Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'n ofynnol i fusnesau sydd ar agor gymryd pob cam rhesymol i sicrhau 2 fetr o bellter corfforol rhwng pobl ar safleoedd, yn ogystal ag wrth aros i fynd i mewn i safleoedd.  Mae hyn yn cynnwys unrhyw leoliad lle y gellir gwneud gwaith, a gall gynnwys mannau awyr agored.  Ar hyn o bryd, nid yw cerbydau wedi'u cynnwys yn y diffiniad o safleoedd, ond bydd rhwymedigaeth gyfreithiol ar weithredwyr i sicrhau bod cyflogeion a theithwyr yn ddiogel. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau o dan reoliad 7A i bawb y mae'r dyletswyddau cadw pellter corfforol yn gymwys iddynt, ac y mae'n rhaid iddynt roi sylw iddynt, a gellir eu gweld yma: cymryd pob cam rhesymol i gynnal pellter corfforol yn y gweithle.

Mae methu â chydymffurfio â'r ddyletswydd i gadw pellter corfforol yn drosedd, a all arwain at ddirwy yn dilyn euogfarn. Felly, mae'n bwysig bod busnesau'n gwbl ymwybodol o'r canllawiau statudol hynny. Nid yw'r canllawiau yn y ddogfen hon yn disodli'r canllawiau hynny, ond bwriedir iddynt eu hategu yng nghyd-destun trafnidiaeth. 

Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r angen am y gofynion a'r cyfyngiadau yn y rheoliadau bob 21 diwrnod.

Yn ôl y dystiolaeth ddiweddaraf gan Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau y DU (SAGE) a chyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru, er bod brig cyntaf yr haint wedi mynd heibio a bod y cyfraddau'n parhau i ostwng, mae'n dal yn rhy gynnar i lacio'r gofynion neu'r cyfyngiadau yn sylweddol. 

Fel rhan o'r ail adolygiad, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu y bydd y cyfyngiadau symud yng Nghymru yn parhau tan y cyfnod adolygu nesaf ar ddiwedd mis Mehefin.

Gofynnir i bobl barhau i weithio gartref os gallant wneud hynny.

Ddydd Gwener 8 Mai, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai cyfres o addasiadau bach i'r rheoliadau, gan gynnwys:

  • Caniatáu i bobl wneud ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd, ond dylai pobl aros yn lleol. Mae hyn yn golygu y dylai unrhyw ymarfer corff ddechrau a gorffen gartref a pheidio â chynnwys teithio pellter sylweddol o'r cartref
  • Galluogi awdurdodau lleol i ddechrau'r broses o gynllunio sut i ailagor llyfrgelloedd yn ddiogel (yn ogystal â chefnogi'r broses ymarferol o agor canolfannau ailgylchu trefol)
  • Caniatáu i ganolfannau garddio agor ar yr amod eu bod yn cydymffurfio â'r ddyletswydd i gadw pellter corfforol

Daeth yr addasiadau hyn i rym ddydd Llun 11 Mai.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog ddydd Gwener 29 Mai y bydd dwy aelwyd yn yr un ardal leol yn gallu cwrdd yn yr awyr agored. Mae'n rhaid i chi ddilyn arferion o ran pellhau cymdeithasol a hylendid dwylo llym i reoli lledaeniad y firws.

Ystyr 'lleol' yw nid yn gyffredinol teithio mwy na 5 milltir o gartref i leihau'r risg o coronafeirws yn lledaenu o un ardal i'r llall.

Daeth y Rheoliadau hyn i rym ddydd Llun 1 Mehefin.

Yn y ddogfen Llacio’r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a’n heconomi: dal i drafod a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 15 Mai, nododd y Prif Weinidog ddull ‘goleuadau traffig’ yn amlinellu'r ffordd y gallai Cymru lacio cyfyngiadau symud y coronafeirws. Yn y ddogfen, nododd y Prif Weinidog yr ymrwymiad canlynol:

Dros y 10 diwrnod nesaf byddwn yn siarad ag ystod mor eang o’n partneriaid ag y gallwn er mwyn meithrin cyd-ddealltwriaeth o beth sydd angen ei wneud i baratoi at leihau’r cyfyngiadau yn raddol. I ddechrau, byddwn yn ymgynghori ar ganllawiau ynglŷn â’r canlynol: 

  • y gweithle 
  • trafnidiaeth gyhoeddus 
  • ysgolion, gofal plant, addysg bellach a gwasanaethau cyhoeddus eraill 
  • addysg uwch 
  • diwylliant a thwristiaeth 
  • chwaraeon a hamdden 
  • tai ac adeiladu

Bydd y canllawiau hyn yn helpu sefydliadau, asiantaethau ac eraill (fel darparwyr trafnidiaeth hunangyflogedig) i ddeall sut i ddarparu gweithleoedd a gwasanaethau mwy diogel iddynt eu hunain, i'w gweithwyr ac i deithwyr drwy bob dull teithio preifat a chyhoeddus wrth iddynt ddatblygu cynlluniau i ailddechrau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru. Maent yn amlinellu mesurau i asesu risgiau'r coronafeirws (COVID-19) yn y sector trafnidiaeth ledled Cymru a mynd i'r afael â nhw. Cânt eu hadolygu'n barhaus wrth i'r trefniadau ar gyfer y cyfyngiadau symud eu hunain gael eu hadolygu a'u diwygio wrth i drafnidiaeth gyhoeddus ailddechrau ac yng ngoleuni profiad. 

Argymhellir y dylai pob darparwr trafnidiaeth drosi'r egwyddorion a'r enghreifftiau yn y canllawiau hyn yn gamau gweithredu penodol. Rhaid eu hystyried ochr yn ochr â dyletswyddau cyfreithiol a chanllawiau eraill a gaiff eu llunio gan y llywodraeth a'r rheoleiddiwr trafnidiaeth perthnasol ar gyfer eich sector trafnidiaeth, gan gynnwys asesu effaith y trefniadau ar bobl anabl a'r angen i wneud addasiadau rhesymol yn ogystal ag ystyried effeithiau ar gydraddoldeb, i'r graddau y mae gweithredwyr yn rhwym wrth ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus. 

Dylai darparwyr trafnidiaeth gadw eu rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a chyflogaeth mewn cof. Oherwydd natur integredig y system trafnidiaeth gyhoeddus, mae'n bwysig bod darparwyr trafnidiaeth yn ceisio cydgysylltu eu gwaith cynllunio a'u camau gweithredu â darparwyr eraill. 

Mae canllawiau hefyd yn cael eu rhoi i'r cyhoedd ar sut i deithio'n ddiogel ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Canfod i wybodaeth i yrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat.

Asesiad risg

Diben asesiad risg yw nodi mesurau synhwyrol i reoli'r risgiau yn eich gweithle a'r gwasanaeth rydych yn ei ddarparu. Mae'n hanfodol er mwyn nodi a rheoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â gweithredu trafnidiaeth gyhoeddus yn ddiogel yn gyffredinol ond hefyd er mwyn nodi'r risgiau i deithwyr, cyflogeion a phobl eraill mewn sefyllfaoedd penodol, er enghraifft argyfwng. 

