Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Yn ystod y broses ddatganoli, mae Llywodraethau olynol Cymru wedi gweithio'n galed i leihau anghydraddoldebau ble bynnag y maent yn bodoli yng Nghymru. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd ond, mewn rhai ardaloedd, mae anghydraddoldeb yn parhau i fod yn elfen heriol yn ein cymdeithas, gan amharu ar fywydau a chyfleoedd bywyd pobl.

Mae pandemig y coronafeirws wedi tynnu sylw at yr anghydraddoldebau hyn sydd wedi'u gwreiddio'n ddwfn, yn enwedig y rhai hynny sy'n effeithio ar gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yma yng Nghymru.

Rydym yn parhau i ddysgu mwy am y feirws hwn wrth i bob wythnos a mis fynd heibio. Yr hyn sy'n glir yw bod y coronafeirws wedi cael effaith andwyol ac anghymesur ar bobl o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mewn ymateb i hyn, sefydlais Grŵp Cynghorol BAME Cymru ar COVID-19 dan arweiniad y Barnwr Ray Singh, gyda'i ddau is-grŵp a gaiff eu cadeirio gan yr Athro Keshav Singhal a'r Athro Emmanuel Ogbonna. Bu grŵp yr Athro Singhal yn archwilio'r risg uniongyrchol i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol Du ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn ystod y pandemig, ac arweiniodd hyn at ddatblygu'r Adnodd Asesu Risg hunanasesu dau gam ar gyfer gweithlu Cymru. Mae'r adnodd hwn bellach yn cael ei ddefnyddio'n eang gan y GIG a'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru ac mae wedi cael ei gyflwyno mewn gweithleoedd eraill i helpu i ddiogelu iechyd a llesiant pobl.

Bu grŵp yr Athro Ogbonna yn archwilio'r ffactorau economaidd-gymdeithasol a gyfrannodd at yr effaith anghymesur hon. Yn ei adroddiad dilynol, tynnwyd sylw at yr anghydraddoldebau hirsefydledig a brofir gan Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ac y mae COVID-19 wedi'u hamlygu mewn ffyrdd trychinebus sy'n peri pryder gwirioneddol.

Rwy'n ddiolchgar i'r Grŵp Cynghorol BAME ar COVID-19, a'i ddau is-grŵp, am y gwaith mae wedi'i wneud. Rwyf yr un mor ddiolchgar am yr argymhellion a'r camau gweithredu a gymerwyd i ddechrau mynd i'r afael ag anghydraddoldebau. Mae dealltwriaeth, gwybodaeth ac arweinyddiaeth barhaus y grŵp hwn wedi bod yn amhrisiadwy. Rwy'n falch bod y grwpiau hyn wedi cytuno i barhau i gyfarfod a chynghori a llywio polisïau a phenderfyniadau Llywodraeth Cymru. Mae'r Is-Grŵp Economaidd-gymdeithasol wedi cytuno i fonitro'r broses o roi ei argymhellion ar waith ac i fod yn un o'r grwpiau rhanddeiliad allweddol a fydd yn helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i Gymru.

Mae gwaith i ddatblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn mynd rhagddo a bydd yn darparu'r sylfaen er mwyn sicrhau newid systemig a chynaliadwy i Gymru. Caiff ei ddatblygu cyn diwedd tymor y Senedd hon a chaiff ei gyflawni drwy waith ymgysylltu helaeth a'i gyd-gynhyrchu â chymunedau, grwpiau cymunedol a sefydliadau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Galwad i weithredu yw Adroddiad yr Is-Grŵp Economaidd-gymdeithasol, ac nid i Lywodraeth Cymru yn unig. Mae angen newidiadau sefydliadol, cymdeithasol a strwythurol. Rwy’n galw ar holl arweinwyr Cymru, ar bob lefel, i wneud addewid i ymrwymo i weithredu mewn modd positif ac adeiladol i wthio hiliaeth ac anghydraddoldeb allan o’n gwlad. Gofynnaf i bawb sefyll yn gadarn yn erbyn anghydraddoldeb ble bynnag a phryd bynnag y byddant yn ei weld neu'n ei brofi. Rwy’n annog pob arweinydd ym mhob sector yng Nghymru i ganfod yr anghydraddoldebau yn ei sefydliad ac i weithredu ble bynnag y gall i fynd i'r afael â nhw. Mae'n rhaid inni edrych yn ofalus ac yn onest ar y strwythurau a'r systemau mewn cymdeithas ac ystyried sut i roi newidiadau ar waith a fydd o fudd i bawb ac yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran canlyniadau a phrofiadau.

Rwy'n falch ein bod wedi gallu cyhoeddi'r ymateb a'r diweddariad cynnydd hwn ar y cam cynnar hwn gan ei fod yn ymateb mewn modd cadarnhaol i argymhellion Adroddiad yr Is-Grŵp Economaidd-gymdeithasol.

Mae'n amser i weithredu ac mae'r llywodraeth hon yn ymrwymedig i greu etifeddiaeth barhaus i Gymru lle caiff pawb eu trin yn deg a chael yr un cyfleoedd i ddatblygu.

Prif Weinidog

Cyflwyniad

Mae adroddiad Is-Grŵp Economaidd-gymdeithasol Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) COVID-19 y Prif Weinidog yn gosod anghydraddoldeb hiliol yng Nghymru yng nghyd-destun COVID-19.  Mae'n mynegi nifer o'r materion y mae angen inni fynd i'r afael â nhw yn glir ac yn creu sylfaen bwysig ar gyfer y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.

Mae camau gweithredu mewn ymateb i nifer o'r argymhellion eisoes ar waith, wedi cael eu cwblhau neu mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymgymryd â gwaith pellach yn eu cylch. Bwriedir cynnwys nifer o'r argymhellion o fewn blaenoriaethau'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i Gymru.  Lle nad yw cyfrifoldeb wedi'i ddatganoli, byddwn yn parhau i ddefnyddio pob dull ysgogi sydd gennym i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r argymhellion hynny. Byddwn yn meithrin cydberthnasau ar lefel swyddogol i sicrhau ein bod yn weladwy ar faterion perthnasol a'n bod yn gallu herio'n effeithiol pan fo angen.

Nid yw'r ymateb cychwynnol hwn i adroddiad yr Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol yn rhestr gynhwysfawr o'r camau sy'n cael eu cymryd, ond mae'n crynhoi ein cynnydd hyd yn hyn yn erbyn ei argymhellion.  Byddwn yn adolygu ein cynnydd yn rheolaidd wrth i'r Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol barhau i gyfarfod ac wrth i nifer o'r argymhellion gael eu datblygu ymhellach a'u hymgorffori yn y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.

Gyda chymorth, cyngor a dealltwriaeth yr Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau uniongyrchol i liniaru’r effaith anghymesur y mae COVID-19 wedi’i chael ar Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Mae’r camau hyn yn cynnwys:

  • datblygu Adnodd Asesu Risg ar gyfer Gweithlu Cymru a gyflwynwyd mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol i ddechrau. Cafodd ei addasu i greu fersiwn ar gyfer lleoliadau addysg. Yn fwy diweddar, mae fersiwn ar gyfer gweithleoedd cyffredinol wedi bod ar gael. 
  • deunyddiau cyfathrebu ‘Diogelu Cymru’ sydd ar gael mewn 36 o ieithoedd.
  • ein hymgyrch gyfathrebu ‘Ddylai neb fod yn ofnus gartre’, oedd â’r nod o ddarparu gwybodaeth i’r rhai a oedd yn byw gyda chyflawnwyr trais yn ystod y cyfyngiadau symud am sut i gael cymorth yn ddiogel, annog pobl sy'n gwylio a phobl eraill a oedd yn bryderus i adnabod arwyddion o Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) a helpu dioddefwyr i gael cymorth yn ddiogel.
  • ehangu’r gwasanaethau Profi Olrhain Diogelu i gynnwys yr ap olrhain yn ogystal â gwaith i sefydlu gweithwyr allgymorth BAME mewn cymunedau. 
  • Datblygu’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn ddi-oed, erbyn diwedd tymor y Senedd hon.
  • cwmpasu Uned Anghytuno Hiliol a fydd yn rhan annatod o ddatblygu cydraddoldeb hiliol yng Nghymru a sbarduno Cydraddoldeb
  • Sefydlu’r gweithgor ‘Cymunedau, cyfraniadau a chynefin: Profiadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a’r cwricwlwm newydd’ i gynghori ynghylch addysgu themâu sy’n ymwneud â chymunedau a phrofiadau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar draws y cwricwlwm cyfan, a gwella’r gwaith addysgu hwnnw
  • fel rhan o ‘Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu’ rydym wedi neilltuo hyd at £3m fel rhan o raglen Technoleg Addysg Hwb er mwyn cefnogi dysgwyr a oedd wedi’u hallgau’n ddigidol mewn ysgolion a gynhelir lle nad oedd darpariaeth bresennol ar waith gan eu hysgol na’u hawdurdod leol
  • mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn adolygu’r pecyn hyfforddiant cydraddoldeb gorfodol ac yn gwneud y diwygiadau sydd eu hangen
  • rydym yn disgwyl i gyflogwyr a gweithwyr ystyried yr amgylchedd gwaith i Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn ehangach na gweithleoedd iechyd. Rydym yn archwilio ar draws Llywodraeth Cymru sut y gellir gwneud hyn yn effeithiol, gan gynnwys darparu hyfforddiant gwrth-hiliaeth.
  • mae EYST, mewn partneriaeth â sefydliadau eraill (Women Connect First, Sefydliad Henna, ProMo Cymru, TUC Cymru, a rhanddeiliaid Du ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig allweddol), wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Frys y Gwasanaethau Gwirfoddol, a reolir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), i ddarparu'r llinell gymorth BAME, fel cynllun peilot chwe mis o hyd yn y lle cyntaf.
  • datblygu’r strategaeth penodiadau cyhoeddus, a lansiwyd ychydig cyn y pandemig. Mae’r strategaeth hon yn cynnwys camau i fynd i’r afael â’r ffaith bod Pob Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl yn cael eu tangynrychioli mewn penodiadau cyhoeddus, gan gynnwys datblygu rhaglen hyfforddiant arweinyddiaeth ar lefel uchel i Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl

Mae’r rhestr yn rhoi amlinelliad o rai o’r camau uniongyrchol a gymerwyd, gyda rhagor o gamau a rhagor o fanylion i’w cael yng nghorff y ddogfen hon. Mae’r adroddiad yn ei gyfanrwydd wedi cael ei dderbyn ac mae’r camau naill ai eisoes ar waith, wedi’u cwblhau neu byddant yn cael eu datblygu ymhellach wrth i’r gwaith o ddatblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol i Gymru fynd rhagddo.  

Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip Jane Hutt AS, ar y cyd â swyddogion Llywodraeth Cymru, wedi cyfarfod â’r Arglwydd Simon Woolley, i sefydlu'r dysgu, y canlyniadau a'r dull er mwyn ystyried cynlluniau ar gyfer Uned Gwahaniaethau ar sail Hil yng Nghymru.

Diweddariad cynnydd

Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol

Rydym yn gweithredu ar yr argymhelliad i lunio Strategaeth Cydraddoldeb Hiliol i Gymru. Gwnaethom ymrwymo i hyn ym mis Mawrth gyda'r arwydd clir y byddai ar ffurf cynllun gweithredu, ond â strategaeth glir yn sail iddo gyda'r nod o fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau strwythurol a systemig a brofir gan Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Bydd y cynllun yn cynnwys camau gweithredu gyda'r nod o sicrhau newid cynaliadwy a hirdymor i'n cymdeithas yng Nghymru. Bydd datblygu ar y cyd yn un o'r egwyddorion canolog a fydd yn sail i'n dull gweithredu.

Yr hyn sy'n rhan hanfodol o egwyddorion datblygu ar y cyd yw sicrhau yr ymgysylltir yn eang ac y caiff pobl â phrofiadau, gwybodaeth a sgiliau amrywiol o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig eu cynnwys er mwyn datblygu amcanion a rennir a chamau i'w cynnwys yn y Cynllun. Byddwn yn gwrando, yn dysgu ac yn ceisio sicrhau bod lleisiau, profiadau a syniadau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu clywed a'u cynnwys wrth ddatblygu'r cynllun hwn.

Mae gwaith eisoes wedi dechrau ac mae strwythur llywodraethu yn cael ei roi ar waith. Cafodd grant ymgysylltu â chymunedau ei lansio ym mis Awst sy'n gwahodd sefydliadau sy'n cynrychioli Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i wneud cais er mwyn ymgymryd â gwaith i gasglu barn a safbwyntiau pobl ledled Cymru. Bydd y rhain yn llywio blaenoriaethau a chamau a gaiff eu cynnwys yn y cynllun.

Dros y degawd diwethaf mae academyddion, grwpiau hil a sefydliadau wedi cynhyrchu nifer o ddogfennau ymchwil yn ymwneud â phrofiad cymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru a'r tu hwnt, ynghyd ag argymhellion ar gyfer gweithredu ar gydraddoldeb hiliol. Mae nifer o ymchwiliadau ac adroddiadau swyddogol wedi gwneud yr un peth hefyd. Mae adolygiad cyflym o'r gwaith ymchwil hwn wedi dechrau. Bydd y dadansoddiad o'r adroddiadau yn cael ei ystyried ynghyd â data am wahaniaethau ar sail hil ym mhob maes polisi. Bydd y themâu sy'n dod i'r amlwg yn rhan hanfodol o ffurfio meysydd y byddwn yn datblygu amcanion ynddynt ar y cyd ac yn datblygu camau fel rhan o'r cynllun gweithredu. 

Nod yr amserlen bresennol yw cyflwyno cynllun drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus llawn erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon gan ddatblygu cynllun terfynol erbyn diwedd tymor y Senedd hon.

Ond nid yw datblygu'r cynllun yn ddigon. Bydd angen iddo gynnwys camau clir a phwrpasol a chyfarwyddyd i'w rhoi ar waith.  Fel rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cynllun hwn, ac fel y cydnabyddir yn argymhellion adroddiad Ogbonna, bydd angen i strwythurau, adnoddau a pholisïau gael eu nodi a'u rhoi ar waith er mwyn sicrhau yr ymdrinnir yn effeithiol ag anghydraddoldebau hiliol a hiliaeth systemig ond hefyd i sicrhau bod newidiadau'n cael eu hymwreiddio a'u cynnal.

Adnodd Asesu Risg COVID-19 ar gyfer Gweithlu Cymru

Sefydlwyd yr Is-Grŵp Asesu Risg, a gaiff ei gadeirio gan yr Athro Keshav Singhal, yn gyflym unwaith y daeth tystiolaeth i'r amlwg am effaith anghymesur COVID-19 ar unigolion o gefndiroedd Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Blaenoriaeth gyntaf y grŵp hwnnw oedd adolygu'r holl dystiolaeth a oedd yn dod i'r amlwg am y ffactorau risg, datblygu adnodd er mwyn helpu i nodi'r unigolion hynny a oedd yn wynebu'r risg fwyaf o niwed petaent yn dal COVID-19 a chwilio am ffyrdd o liniaru'r risg. Datblygwyd yr adnodd hwn ar gyfer y gweithlu mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol gan mai yno roedd pobl yn debygol o ddod i gysylltiad â COVID-19 yn amlach ac am gyfnodau hwy a lle mae natur y rolau yn golygu bod mesurau cadw pellter cymdeithasol yn anymarferol ar y cyfan.   

Aeth yr Is-Grŵp Asesu Risg ati'n gyflym ac yn effeithiol i gwblhau ei waith o ddatblygu adnodd i nodi a lliniaru risg. Mae'r Adnodd Asesu Risg ar gyfer Gweithlu Cymru yn defnyddio canllawiau Llywodraeth Cymru, a'r ymchwil, y dystiolaeth a'r data diweddaraf sydd ar gael er mwyn nodi ffactorau risg hysbys mewn perthynas â COVID-19. Mae'n cyfuno'r ffactorau hyn mewn matrics sgorio er mwyn nodi risg unigolyn o niwed o haint COVID-19 ac yna'n awgrymu camau y gall yr unigolyn a'r rheolwr llinell eu cymryd i leihau'r risg.  Mae'r Adnodd yn gweithredu fel ffocws ar gyfer sgyrsiau rhwng y rheolwr llinell a'r unigolyn ac yn cefnogi cyflogwyr i fodloni eu dyletswydd statudol o ofal i'w cyflogeion.

Mae'r Adnodd Asesu Risg ar gyfer Gweithlu Cymru yn adnodd byw a chaiff ei adolygu a'i werthuso'n barhaus wrth i'r sylfaen dystiolaeth dyfu ac wrth inni ddysgu o'r broses o'i roi ar waith. Bydd yr holl dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg am effaith COVID-19 a goblygiadau ymarferol rhoi'r adnodd ar waith yn parhau i gael eu hadolygu gan yr Is-grŵp Asesu Risg.

Mae'r Adnodd Asesu Risg COVID-19 ar gyfer Gweithlu Cymru wedi cael ei roi ar waith ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol gyda chymorth yr Is-grŵp Asesu Risg a'r Grŵp Gweithredu Gofal Cymdeithasol. Mae'r Adnodd ar gael ar-lein drwy'r llwyfan e-ddysgu cenedlaethol Dysgu Cymru sy'n cydweddu â meddalwedd darllen sgrin ac adnabod llais a fydd yn fuddiol i ddefnyddwyr â gofynion arbennig. Mae fersiwn Hawdd ei Deall wedi cael ei datblygu a'i chyhoeddi hefyd. Cefnogir yr Adnodd gan animeiddiad sy'n disgrifio sut i'w ddefnyddio, ac mae'n cynnwys opsiwn ag is-deitlau hefyd. Mae'r Adnodd ei hun ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae canllawiau i gyd-fynd ag ef ynghyd â chwestiynau cyffredin a ddatblygwyd mewn partneriaeth gymdeithasol â Chyflogwyr GIG Cymru ac Undebau Llafur er mwyn sicrhau ei fod yn mynd i'r afael â gwahaniaethu ac yn cyfeirio at gymorth pellach.

Cefnogir y gwaith o roi'r adnodd ar waith gan gynllun cyfathrebu cynhwysfawr ar gyfer y sector iechyd a gofal cymdeithasol sy'n rhan integredig o strategaeth gyfathrebu drawsbynciol ehangach sy'n parhau i ddatblygu wrth iddo gael ei roi ar waith yn ehangach. Mae'r Adnodd Asesu Risg ar gyfer Gweithlu Cymru, y canllawiau a'r cwestiynau cyffredin oll wedi cael eu diwygio ymhellach er mwyn darparu ar gyfer newidiadau i Ganllawiau Llywodraeth Cymru i'r rhai a oedd yn gwarchod eu hunain cyn 16 Awst.

Rydym yn monitro defnydd o'r Adnodd a'r effaith ymarferol o'i roi ar waith ar y gweithlu yn ei gyfanrwydd. Byddwn yn ystyried, fel rhan o'r gwaith hwn, unrhyw dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg am y ffordd y gall camau lliniaru a roddir ar waith yn dilyn asesiad risg effeithio ar yr unigolion dan sylw. Byddwn yn gweithredu mewn partneriaeth gymdeithasol â chyflogwyr, undebau ac aelodau o'r gweithlu Du ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig os bydd profiad yn dangos bod rhoi camau ar waith yn amharu ar y gweithlu mewn unrhyw ffordd. Bydd hyn yn cynnwys olrhain pryderon, er enghraifft, y gallai unigolion a all gael eu symud o ddyletswydd reng flaen neu gael eu hadleoli i faes gwaith arall â risg isel wynebu risg o ostyngiad yn eu cyflog neu y gallai symud danseilio eu rhagolygon gyrfa.

