Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

2020

22 Mehefin

Cyhoeddi Adroddiad yr Is-grŵp Economaidd-Gymdeithasol Cynghorol ar Covid-19 ymhlith Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (is-grŵp i Grŵp Cynghorol Iechyd BAME Cymru ar COVID-19).

21 Gorffennaf

Penodi'r Athro Charlotte Williams OBE i arwain Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefinoedd Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd.

19 Awst

Cynnal cyfarfod cyntaf Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefinoedd Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd.

1 Hydref

Cyhoeddi Cylch Gorchwyl y Gweithgor. Gweler y datganiad ysgrifenedig. Cyhoeddodd y Gweithgor hefyd ddatganiad o'i weledigaeth a thaflen i athrawon i'w helpu i ystyried sut mae eu haddysgu yn adlewyrchu natur amlethnig Cymru.

19 Tachwedd

Y Gweithgor yn cyhoeddi ei adroddiad interim, gan ganolbwyntio ar adnoddau dysgu.

3 Rhagfyr

Y Gweithgor yn cyhoeddi ffeithlun ar Amrywiaeth Ethnig mewn Ysgolion ar sail data Cyngor y Gweithlu Addysg a'r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD).

2021

9 Mawrth

Yr Athro Williams yn cytuno i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cwricwlwm newydd i Gymru mewn rôl gynghori a gweithredu o fis Mawrth 2021.

19 Mawrth

Y Gweithgor yn cyhoeddi ei adroddiad terfynol, gan ganolbwyntio ar gyfleoedd dysgu proffesiynol ac adnoddau (yn ogystal â nodi unwaith eto argymhellion yr adroddiad interim ar adnoddau dysgu).

Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg blaenorol gyllideb o £500,000 ar gyfer 2021 i 2022 i gefnogi'r gwaith hwn.

24 Mawrth

Cyhoeddi'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol ar gyfer ymgynghoriad, a ddaw i ben ar 17 Mehefin, gan gynnwys argymhellion adroddiad interim y Gweithgor.