Bydd eich asesiad risg yn eich helpu i benderfynu a ydych wedi mynd i'r afael â'r holl bwyntiau angenrheidiol. Adolygwch eich asesiad risg yn rheolaidd er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn berthnasol ac yn briodol dan amgylchiadau sy'n newid. Rydym yn argymell y dylai eich asesiad risg nodi risgiau o ganlyniad i'r coronafeirws ac y dylech ddefnyddio'r canllawiau hyn er mwyn sicrhau bod eich asesiad risg yn mynd i'r afael â risgiau'r coronafeirws. Bydd yn helpu i lywio eich penderfyniadau a'ch mesurau rheoli. 

Bydd yr holl ofynion iechyd a diogelwch nad ydynt yn gysylltiedig â'r coronafeirws hefyd yn parhau i fod yn gymwys. Gall yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a rheoleiddwyr trafnidiaeth eraill eich helpu i gydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch. Mae dyletswydd ar gyflogwyr i ymgynghori â chyflogeion ynghylch iechyd a diogelwch. Dylai gweithwyr gael eu cynnwys yn y broses o asesu risgiau yn y gweithle a datblygu ac adolygu polisïau iechyd a diogelwch yn y gweithle mewn partneriaeth â'r cyflogwr, gyda chymorth eu hundeb llafur neu sefydliad arall sy'n eu cynrychioli lle bo hynny'n briodol. Dylai cyflogeion gael eu hannog i nodi risgiau a mesurau rheoli, codi llais amdanynt a rhoi adborth arnynt.

Rydym yn argymell y dylech ystyried y pethau canlynol wrth gynnal asesiad risg coronafeirws: 

  • Risgiau i weithwyr, teithwyr, cwsmeriaid a'r cyhoedd ynghyd â'r mesurau rheoli sydd eu hangen 
  • Effaith mesurau rheoli a ph'un a ydynt yn arwain at risgiau ychwanegol neu wahanol, neu at ddiffyg cydymffurfio â gofynion eraill (er enghraifft deddfwriaeth iechyd a diogelwch neu gydraddoldeb)
  • Dilyn yr hierarchaeth mesurau rheoli a nodir yn Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999
  • Ymgynghori â gweithwyr, neu gyrff sy'n cynrychioli gweithwyr a'r cyhoedd 
  • Pa mor weladwy fydd canlyniadau unrhyw asesiad risg

Mae dyletswyddau ar ddarparwyr gwasanaethau i sicrhau y gall unigolion â nodweddion gwarchodedig, er enghraifft pobl anabl, yr henoed a menywod beichiog, ddefnyddio rhwydweithiau trafnidiaeth, yn enwedig os bydd cynlluniau'n cyflwyno trefniadau a fydd yn cael mwy o effaith ar rai pobl nag eraill, er enghraifft, ciwio estynedig. 

Mae'r holl gyfraith cydraddoldeb a gwahaniaethu yn parhau i fod yn gymwys. Mae Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb yn ofyniad cyfreithiol i gyrff cyhoeddus ac yn adnodd defnyddiol i eraill sicrhau y caiff effaith debygol y trefniadau arfaethedig ei hystyried, yn yr un modd ag ymgysylltu â grwpiau gwarchodedig. Dylai gweithredwyr trafnidiaeth geisio sicrhau bod y camau gweithredu a gymerir yn bodloni gofynion grwpiau gwahanol ac nad ydynt yn cael effaith anghymesur ar y rhai â nodweddion gwarchodedig.

Pwy a ddylai fod yn y gwaith

Caiff pobl eu hatal rhag gadael eu cartrefi na bod i ffwrdd o'u cartrefi, oni bai bod ganddynt esgus rhesymol, sy'n cynnwys yr angen i deithio at ddibenion gwaith os nad yw'n rhesymol ymarferol iddynt weithio gartref. Felly, os gall pobl weithio gartref, dylent wneud hynny. Wrth benderfynu pwy a all weithio gartref, gallai sefydliadau ystyried:

  • pwy y mae'n hanfodol iddynt fod ar y safle; er enghraifft, dylai gweithwyr swyddfa weithio gartref os oes modd 
  • y nifer lleiaf o bobl sydd eu hangen mewn cerbydau, ar safle a/neu yn y swyddfa i weithredu'n ddiogel ac yn effeithiol 
  • llesiant y bobl sy'n gweithio gartref a sut i'w helpu i gadw mewn cysylltiad 
  • cadw mewn cysylltiad â gweithwyr oddi ar y safle ynglŷn â'u trefniadau gweithio, gan gynnwys eu lles, eu hiechyd meddwl, eu hiechyd corfforol a'u diogelwch personol
  • darparu cyfarpar er mwyn galluogi pobl i weithio gartref yn ddiogel ac yn effeithiol
  • ystyried pa rolau a thasgau y gellir eu cyflawni gartref a helpu gweithwyr i wneud hyn lle bo modd, er enghraifft, tasgau gweinyddol neu gyfathrebu â chwsmeriaid
  • ailddyrannu tasgau rhwng gweithwyr, er mwyn cynnig mwy o gyfle i weithio gartref 
  • adolygu effaith gwahanol drefniadau gweithio ar weithwyr, a sut i wella'r trefniadau, yn rheolaidd
  • rhoi gwybod i weithwyr ymlaen llaw a fydd angen iddyn deithio ai peidio  
  • a fydd angen gweithwyr cymorth i wneud eu rhwydweithiau trafnidiaeth a'u cerbydau yn hygyrch (er enghraifft, i weithredu rampiau neu lifftiau) 

Diogelu pobl sy'n wynebu mwy o risg:

Gallai sefydliadau ystyried:

Adleoli pobl sy'n agored i niwed yn glinigol i rolau lle y gallant weithio gartref. 

  • os na all unigolion sy'n agored i niwed yn glinigol weithio gartref, dylent hwy a'u cyflogwyr ystyried lefel y risg, ar eu taith i'r gwaith ac yn unol â'r asesiad risg ehangach ar gyfer eu sefyllfa waith, fel y nodir yn y canllawiau i gyflogwyr 
  • petai adleoli yn golygu nad oes digon o bobl ar y safle i gynnal y gweithrediadau, dylid symud gweithwyr sy'n agored i niwed i weithgareddau â risg is lle y byddant fwyaf tebygol o allu cadw 2 fetr i ffwrdd oddi wrth bobl eraill, lle bo modd
  • rhoi cymorth i weithwyr mewn perthynas ag iechyd meddwl a llesiant. Gallai hyn gynnwys arweiniad neu gymorth dros y ffôn, er enghraifft 

Pobl y mae angen iddynt hunanynysu

  • dylai gweithwyr sydd â symptomau'r coronafeirws neu weithwyr sy'n byw ar aelwyd gyda rhywun sy'n arddangos symptomau'r coronafeirws hunanynysu ac aros gartref

Dylai sefydliadau wneud y canlynol: 