Rydym yn gweithio gyda Chyflogwyr y GIG i roi'r Adnodd ar waith yn genedlaethol mewn ffordd gyson. Yn ymarferol, bydd hyn yn cynnwys mynd i'r afael ag unrhyw faterion drwy brosesau Partneriaeth Gymdeithasol GIG Cymru, megis monitro effaith yn rheolaidd drwy rwydweithiau sefydliadau ac adolygu polisïau gweithlu Cyflogwyr y GIG mewn perthynas â COVID-19 yn rheolaidd, sydd wedi'u nodi yn eu cwestiynau cyffredin am COVID-19 a ddatblygwyd mewn partneriaeth gymdeithasol ag Undebau Llafur. Bydd y Fforwm Gofal Cymdeithasol, y bwriedir iddo gael ei gyfarfod cychwynnol ym mis Medi 2020, hefyd yn gyfrifol am ystyried pa gamau y dylid eu cymryd i wella amodau gwaith teg i'r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Ers i'r Adnodd Asesu Risg ar gyfer Gweithlu Cymru gael ei gynhyrchu gyntaf, y dyhead oedd iddo fod yn ddigon hyblyg i gael ei roi ar waith mewn gweithleoedd eraill yng Nghymru. Mae cynnydd sylweddol wedi'i wneud yn hyn o beth ac mae'r Adnodd, a ddiwygiwyd fel ei fod yn addas ar gyfer cyd-destun gwahanol gweithleoedd gwahanol, bellach yn cael ei ddefnyddio mewn nifer o leoliadau y tu hwnt i'r sector Iechyd a gofal cymdeithasol.  Cyfeiriwyd at yr adnodd mewn canllawiau i'r sector addysg er mwyn cefnogi'r broses o gael disgyblion yn ôl i'r ysgol erbyn 29 Mehefin. Ar 7 Awst, cyhoeddwyd fersiwn wedi'i haddasu o'r Adnodd a chanllawiau penodol ar gyfer y sector addysg, gofal plant, gwaith chwarae, gwaith ieuenctid ac addysg bellach. Darparwyd yr adnodd i'r rhain i'w gwblhau ar-lein drwy lwyfan e-ddysgu cenedlaethol Dysgu Cymru Dysgu Cymru.  Mae heddluoedd yng Nghymru wedi cadarnhau eu bod yn defnyddio fersiwn wedi'i haddasu o'r Adnodd ac mae ardaloedd eraill o bob cwr o'r DU wedi mynegi diddordeb yn yr Adnodd hefyd. 

Mae’r fersiwn gyffredinol o’r Adnodd Asesu Risg, sy’n addas ar gyfer gweithleoedd eraill ar gael.

Cyfarpar Diogelu Personol

Mae sicrhau bod cyflenwadau effeithiol o gyfarpar diogelu personol, a digon ohono, yn hanfodol i ddiogelu'r gweithlu mewn amodau lle na ellir lliniaru'r risg o ddal COVID-19 mewn ffyrdd eraill. Pwysleisiodd Adroddiad yr Is-Grŵp Economaidd-gymdeithasol yr angen i sicrhau bod digon o gyfarpar diogelu personol ar gael, nawr ac yn y dyfodol.

Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru sy'n cyflenwi cyfarpar diogelu personol i'r GIG a'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru, a hefyd i feddygfeydd, optometryddion, deintyddfeydd a fferyllfeydd. Mae cyfarpar diogelu personol wedi cael ei ddarparu am ddim i ddarparwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae llawer iawn o waith wedi cael ei wneud yn ystod y pandemig i geisio sicrhau bod cyflenwad cadarn o gyfarpar diogelu personol ledled Cymru.  Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda chyflogwyr ac undebau mewn partneriaeth gymdeithasol i roi tystiolaeth dryloyw am gyflenwad cyfarpar diogelu personol, adrodd yn rheolaidd am argaeledd a chyfraddau defnyddio amrywiaeth o gyfarpar a thrafod unrhyw bryderon a godir gan y gweithlu. Bydd y gweithdrefnau hyn yn parhau yn ystod y gaeaf er mwyn cynnal ymddiriedaeth o ran cyflenwad cyfarpar diogelu personol i'r gweithlu.  

Cymorth a chyngor

Yn yr Adroddiad, mae galw am fwy o ddulliau er mwyn i Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig allu cael cyngor a chymorth. Mae hyn yn cynnwys argymhellion ynghylch sefydlu rhwydweithiau staff, wedi'u cefnogi gan Undebau Llafur, ynghyd â llinellau cymorth i Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig allu ceisio gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gyfrinachol ar faterion sy'n peri pryder. 

Mae'r Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST), gan weithio mewn partneriaeth â Women Connect First, Sefydliad Henna, ProMo Cymru, TUC Cymru, a rhanddeiliaid Du ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig allweddol, wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Frys y Gwasanaethau Gwirfoddol, a reolir gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), i ddarparu'r llinell gymorth, fel cynllun peilot chwe mis o hyd yn y lle cyntaf.

Mae'r llinell gymorth yn darparu pwynt cyswllt cyntaf hygyrch i gael gwybodaeth gan amrywiaeth o sefydliadau arbenigol, prif ffrwd a chymunedol, a bydd y rhai sy'n delio â'r galwadau yn gallu siarad amrywiaeth o ieithoedd cymunedol. Bydd yn cysylltu â llinellau cymorth arbenigol a chefnogaeth sydd eisoes yn bodoli gan BAWSO, Cymorth i Ferched Cymru, TUC Cymru ac eraill.

Mae ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10.30am a 2.30pm, i'r rhai hynny sy'n chwilio am gymorth ar nifer o faterion, megis cyflogaeth a lles, addysg, tai, diogelwch personol ac iechyd, a gallant gael eu hatgyfeirio neu eu cyfeirio at amrywiaeth o sefydliadau prif ffrwd a chymunedol am gyngor a chefnogaeth. 

Rhif llinell gymorth: 0300 2225720
Testun SMS: 07537 432415
Gwefan

Bydd y llinell gymorth hon yn cynnig y cyfle i sefydliadau perthnasol ymgymryd â mwy o waith partneriaeth er mwyn diwallu anghenion Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn ystod pandemig COVID-19 ac wedi hynny.

Data ethnigrwydd

Mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal rhwng swyddogion o Lywodraeth Cymru ac Uned Gwahaniaethau ar sail Hil Swyddfa'r Cabinet. Diben y cyfarfodydd hyn yw sefydlu'r dysgu, y canlyniadau a'r dull er mwyn llywio cynlluniau ar gyfer datblygu uned a fydd yn nodi gwahaniaethau ar sail hil yng Nghymru ar draws amrywiaeth o feysydd sy’n effeithio ar fywydau pobl.

Casglodd ystadegwyr Llywodraeth Cymru amrywiaeth o ddadansoddiadau ynghyd yn ymwneud â’r boblogaeth Pobl Ddu, Asiaidd a Grwpiau Ethnig Lleiafrifol yng Nghymru ar draws amrywiaeth o bynciau y mae data ar gael ar eu cyfer. Amlygodd hyn feysydd lle mae gwahaniaethau yn ôl ethnigrwydd a allai arwain at effaith anghymesur ar wahanol gymunedau yn sgil y pandemig COVID-19. Rydym wedi ymrwymo i barhau i asesu pa ddata eraill y gellir eu darparu yn ôl ethnigrwydd a sut y gellir ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr gael gafael ar ddata am hil.  

O fewn cyd-destun y GIG, nodwyd yn yr argymhellion fod data yn wael ar y cyfan ac nad ydynt yn dryloyw. Rydym yn cytuno ei bod yn bwysig defnyddio technegau arloesol, gan gynnwys cysylltu data, er mwyn helpu i wella ansawdd y data sydd ar gael am y boblogaeth wedi'u dadgyfuno gan nodweddion gwahanol. Drwy'r Uned Ymchwil Data Gweinyddol a Banc Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL), byddwn yn ystyried ffyrdd o gysylltu data ar ganlyniadau er mwyn galluogi hyn. Bydd hyn yn cynnwys archwilio'r trefniadau rhannu data perthnasol er mwyn deall unrhyw gyfyngiadau a sut y gellir mynd i'r afael â'r rhain. Rydym wedi sicrhau mynediad at Gyfrifiad 2011 er mwyn cefnogi ein hagenda ymchwil data cysylltiol uchelgeisiol. Bydd angen gwneud hyn ochr yn ochr â gwaith i wella ansawdd y data gweinyddol a ddelir, a chydag ymrwymiad adrannau llywodraeth y DU i rannu data gweinyddol a fydd yn ein helpu i ddeall canlyniadau grwpiau gwahanol o'r boblogaeth. 

Rydym hefyd yn cydnabod y bydd cael gweithlu Iechyd a Gofal sy'n adlewyrchu'r boblogaeth mae'n ei gwasanaethu yn helpu i gefnogi canlyniadau iechyd gwell a darparu gwasanaethau mwy effeithiol.  Bydd deall profiadau aelodau o'r gweithlu sydd o gefndiroedd Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn ein galluogi i fynd i'r afael â materion a all godi o wahaniaethu uniongyrchol neu anuniongyrchol ac mae casglu data yn sylfaen bwysig i'r gwaith hwn.  Mae'r gwaith o gasglu gwybodaeth am ethnigrwydd staff y GIG wedi gwella'n sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf a byddwn yn parhau i annog yr holl staff i gwblhau eu cofnodion fel y gallwn nodi unrhyw brofiadau gwahaniaethol ymhlith y gweithlu yn well a mynd i'r afael â nhw.

Mae cofnodi genedigaethau a marwolaethau yn fater a gedwir yn ôl ar gyfer Llywodraeth y DU. Mae'r wybodaeth a gofnodir wrth gofrestru marwolaeth ar hyn o bryd (ac felly'r hyn a gofnodir ar unrhyw gopïau ardystiedig (tystysgrifau) a gyflwynir) wedi'i rhagnodi gan y gyfraith; ac nid oes darpariaeth i gofnodi ethnigrwydd wrth gofrestru marwolaeth ar hyn o bryd.

Ac eithrio mewn achosion lle ceir ymchwiliad gan grwner, darperir y wybodaeth bersonol a gofnodir wrth gofrestru marwolaeth gan hysbysydd cymwys a fydd fel arfer, ond nid bob tro, yn aelod o deulu'r sawl a fu farw. Darperir achos meddygol y farwolaeth gan ymarferydd meddygol.

