Gwybodaeth ac arweiniad ynghylch beth i'w wneud os yw benyw mewn perygl o ddioddef anffurfio ei horganau cenhedlu (FGM).
Cynnwys
Ystyr Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod (FGM) yw cael gwared ar organau cenhedlu allanol benywod, yn rhannol neu'n llwyr, am resymau nad ydynt yn rhai meddygol. Enwau eraill ar hyn yw enwaedu benywod neu dorri.
Mae'n anghyfreithlon mynd â gwladolyn Prydeinig neu breswylydd parhaol dramor ar gyfer FGM, neu i gynorthwyo rhywun sy'n ceisio gwneud hynny.
Os ydych yn pryderu fod menyw sy'n gweithio gyda chi (neu ei phlant neu blant cydweithiwr) mewn perygl o FGM, mae angen i chi fod yn sensitif i gefndir diwylliannol a chymdeithasol y person sydd mewn perygl. Mae sawl myth ynghylch FGM sydd wedi cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth ac sydd o bosibl yn dylanwadu ar y modd y mae'r unigolyn yn ymateb, neu efallai y byddant yn ei chael yn anodd trafod mater mor bersonol.
Llinell gymorth Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yr NSPCC
Gallwch ffonio'r llinell gymorth hon yn ddi-dâl ac yn gyfrinachol os ydych yn pryderu bod plentyn mewn perygl o gael anffurfio ei horganau cenhedlu neu bod hynny wedi digwydd iddi.
Llinell gymorth Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod yr NSPCC
Rhif ffôn: 0800 028 3550
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
I gael cyngor a chefnogaeth, os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod mewn perygl o ddioddef anffurfio organau cenhedlu, ffoniwch Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800 neu anfonwch e-bost i gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru.
Adrodd Gorfodol
Dylai gweithwyr proffesiynol sydd yn amau fod menyw neu ferch mewn perygl o FGM adrodd yn ôl i'r gwasanaethau cymdeithasol ynghylch y mater o dan y trefniadau diogelu arferol.
Gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd
Dylai gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd fod yn ymwybodol o ffactorau penodol sy'n gallu golygu bod person mewn mwy o berygl:
- Unrhyw ferch sy'n cael ei geni i fam sydd wedi dioddef FGM (neu blant benywaidd eraill yn y teulu estynedig).
- Unrhyw ferch y mae ei chwaer wedi cael triniaeth ar gyfer FGM (neu blant benywaidd eraill yn y teulu estynedig).
Gweithwyr proffesiynol â chyfrifoldebau diogelu
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau statudol amlasiantaeth sy'n darparu cyngor a chefnogaeth i weithwyr proffesiynol rheng flaen â chyfrifoldebau diogelu plant a diogelu a chefnogi oedolion rhag y gamdriniaeth sy'n gysylltiedig â FGM.
Mae’r canllawiau'n darparu gwybodaeth am y canlynol:
- nodi pan fo merch (gan gynnwys merch nad yw eto wedi'i geni) neu fenyw ifanc mewn perygl ac ymateb yn briodol i'w diogelu.
- nodi pan fo merch (gan gynnwys merch nad yw eto wedi'i geni) neu fenyw ifanc wedi dioddef FGM ac ymateb yn briodol i'w cefnogi.
Gorchymyn amddiffyn rhag anffurfio organau cenhedlu benywod
Gallwch wneud cais am orchymyn amddiffyn os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei hadnabod mewn perygl o ddioddef anffurfio ei horganau cenhedlu (FGM). Bydd hyn yn helpu i'ch cadw chi, neu'r fenyw neu ferch yr ydych yn ei hadnabod, yn ddiogel rhag person arall.
Gall rhywun arall, er enghraifft, o awdurdod lleol hefyd wneud cais am orchymyn amddiffyn ar eich rhan.
Cyfathrebu â dioddefwyr
Mae unigolion sydd wedi dioddef FGM angen ymateb amlasiantaeth i ofalu am eu lles corfforol a meddyliol. Felly, dylai gwasanaethau gydweithredu ar draws y trydydd sector, gwasanaethau diogelu plant a gofal iechyd, yr heddlu a'r Gwasanaeth Erlyn.
Os ydych yn gweithio gyda phobl sydd wedi datgelu eu bod wedi dioddef FGM, dylech wneud y canlynol:
- creu cyfle i'r unigolyn ddatgelu hyn drwy siarad â hi yn breifat ac ar ei phen ei hun
- sicrhau nad oes unrhyw aelod o'r teulu na'r gymuned yn bresennol - ystyriwch ddefnyddio oedolyn priodol yn hytrach nac aelod o'r teulu wrth gyfweld plant o dan oed
- peidio â chymryd unrhyw beth yn ganiataol
- rhoi amser i'r unigolyn siarad
- bod yn sensitif o natur bersonol y pwnc
- bod yn sensitif o'r ffaith bod unigolion efallai'n ffyddlon i'w rhieni
- peidio â barnu
- defnyddio iaith syml a gofyn cwestiynau uniongyrchol
- osgoi termau awgrymog neu sarhaus fel 'anffurfio'
- mabwysiadu agwedd sy'n canolbwyntio ar y dioddefwyr - dylid cynnig gwybodaeth gywir ynghylch eu dewisiadau a'u hawliau a pharchu eu dymuniadau pan fo modd.
Cyfarwyddiadau ychwanegol ynghylch cyfathrebu
Mae'n bwysig fod pob gweithiwr proffesiynol yn gallu atgyfeirio dioddefwyr yn briodol a'u bod yn gallu cynnig cyngor am ddiogelwch i'w cleientiaid. Mae hyn yn sail i lunio cynllun diogelwch mwy manwl a allai gynnwys y canlynol:
- Sicrhau bod y cleient yn gwybod y dylai ffonio 999 mewn argyfwng.
- Cadw manylion gwasanaethau arbenigol lleol a llinell gymorth Byw Heb Ofn wrth law i'w rhannu â chleientiaid.
- Cynghori cleientiaid i geisio cadw eu ffôn symudol wrth law bob amser.
- Annog cleientiaid i gysylltu â gwasanaethau a all eu helpu nhw a'u plant.
- Cymryd rhan mewn trafodaethau amlasiantaethol fel y Cynadleddau Amlasiantaeth Asesu Risg lleol neu'r Ganolfan Diogelu Amlasiantaeth (MASH).
Hyfforddiant
Gall y Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol ddarparu hyfforddiant o ran:
- dealltwriaeth sylfaenol o beth yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
- sut i adnabod cam-drin domestig a thrais rhywiol
- y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr
- cyfathrebu'n sensitif â dioddefwyr.