  • galluogi pobl i weithio gartref tra byddant yn hunanynysu os yw hynny'n briodol. Gweler y canllawiau cyffredinol i gyflogeion a chyflogwyr sy'n ymwneud â thâl salwch statudol yn sgil y coronafeirws
  • sicrhau bod unigolion yn aros gartref am 7 diwrnod o'r adeg y dechreuodd y symptomau. Ar ôl 7 diwrnod, os nad oes tymheredd uchel nid oes angen parhau i hunanynysu. Os bydd tymheredd uchel o hyd, dylid hunanynysu nes i'r tymheredd ddychwelyd i'r arfer. Os yw'r unigolyn yn byw gyda phobl eraill, a'r unigolyn hwnnw yw’r cyntaf ar yr aelwyd i arddangos symptomau'r coronafeirws, rhaid iddo aros gartref am 7 diwrnod, ond mae’n rhaid i bob aelod arall o’r aelwyd aros gartref a pheidio â gadael y cartref am 14 diwrnod. Mae’r cyfnod 14 diwrnod yn dechrau y diwrnod yr aeth yr unigolyn cyntaf ar yr aelwyd yn sâl 
  • dylid annog gweithwyr i wneud cais am brawf coronafeirws os oes ganddynt symptomau a'u bod yn gymwys i gael un
  • dylid sicrhau bod prosesau ar waith os bydd rhywun sy'n dod i'r gweithle yn arddangos symptomau neu wedi'i heintio

Cadw pellter corfforol, gorchuddion wyneb a chyfarpar diogelu personol (neu PPE)

Cadw pellter corfforol

Nodir gofyniad mewn rheoliadau yng Nghymru i gyflogwyr sicrhau eu bod yn cymryd camau rhesymol i gadw pellter o 2 fetr rhwng pobl yn y gweithle. Nid yw hyn yn gymwys yn ôl y gyfraith i gerbydau ond y cyngor yw y dylid cadw pellter corfforol o 2 fetr mewn cerbydau hefyd. Felly, dylai teithwyr a phobl sy'n gweithio ar y rhwydwaith trafnidiaeth gadw eu pellter oddi wrth bobl y tu allan i'w haelwyd. Po agosaf y byddwch at berson arall sydd â'r feirws, a pho hiraf y byddwch yn ei dreulio mewn cysylltiad agos â'r person hwnnw, y mwyaf fydd y risg o haint. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn argymell y dylid ceisio cadw 2 fetr i ffwrdd oddi wrth bobl, lle bo modd, rhag ofn. Yng Nghymru, mae hyn wedi'i nodi mewn rheoliadau ar gyfer lleoliadau gwaith fel y nodir yn y Cyflwyniad. 

Mae'n ofynnol i gyflogwyr roi pob mesur rhesymol ar gyfer cadw pellter corfforol ar waith mewn safleoedd. Hefyd, dylai cyflogwyr roi cyngor i staff a theithwyr ar ffyrdd o gadw pellter corfforol wrth deithio a chymryd camau ymarferol i hwyluso hyn, er enghraifft rhwystro pobl rhag defnyddio rhai seddi. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd sefyllfaoedd lle y gall hyn fod yn anodd, er enghraifft wrth gyrraedd neu adael y cerbyd, yn ystod gwiriadau diogelwch, ar wasanaethau prysurach, ar adegau prysurach o'r dydd, wrth gerdded drwy gyfnewidfeydd ac wrth wneud gwaith cynnal a chadw lle mae angen dau berson i gyflawni'r dasg. Pan fydd hi'n anodd cadw pellter corfforol, ceisiwch dreulio cyn lleied o amser â phosibl o fewn 2 fetr i bobl eraill, a chadwch grwpiau o weithwyr mewn timau sydd mor fach â phosibl. Er enghraifft, sicrhau bod yr un criwiau cynnal a chadw neu griwiau eraill yn gweithio gyda'i gilydd, yn hytrach na chymysgu aelodau o griwiau ar wahanol sifftiau. Dylai asesiadau risg ystyried y goblygiadau i gadw pellter corfforol ar gyfer gwahanol senarios a all ddigwydd yn yr amgylchedd trafnidiaeth. 
 
Gallai sefydliadau ystyried: 

  • creu un dull clir o gadw pellter corfforol i'r holl weithwyr a theithwyr, a chytuno arno 
  • cytuno ar reolau clir i weithwyr a theithwyr sy'n cydymffurfio â'r canllawiau cadw pellter corfforol, a chynnal y rheolau hynny
  • rheolau clir ar gyfer rhyngweithio â theithwyr, derbyn nwyddau, a phrofi cyfarpar. 
  • cefnogi gweithwyr unigol sy'n dewis defnyddio gorchuddion wyneb mewn sefyllfaoedd lle nad oes modd cadw pellter corfforol
  • trefnu'r man gweithio a'r ffordd y bydd pobl yn gweithio mewn un lle er mwyn dilyn canllawiau cadw pellter corfforol, er enghraifft 
  • cadw mannau gweithio 2 fetr i ffwrdd oddi wrth ei gilydd lle bo modd
  • defnyddio sgriniau neu rwystrau
  • cael gwared ar seddi sy'n wynebu ei gilydd, er enghraifft, newid i ddull ‘meinciau’
  • ail-leoli mannau gweithio er mwyn sicrhau'r trefniadau awyru gorau posibl
  • lleihau nifer y bobl sy'n defnyddio mannau lle bydd grwpiau'n rhyngweithio, gan gynnwys mannau a rennir â sefydliadau eraill
  • addasiadau ar gyfer pobl ag anghenion penodol neu nodweddion gwarchodedig, er enghraifft pobl anabl, yr henoed a menywod beichiog. Ystyried grwpiau o bobl sy'n prosesu gwybodaeth yn wahanol neu na allant gadw pellter oddi wrth bobl eraill o bosibl

Gorchuddion wyneb a chyfarpar diogelu personol

Cyhoeddodd Prif Swyddog Meddygol Cymru ddatganiad ar 12 Mai ynglŷn â gorchuddion wyneb a chyfarpar diogelu personol.

Gall fod dryswch rhwng yr angen i gael cyfarpar diogelu personol manyleb uwch sy'n bodoli, er enghraifft, mewn lleoliadau gofal iechyd a lleoliadau tebyg, a mathau eraill o gyfarpar diogelu fel gorchuddion wyneb mewn lleoliadau anghlinigol. Ni ddylai gweithleoedd annog defnydd diangen o gyfarpar diogelu personol manyleb uwch i ddiogelu rhag y coronafeirws y tu allan i leoliadau clinigol. Fodd bynnag, dylai cyflogwyr fynd ati'n ofalus i gynnal asesiad risg o'r lefel briodol o gyfarpar diogelu y gall fod ei hangen mewn unrhyw sefyllfa benodol, ar y cyd â'u cyflogeion. Gall y gofynion amrywio o un sefyllfa i'r llall o fewn y rhwydwaith trafnidiaeth. 