Yn ogystal â'r wybodaeth a ddangosir yn y cofnod, caiff gwybodaeth ystadegol ei chasglu a'i darparu i'r Swyddfa Ystadegau Gwladol sy'n gyfrifol am gadarnhau, dadansoddi a chyhoeddi ystadegau yn ymwneud â marwolaethau yng Nghymru a Lloegr. Nid yw hyn yn cynnwys ethnigrwydd y sawl a fu farw ar hyn o bryd gan y caiff ethnigrwydd ei hunanddatgan. Mae casglu'r wybodaeth hon pan gaiff y farwolaeth ei chofrestru yn rhoi'r cyfrifoldeb dros ddatgan ethnigrwydd y sawl a fu farw ar yr hysbysydd, na fydd efallai'n gallu darparu gwybodaeth o'r fath neu'n fodlon gwneud hynny.

Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip Jane Hutt AS wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref ynghylch y mater hwn sawl gwaith. Rydym ar ddeall bod y gwaith o ystyried sawl opsiwn o ran y ffordd orau o gasglu a defnyddio data ethnigrwydd wedi dechrau ac mae'r Swyddfa Gartref wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn cael ei chynnwys yn y gwaith hwn.

Hyfforddi a datblygu

Argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried yr hyfforddiant a gynigir i gyflogwyr a chyflogeion ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 er mwyn cynnwys hyfforddiant ar wrth-hiliaeth ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol, a'r ffordd y gellir defnyddio hyn i wella amgylcheddau gwaith i Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig â chydafiachedd.

Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn adolygu'r pecyn hyfforddiant cydraddoldeb gorfodol a bydd yn ei ddiwygio yn ôl yr angen.  I staff y GIG a'r sector cyhoeddus ehangach, mae hyfforddiant ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a chyfleoedd eraill i ddysgu am gydraddoldeb ac amrywiaeth ar gael ar y llwyfan e-ddysgu cenedlaethol, Dysgu Cymru, ar hyn o bryd. Mae hyfforddiant a datblygiad yn ymwneud ag amrywiaeth yn rhan o Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan a'r cymwysterau sy'n ofynnol gan weithlu gofal cymdeithasol.

Cydnabyddir bod hyfforddiant pwrpasol yn ofynnol i gyflogwyr a chyflogeion er mwyn ystyried yr amgylchedd gwaith i Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn ehangach na gweithleoedd iechyd. Rydym yn archwilio ar draws Llywodraeth Cymru sut y gellir gwneud hyn yn effeithiol, gan gynnwys darparu hyfforddiant gwrth-hiliaeth.

Mae rhaglen datblygu staff lleiafrifoedd ethnig Llywodraeth Cymru yn rhaglen ddysgu strwythuredig a phwrpasol, blwyddyn o hyd sy'n cynnwys sesiynau rhwydweithio, proffilio cryfderau, hyfforddiant arweinyddiaeth gan Future Engage Deliver, hyfforddiant wyneb yn wyneb drwy brofiad, dysgu ar-lein, coetsio gweithredol a lleoliadau wedi'u teilwra ar Raglen Profiad Byrdymor. Mae rhai o aelodau'r rhaglen ddatblygu honno wedi camu ymlaen i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflawni'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol.

Mae gwasanaethau mentora a choetsio ar gael i staff Du ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ac maent hefyd yn mentora uwch-aelodau o staff yn y sefydliad.

Argymhellwyd hefyd y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru i ddarparu safon unedig o hyfforddiant gwrth-hiliaeth er mwyn codi ymwybyddiaeth o faterion diwylliannol a hiliol sensitif.

Bydd y Prif Weinidog a'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn cymryd eu tro i gadeirio'r Bwrdd Partneriaeth Plismona. Bydd adroddiad y Grŵp Economaidd-gymdeithasol, ei argymhellion a'r gwaith o ddatblygu'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn cael eu trafod yn y cyfarfod nesaf.

Cyfranogiad ac Arweinyddiaeth mewn Bywyd Cyhoeddus yng Nghymru

Mae sawl argymhelliad yn yr adroddiad yn ymwneud â'r angen i fynd i'r afael â chynrychiolaeth ac annog ymgysylltiad pellach â Phobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru.

Nod y Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus yw codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd am benodiadau cyhoeddus a gwaith cyrff cyhoeddus yng Nghymru.

Mae'r Strategaeth wedi nodi bod Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (ynghyd â grwpiau gwarchodedig eraill) wedi'u tangynrychioli mewn penodiadau cyhoeddus ac yn nodi nifer o gamau i fynd i'r afael â'r mater hwn, gan gynnwys datblygu rhaglen hyfforddiant arweinyddiaeth ar lefel uchel i Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl. Rydym yn ymgysylltu'n weithredol â phobl o grwpiau gwarchodedig ac yn bwriadu sefydlu cyfleoedd mentora a chysgodi er mwyn ein helpu i gael llif o ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn gwneud cais am benodiadau cyhoeddus.

Rydym wrthi'n recriwtio Uwch-aelodau Panel Annibynnol ar hyn o bryd i eistedd ar baneli recriwtio ar gyfer penodiadau o bwys. Gwnaethom gynnal ymgyrch wedi'i thargedu gyda'r nod o ddenu ymgeiswyr o gefndiroedd amrywiol. Rydym yn gobeithio y bydd cael paneli mwy amrywiol yn golygu y caiff penodiadau mwy amrywiol eu gwneud.

Un o'r camau a nodir yn y Strategaeth yw datblygu pecyn hyfforddi a datblygu ar amrywiaeth a chynhwysiant i Gadeiryddion ac aelodau Byrddau. Mae'r Strategaeth hefyd yn nodi y bydd ‘Uwch weision sifil, aelodau panel annibynnol a Chadeiryddion yn cael hyfforddiant ar arferion recriwtio teg.’

Yn olaf, un o bum nod y Strategaeth yw sicrhau ein bod yn casglu data dibynadwy, ansoddol a meintiol – yn enwedig data amrywiaeth. Rydym yn awyddus i wella'r ffordd rydym yn casglu data pob grŵp gwarchodedig, sy'n cynnwys ethnigrwydd.

O ran arferion recriwtio, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu caffael porth recriwtio ar-lein newydd ac rydym wedi gwneud cais i'r porth newydd gynnwys y cyfleuster i alluogi prosesau recriwtio dienw. Mae pob proses recriwtio allanol ar gyfer yr uwch wasanaeth sifil a phrentisiaethau yn ddienw. Nid yw anonymeiddio ar ei ben ei hun yn ddigon, ac mae'n orfodol i bob aelod o baneli recriwtio gwblhau hyfforddiant cydraddoldeb a chynhwysiant ynghyd â hyfforddiant ar ragfarn ddiarwybod. Byddwn yn defnyddio pob dull ysgogi sydd gennym i gynyddu'r defnydd o brosesau recriwtio dienw mewn sefydliadau ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i Siarter Hil yn y Gwaith Busnes yn y Gymuned. Mae'r Siarter yn cynnwys pum galwad i weithredu, y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn eu gwneud:

  • penodi noddwr gweithredol dros hil
  • casglu data a rhoi cyhoeddusrwydd i gynnydd
  • sicrhau dim goddefgarwch o ran aflonyddu a bwlio
  • gwneud cefnogi cydraddoldeb yn y gweithle yn gyfrifoldeb ar bob arweinydd a rheolwr
  • cymryd camau gweithredu sy’n cefnogi dilyniant gyrfa lleiafrifoedd ethnig

Rydym wrthi'n recriwtio'n allanol ar gyfer sawl rôl Dirprwy Gyfarwyddwr Uwch Wasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ac rydym wedi datblygu cynllun allgymorth manwl ar gyfer hyn. Rydym yn rhoi ymgyrch ar waith ledled Cymru yn canolbwyntio ar recriwtio yn ôl gradd yn hytrach nag ar gyfer rôl benodol ac rydym yn chwilio am bobl a all ddod â phrofiadau gwahanol i'n prosesau gwneud penderfyniadau, gweithio'n effeithiol gyda Gweinidogion ac arwain timau cydweithredol a fydd yn helpu i newid Cymru er gwell. Mae'r hysbyseb yn nodi y byddem yn croesawu ceisiadau gan fenywod, Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl yn ein Huwch Wasanaeth Sifil a'n hymrwymiad i gefnogi pob aelod o staff i ffynnu mewn amgylchedd gwaith cynhwysol.

Yn ehangach, rydym yn gosod targedau ymestynnol ar gyfer recriwtio, cadw a datblygu staff Du ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn ein Cynllun Gweithredu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sy'n cael ei gwblhau ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â rhaglen “adnewyddu democrataidd”, o ganlyniad i ddiwygio etholiadol yn bennaf mewn perthynas â'r etholfraint ar gyfer etholiadau datganoledig. Mae adnoddau addysgol a dulliau cyfathrebu yn cael eu datblygu i gefnogi dealltwriaeth pobl ifanc o ddemocratiaeth a'u hawl i bleidleisio o 16 oed mewn etholiadau datganoledig. Bydd ‘Datganiadau o'r Hyn sy'n Bwysig’ yn y cwricwlwm newydd yn cefnogi dysgwyr i “arfer eu hawliau a’u cyfrifoldebau democrataidd” ac y dylai dysgwyr ddeall “sut y mae systemau'r llywodraeth yng Nghymru yn gweithio nawr ac yn y gorffennol.”

Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i ymgysylltu â dinasyddion tramor cymwys fel etholwyr sydd newydd eu hetholfreinio mewn modd tebyg. Er y bydd gwaith cychwynnol yn canolbwyntio ar grwpiau sydd newydd eu hetholfreinio, bydd gwaith dilynol yn ceisio cynyddu ymwybyddiaeth pleidleiswyr o sefydliadau democrataidd ac annog cyfranogiad democrataidd. Bydd hyn yn cynnwys gwella mynediad i etholiadau.  Mae'r gwaith hwn yn rhan o agenda ehangach i wella cyfranogiad democrataidd sydd ar y gweill gan Lywodraeth y DU, Comisiwn y Senedd, llywodraeth leol, y Comisiwn Etholiadol a nifer o sefydliadau'r trydydd sector.

