Neidio i'r prif gynnwy

Sut a phryd y cewch apelio yn erbyn penderfyniad ar ganiatâd adeilad rhestredig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pryd y gallwch apelio

Mae eich awdurdod cynllunio lleol yn gwneud penderfyniadau ar geisiadau caniatâd adeilad rhestredig. Gallwch apelio yn erbyn penderfyniad:

  • os ydych yn anghytuno ag ef
  • os na wnaed y penderfyniad o fewn 8 wythnos

Ni chodir ffi am apelio.

Dim ond y sawl a gyflwynodd y cais sy’n gallu apelio. Os nad oeddech wedi cyflwyno’r cais, gallwch wneud sylwadau ar apêl yn lle hynny.

Terfyn amser ar gyfer apelio

Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad, mae’n rhaid i chi apelio o fewn 6 mis o’r dyddiad ar yr hysbysiad o benderfyniad gan eich awdurdod cynllunio lleol.

Os nad oedd yr awdurdod cynllunio lleol wedi gwneud penderfyniad o fewn 8 wythnos, nid oes terfyn amser ar gyfer apelio.

Pryd y gallwch ddisgwyl penderfyniad

Pan fydd eich apêl wedi dechrau, byddwch yn cael penderfyniad o fewn 14 wythnos fel arfer, ond fe all gymryd mwy o amser.

Sut i apelio

Cyflwynwch eich apêl i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC).

Os ydych eisiau apelio yn erbyn mwy nag un penderfyniad, mae’n rhaid i chi gyflwyno apêl ar wahân ar gyfer pob un.

Bydd angen i chi anfon copi o’ch apêl, gan gynnwys yr holl ddogfennau ategol, at eich awdurdod cynllunio lleol. Bydd PCAC yn dweud wrthych sut i wneud hyn.

Dogfennau y mae’n rhaid i chi eu darparu

Bydd angen i chi gyflwyno copïau o’r canlynol:

  • eich cais gwreiddiol
  • y dystysgrif perchenogaeth o’r safle
  • hysbysiad o benderfyniad yr awdurdod cynllunio lleol (os nad oedd wedi gwneud penderfyniad, cyflwynwch gopi o’r llythyr sy’n cydnabod eich cais)
  • yr holl gynlluniau, lluniadau a dogfennau a anfonoch at yr awdurdod cynllunio lleol
  • yr holl ohebiaeth â’r awdurdod cynllunio lleol sy’n ymwneud â’r cais
  • eich ffurflen apelio, os ydych yn apelio drwy’r post neu’r e-bost
  • unrhyw ddogfennau eraill sy’n cefnogi eich apêl yn uniongyrchol, er enghraifft eich datganiad llawn o’r achos

Gallwch anfon y dogfennau hyn drwy’r post neu drwy e-bost at PCAC.

Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru
Adeiladau’r Goron  
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

PEDW.gwaithachos@gov.wales 

Gwneud sylwadau ar apêl

Gall unrhyw un wneud sylwadau ar apêl caniatâd adeilad rhestredig. Dewch o hyd i’r achos ar y porth Gwaith achos cynllunio. Y terfyn amser ar gyfer cyflwyno sylwadau yw 4 wythnos ar ôl dyddiad dechrau’r apêl.

Mae’n rhaid i’ch awdurdod cynllunio lleol ddweud wrth unrhyw un sydd wedi gwneud sylwadau ar y cais gwreiddiol (‘partïon â buddiant’) fod apêl wedi cael ei chyflwyno. Mae’n rhaid iddo wneud hyn o fewn wythnos o’r dyddiad y mae’r apêl yn cael ei chychwyn gan PCAC.

Darllenwch y canllaw manwl ar gymryd rhan mewn apêl.

Ar ôl i chi apelio

Bydd PCAC yn gwirio eich apêl i wneud yn siŵr ei bod yn ddilys. Bydd yn dweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf a pha mor hir y gallai eich apêl ei gymryd.

Yna, bydd PCAC yn ystyried eich apêl. Byddwch yn cael penderfyniad o fewn 14 wythnos o’r dyddiad dechrau fel arfer, ond fe all gymryd mwy o amser.

Os bydd unrhyw un yn ymddwyn yn afresymol

Gallwch wneud cais am ddyfarnu costau os oes unrhyw un sy’n ymwneud â’ch apêl wedi achosi i chi fynd i gostau trwy ymddwyn yn afresymol, er enghraifft methu terfynau amser. Gall costau gael eu dyfarnu yn eich erbyn chi hefyd.

Gallwch gwyno am y ffordd y mae PCAC wedi trin eich apêl. Nid oes terfyn amser ar gyfer cwyno.

Os ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad apêl

Gallwch herio’r penderfyniad yn yr Uchel Lys os ydych chi’n credu bod PCAC wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol.

Dylech geisio cyngor gan gyfreithiwr os ydych chi’n ansicr ynglŷn â hyn.