Lle rydych eisoes yn defnyddio cyfarpar diogelu personol yn eich gweithgarwch gwaith i ddiogelu rhag risgiau nad ydynt yn gysylltiedig â COVID-19, dylech barhau i wneud hynny. 

Ceir rhai amgylchiadau lle y gall fod yn fuddiol gwisgo gorchudd wyneb rhag ofn, er enghraifft, gall ddiogelu eraill os ydych wedi'ch heintio ond nad ydych wedi datblygu symptomau eto. Nid yw gorchudd wyneb yr un peth â'r mygydau llawfeddygol neu'r anadlwyr a ddefnyddir gan weithwyr gofal iechyd a gweithwyr eraill fel rhan o'u cyfarpar diogelu personol. Dylid parhau i gadw cyfarpar diogelu personol ar gyfer y rhai y mae angen iddynt ei ddefnyddio i ddiogelu rhag risgiau yn eu gweithleoedd, megis gweithwyr iechyd a gofal a'r rhai mewn lleoliadau diwydiannol, fel y rhai a ddaw i gysylltiad â pheryglon llwch. 

Mae gwisgo gorchudd wyneb yn ddewisol ac nid yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Os bydd gweithwyr yn dewis gwisgo gorchuddion wyneb, mae'n bwysig eu defnyddio'n gywir a golchi eu dwylo cyn eu gwisgo a'u tynnu. Hefyd, mae'n bwysig peidio â chael ymdeimlad ffug o sicrwydd wrth ddefnyddio gorchudd wyneb: mae hylendid, golchi dwylo a defnyddio glanweithydd dwylo a chadw pellter o 2 fetr yn bwysig o hyd. 

Gorchuddion wyneb

Ddydd Gwenr 5 Mehefin rhoddodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) y cyngor diweddaraf ar orchuddion wyneb nad ydynt yn feddygol. Mae yn amlwg nad yw’r defnydd cyffredinol o orchuddion wyneb nad ydynt yn feddygol gan bobl iach yn cael ei gefnogi ar hyn o bryd o fewn y gymuned.   

Fodd bynnag roedd WHO yn argymell bod llywodraethau yn annog y cyhoedd i ddefnyddio gorchuddion wyneb 3 haen nad ydynt yn feddygol mewn amgylchiadau penodol ble nad oedd mesurau eraill mwy effeithiol yn bosibl.   

Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn y cyngor hwn ac yn argymell bod pobl yng Nghymru yn gwisg gorchuddion wyneb 3 haen mewn sefyllfaoedd ble nad yw pellter corfforol yn bosibl. Yr enghraifft amlycaf yw trafnidiaeth gyhoeddus ble y mae capasiti o dros 15% yn debygol o olygu nad yw cadw pellter corfforol yn bosibl.  

Gallai gorchudd wedi’i wneud gartref neu sydd wedi ei brynu leihau’r trosglwyddiad o un person i’r llall os yw wedi ei wneud, ei drin a’i drafod a’i waredu yn iawn. Mae’n bosibl golchi rhai goruchddion wyneb a’u hailddefnyddio. 

Mae hyn ond yn berthnasol i bobl nad ydynt yn symptomatig. Mae’n rhaid i bobl sydd yn symptomatig barhau i hunan-ynysu am saith diwrnod ac yna gael eu profi.   

Peidiwch â gadael i orchudd wyneb wneud ichi deimlo yn rhy ddiogel.  Nid yw gwisgo gorchudd wyneb yn esgus am anwybyddu mesurau pellter corfforol.  Mae cadw pellter corfforol ble bynnag y mae’n bosibl yn ddull mwy effeithiol na gwisgo gorchudd wyneb, ond gallai y ddau gyda’i gilydd fod o fudd ble nad yw pellter corfforol yn bosibl.  

Mae’n bwysig defnyddio gorchuddion wyneb yn iawn a golchi dwylo cyn eu gosod neu eu tynnu i ffwrdd.  Ac mae’n bwysig peidio â theimlo yn rhy ddiogel wrth ddefnyddio gorchudd wyneb: ac mae hylendid, golchi dwylo a defnyddio hylif diheintio dwylo a chadw at y pellter o 2 fetr yn parhau i fod yn bwysig.  

Os bydd gweithwyr yn dewis defnyddio gorchuddion wyneb, dylech eu helpu i'w defnyddio'n ddiogel. Er enghraifft: 

  • golchwch eich dwylo yn drylwyr â sebon a dŵr am 20 eiliad neu defnyddiwch lanweithydd dwylo cyn gwisgo gorchudd wyneb ac ar ôl ei dynnu 
  • tra byddwch yn gwisgo gorchudd wyneb, dylech osgoi cyffwrdd â'ch wyneb neu'ch gorchudd wyneb, oherwydd gallech eu halogi â germau o'ch dwylo 
  • newidiwch eich gorchudd wyneb os bydd yn mynd yn llaith 
  • parhewch i olchi eich dwylo'n rheolaidd 
  • newidiwch a golchwch eich gorchudd wyneb yn ddyddiol os oes modd ei ailddefnyddio 
  • os oes modd golchi'r deunydd, golchwch ef yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwr. Os nad oes modd ei olchi, taflwch ef gyda'ch gwastraff arferol 
  • cadwch bellter corfforol

Cynllunio'r gweithlu

Diogelu gweithwyr sy'n cyrraedd ac yn gadael y gweithle

Wrth gyrraedd a gadael y gweithle, gall fod adegau pan fydd gweithwyr yn yr un lle neu'n defnyddio mynedfeydd ac allanfeydd ar yr un pryd. Dylech ystyried cyfleoedd i leihau risg yn y sefyllfaoedd hyn.

Gallai sefydliadau ystyried: 

  • gwasgaru amseroedd cyrraedd a gadael yn y gwaith lle bo modd er mwyn lleihau nifer y bobl ar lwybrau i mewn ac allan o'r gweithle 
  • lleihau ciwiau, er enghraifft drwy gael rhagor o fynedfeydd i'r gweithle 
  • darparu mwy o le storio i weithwyr ar gyfer eu dillad a'u bagiau 
  • rheoli ciwiau, er enghraifft drwy ddefnyddio marciau ar y llawr, arwyddion a chyflwyno llif unffordd mewn mynedfeydd ac allanfeydd, gan ystyried yr effaith ar fannau cyhoeddus a chydweithio â gweithredwyr eraill ac awdurdodau lleol 
  • glanweithdra dwylo wrth fynedfeydd ac allanfeydd yr adeilad a pheidio â defnyddio dyfeisiau diogelwch sy'n seiliedig ar gyffwrdd (fel bysellbadiau)
  • adolygu mynedfeydd a gofynion mynediad yn y gweithle (er enghraifft dadactifadu giatiau tro lle mae angen dangos cerdyn o blaid dangos cerdyn i bersonél diogelwch o bellter). Mae angen i sefydliadau wneud yn siŵr bod gwiriadau amgen yn cynnig yr un lefel o ddiogelwch 
  • cyfyngu ar nifer y teithwyr mewn cerbydau busnes (er enghraifft, minibysiau), gan adael seddi'n wag 
  • cydweithio â sefydliadau eraill sy'n rhannu'r safle er mwyn sicrhau bod cyn lleied â phosibl o bobl ar y safle 
  • clustnodi grwpiau penodedig o weithwyr ar gyfer yr un llwybrau cludiant lle nad oes modd iddynt deithio ar eu pen eu hunain 
  • darparu cyfleusterau diogel ychwanegol i redwyr/cerddwyr/beicwyr yn ogystal â dulliau eraill o deithio fel bysiau preifat 

Diogelu gweithwyr yn y gweithle 

Lle na all gweithwyr weithio gartref, dylech gymryd camau rhesymol i leihau trosglwyddiad o ganlyniad i ryngweithio wyneb yn wyneb a'u galluogi i gadw pellter cymdeithasol yn y gweithle. Mae hyn yn cynnwys cymryd camau rhesymol i gydymffurfio â'r gofyniad pellter 2 fetr a nodir yn y Rheoliadau.
 