Mae gweithgor wedi cael ei sefydlu gyda'r nod benodol o ymgysylltu â'r dinasyddion tramor cymwys hynny sydd newydd eu hetholfreinio. Bydd rhan o gylch gwaith y grŵp yn canolbwyntio'n benodol ar ymgysylltu â chymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ac rydym yn gweithio gyda sefydliadau'r trydydd sector a grwpiau eiriolaeth i sicrhau bod adnoddau a deunyddiau priodol ar gael i'w defnyddio yn ystod yr ymarferion ymgysylltu hyn.

Iechyd a gofal cymdeithasol

Mae'r adroddiad yn gofyn i Lywodraeth Cymru gynnal adolygiad o iechyd a gofal cymdeithasol presennol Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig mewn partneriaeth â grwpiau, sefydliadau a chleifion Du ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig er mwyn gwerthuso pa mor briodol yw gwasanaethau, gwella darpariaeth yn y dyfodol a lleihau risgiau iechyd i Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru eisoes wedi cynnal adolygiad cychwynnol o'r dystiolaeth o effeithiau anghymesur COVID a'r anghydraddoldebau iechyd ategol ehangach sy'n effeithio ar gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a all lywio'r gwaith hwn.  Rydym yn ymrwymedig i ddatblygu'r gwaith hwn a gweithio gyda grwpiau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i ystyried ei ganfyddiadau a beth y gellir ei wneud i wella gwasanaethau a chanlyniadau iechyd.

O fewn GIG Cymru mae polisïau ar waith i gefnogi unigolion i fynegi pryderon yn y gweithle ac i fynd i'r afael â materion os cânt eu bwlio neu os bydd rhywun yn aflonyddu arnynt. Mae gwaith y Grŵp Economaidd-gymdeithasol yn awgrymu bod profiad go iawn rhai aelodau Du ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig o'r gweithlu yn golygu nad yw'r polisïau hyn yn addas at y diben, ac efallai nad yw unigolion yn teimlo'n hyderus i ddefnyddio'r polisïau am eu bod yn ofni canlyniadau negyddol. Mae hyn yn amlwg yn annerbyniol a byddwn yn gweithio gyda Phartneriaid Cymdeithasol ac aelodau Du ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig o'r gweithlu i astudio'r dystiolaeth hon a chymryd camau cydgysylltiedig ar draws GIG Cymru i roi argymhellion y Grŵp, a ddyluniwyd i fynd i'r afael â'r profiadau hyn, ar waith.

Cyfathrebu

Mae'r adroddiad yn argymell y dylem ddatblygu strategaeth gyfathrebu aml-sianel glir ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol sy'n nodi sianeli effeithiol i ledaenu gwybodaeth ac yn cynnwys cyllid ar gyfer gweithgareddau allgymorth ac ymgynghori wedi'u targedu at Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Wrth fyfyrio ar yr argymhelliad hwn, rydym wedi ffurfio grŵp trawslywodraethol i ddatblygu strategaeth gyfathrebu sy'n cynnwys gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ond hefyd feysydd polisi ehangach er mwyn sicrhau bod llai o fwlch rhyngddynt. Yn dilyn gwaith a gwblhawyd yn ddiweddar i feithrin dealltwriaeth a mapio sianeli rhanddeiliad, y camau nesaf fydd datblygu strategaeth integredig â negeseuon allweddol a chynllun cyfryngau blaengar yn seiliedig ar gerrig milltir allweddol.

Mae rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu Llywodraeth Cymru wedi datblygu Cynllun Allgymorth ar gyfer Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a gaiff ei ddarparu gan Fyrddau Iechyd yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys gweithwyr allgymorth yn ymgysylltu'n uniongyrchol â chymunedau a Phobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i ddatblygu deunyddiau mewn fformatau priodol i'w defnyddio ar sianeli cyfryngau cymdeithasol y gellir eu rhannu â chyfryngwyr dibynadwy er mwyn eu lledaenu i grwpiau cymunedol. Er enghraifft, mae'r rhaglen Profi Olrhain Diogelu wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid Du ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ac wedi cynhyrchu deunyddiau mewn amrywiaeth eang o ieithoedd cymunedol er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn gallu cael gwybodaeth sy'n hanfodol i ddiogelu cymunedau, gan gynnwys y rhai hynny o gefndiroedd Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Rydym yn datblygu asedau amlieithog pellach ar gyfer yr ymgyrch Profi Olrhain Diogelu a hefyd yn gweithio ar lansiad ap COVID-19 newydd y GIG gyda thimau yn Llywodraeth y DU, gwaith mapio rhanddeiliaid amrywiol ac amlieithog a datblygu asedau ar sut i ddefnyddio'r ap mewn 11 iaith wahanol. Mae pecyn cymorth allgymorth cymunedol wedi cael ei ddatblygu i gyflwyno'r wybodaeth bwysig am brofi, olrhain a diogelu ac i annog arweinwyr cymunedol, sefydliadau'r trydydd sector ac eraill i ddeall y negeseuon allweddol a mynd i'r afael â phryderon ynghylch materion megis gwyliadwriaeth, mewnfudo a thwyllo, a lledaenu'r rhain o fewn eu cymunedau. Dilynir hyn gan amrywiaeth o ddeunyddiau allgymorth cymunedol, megis ffilm yn cyfleu prif negeseuon y rhaglen Profi Olrhain Diogelu.

Mae deunyddiau “Diogelu Cymru” wedi cael eu cyfieithu i 36 o ieithoedd. Mae taflenni amlieithog Diogelu Cymru ar gael i'w gweld a'u lawrlwytho o'n gwefan.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi y dylem fonitro strategaethau cyfathrebu iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn asesu pa mor effeithiol ydynt wrth leihau rhwystrau diwylliannol ac ieithyddol a chynyddu nifer y Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy'n manteisio ar wasanaethau sgrinio a hybu iechyd.  Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru Dîm Ymgysylltu Sgrinio sy'n ymgysylltu â chymunedau er mwyn gwella mynediad at wasanaethau sgrinio a nifer y bobl sy'n manteisio arnynt. Rydym wedi tynnu sylw'r Grŵp at argymhellion yr adroddiad hwn a bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adrodd yn rheolaidd ar ei gynnydd mewn perthynas â chyflawniad ac effeithiolrwydd i Bwyllgor Sgrinio Cymru.

Rydym yn datblygu cynigion manylach i ddatblygu rhaglen hybu iechyd a gaiff ei chydgynhyrchu â chynrychiolwyr Du ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a bydd yn cyd-fynd â'n Cynllun Cyfathrebu Strategol ar gyfer Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a thîm iechyd y cyhoedd Llywodraeth Cymru. Rydym yn ymrwymedig i gydgynhyrchu'r cynigion hyn er mwyn sicrhau eu bod wedi'u datblygu'n dda i gyflawni gweithgareddau sy'n ddiwylliannol briodol.

Rydym wedi cyfleu neges glir i gleifion, sef bod gwasanaethau meddygon teulu ar agor, a byddwn yn parhau â'n hymdrechion. Bydd sicrhau mynediad haws i bobl mewn ardaloedd difreintiedig, neu i'r rhai o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn bwnc a gaiff ei drafod â byrddau iechyd a chaiff ei gynnwys mewn gwaith ar safonau mynediad y bwriedir iddo gael ei gwblhau ym mis Mawrth 2021. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i'r dull gweithredu lle caiff y person cywir ei weld ar yr adeg gywir yn y lle cywir a Model Gofal Sylfaenol Cymru.

Gwasanaethau iechyd meddwl

Mae'r adroddiad hefyd yn gofyn inni ymrwymo i gefnogi ac ariannu camau gweithredu parhaus ac ymarferol wrth ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl priodol a theg, sy'n gymwys yn ddiwylliannol, i unigolion o gefndiroedd Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau a gydnabyddir sy'n bodoli o ran defnyddio a darparu gwasanaethau iechyd meddwl. Mae'n awgrymu y dylid cyflawni hyn drwy ddefnyddio'r Cynllun Ardystio Cymhwysedd Diwylliannol Iechyd Meddwl i Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sydd wedi'i gymeradwyo gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru, ac unrhyw gamau ymarferol eraill o'r fath.

Rydym eisoes yn ymrwymedig i leihau anghydraddoldebau iechyd ac mae hybu mynediad cyfartal at wasanaethau iechyd meddwl yn gam ategol allweddol yng Nghynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, 2019-22. Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys yr ymrwymiad i Fyrddau Iechyd ddarparu gofal a chymorth mwy priodol drwy fabwysiadu pecyn cymorth Cymhwysedd Diwylliannol Diverse Cymru. Byddwn yn gweithio gyda Diverse Cymru i gyflymu'r cam gweithredu hwn a sicrhau ei fod wedi'i ymwreiddio.

Mae'r cynllun Law yn Llaw at Iechyd Meddwl hefyd yn ymrwymo i wella data am iechyd meddwl drwy gyflwyno Set Ddata Graidd Iechyd Meddwl. Mae hyn yn cynnwys casglu gwybodaeth am ethnigrwydd. Rhoddwyd y set ddata newydd ar gyfer trefniadau cadw yn unol ag adran 135/136, a ddatblygwyd gan y Grŵp Sicrwydd Concordat Gofal mewn Argyfwng Iechyd Meddwl, ar waith ym mis Ebrill 2019 ac mae'n cynnwys data am ethnigrwydd. Caiff y data eu cyhoeddi ar StatsCymru.

Rydym hefyd yn diwygio cynllun cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl mewn ymateb i COVID-19. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau cydlyniad agosach â'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol a chamau i atgyfnerthu gwaith ymgysylltu â grwpiau yr effeithiodd COVID-19 yn anghymesur arnynt er mwyn gwella ymwybyddiaeth o wasanaethau iechyd meddwl a mynediad atynt.

