Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad gweledigaeth a ddatblygwyd gan y grŵp.

Ein gweledigaeth yw y dylai pob disgybl, fel dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a'r byd, gael archwilio profiadau a chyfraniadau amrywiol pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) yng Nghymru, yn y gorffennol a'r presennol.

Hefyd, yn unol â hynny, bod gan bob athro/athrawes yng Nghymru ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad yr adnoddau i gyflawni'r disgwyliadau hyn wrth gynllunio eu cwricwlwm ac yn eu harferion addysgeg.

Golyga hyn y bydd pob athro/athrawes:

  • yn deall tarddiad ac amlygiad hiliaeth
  • yn teimlo’n hyderus ac wedi’u cefnogi wrth ddatblygu cwricwla sy'n rhoi sylw i gyfraniadau niferus ac amrywiol unigolion a grwpiau BAME i wybodaeth ddisgyblaethol a thrawsddisgyblaethol penodol
  • yn teimlo’n hyderus ac wedi’u cefnogi wrth roi'r cyfraniadau hyn yng nghyd-destun hanes a datblygiad Cymru fel cymdeithas amlddiwylliannol