Gallai sefydliadau ystyried: 

  • gwneud cynlluniau teithio ar gyfer y gweithlu cyn i'r gweithwyr ddychwelyd i'r gwaith 
  • cyn belled ag y bo modd, lle y caiff gweithwyr eu rhannu'n dimau neu'n grwpiau sifft, cadw'r timau neu'r grwpiau sifft hyn yr un peth bob tro fel bod unrhyw gyswllt na ellir ei osgoi yn digwydd rhwng yr un bobl 
  • lle nad oes patrymau sifftiau eisoes ar waith, cyflwyno'r rhain er mwyn galluogi mwy o weithwyr i weithio yn ystod cyfnod o 24 awr gan sicrhau bod cyn lleied o weithwyr â phosibl ar y safle ar unrhyw adeg benodol
  • nodi adegau pan fydd yn rhaid i bobl roi pethau i'w gilydd o law i law (er enghraifft dogfennau, rhannau sbâr, cargo, deunyddiau crai) neu rannu offer/cyfarpar, a chwilio am ffyrdd o gael gwared ar gyswllt uniongyrchol drwy ddefnyddio mannau gollwng neu ardaloedd trosglwyddo 
  • defnyddio offer gweithio o bell er mwyn osgoi cwrdd â llawer o bobl 
  • os bydd cyfarfodydd yn angenrheidiol, cadw pawb sy'n bresennol 2 fetr ar wahân, sicrhau nad ydynt yn rhannu gwrthrychau, fel peniau a phapur, a sicrhau bod glanweithydd dwylo o fewn cyrraedd. 
  • defnyddio dulliau digidol o roi gwybod am batrymau sifftiau 
  • gwasgaru amseroedd egwyl er mwyn lleihau'r pwysau ar ystafelloedd egwyl neu ffreuturau 
  • clustnodi ardaloedd tu allan fel ardaloedd cyffredin os yw'n ddiogel gwneud hynny 
  • creu lle ychwanegol o rannau eraill o'r safle gwaith neu'r adeilad sy'n rhydd oherwydd trefniadau gweithio o bell 
  • defnyddio sgriniau diogelu ar gyfer gweithwyr yn y dderbynfa neu mewn ardaloedd tebyg 
  • defnyddio pecynnau bwyd neu drefniadau tebyg er mwyn osgoi agor ffreuturau 
  • ad-drefnu'r seddi a'r byrddau er mwyn gwneud y gorau o'r lle sydd ar gael a lleihau sefyllfaoedd wyneb yn wyneb 

Gallai sefydliadau hefyd ystyried: 

  • annog gweithwyr i aros ar y safle yn ystod oriau gwaith 
  • defnyddio tâp neu baent ar y llawr i nodi ardaloedd er mwyn helpu'r gweithwyr i gadw pellter o 2 fetr 
  • osgoi defnyddio desgiau poeth lle bo modd. Fel arall, glanhau gweithfannau a chyfarpar a rennir rhwng defnyddwyr gwahanol 
  • cyfyngu ar y defnydd o eitemau y cyffyrddir â nhw yn aml a chyfarpar swyddfa a rennir (er enghraifft, peiriannau argraffu a byrddau gwyn) 
  • dim ond y bobl y mae'n hanfodol iddynt fod mewn cyfarfodydd a ddylai wneud hynny 
  • darparu glanweithydd dwylo mewn mannau gweithio 
  • cyfyngu ar gylchdroi tasgau a lleoliadau 
  • diweddaru hyfforddiant cymorth cyntaf.

Ciwiau a diogelu llifoedd teithwyr

Diogelu llifoedd teithwyr

Er mwyn diogelu teithwyr a gweithwyr ar y rhwydwaith trafnidiaeth, mae'n hanfodol galluogi pobl i gadw pellter corfforol, cyn belled ag y bo modd. Mae'n ofyniad statudol yng Nghymru i bobl sy'n gyfrifol am waith gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y caiff pellter o 2 fetr ei gadw rhwng pobl ar safleoedd lle y caiff gwaith ei wneud. Felly, dylai'r mesurau hyn gwmpasu gwahanol fathau o weithle, gan gynnwys meysydd parcio, ardaloedd gwasanaethau, gorsafoedd bysiau, cynteddau a phlatfformau gorsafoedd yn ogystal ag ystyried sut y bydd pobl yn ymddwyn dan amgylchiadau gwahanol (er enghraifft, ystyried tywydd gwlyb, dan do, yn yr awyr agored, gweithdrefnau diogelwch). 

Nid yw cerbydau, gan gynnwys bysiau a cherbydau trên, yn cyfrif fel ‘safleoedd’ at ddiben y rheoliadau yng Nghymru ond, serch hynny, mae gweithredwyr trafnidiaeth yn dal i fod yn ddarostyngedig i ddyletswyddau cyfreithiol eraill a dylent geisio dilyn y rheol cadw pellter o 2 fetr er mwyn sicrhau diogelwch y staff a'r teithwyr. 

Hefyd, cynghorir gweithredwyr trafnidiaeth i ystyried a lliniaru goblygiadau diogelwch unrhyw ymyriadau dros dro a wneir er mwyn helpu i gadw pellter corfforol. 

Hefyd, cynghorir gweithredwyr trafnidiaeth i ystyried a lliniaru goblygiadau diogelwch unrhyw ymyriadau dros dro a wneir er mwyn helpu i gadw pellter corfforol. 

Dylid rhoi sylw penodol i giwiau a all ddigwydd, gan gynnwys mewn cyfnewidfeydd ac ar adegau prysur o'r dydd, neu pan fydd oedi annisgwyl. Mae'n bwysig bod teithwyr yn gallu ciwio'n ddiogel (gan gadw pellter corfforol pan fo modd) a bod gweithwyr yn cadw'n ddiogel wrth i deithwyr giwio. 

Cofiwch y gall gwahanol fesurau i reoli ciwiau a diogelu llifoedd teithwyr gael effaith wahanol ar bobl ag anghenion penodol, er enghraifft pobl anabl, ac y gall fod angen cymorth arbennig arnynt i'w galluogi i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a chael gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael.