Cyflogaeth ac Effaith Economaidd-gymdeithasol Anghymesur

Galwodd yr adroddiad ar Lywodraeth Cymru i weithredu er mwyn monitro, a lliniaru lle y bo'n bosibl, effaith anghymesur pandemig y Coronafeirws a'r dirwasgiad tebygol ar Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Cymru'n Gweithio ar ei fwletin swyddi ar-lein. Bydd Cymru'n Gweithio yn cynnig cyngor a chanllawiau i unigolion i'w cefnogi i ddod o hyd i swyddi perthnasol. Rydym hefyd yn cyd-gysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau ar eu gwefannau cymorth swyddi a chymorth i gyflogwyr ac yn hyrwyddo'r rhain drwy'r Porth Sgiliau i Fusnes.

Er mwyn cefnogi Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn benodol, rydym yn gweithio gyda Chanolfannau Gwaith yr Adran Gwaith a Phensiynau a Chymru'n Gweithio i drefnu ffeiriau swyddi mewn cymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig gyda'r nod o dynnu sylw at y cyfleoedd a'r cymorth cyflogadwyedd sydd ar gael.

Mae tri Grŵp Ymateb Rhanbarthol ar Gyflogaeth wedi cael eu sefydlu gyda'r nod o ddiogelu a chefnogi cyflogwyr, gweithwyr a chymunedau y mae newidiadau yn y farchnad lafur leol, yn sgil COVID-19, wedi effeithio arnynt. Byddant yn darparu trosolwg o'r farchnad lafur drwy adrodd am achosion o ddileu swyddi, lefelau uwch o ddiweithdra a phobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), ac yn ymateb i'r materion hyn. Bydd y Grwpiau yn cael data lefel uchel, gan ganolbwyntio ar nifer y swyddi a gaiff eu dileu yn y rhanbarth. Byddant hefyd yn canolbwyntio'n fwy penodol ar y materion cyflogadwyedd sy'n wynebu Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Mae aelodau'r Grwpiau Ymateb Rhanbarthol yn cynnwys sefydliadau cyflogwyr, undebau llafur, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, Gwasanaethau Iechyd Cyhoeddus, Gyrfa Cymru, cynrychiolwyr cymunedol a swyddogion Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru a Phrif Swyddogion Rhanbarthol.

Mae sicrhau cyfle cyfartal ac ehangu mynediad at brentisiaethau yn flaenoriaeth allweddol yn ein polisi prentisiaethau. Ers 2016 mae rôl Hyrwyddwr, a elwir yn Arweinydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Strategol bellach, wedi bod yn gweithio gyda'r rhwydwaith i ysgogi ymrwymiad y sector i gynyddu cyfranogiad unigolion o grwpiau gwarchodedig ar brentisiaethau. Roedd yr Arweinydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Strategol presennol yn aelod o'r Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol.

Mae'r Arweinydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Strategol yn datblygu Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a chyfres o gamau ar y cyd â darparwyr Dysgu Seiliedig ar Waith i gefnogi Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i gael lle ar brentisiaethau, er enghraifft cynnal digwyddiadau wedi'u targedu at bobl ifanc o gefndiroedd Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig i hyrwyddo prentisiaethau. Bydd hefyd yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, ddigwyddiadau ar-lein a fydd yn targedu cymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a gaiff eu darparu ar y cyd â sefydliadau'r trydydd sector ac asiantaethau cymorth cyflogaeth. Mae pob rhaglen brentisiaeth yn cefnogi'r sector preifat a'r sector cyhoeddus.

Bydd cymhellion recriwtio newydd sy'n cael eu cyflwyno yn ysgogi cyflogwyr i gyflogi pobl ifanc 16-24 oed, ac yn cefnogi prentisiaid a gollodd eu gwaith oherwydd argyfwng COVID-19 i ddod o hyd i swydd newydd er mwyn parhau i ddysgu. Bydd y cymhellion hyn yn cynnwys cymorth i bobl ifanc o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Mae rhestr o'r holl fusnesau sydd wedi cael Cymorth gan y Llywodraeth wedi'i chyhoeddi ac ar gael

Darperir dadansoddiad o'r buddsoddiadau fesul awdurdod lleol er, am resymau cyfrinachedd masnachol, nid yw Banc Datblygu Cymru yn cyhoeddi enwau busnesau sydd wedi cael benthyciad na gwerth cymharol y benthyciadau hynny.

Yn 2018, fel rhan o'r gwaith o'i ddatblygu, comisiynodd Banc Datblygu Cymru asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb a oedd yn ystyried y rhwystrau a wynebwyd gan Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig wrth geisio cael cyllid. Roedd yr adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion a arweiniodd at adolygu'r systemau a'r prosesau ar gyfer casglu data amrywiaeth.

Rhoddwyd hyfforddiant ar amrywiaeth a rhagfarn ddiarwybod ar waith ar draws y grŵp yn 2019 ac mae dealltwriaeth o'r materion a godwyd yn rhan o'n rhaglen fonitro dreigl. Yn y ddwy flynedd ers yr hyfforddiant hwn, mae cyfran y Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y gweithlu wedi cynyddu o 2% i 8%.

Mae gwaith ymgysylltu â sefydliadau cynrychioliadol, megis y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd a Chyngor Mwslimiaid Cymru, wedi cynyddu.

Mae 3% o gyfarwyddwyr/rhanddeiliaid busnesau a gefnogir gan y Banc Datblygu yn Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Mae data Cynllun Benthyciadau Busnes COVID-19 Cymru, lle cawsant eu cwblhau gan y busnes, ar gael fel a ganlyn:

BME Nifer
Perchenogion Du a Lleiafrif Ethnig 67
Perchenogion nad ydynt yn Ddu nac yn Lleiafrif Ethnig 1130.5
Byddai'n well gennyf beidio â dweud 154

Yn ychwanegol at yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol dwyran yr ymgymerwyd ag ef dros y blynyddoedd diwethaf, mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates AS, wedi sefydlu Gweithgor i archwilio amrywiaeth yn y sector trafnidiaeth.

Aeth y cyfarfod anffurfiol cyntaf ati'n gyflym i drafod rhai o'r materion sy'n effeithio ar Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a bydd y grŵp yn parhau i ganolbwyntio ar hyn wrth fynd ymlaen. Cafodd y gwaith ei ohirio oherwydd COVID-19, ond rydym yn bwriadu cynnal cyfarfod swyddogol cyntaf y grŵp ym mis Medi er mwyn cytuno ar ei gylch gorchwyl.

Mae'n ofynnol i gwmnïau sy'n cael cyllid uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru gwblhau contract economaidd. Mae'r contract hwn yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau ddangos sut y maent yn darparu amgylchedd gwaith teg. Mae hyn yn cynnwys ystyried amrywiaeth eang o ffactorau, gan gynnwys polisïau recriwtio. Mae'r contract yn cael ei ailwampio ar hyn o bryd ac mae canllawiau'n cael eu diweddaru er mwyn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i Adferiad Seiliedig ar Werthoedd.

Argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu cronfa arbennig ar gyfer gweithwyr sy'n wynebu'r risg o COVID-19 a gaiff ei hymestyn i bawb nad ydynt yn gymwys i gael tâl salwch gan eu cwmni ym mhob sector.

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi codi'r mater hwn ar gyfer yr economi gìg, ynghyd â sectorau eraill o'r economi a lithrodd drwy'r bylchau yn narpariaeth Llywodraeth y DU, gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar sawl achlysur, a bydd yn parhau i wneud hynny. 

Nod Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru yw llenwi'r bylchau yng nghymorth ariannol Llywodraeth y DU gan gyd-fynd â chymorth presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer yr economi. Gwnaethom nodi'r bylchau yn y cymorth i'r rhai a oedd newydd ddod yn hunangyflogedig yn benodol drwy ddarparu £5m i gefnogi cwmnïau newydd nad oedd y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig gan Lywodraeth y DU yn eu helpu. Bydd y cynllun grant yn cefnogi hyd at 2,000 o gwmnïau newydd yng Nghymru gyda grant o £2,500 yr un. Rydym yn parhau i asesu'r bylchau mewn cymorth ariannol a'r ffordd orau y gallwn ddefnyddio'r adnoddau ariannol sydd gennym i gefnogi'r economi.

Caiff y mwyafrif o weithwyr gofal cymdeithasol eu lleihau i dâl salwch statudol pan fydd angen iddynt aros gartref o'r gwaith. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughn Gething AS, wedi nodi ei fod am ddefnyddio arian sy'n deillio o'r Gronfa Rheoli Heintiau i ‘ychwanegu’ at incwm gweithwyr cartrefi gofal a rhai gweithwyr gofal eraill dros dro. Bydd hyn yn cael gwared ar yr elfen ariannol a allai atal staff gofal rhag mynd i'r gwaith os bydd ganddynt symptomau neu os byddant yn sâl gyda COVID-19.

Cyhoeddodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson, ar 21 Mai 2020 y byddai'n eithrio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol o'r Gordal Iechyd Mewnfudo cyn gynted â phosibl, a dilynodd cyhoeddiad ar 17 Mehefin i nodi y byddai'r rhai a oedd wedi talu'r Gordal Iechyd Mewnfudo ers y cyhoeddiad cychwynnol yn cael ad-daliad. Dim ond i fudwyr nad ydynt o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd y mae hyn yn berthnasol ar hyn o bryd, ond bydd yn ymestyn i fudwyr o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd pan ddaw'r rhyddid i symud rhwng gwledydd i ben ar 1 Ionawr 2021 a phan ddaw'r System Mudo Seiliedig ar Bwyntiau newydd i rym. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r Gweinyddiaethau Datganoledig eraill, yn gweithio gyda'r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar union gymhwysedd y rhai a gaiff eu heithrio o dalu'r Gordal Iechyd Mewnfudo a'r gweithdrefnau ar gyfer ad-dalu unigolion.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ddylunio trydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd, ac mae ystyriaethau ariannu cyflogaeth yn rhan o'r opsiynau sy'n cael eu paratoi i weinidogion.

Argymhellwyd y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch lleihau costau fisâu, yn enwedig i'r rheini sydd yn y band incwm isel o ran yr incwm (cyflog) sy'n ofynnol er mwyn noddi gŵr neu wraig neu blant o dramor.

