Sut a phryd y cewch apelio yn erbyn penderfyniad ar berthi uchel.
Cynnwys
Pryd y gallwch apelio
Mae eich cyngor yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â pherthi uchel.
Gallwch apelio yn erbyn hysbysiad adfer perth uchel neu benderfyniad y cyngor i beidio â chyhoeddi un:
- os oeddech wedi cwyno i’r cyngor ynglŷn â’r berth
- os ydych yn berchen ar y tir y mae’r berth arno, neu’n rhentu neu’n meddiannu’r tir hwnnw
Ni chodir ffi am apelio.
Terfyn amser ar gyfer apelio
Mae’n rhaid i chi apelio o fewn 28 niwrnod o’r:
- hysbysiad adfer
- penderfyniad eich cyngor i beidio â chymryd camau neu i newid hysbysiad adfer presennol (tynnu’n ôl, hepgor neu lacio)
Pryd y gallwch ddisgwyl penderfyniad
Pan fydd eich apêl wedi cael ei dilysu, byddwch yn cael penderfyniad o fewn 34 wythnos fel arfer.
Sut i apelio
Llenwch ffurflen apelio perthi uchel.
Bydd hefyd angen i chi gyflwyno:
- copi o benderfyniad y cyngor
- yr hysbysiad adfer (os yw’r cyngor wedi cyhoeddi un)
- unrhyw ddogfennau eraill sy’n cefnogi eich apêl yn uniongyrchol
Anfonwch y dogfennau hyn drwy’r post neu’r e-bost gyda’ch ffurflen apelio wedi’i llenwi at y cyngor a wnaeth y penderfyniad Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW).
Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ar ôl i chi apelio
Bydd Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru yn gwirio eich apêl i wneud yn siŵr ei bod yn ddilys. Bydd yn dweud wrthych beth fydd yn digwydd nesaf a pha mor hir y gallai eich apêl ei gymryd.
Bydd eich apêl yn cael ei benderfynu yn seiliedig ar y wybodaeth a anfonwch ac ymweliad safle. Bydd eich swyddog achos yn ysgrifennu atoch os oes angen gwybodaeth ychwanegol arno.
Byddwch yn cael penderfyniad o fewn 26 wythnos fel arfer.
Gallwch gwyno am y ffordd y mae Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru wedi trin eich apêl. Nid oes terfyn amser ar gyfer cwyno.
Os ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad apêl
Gallwch herio’r penderfyniad yn yr Uchel Lys os ydych chi’n credu bod Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol.
Dylech geisio cyngor gan gyfreithiwr os ydych chi’n ansicr ynglŷn â hyn.