Gallai sefydliadau ystyried 

Cyfathrebu: 

  • arddangos negeseuon ac arwyddion a gwneud cyhoeddiadau er mwyn annog pobl i beidio â mynd ar deithiau nad ydynt yn hanfodol ac i ddweud y dylai pobl weithio gartref lle bo modd 
  • hyrwyddo dulliau llesol eraill o deithio (er enghraifft cerdded a beicio) neu dechnegau eraill i reoli galw 
  • cyfathrebu â theithwyr drwy'r cyfryngau cymdeithasol a thrwy wefannau er mwyn eu helpu i baratoi eu teithiau a gwybod beth i'w ddisgwyl 
  • gwneud yn siŵr bod gwybodaeth ar gael ac yn hawdd ei deall i bobl â nam ar eu clyw, pobl â nam ar eu golwg, pobl heb fynediad at gyfryngau electronig neu bobl nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf 

Cynllunio: 

  • gall unrhyw un na all weithio gartref y mae angen iddo deithio i'r gwaith ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus os oes angen ond dylai ystyried defnyddio dulliau eraill o deithio fel beicio neu gerdded os oes modd 
  • cynllunio ar y cyd â sefydliadau trafnidiaeth eraill mewn cyfnewidfeydd trafnidiaeth er mwyn sicrhau dulliau gweithredu cyson 
  • nodi ardaloedd lle y ceir mwy o risg o dagfeydd neu dorfeydd am fod llai o gapasiti oherwydd gofynion cadw pellter corfforol a nodi mesurau lliniaru ar y cyd â gweithredwyr eraill ac awdurdodau lleol. Dilyn canllawiau ar leoedd cyhoeddus ac ystyried trefniadau y gall fod angen i siopau a busnesau eraill eu gwneud ar gyfer eu hamgylchiadau a'r ffordd y bydd y cynlluniau hyn yn rhyngweithio â'i gilydd 
  • nodi ymlaen llaw ardaloedd lle y gall ciwiau ddigwydd. Yn yr ardaloedd hyn ac mewn ardaloedd cyfagos, ystyried seilwaith ffisegol, arwyddion i deithwyr, arwyddion diogelwch ar y ffyrdd, negeseuon a mesurau rheoli eraill er mwyn sicrhau ciwio diogel. Er enghraifft, gallai gweithredwyr gyflwyno marciau ar y llawr, arwyddion a llif unffordd mewn mynedfeydd ac allanfeydd 
  • rhoi canllawiau i weithwyr sy'n helpu pobl â nodweddion gwarchodedig, er enghraifft pobl anabl, yr henoed a menywod beichiog yn ciwio am amser hir 
  • ar gyfer chwiliadau diogelwch, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn argymell y dylid gofyn i deithwyr a oes ganddynt beswch cyson, newydd neu dymheredd uchel cyn dechrau cynnal y chwiliad. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn argymell y dylai staff ystyried gwisgo menig i gynnal pob chwiliad a golchi eu dwylo mor aml â phosibl 

Rheoli torfeydd: 

  • Ystyried a ellir symud ciwiau i leoliadau â mwy o le i giwio'n ddiogel. Cydgysylltu fel y bo'n briodol â chyrff eraill (fel gweithredwyr trafnidiaeth eraill, landlordiaid ac awdurdodau lleol) er mwyn rheoli ciwiau, ac unrhyw effaith ar fannau cyhoeddus, yn ddiogel. Ystyried sut i roi gwybodaeth am y gwasanaeth i deithwyr a defnyddwyr y gwasanaeth 
  • Os bydd gwasanaethau, cynteddau neu gyfnewidfeydd yn mynd yn orlawn, neu os bydd ciwiau'n mynd yn rhy hir, dylai gweithredwyr ystyried yr ystod lawn o ymatebion gweithredol sydd ar gael, gan gydnabod yr effeithiau canlyniadol ar ddulliau eraill o deithio wrth wneud y penderfyniadau hyn 
  • Defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, apiau a dulliau digidol eraill i rybuddio teithwyr cyn iddynt adael eu cartrefi, ac er mwyn helpu teithwyr i gadw draw neu wasgaru nes bod digon o gapasiti ar gael 

Cadw pellter corfforol mewn cerbydau ac mewn ardaloedd gwasanaethau, safleoedd a gorsafoedd bysiau a threnau, porthladdoedd a meysydd awyr:

  • ad-drefnu seddi, cyfyngu arnynt neu gael gwared arnynt er mwyn ceisio sicrhau y cedwir pellter corfforol ac y gellir eu glanhau'n rheolaidd gan ddefnyddio rota neu ddull tracio arall. Gall hyn gynnwys: rhwystro pobl rhag defnyddio seddi sy'n agos at y gyrrwr neu weithwyr a theithwyr eraill, cael gwared ar seddi wyneb yn wyneb, sicrhau cymaint o wahanu â phosibl, er enghraifft drwy eistedd yn y sedd gefn chwith mewn car
  • defnyddio tâp, arwyddion neu baent ar y llawr mewn ardaloedd i deithwyr er mwyn helpu pobl i gadw 2 fetr ar wahân
  • defnyddio sgriniau er mwyn creu rhwystr ffisegol rhwng pobl lle bo hynny'n briodol, er enghraifft mewn swyddfeydd tocynnau 
  • cyflwyno mwy o lif unffordd drwy ardaloedd ac wrth ymyl cerbydau 
  • ailystyried y nifer mwyaf o bobl a gaiff ddefnyddio lifftiau a ffyrdd o weithredu lifftiau 
  • gwneud trefniadau ar gyfer monitro cydymffurfiaeth er mwyn helpu i gynllunio ymhellach (er enghraifft, penodi swyddogion cadw pellter corfforol fel mewn archfarchnadoedd) 
  • cadw mewn cof anghenion penodol gweithwyr a theithwyr sydd â nodweddion gwarchodedig, er enghraifft pobl anabl, yr henoed a menywod beichiog yn ciwio am amser hir

Gofynion Cyfreithiol a Gorfodi: cadw pellter corfforol a chynulliadau

Nid yw'r gofyniad yn Rheoliadau'r Coronafeirws yng Nghymru i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau pellter o 2 fetr rhwng pobl ar safleoedd yn gymwys i gerbydau (gan nad ydynt yn “safleoedd” yn ôl y rheoliadau) ond mae'r gofyniad hwn yn gymwys i leoedd eraill lle y caiff gwaith ei wneud. O ganlyniad i hynny, mae'n gymwys mewn gorsafoedd trenau, gorsafoedd bysiau a meysydd awyr, er enghraifft. Gall cyngor ychwanegol gael ei roi gan staff trafnidiaeth a phobl eraill a gyflogir at y diben hwn, fel y bydd llawer ohonom wedi gweld mewn archfarchnadoedd lle y caiff mesurau cadw pellter cymdeithasol eu rheoli'n effeithiol. 

