Bydd sector lletygarwch Cymru yn paratoi i ailagor yn yr awyr agored o 13 Gorffennaf ymlaen, mae’r Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan, wedi cyhoeddi heddiw.
Cyhoeddodd y Gweinidog y cam cyntaf o gynlluniau i ailagor barrau, bwytai a caffis sydd â mannau awyr agored, yn dilyn adolygiad cyflym o’r sector.
Gwneir penderfyniad terfynol ynghylch ailagor yn yr adolygiad nesaf o’r Rheoliadau Coronafeirws ar 9 Gorffennaf, a bydd yn dibynnu ar a yw nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau i ostwng.
Gwneir penderfyniadau ynghylch ailagor y sector o dan do maes o law, a bydd llawer yn dibynnu ar lwyddiant y cam cyntaf o agor y sector yn yr awyr agored.
Heddiw bydd y Gweinidog hefyd yn cyhoeddi’r amserlen ar gyfer ailagor atyniadau ymwelwyr yn yr awyr agored, ac agor yn rhannol y diwydiant twristiaeth yng Nghymru am weddill tymor yr haf.
Os yw’r gofyniad i aros yn lleol yn cael ei godi yng Nghymru ar 6 Gorffennaf, bydd atyniadau i ymwelwyr yn yr awyr agored yn gallu ailagor ar ddydd Llun.
Yn ogystal, yn dibynnu ar yr adolygiad o’r Rheoliadau Coronafeirws ar 9 Gorffennaf, mae’r sector twristiaeth yn paratoi i ailagor llety hunangynhaliol.
Bydd y Gweinidog yn cyhoeddi heddiw y caiff perchnogion llety hunangynhaliol dderbyn archebion o 11 Gorffennaf ymlaen – nid 13 Gorffennaf – i gyd-fynd a’r patrwm o aros o ddydd Sadwrn i ddydd Sadwrn.
Dywedodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Gymraeg, Eluned Morgan:
“Mae twristiaeth yn rhan hanfodol o economi Cymru ar lefel genedlaethol, lefel ranbarthol a lefel leol. Hoffwn i ddiolch i’n holl bartneriaid yn y diwydiant am weithio gyda ni i ailagor yr economi ymwelwyr yn ofalus.
“Bydd dychwelyd yn llwyddiannus, yn ddiogel ac yn raddol yn rhoi hyder i fusnesau, cymunedau ac ymwelwyr i barhau i adfer yr economi ymwelwyr.
“Hoffen ni ofyn i bawb sy’n teithio i Gymru ac o amgylch Cymru i fwynhau eu hamser yma – ond i barchu cymunedau lleol bob amser. Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl i Gymru – ond rydyn ni am i bawb ymweld â Chymru mewn modd diogel.”
Mae canllawiau wedi cael eu cyhoeddi yr wythnos hon i helpu busnesau sy’n gweithio yn economi ymwelwyr Cymru. Bydd canllawiau i gaffis, barrau a thafarnau yn dilyn.
Mae Croeso Cymru hefyd wedi gweithio gyda’r sefydliadau twristiaeth cenedlaethol eraill i greu safon diwydiant a nod ansawdd ar gyfer y DU gyfan, i roi sicrwydd i gwsmeriaid wrth i’r sector baratoi i ailagor.
Mae’r safon diwydiant a’r nod ansawdd cysylltiedig Barod Amdani yn golygu y gall busnesau ddangos eu bod yn dilyn y gwahanol ganllawiau gan y Llywodraeth a chanllawiau iechyd y cyhoedd; eu bod wedi cynnal asesiad risg ar gyfer COVID-19 a’u bod wedi gwirio bod ganddynt y prosesau gofynnol ar waith. Caiff pob busnes ar draws y diwydiant ymuno â’r cynllun, yn rhad ac am ddim.
Bydd Folly Farm yn barod i groesawu ei ddeiliaid pasys blynyddol yn ôl o 8 Gorffennaf ymlaen, a bydd yn agor i bawb ar 13 Gorffennaf.
Dywedodd Zoe Wright, Pennaeth Marchnata Folly Farm:
“Rydyn ni wedi bod yn paratoi i ailagor ers nifer o wythnosau, ac rwy’n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl i Folly Farm – mewn modd diogel.
“Mae’r holl gefnogaeth rydyn ni wedi ei derbyn gan ein hymwelwyr a’n cymuned leol wedi bod yn galonogol iawn. Mae llawer o ddarparwyr llety lleol wedi bod yn rhannu ein canllawiau ar ailagor yn ddiogel cyn i’w gwesteion ddychwelyd.
“Rydyn ni wedi rhoi llawer o fesurau ar waith i ddiogelu ein hymwelwyr, ein staff, a’n cymuned ehangach, gan gynnwys y gofyniad i drefnu ymweliadau ymlaen llaw fel y gallwn ni gyfyngu ar nifer yr ymwelwyr a darparu mwy o le byth ar draws ein safle 120 erw. Fel atyniad lle mae pobl yn dod i weld anifeiliaid, rydyn ni wedi hen arfer â chynnig cyfleusterau golchi dwylo ac annog pobl i wneud hynny’n rheolaidd, ond rydyn ni wedi ychwanegu gorsafoedd diheintio dwylo ledled y parc hefyd.
“Mae ein anifeiliaid yn darparu ffordd llawn hwyl o annog ymwelwyr, yn enwedig y rhai ifanc, i ddilyn ein harwyddion cadw pellter cymdeithasol, gydag olion pawennau yn nodi’r pellter diogel mewn ardaloedd ciwio, a saethau ar thema pengwiniaid a moch i ddangos ein system unffordd.”
Mae Sean Taylor, sylfaenydd Zip World, yn gwneud paratoadau i agor ar y 6ed o Orffennaf a dywedodd:
"Fel un o atyniadau twristaidd awyr agored mwyaf Gogledd Cymru, mae gennym gyfrifoldeb enfawr yn y ffordd rydym yn ailgychwyn ein gweithrediadau. Mae gennym ymdeimlad cryf o gymuned ac mae gennym ran bwysig i'w chwarae wrth ailadeiladu economi ymwelwyr y rhanbarth ac mae'n rhaid rheoli hynny i gyd yn gyfrifol ac yn gadarn yn unol â chanllawiau cyfredol y Llywodraeth.
"Rydym wedi treulio'r misoedd diwethaf yn ailfeddwl am logisteg ein gweithrediadau i gadw staff, cwsmeriaid a'r gymuned yn ddiogel. I ddechrau, bydd y dull ailagor yn cael ei weithredu fesul dipyn drwy agor dau o'n tri safle i ddechrau a 6 o'n hanturiaethau. Mae hyn yn golygu lleihad mewn capasiti ac rydym hefyd wedi cyflwyno cyfundrefnau hylendid cadarn, arwyddion clir, cyfarpar diogelwch a defnyddio technoleg lle bo'n bosibl i leihau pwyntiau cyffwrdd defnyddwyr. Erbyn hyn, mae yna ganllaw 6 cham syml i'r holl gwsmeriaid ei ddilyn cyn ac yn ystod eu hymweliad - mae hyn yn cynnwys llofnodi'r ildiad ar-lein cyn yr ymweliad, taliadau digyswllt ac ati."