Rydym wedi rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU ar sawl achlysur i leihau'r trothwy cyflog (neu gael gwared arno), ac rydym wedi gweithio'n agos gyda nifer o randdeiliaid allanol mewn perthynas â'r  Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder. Ysgrifennodd y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles, at yr Ysgrifennydd Cartref ym mis Mai a dywedodd fod rhai newidiadau uniongyrchol yn ofynnol, yng ngoleuni'r argyfwng presennol, er mwyn sicrhau y gall pawb yn y DU gael gwasanaethau hanfodol. Felly, yn unol â rhai gwledydd Ewropeaidd eraill, rydym wedi awgrymu y dylid rhoi caniatâd i aros i bob mudwr. Neu gwnaethom awgrymu y dylai'r Ysgrifennydd Cartref o leiaf godi'r cyfyngiadau Dim Hawl i Arian Cyhoeddus a chael gwared ar y Prawf Preswylio Fel Arfer er mwyn sicrhau lles mudwyr yn ystod y pandemig ac ar ei ôl.

Roedd yr ymateb a gafwyd gan Weinidog Mewnfudo Llywodraeth y DU yn siomedig a byddwn yn parhau i dynnu ei sylw at y mater hwn. 

Arferion gwaith, telerau ac amodau

Er mai mater i gyflogwyr unigol yw telerau ac amodau ac er nad yw pob dull ysgogi ar gyfer newid deddfwriaeth cyflogaeth wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, rydym yn ymrwymedig i ddiogelu hawliau gweithwyr yng Nghymru. Rydym yn datblygu ac yn atgyfnerthu rôl y bartneriaeth gymdeithasol ledled Cymru drwy ddeddfwriaeth fel rhan o'n hymrwymiad i Fil Partneriaeth Gymdeithasol ac i gyflawni'r agenda Gwaith Teg. Bydd hyn, yn y tymor hwy, yn ein galluogi i fynd i'r afael â rhai o'r materion ategol sy'n arwain at anghydraddoldeb ar draws y gweithlu yng Nghymru.  Mewn meysydd annatganoledig, rydym yn ymrwymedig i ddefnyddio ein dylanwad gyda phartneriaid a Llywodraeth y DU i'n helpu i gyflawni ein nodau ar gyfer cenedl Gwaith Teg.

Mae'r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu incwm, sicrwydd swydd a datblygiad gyrfa gweithwyr Du ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy'n wynebu risg uchel o ddal COVID-19 ac y mae angen eu symud o ddyletswyddau rheng flaen.

Mewn sectorau lle mae gennym ddulliau ysgogi uniongyrchol, roedd modd inni fynd i'r afael â hyn yn uniongyrchol. Er enghraifft, mae gan GIG Cymru bolisïau clir a chadarn i ddiogelu telerau ac amodau cyflog gweithwyr a gaiff eu symud o ddyletswyddau rheng flaen. Cytunwyd ar y rhain mewn partneriaeth gymdeithasol ac maent wedi'u hymgorffori yng Nghwestiynau Cyffredin i Gyflogwyr y GIG y gellir dod o hyd iddynt ar wefan Cyflogwyr y GIG.  Mae'r rhain yn ymdrin â'r disgwyliad y dylai'r sefydliadau hynny sy'n cyflogi staff o Fanc Staff y GIG dalu am sifftiau a drefnwyd ond na weithiwyd naill ai oherwydd haint COVID-19 neu am fod angen i'r unigolyn hunanynysu neu gael ei adleoli o ganlyniad i asesiad risg. Bydd y trefniadau hyn yn parhau i gael eu hadolygu drwy Fforwm Partneriaeth GIG Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio'n effeithiol ac yn deg. Mae adleoli i feysydd gwaith eraill, gweithio gartref neu, pan nad yw'r rhain yn bosibl, aros i ffwrdd o'r gwaith ar gyflog llawn os asesir bod risg unigolyn yn uchel, oll ar waith ar gyfer gweithlu'r GIG.

Mae gennym lai o ddulliau ysgogi uniongyrchol yn y sector gofal cymdeithasol gan fod y rhan fwyaf o gyflogwyr gofal cymdeithasol yn y sector preifat. Fodd bynnag, rydym yn monitro'r broses o roi'r adnodd asesu risg ar waith yn y sector gofal cymdeithasol a byddwn yn ystyried pa gamau pellach sydd angen eu cymryd i gefnogi gweithwyr gofal cymdeithasol. Rydym yn ystyried y dulliau ysgogi sydd ar gael inni i helpu gyda gwelliannau ehangach mewn telerau ac amodau ac rydym yn parhau i weithio gydag undebau a chyflogwyr yn y sector, gan gynnwys drwy'r Fforwm Gofal Cymdeithasol a fydd yn cyfarfod ym mis Medi.

Mae'r adroddiad hefyd yn gwneud tri argymhelliad yn galw arnom i fynd i'r afael ag unrhyw achosion annheg neu anghyfreithlon o wahaniaethu yn y gwaith, neu gan ddefnyddwyr gwasanaethau, drwy roi sylw o'r newydd i arferion nad ydynt yn ormesol, cymwyseddau cydraddoldeb a chyflwyno asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb sy'n benodol i ethnigrwydd. Mae'n gwneud rhai awgrymiadau penodol ynghylch sefydlu ‘mannau diogel’ a llinellau cymorth cyfrinachol i herio'n ddiogel a chodi pryderon.

Byddwn yn gweithio gyda'r gweithlu o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, undebau llafur, cyflogwyr ac aelodau o rwydweithiau cydraddoldeb presennol y GIG i weithredu ar yr argymhellion hyn yn gyson ledled y wlad. Byddwn hefyd yn ystyried ffyrdd gwell o gasglu data drwy adnoddau presennol y gweithlu ac yn sefydlu gweithdrefnau newydd, megis cyflwyno a monitro cynnydd yn erbyn Safon Cydraddoldeb Hiliol y Gweithlu. Byddwn hefyd yn archwilio'r ffyrdd y gellir atgyfnerthu gweithdrefnau a chamau diogelu presennol er mwyn gwella profiadau bywyd go iawn ein cydweithwyr Du ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y GIG.

Tai

Tynnodd argymhellion yr adroddiad sylw at yr angen i weithredu er mwyn cefnogi unigolion sy'n byw yn agos at ei gilydd lle gall cadw pellter cymdeithasol fod yn anodd, a lle gall fod angen gweithredu er mwyn mynd i'r afael â phroblemau gorlenwi neu osgoi hyn. Rydym wedi darparu canllawiau ar sut i aros yn ddiogel a hunanynysu mewn tai amlfeddiannaeth, ond rydym yn cydnabod bod hyn yn eithriadol o anodd mewn llety a rennir.

Gall tai fod yn orlawn am nifer o resymau, ond mae tystiolaeth sydd ar gael yn awgrymu ei fod yn gysylltiedig â thlodi yn aml. Yn ogystal, mae nifer anghymesur o uwch o Bobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn byw mewn tlodi ac rydym yn gwybod bod y rhai hynny ar incymau is yn fwy tebygol o fyw yn y sector rhentu preifat. Mae dadansoddiad o'r data diweddaraf sydd ar gael i Gymru yn dangos bod:

  • hanner y boblogaeth Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru yn byw mewn eiddo rhent, o gymharu ag ychydig llai na thraean o bobl wyn. (Ystadegau Cymru, 2020)
  • pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig sy'n rhentu yn fwy tebygol o fyw mewn eiddo rhent preifat yn hytrach nag eiddo rhent cymdeithasol (o gymharu â chyfrannau cymharol debyg o bobl wyn sy'n byw mewn eiddo rhent preifat ac eiddo rhent cymdeithasol). (Ystadegau Cymru, 2020)

Mae darpariaeth statudol i fynd i'r afael â thai gorlawn ac mae'n rhaid i bob landlord ac asiant fod wedi'u trwyddedu. Mae'n mynnu os caiff gwelliannau o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai eu nodi gan awdurdod lleol, yna rhaid gweithredu arnynt. Mae awdurdodau lleol yn gorfodi rheoliadau ffitrwydd i fod yn gartref, sy'n cynnwys safonau gofod gyda'r nod o osgoi gorlenwi. Serch hynny, mae'n glir bod gorlenwi yn broblem sy'n parhau ac rydym yn cydnabod ei bod yn hollbwysig ein bod yn deall yn well y gydberthynas rhwng tai gorlawn a'r effaith anghymesur ar rai Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a bod yn agored i niwed gan COVID-19. 

Byddwn yn ystyried ymchwil bresennol ar dai gorlawn ac ymchwil bosibl er mwyn deall yn well y cysylltiad rhwng tai gorlawn a'r risg uwch o ddal COVID-19 ymhlith Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Dylai hyn ystyried ble mae gorlenwi yn digwydd (gan gynnwys deiliadaeth), a'r rhesymau dros hyn. Mae'n bwysig nodi y gall gorlenwi fod yn broblem mewn llety rhent neu mewn llety sy'n eiddo i berchen-feddianwyr ac am nifer o resymau, gan gynnwys lle mae sawl cenhedlaeth o'r un teulu yn byw gyda'i gilydd.

Bydd angen i'r ymchwil ystyried y ffordd y mae'r risg uwch o ddal COVID-19 ymhlith Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn rhyngweithio â phroblemau gorlenwi a cheisio nodi unrhyw gamau lliniaru.

Pwysleisiodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, fod angen sicrhau nad oedd unrhyw un yn cael ei adael ar y stryd yn ystod y pandemig, gan gynnwys y rhai heb hawl i arian cyhoeddus, a bod pobl yn cael llety diogel a gweddus.

Mae data cydraddoldeb am bobl ddigartref, a'r rhai sydd mewn perygl o fod yn ddigartref, yn wael ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r bwlch hwn. Nid ydym am i unrhyw un a gafodd lety dros dro yn ystod argyfwng y coronafeirws gael ei orfodi i ddychwelyd i'r stryd neu i lety anaddas a chyhoeddwyd hyd at £50m o gyllid ychwanegol, refeniw a chyfalaf, i gefnogi'r cam nesaf yn ein hymateb i ddigartrefedd. Mae'r ffocws ar gefnogi pobl yn ôl i dai parhaol yn gyflym, darparu opsiynau o ansawdd uchel a gydag urddas yn y cyfamser a bod yn glir bod gwasanaethau ar y stryd yn cael eu blaenoriaethu er mwyn cael rhaglen allgymorth rymusol, broffesiynol sy'n canolbwyntio ar ddatrys digartrefedd.