Mae'r cyfyngiad ar gynulliadau mewn lle cyhoeddus o fwy na dau berson yn gymwys mewn unrhyw le cyhoeddus. Nid bwriad y rheoliadau yw gwneud ciwio am fws, er enghraifft, yn anghyfreithlon, ond mae angen i'r cyhoedd fod yn glir ynghylch eu cyfrifoldeb i gadw pellter corfforol dan yr amgylchiadau hyn. 

At hynny, mae gan gyflogwyr ddyletswydd gyffredinol i'w gweithwyr o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith. Bydd hyn yn fwy perthnasol i staff yn y system trafnidiaeth gyhoeddus wrth i'r galw gynyddu. 

Argyfyngau

Gweithdrefnau brys

Sicrhewch fod eich gweithdrefnau brys yn glir ac y cânt eu dilyn yn ystod argyfwng neu sefyllfa lle mae angen gwacáu'r safle. Dylech ystyried sut i gadw pellter corfforol yn y sefyllfaoedd hyn, gan gydnabod na fydd pobl yn gallu cadw 2 fetr ar wahân bob amser o bosibl. Adolygwch a diweddarwch y cynlluniau ciwio, y cynlluniau rheoli torfeydd a'r cynlluniau argyfwng cyfredol a'r sefyllfaoedd pan gaiff y rhain eu rhoi ar waith. 

Beth i'w wneud os bydd rhywun yn datblygu symptomau'r coronafeirws mewn lleoliad trafnidiaeth 

Os bydd unrhyw un yn mynd yn sâl gan arddangos symptomau'r coronafeirws mewn lleoliad trafnidiaeth, dylid ei anfon adref a'i gynghori i ddilyn y canllawiau hunanynysu

Os bydd angen cyngor clinigol ar yr unigolyn, dylai fynd ar-lein i GIG 111 Cymru (neu ffonio 111 os nad oes ganddo fynediad i'r rhyngrwyd). Mewn argyfwng, ffoniwch 999 os bydd yr unigolyn yn ddifrifol wael, os bydd wedi'i anafu'n ddifrifol neu os bydd ei fywyd mewn perygl. Ni ddylai fynd i at y meddyg teulu, i fferyllfa, i ganolfan gofal brys nac i ysbyty.

Glanhau

Dylid canolbwyntio'n arbennig ar fannau cyffwrdd (er enghraifft botymau i agor drysau a chanllawiau) ym mhob rhan o'r rhwydwaith trafnidiaeth fel mannau i'w glanhau'n amlach.

Dylai sefydliadau ddilyn canllawiau ar lanhau a gwaredu gwastraff a rhoi protocolau glanhau ar waith er mwyn cyfyngu ar drosglwyddiad y coronafeirws ac ystyried pwy fydd yn cyflawni'r gweithgarwch glanhau. 

Glanhau cyn cynyddu capasiti neu ailagor 

Dylai sefydliadau sicrhau y caiff unrhyw safle neu leoliad sydd wedi bod ar gau neu wedi'i gadw ar agor yn rhannol yn ystod pandemig y coronafeirws ei asesu ac y caiff camau priodol eu cymryd i baratoi ar gyfer ailddechrau gweithredu neu barhau i weithredu. 

Dylai sefydliadau ystyried iechyd a diogelwch a rhwymedigaeth cyfreithiol eraill a allai gynnwys: 

  • Cynnal asesiad o amgylchedd gwaith ar gyfer pob safle sydd wedi bod ar gau cyn ailddechrau gweithio 
  • Dilyn gweithdrefnau glanhau, darparu glanweithydd dwylo, addasu trefniadau awyru cyn ailddechrau gweithio 
  • Defnyddio systemau Gwresogi, Awyru ac Aerdymheru a/neu agor ffenestri a drysau er mwyn hybu prosesau awyru, lle bo hynny'n bosibl ac yn ymarferol 
  • Diffinio a chyfleu gweithdrefnau cyson ar gyfer glanhau arferol a thrwyadl 

Cadw ardaloedd cyhoeddus a phreifat a dulliau o deithio yn lân 

Cadw ardaloedd cyhoeddus a phreifat a cherbydau yn lân ac atal trosglwyddiad y coronafeirws o ganlyniad i gyffwrdd ag arwynebau halogedig. 

Dylai sefydliadau ystyried:

  • nodi ardaloedd â mwy o risg fel ardaloedd y bydd pobl yn cyffwrdd â nhw yn fwy rheolaidd 
  • cyflenwi cynhyrchion priodol ar gyfer glanhau'n rheolaidd a gwneud yn siŵr bod trefniadau gwaredu digonol ar waith ar gyfer cynhyrchion glanhau a ddefnyddiwyd 
  • glanhau gwrthrychau ac arwynebau y bydd pobl yn cyffwrdd â nhw yn rheolaidd (fel dolenni drysau, canllawiau a pheiriannau tocynnau) yn amlach nag arfer gan ddefnyddio cynhyrchion glanhau priodol 
  • clirio mannau gweithio, cael gwared ar wastraff a'i waredu'n briodol a chael gwared ar eiddo pobl o'r ardal waith ar ddiwedd pob sifft 
  • glanhau'r holl fannau gweithio, cerbydau a rennir, offer llaw, rheolyddion, peiriannau a chyfarpar ar ôl iddynt gael eu defnyddio a rhwng pob sifft a defnyddiwr
  • annog lleihad mewn prosesau papur a defnyddio dulliau cyfathrebu digidol yn eu lle pan fo modd 
  • annog gweithwyr i olchi eu dwylo cyn mynd i mewn i gerbydau 
  • cadw digon o lanweithydd dwylo/weips mewn cerbydau er mwyn galluogi gweithwyr i olchi eu dwylo ar ôl pob taith ac ar ôl danfon neu ollwng nwyddau neu deithwyr
  • defnyddio weips i lanhau pympiau tanwydd cyn ac ar ôl iddynt gael eu defnyddio 
  • glanhau allweddi cerbydau cyn ac ar ôl i bobl afael ynddynt 
  • glanhau ardaloedd gwaith yn rheolaidd ac yn unol â'r canllawiau cyhoeddedig 

Lle bo modd, dylai gweithredwyr trafnidiaeth ddefnyddio cynhyrchion glanhau a fydd yn lladd feirws COVID-19, megis y rhai a weithgynhyrchir yn unol â Safon Brydeinig BS EN 1276 neu BS EN 13697

Glendid – golchi dwylo, cyfleusterau glanweithdra, toiledau a chawodydd

Er mwyn helpu gweithwyr a theithwyr i gynnal hylendid da, gallai sefydliadau ystyried:

