Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon o nifer yr aelwydydd nad ydynt yn gallu fforddio cadw eu cartref wedi’i wresogi'n ddigonol ar gyfer 2018.

Mae’r adroddiad hwn yn darparu dadansoddiad manwl o Amcangyfrifon tlodi tanwydd 2018 ar gyfer Cymru, er mwyn ategu’r prif ganlyniadau a gyhoeddwyd ym Mai 2019. Mae’r adroddiad hwn yn cynnig cymariaethau rhwng deiliadaethau, mathau o annedd a mathau o aelwyd. Cynhwysir hefyd gymariaethau gyda chenhedloedd eraill y DU, newid dros amser, a’r ffactorau sy’n dylanwadu ar dlodi tanwydd.

Ystyrir bod aelwyd mewn tlodi tanwydd os na all yr aelwyd honno gadw'r cartref yn gynnes am gost resymol.

Yng Nghymru, mesurir hyn fel unrhyw aelwyd a fyddai'n gorfod gwario mwy na 10% o'i hincwm ar gynnal trefn wresogi ddigonol. Diffinnir aelwyd sy'n gorfod gwario mwy nag 20% fel un sydd mewn tlodi tanwydd difrifol.

Diffinnir aelwyd sy'n agored i niwed fel rheini sy'n gartref i berson 60 oed a throsodd a/neu blentyn neu berson ifanc o dan 16 oed a/neu berson sy'n anabl neu sydd â chyflwr hirdymor sy'n cyfyngu arnynt.

Cynnigir crynodeb i ddefnyddwyr o’r dull a ddefnyddiwyd i gyfrifo’r amcangyfrifon. Mae adroddiad methodoleg manwl hefyd ar gael.

Prif bwyntiau

  • Roedd 155,000 o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae hyn gyfwerth â 12% o’r holl gartrefi yng Nghymru. 
  • Roedd aelwydydd yn y sector rhentu preifat yn fwy tebygol o fod yn dlawd o ran tanwydd, a 20% o’r rhain yn byw mewn tlodi tanwydd.
  • Roedd 50% o’r rheiny yn byw mewn tlodi tanwydd yn aelwydydd person sengl heb blant.(r)
  • Mae aelwydydd mewn eiddo hŷn yn fwy tebygol o fod yn dlawd o ran tanwydd. Roedd 20% o aelwydydd yn byw mewn anheddau cyn-1919 yn dlawd o ran tanwydd.
  • Roedd 21% o aelwydydd yn byw mewn eiddo â waliau soled heb eu hinswleiddio yn dlawd o ran tanwydd, ac roedd 39% o bobl yn byw mewn eiddo heb wres canolog yn dlawd o ran tanwydd. 
  • Roedd 43% o aelwydydd mewn eiddo ag effeithlonrwydd ynni gwaelach (Bandiau F a G Tystysgrif Perfformiad Ynni) yn dlawd o ran tanwydd, o gymharu â 5% o aelwydydd yn byw mewn eiddo ym mandiau B i C.

(r) Diwygiwyd ar 29 Awst ar ôl ei gyhoeddi.

Adroddiadau

Amcangyfrifon tlodi tanwydd Cymru, 2018 (diwygiedig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.