Canllawiau ar y gofynion statudol ar gyfer hyfforddiant ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau arbenigol y trydydd sector.
Cynnwys
Mae'r Fframwaith yn cynnwys chwe grŵp. Mae pob proffesiwn o fewn y Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael ei gynnwys yn un o'r grwpiau hyn ac amlinellir pa hyfforddiant sylfaenol sy'n ofynnol ar gyfer pob grŵp.
Grŵp 1 - E-ddysgu
Mae'r grŵp hwn yn cynnwys yr holl weithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y gwasanaethau cyhoeddus. Bydd yr hyfforddiant yn darparu:
- dealltwriaeth sylfaenol o beth yw trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
- sut i adnabod cam-drin domestig a thrais rhywiol
- y cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr.
Mae'r cwrs ar gael ar wefan y GIG.
Grŵp 2 - Gofyn a Gweithredu
Mae'r grŵp hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n debygol o ddal swyddi lle bo posibilrwydd bod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn broblem i'w cleientiaid, a'u bod yn gallu 'Gofyn a Gweithredu'. Mae hyn yn cynnwys pobl sy'n asesu neu roi triniaeth i rywun o ganlyniad i drais a cham-drin, neu'n gweithio gyda nhw.
Er enghraifft, byddai hyn yn cynnwys gweithwyr proffesiynol fel doctoriaid, nyrsys, y rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, y rhai sy'n cefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl, a swyddogion digartrefedd.
Bydd yr hyfforddiant yn sicrhau y gall unigolion wneud yn canlynol:
- adnabod yr arwyddion bod rhywun yn cael ei gam-drin
- siarad yn sensitif â'r person hwnnw (os yw hynny'n briodol)
- cynnig opsiynau a gwasanaethau iddynt yn gyflym ac yn effeithiol.
Grŵp 3 - Hyrwyddwyr Gofyn a Gweithredu
Mae'r grŵp hwn yn cynnwys unigolion mewn swyddi sy'n gofyn iddynt wneud mwy na 'Gofyn a Gweithredu' a'r rhai sydd yn perfformio fel 'Hyrwyddwyr'.
Bydd yr hyfforddiant yn eu galluogi i wneud y canlynol:
- cefnogi cydweithwyr wrth iddynt wneud penderfyniadau anodd mewn perthynas â'r pynciau hyn, helpu i gynnig gwasanaethau i bob aelod o'r teulu y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol wedi cael effaith arnynt
- chwarae rhan hyrwyddwr o fewn eu sefydliad.
Os hoffech wybod rhagor am hyfforddiant ar gyfer grŵp 3, anfonwch e-bost i dîm Trais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig Llywodraeth Cymru yn VAWDASV@llyw.cymru neu cysylltwch â'ch cydgysylltydd VAWDASV lleol.
Grŵp 4 - Y sector arbenigol
Mae'r grŵp hwn yn cynnwys gweithwyr proffesiynol sy'n ymdrin â cleientiaid sydd wedi'u heffeithio gan drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn unig.
Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol sefydlu'r canlynol ar gyfer unrhyw un sydd â chleientiaid sy'n dod ar draws trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol, boed yn ddioddefwyr neu'n blant i ddioddefwyr, neu unrhyw un sy'n cyflawni cam-drin domestig:
- mynediad i hyfforddiant priodol yn fuan ar ôl eu recriwtio
- cymwysterau priodol
- cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Mae hyfforddiant lleol yn parhau i fod yn ffordd bwysig o sicrhau bod gan weithwyr proffesiynol y sgiliau priodol i weithio gyda'r rheini sy'n dod ar draws trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r Fframwaith Hyfforddi Cenedlaethol yn amlinellu'r gofynion sylfaenol ar gyfer hyfforddiant a ddarperir yn lleol (gan wasanaethau lleol, drwy Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol neu o fewn Awdurdodau Lleol neu Fyrddau Iechyd).
Deall Trais Rhywiol yn erbyn Menywod Grŵp 5 - Rheolwyr y sector arbenigol
Mae'r grŵp hwn yn cynnwys rheolwyr gwasanaethau sy'n gweithio yn y sector trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Mae pynciau allweddol yn yr adran hyfforddiant hon yn cynnwys:
- llywodraethu effeithiol a diogel
- adnoddau dynol a chefnogaeth i staff
- cynaliadwyedd
- y fframwaith comisiynu
- cydweithio amlasiantaethol
Mae mynediad i'r cwrs ar gael ar wefan Safelives.
Grŵp 6 - Arweinwyr yn y Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae'r grŵp hwn yn cynnwys pobl mewn rolau arweiniol.
Cyfres o ffilmiau byrion yw Cyfres Cryfhau Arweinyddiaeth. Mae pob un ohonynt yn ymdrin â mater pwysig sy'n berthnasol i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae'r ffilmiau yn cynnig pytiau o wybodaeth y gellir eu defnyddio i lywio'r trywydd strategol, neu eu rhannu o fewn timau i gynyddu gwybodaeth.
Gwyliwch gyfres Cryfhau Arweinyddiaeth ar YouTube.