  • defnyddio arwyddion a negeseuon i godi ymwybyddiaeth o dechneg golchi dwylo da ac ymddygiadau hylendid eraill, er enghraifft mewn perthynas â pheswch a thisian 
  • darparu tywelion papur mewn cyfleusterau golchi dwylo 
  • darparu digon o lanweithydd dwylo ar y safle yn ogystal ag ystafelloedd ymolchi, ac i'r rhai sy'n gweithio i ffwrdd o gyfleusterau golchi dwylo 
  • trefnu cyfleusterau toiled a chawod mewn ffordd sy'n sicrhau y cânt eu cadw'n lân, gan gadw pellter cymdeithasol lle bo modd a dilyn arferion gorau golchi dwylo bob tro ar ôl eu defnyddio 
  • cadw digon o lanweithydd dwylo/weips mewn cerbydau lle bo hynny'n ymarferol ac yn ddiogel i deithwyr eu defnyddio ar ddechrau a diwedd eu teithiau
  • sicrhau y caiff cyfleusterau a ddefnyddir yn helaeth eu glanhau'n amlach 
  • cadw cawodydd ac ystafelloedd newid ar gau nes bod canllawiau clir ar eu defnyddio a'u glanhau wedi'u pennu 
  • defnyddio toiledau cludadwy cyn lleied â phosibl 
  • darparu mwy o gyfleusterau gwastraff a chasglu a gwaredu sbwriel yn amlach

Awyru

Dylai sefydliadau ystyried sut i wella prosesau awyru a llif aer. Lle bo modd, dylai gweithredwyr trafnidiaeth a busnesau sicrhau bod cyflenwad o awyr iach yn llifo'n gyson drwy gerbydau, canolfannau trafnidiaeth a swyddfeydd. 

Er mwyn cyflawni hyn, gallai sefydliadau ystyried: 

  • aerdymheru. Nid oes angen addasu'r rhan fwyaf o systemau aerdymheru. Fodd bynnag, lle bo systemau'n gwasanaethu sawl adeilad neu os nad ydych yn siŵr, gellid ceisio cyngor gan beirianwyr gwresogi, awyru ac aerdymheru 
  • gall systemau awyru sy'n defnyddio awyr iach weithredu yn ôl yr arfer, ond gall fod angen gwneud addasiadau i systemau sy'n ailgylchu aer, gan gynnwys mewn cerbydau, er mwyn cynyddu llif awyr iach 
  • hidlo Aer Gronynnol Effeithlonrwydd Uchel 
  • agor drysau a ffenestri lle bo hynny'n bosibl ac yn ddiogel 

Cyfathrebu a hyfforddiant

Dylai gweithredwyr trafnidiaeth roi gwybod i weithwyr a theithwyr am y gweithdrefnau diogelwch diweddaraf sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws. Dylai sefydliadau rannu canllawiau diweddaraf y llywodraeth â phob gweithiwr a threfnu sesiynau hyfforddi ar sut i weithio neu ryngweithio'n ddiogel â chydweithwyr a'r cyhoedd. Dylai gweithredwyr a busnesau ystyried yn ofalus y ffyrdd gorau o rannu cyngor ar sut i deithio'n ddiogel a chanllawiau cadw pellter cymdeithasol â theithwyr. 

Ar gyfer gweithwyr, gallai sefydliadau ystyried: 

  • ymgysylltu â gweithwyr drwy undebau, cynghorau gwaith a chyrff eraill gweithwyr er mwyn esbonio unrhyw newidiadau i drefniadau gwaith a chytuno arnynt yn gyflym 
  • rhoi gwybod i weithwyr ymlaen llaw a fydd angen iddyn deithio ai peidio, gan sicrhau lle bo modd y bydd gweithwyr yn parhau i weithio gartref 
  • cyfathrebu'n glir ac yn rheolaidd er mwyn gwella dealltwriaeth a chysondeb o'r ffordd y caiff ffyrdd o weithio eu rhoi ar waith 
  • deunyddiau cyfathrebu a hyfforddi ar weithdrefnau newydd. Mae'n bosibl y bydd angen cyflwyno rhai o'r rhain ar-lein er mwyn cadw pellter cymdeithasol rhwng gweithwyr 
  • defnyddio posteri a chyhoeddiadau er mwyn atgoffa gweithwyr i olchi eu dwylo'n aml a dilyn cyngor hylendid cyffredinol 
  • ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd meddwl ar adegau o ansicrwydd, a rhoi ffocws arno 
  • defnyddio dulliau cyfathrebu gweledol a digidol (er enghraifft byrddau gwyn, arwyddion, gwefannau, mewnrwydi, negeseuon e-bost) i esbonio newidiadau i amserlenni, methiannau, prinder deunyddiau heb fod angen cyfathrebu wyneb yn wyneb 
  • dylech feddwl am y ffordd y gallwch drefnu eich ardal waith er mwyn ichi allu cadw pobl 2 fetr ar wahân, lle bo modd 
  • ar gyfer teithwyr, gallai sefydliadau ystyried: 
  • cyfathrebu â theithwyr drwy'r cyfryngau cymdeithasol a thrwy wefannau er mwyn eu helpu i baratoi eu teithiau a gwybod beth i'w ddisgwyl 
  • rhoi gwybodaeth i deithwyr am amserlenni, amseroedd disgwyliedig teithiau, capasiti disgwyliedig (gan ystyried cadw pellter cymdeithasol), achosion o oedi a newidiadau i lwybrau arferol 
  • defnyddio posteri a chyhoeddiadau er mwyn atgoffa teithwyr i olchi eu dwylo'n aml a dilyn cyngor hylendid cyffredinol 
  • annog pobl i brynu tocynnau ar-lein 
  • arwyddion a chyhoeddiadau er mwyn helpu teithwyr i ddeall yr hyn y mae angen iddynt ei wneud i deithio'n ddiogel a chadw pellter cymdeithasol wrth gyrraedd neu adael safle neu gerbyd, drwy ymgynghori â gweithredwyr eraill ac awdurdodau lleol ar gyfer priffyrdd cyhoeddus a ffyrdd agored. 
  • gwybodaeth am ddarpariaeth ac unrhyw newidiadau i wasanaethau cymorth ar gyfer pobl â nodweddion gwarchodedig, er enghraifft pobl anabl, yr henoed a menywod beichiog yn ciwio am amser hir, a sut y gallant barhau i ddefnyddio trafnidiaeth mewn ffordd ddiogel 
  • defnyddio negeseuon syml, clir a hawdd eu deall i esbonio canllawiau, gan ddefnyddio delweddau ac iaith glir ac ystyried grwpiau nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf o bosibl neu lle y gall fod angen fformatau eraill 
  • rhoi gwybodaeth glir i'r cyhoedd am y ffordd y caiff y canllawiau hyn eu rhoi ar waith

Teithio ar draws ffiniau

Os ydych yn teithio ar draws ffiniau o fewn y DU, yn enwedig rhwng Cymru a Lloegr, cofiwch gadw at a dilyn y rheoliadau a’r canllawiau teithio allai fodoli mewn gwahanol wledydd yn y DU gan sicrhau eich bod yn cymryd y rhagofalon angenrheidiol ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Teithio rhyngwladol

Os oes yn rhaid ichi deithio dramor, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar gyngor diweddaraf y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) (ar GOV.UK) cyn teithio.  Gofynnwch am reolau penodol eich cwmni awyrennau, fferi neu drên am bob llwybr neu gyrchfan.  

Cofiwch y gallai rheolau cwarantin fod yn berthnasol ichi

Rhannu’r dudalen hon