Neidio i'r prif gynnwy

Mae mynediad at becynnau hunan-brawf COVID cyflym - profion llif unffordd - bellach ar gael i ofalwyr di-dâl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae mynediad at becynnau hunan-brawf COVID cyflym - profion llif unffordd - bellach ar gael i ofalwyr di-dâl.

Gall pobl archebu prawf ar-lein neu gellir eu casglu o safleoedd prawf penodol ledled Cymru, heb fod angen apwyntiad. Mae manylion y safleoedd casglu a'r amseroedd agor yma (nhs.uk)

Mae profion llif unffordd yn ei gwneud yn bosibl cynnal profion am y coronafeirws ar bobl heb symptomau yn rheolaidd. Maen nhw hefyd yn gwneud y broses o gael prawf yn gyfleus ac yn hawdd i bobl nad ydynt wedi'u cynnwys mewn cynlluniau profi presennol mewn gweithleoedd, lleoliadau gofal plant, ysgolion, colegau a phrifysgolion.

Nid oes symptomau gan tua 1 o bob 3 o bobl sy'n profi'n bositif am y coronafeirws ond maen nhw’n dal yn gallu heintio pobl eraill, sy'n golygu bod profion asymptomatig yn ffordd bwysig o gadw pobl yn ddiogel wrth i gyfyngiadau gael eu llacio.  Dylai unrhyw un sydd â symptomau coronafeirws hunanynysu a chael prawf drwy ffonio 119, ei archebu ar-lein neu drwy ddefnyddio ap COVID-19 y GIG.

Bydd pob unigolyn yn cael casglu neu archebu 2 becyn o 7 hunan-brawf COVID cyflym i'w defnyddio gartref fel mater o drefn. Argymhellir fod profion yn cael eu cynnal ddwywaith yr wythnos (3 neu 4 diwrnod ar wahân), gan gofnodi pob canlyniad ar borth llywodraeth y DU.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Dw i'n falch o gyhoeddi y gall gofalwyr di-dâl gael mynediad at becynnau profi yn y cartref naill ai drwy eu harchebu ar-lein neu eu casglu o leoliad cyfleus. Bydd hyn yn helpu i'w diogelu nhw a'r rhai y maent yn gofalu amdanynt ac yn rhoi tawelwch meddwl wrth i ni barhau i lacio’r cyfyngiadau.