rhag gwireddu’r nodau hyn. Mae’r Tasglu Coed wedi nodi nifer o bethau y gellid eu gwneud yn gyflym i chwalu rhai o’r rhwystrau hyn. Mae hefyd wedi nodi nifer o broblemau anoddach eraill sydd angen gwaith dilynol brys i fynd i’r afael â nhw.
Er mwyn plannu cymaint â hyn o goed, bydd gofyn i bob un ohonom weithredu mewn amrywiaeth o ffyrdd. Hoffem i bob teulu sydd â gardd blannu mwy o goed, a phob ysgol a grŵp cymunedol ymuno â chynllun coed am ddim Coed Cadw. Byddwn hefyd yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus i fapio’u tir er mwyn gweld ble y gellir plannu mwy o goed, gan ddysgu gwersi prosiectau fel Belfast One Million Trees.
Mae angen i ni gydweithio’n well â chymunedau a pherchenogion tir sydd am blannu coed ac mae angen i ni ddysgu o arbenigedd cymunedau a pherchnogion tir. Y farn yw bod y canllawiau presennol yn gymhleth ac yn gyfyngus; nid yw'r rheini sydd am greu coetir newydd yn ei chael hi’n hawdd delio â’r systemau rheoleiddio ac ariannu. Byddwn yn cyhoeddi canllawiau newydd, symlach wedi'u hysgrifennu o safbwynt y dinesydd. Nododd y tasglu bod angen swyddogion coetiroedd a all helpu cymunedau i weithio gydag awdurdodau lleol ac CNC a byddwn yn ystyried sut i ddarparu hyn. Byddwn hefyd yn dechrau gweithio i neilltuo tir ar gyfer 30 o goetiroedd newydd a 100 o Goedwigoedd Bach fel rhan o raglen y Goedwig Genedlaethol.
Ni fyddwn yn gallu cyrraedd ein targedau ar gyfer creu coetiroedd heb arian y sector preifat. Rydym hefyd yn cydnabod risgiau buddsoddi a allai arwain at newidiadau annymunol mawr ym mherchnogaeth tir. Byddwn yn sefydlu gweithgor i ystyried modelau i ddenu buddsoddiad i greu coetiroedd heb amharu ar gymunedau a phatrymau perchenogaeth tir.
Ar ffermydd, mae angen i ni nid yn unig blannu coetiroedd newydd ond hefyd plannu perthi ac ymylon, megis coed ar hyd ffiniau caeau, coed gwasgaredig a lleiniau cysgodi a byddwn yn ceisio sicrhau bod y cymorth ar gyfer plannu coed yn annog yr opsiynau hyn wrth i ni newid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig.
Cytunodd y Tasglu fod cyllid presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer plannu coed wedi bod yn rhy anghyson ac anodd cael gafael arno. Er ei bod yn bwysig sicrhau bod coetir newydd yn cael ei blannu yn y mannau cywir ac yn y ffordd gywir, mae'r broses ar gyfer gwneud hyn yn rhy araf a biwrocrataidd.
Rydym yn cydnabod er mwyn taro’r targedau, y bydd yn rhaid rhoi blaenoriaeth i greu coetiroedd ac i sicrhau ein bod yn gallu neilltuo’r arian mawr fydd ei angen yn y dyfodol, gan gynnwys taliadau hirdymor i gynnal y coed. Byddwn yn esbonio’n gliriach yn y misoedd nesaf beth fydd cyllidebau’r dyfodol fel rhan o'r gwaith ar ein cyllideb datblygu gwledig ddomestig a Chyllideb ehangach Llywodraeth Cymru.
Mae rhai camau y gallwn eu cymryd ar unwaith. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £17m i blannu coed dros y ddwy flynedd nesaf drwy gynllun Creu Coetir Glastir. Byddwn yn dechrau cyfnod ymgeisio newydd cyn gynted â phosibl er mwyn i fwy fedru ceisio am yr arian hwn a sicrhau bod y gyllideb lawn yn cael ei gwario. Byddwn yn newid y ffordd y mae CNC yn cymeradwyo cynlluniau i gyflymu'r broses, gan gynnwys ymarfer desg syml newydd ar gyfer cynlluniau coetir risg isel ac aildargedu adnoddau CNC i helpu perchenogion tir cyn ymgeisio.
