Neidio i'r prif gynnwy

Dr Frank Atherton yn cadarnhau bod ail berson yng Nghymru wedi marw ar ôl dal COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton:

Mae’n ddrwg iawn gennyf gadarnhau’r newyddion trist bod ail glaf yng Nghymru a oedd wedi cael prawf positif ar gyfer COVID-19 wedi marw. Hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau’r unigolyn a gofynnaf i’w dymuniad nhw am breifatrwydd gael ei barchu.

“Roedd gan y claf gyflyrau iechyd eisoes. Roedd yn 96 mlwydd oed ac yn cael triniaeth yn Ysbyty Treforys.