Wrth i ni symud i’r cyfnod ar ôl y Rhaglen Datblygu Gwledig, byddwn yn cyflwyno cynllun ariannu newydd ar gyfer creu coetiroedd. Bydd hyn yn cynnwys cyllid ar wahân ar gyfer creu cynlluniau coetir newydd, i ddatblygu llif rheolaidd o brosiectau newydd ac i’n galluogi i fod yn fwy hyblyg wrth ddyrannu cyllid i blannu coed. Byddwn yn lansio cynllun peilot o'r system hon eleni, i helpu cynlluniau ar gyfer o leiaf 500 hectar o goetir yn y dyfodol.
Bydd ein cynllun newydd yn sicrhau bod cyllid ar gyfer creu coetiroedd ar gael yn gyson drwy gydol y flwyddyn yn hytrach nag mewn cyfnodau hwnt ac yma. Bydd yn cyflwyno system gydnabod fydd yn grymuso cynllunwyr coetiroedd i ddylunio coetiroedd cynaliadwy tra'n sicrhau bod archwiliadau priodol yn cael eu cynnal i sicrhau bod y coed yn cael eu plannu yn unol â Safon Coedwigaeth y DU.
Byddwn yn sicrhau bod unrhyw newidiadau i’r cymorth ar gyfer creu coetiroedd yn gyson â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig ac yn gweithio i sicrhau cyfnod pontio trefnus na fydd yn gadael bwlch yn y cymorth i greu coetiroedd.
Er bod yr ymarfer hwn wedi canolbwyntio ar chwalu’r rhwystrau i blannu coed, mae’n bwysig peidio â’i ystyried fel pwnc ar ei ben ei hun. Mae hefyd yn bwysig bod coed a choetiroedd yn cael eu rheoli’n dda ar ôl eu plannu a bod ein coetiroedd a'n coed hynafol yn cael eu diogelu a’u gwarchod.
Mae'r Tasglu hefyd wedi ystyried pa newidiadau sydd eu hangen ar draws y gadwyn cyflenwi pren i annog y maes adeiladu i ddefnyddio mwy o bren a ffibr o Gymru. Yn groes i rai canfyddiadau, mae Cymru'n gallu tyfu pren o ansawdd uchel ac mae cyfle i gynyddu faint o bren o Gymru a ddefnyddir mewn meysydd uwch eu gwerth. Mae hyn yn gofyn am fwy o gydgysylltu ar draws y gadwyn gyflenwi er mwyn sicrhau bod cyflenwad sefydlog o bren o Gymru, bod gennym sector prosesu arloesol, a bod galw sefydlog gan ddefnyddwyr terfynol fel Cymdeithasau Tai.
Bydd trafodaethau’r ‘archwiliad dwfn’ hwn yn fan cychwyn ar gyfer datblygu strategaeth ddiwydiannol ar gyfer pren i Gymru. Bydd yn adeiladu ar lwyddiant y Strategaeth Dulliau Adeiladu Modern a phrosiect ‘Cartrefi o Bren Lleol’ Woodknowledge Wales. Bydd yn cynnwys edrych ar rôl CNC, sydd wedi ymrwymo i werthu hyd at 30% o'u pren drwy fodel gwahanol i’r model presennol sy'n canolbwyntio ar sicrhau’r gwerth ariannol uchaf yn unig. O safbwynt y galw, cam cyntaf pwysig tuag at ysgogi mwy o alw yw dadansoddi cylch bywyd y carbon mewn adeilad, gan gynnwys y 'carbon corfforedig' mewn deunyddiau adeiladu.
Ceir rhagor o fanylion yn y Cynllun Gweithredu ar Goetir i Gymru, a gyhoeddir yn ddiweddarach eleni. Cyn bo hir, byddwn yn penodi Panel Cynghori Strategol newydd ar Goetiroedd, gydag arbenigwyr annibynnol yn aelodau ohono, i fonitro a chynghori ar y camau hyn.
Rwy'n ddiolchgar iawn i holl aelodau'r panel sydd wedi’n helpu i gynnal yr 'archwiliad dwfn’ hwn ac am roi o’u hamser a'u hymroddiad i chwalu’r rhwystrau i blannu coed.