Yn ein cynllun Cenedl Noddfa, gwnaethom ymrwymo i ariannu cymorth i ffoaduriaid sydd newydd eu nodi er mwyn iddynt allu dechrau ailadeiladu eu bywydau yng Nghymru. Rydym yn ariannu Cyngor Ffoaduriaid Cymru i ddarparu'r gwasanaeth ‘Symud Ymlaen’ hanfodol hwn er mwyn atal digartrefedd ac amddifadrwydd ymhlith y rhai y nodwyd eu bod eisoes wedi ffoi rhag erledigaeth a thrawma.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweithio gyda'r Swyddfa Gartref a phartneriaid eraill i gynyddu effeithiolrwydd y broses hon ac rydym yn cymryd rhan mewn sgyrsiau parhaus ar hyn o bryd am sut i wella'r system ymhellach, yng nghyd-destun ailddechrau gwasanaethau wrth i gyfyngiadau'r coronafeirws gael eu codi. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i wella opsiynau Symud Ymlaen i ffoaduriaid sydd newydd eu nodi.

Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi astudiaeth ddichonoldeb ar ddarparu llety ar gyfer ceiswyr lloches a wrthodwyd sydd â rhesymau dilys dros apelio neu gyflwyno cais newydd am loches i’r Swyddfa Gartref. Byddwn yn gweithio gyda Chynghrair Ffoaduriaid Cymru a sefydliadau Tai dros y misoedd nesaf i sicrhau y gellir rhoi argymhellion yr adroddiad ar waith yn effeithiol. Dylai hyn gynyddu’r capasiti ar gyfer darparu cynlluniau gwestya a chyngor cyfreithiol ar gyfer ceiswyr lloches a wrthodwyd yng Nghymru.

Byddwn hefyd yn helpu i fynd i'r afael â phroblem tai gorlawn drwy adeiladu mwy o dai fforddiadwy. Mae'r panel annibynnol a ymgymerodd â'r Adolygiad Annibynnol o'r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy wedi nodi bod yr angen am dai yn ffrwd waith â blaenoriaeth. Rydym wedi ymrwymo i darged uchelgeisiol, sef darparu 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn nhymor y llywodraeth hon ac rydym yn gwneud cynnydd da tuag at gyflawni hyn, gyda buddsoddiad o £2 biliwn mewn tai.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu gwasanaeth cyngor ac eiriolaeth i Sipsiwn, Roma a Theithwyr a gaiff ei ddarparu gan TGP Cymru. Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu cymorth ymarferol uniongyrchol i'r rhai sy'n byw ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr a gall gefnogi preswylwyr sy'n dod ar draws problemau gorlenwi i ymuno â rhestrau aros am leiniau neu roi rhyw fath o gymorth i'r rhai sydd am ddatblygu eu safleoedd preifat eu hunain er mwyn diwallu eu hanghenion llety eu hunain.

Wrth i bandemig COVID-19 ledaenu yng Nghymru, daeth yn hanfodol sicrhau bod gwybodaeth am iechyd y cyhoedd yn cyrraedd pob grŵp o bobl yn ein cymdeithas. Mewn ymateb i hyn, cynullodd Llywodraeth Cymru grŵp rhanddeiliaid Sipsiwn, Roma a Theithwyr arbenigol o blith darparwyr gwasanaethau awdurdodau lleol a'r trydydd sector sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda chymunedau. Mae'r grŵp wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd â Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill, megis Iechyd Cyhoeddus Cymru, i nodi materion sy'n effeithio ar gymunedau ac i gynnig dealltwriaeth ddiwylliannol, gwybodaeth a chyngor mewn perthynas ag effeithiau tebygol polisïau a gwasanaethau a ddarperir.

I ymateb i bryderon a godwyd drwy waith ymgysylltu â rhanddeiliaid, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar 15 Mai 2020 i awdurdodau lleol er mwyn iddynt nodi'r risgiau a'r anghenion cymorth a wynebir gan Sipsiwn a Theithwyr yn ystod pandemig COVID-19. Tynnodd y canllawiau hyn sylw at yr amgylchiadau penodol yn ymwneud â gorlenwi mewn ôl-gerbydau, rhannu cyfleusterau a'r rhwystrau i allu hunanynysu. Roedd y canllawiau yn cynnwys cyngor penodol ar fesurau i liniaru lledaeniad COVID-19, gan gynnwys toiledau neu lanweithdra ychwanegol, darparu menyg i'w defnyddio mewn rhai ardaloedd cymunedol neu wneud yn siŵr bod preswylwyr sy'n hunanynysu yn gallu cael bwyd, tanwydd, meddyginiaeth a nwyddau glanhau.

Ar 15 Mai, cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt, y gellid defnyddio'r £10M o gyllid ychwanegol i gefnogi'r rhai sy'n wynebu risg o gysgu allan neu mewn llety amhriodol i ddarparu cyfleusterau glanweithdra a hylendid ychwanegol ar safleoedd teithwyr presennol neu mewn gwersylloedd wrth ymyl y ffordd, ac i ddarparu llety ychwanegol er mwyn rheoli achosion lluosog neu frigiadau ar safleoedd Sipsiwn a Theithwyr.

Addysg

Argymhellwyd y dylid datblygu hanes Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a hanes y Gymanwlad fel rhan o Gwricwlwm Cenedlaethol Cymru 2022 ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd er mwyn atal hiliaeth a hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol.

O 2022, bydd Cwricwlwm newydd i Gymru. Un o'r pedwar diben sydd wrth wraidd y fframwaith hwn yw y dylai dysgwyr ddatblygu fel dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd sy'n ‘wybodus am eu diwylliant, eu cymuned, eu cymdeithas a’r byd yn awr ac yn y gorffennol’, ac yn ‘parchu anghenion a hawliau pobl eraill, fel aelod o gymdeithas amrywiol’.  Mae'r rhain wedi bod yn rhan ganolog o bob penderfyniad a wnaed ynghylch y cwricwlwm newydd.

Er nad yw'r cwricwlwm newydd yn rhagnodi rhestr lawn o bynciau nac yn gorchymyn meysydd penodol i'w haddysgu, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau cynhwysfawr i gefnogi ysgolion wrth iddynt lunio eu cwricwlwm eu hunain sy'n gosod disgwyliadau o ran ehangder y dysgu. Mae'r canllawiau yn nodi, wrth ddylunio cwricwlwm, y dylai ymarferwyr gynnwys cyfleoedd i ddysgwyr ddathlu cefndiroedd a gwerthoedd amrywiol a hyrwyddo dealltwriaeth o amrywiaeth ethnig a diwylliannol Cymru.

Rydym yn cydnabod bod datblygu rhai agweddau ar y cwricwlwm newydd yn fater sensitif. Mae’n amlwg bod angen inni weithio yn arbennig gyda chymunedau a’r holl bartïon a chanddynt fuddiant i ddatblygu’r gwaith o addysgu a dysgu am berthnasoedd ac addysg rhyw mewn ysgolion a datblygu cyd-ddealltwriaeth o’r materion hyn. Rydym wedi sefydlu Grŵp Cynnwys Cymunedau Ffydd a BAME er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio gyda chymunedau i’w cynnwys fel eu bod yn gwybod sut y bydd hyn yn edrych yn y cwricwlwm newydd. Rydym wedi gweithio’n agos gyda grwpiau ffydd drwy gydol y broses o ddatblygu’r cwricwlwm newydd a’r cyfnod adborth i sicrhau eu bod yn cael cyfleoedd i gyfrannu.

Ar 21 Gorffennaf, cafodd yr Athro Charlotte Williams (OBE) ei phenodi gan Lywodraeth Cymru i arwain gweithgor newydd i gynghori ar y ffordd yr addysgir themâu sy'n ymwneud â chymunedau a phrofiadau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ym mhob rhan o gwricwlwm yr ysgol, a'i gwella. Bydd y gweithgor yn adolygu adnoddau dysgu sydd ar gael ar hyn o bryd i gefnogi'r gwaith o addysgu themâu sy'n ymwneud â Phobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a chynefin ym mhob rhan o'r cwricwlwm. Bydd y grŵp hefyd yn adolygu cyfleoedd ac adnoddau dysgu proffesiynol cysylltiedig. Bydd cysylltiad agos rhwng y grŵp a'r adolygiad o hanes Cymru gan Estyn, yr arolygiaeth addysg. Byddant yn cyflwyno eu canfyddiadau cychwynnol yn yr hydref, a chyhoeddir adroddiad llawn yn y gwanwyn.

Mae dysgu am hanes ein cenedl yn rhan ganolog o'r canllawiau ar y cwricwlwm fel bod pobl ifanc yn cael profiadau dysgu cyfoethog am hanes, daearyddiaeth a diwylliannau Cymru.

Yn ogystal â hyn, ym mis Gorffennaf penododd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, Grŵp Gorchwyl a Gorffen, wedi'i gadeirio gan Gaynor Legall, i archwilio henebion cyhoeddus, enwau strydoedd ac adeiladau Amcan yr archwiliad yw casglu ac adolygu'r dystiolaeth, ac wedi hynny bydd y Grŵp yn nodi unrhyw faterion a all fod yn destun ail gam posibl. Bydd y Grŵp yn adrodd ar ei ganfyddiadau yn yr hydref.

Argymhelliad arall mewn perthynas ag addysg oedd hyrwyddo Cynllun Parhad Dysgu Llywodraeth Cymru i deuluoedd a phobl ifanc o gefndiroedd Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig er mwyn deall yn well sut i gydweithio a thargedu cymorth er mwyn lleihau'r posibilrwydd o ymestyn bylchau cyrhaeddiad fel y nodir yn y Cynllun Parhad Dysgu – ‘Cadw'n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu’ – a sicrhau bod y dechnoleg a'r adnoddau ar gael i ddysgwyr ac i'r rhai sy'n gyfrifol amdanynt.

Roedd sicrhau bod pob dysgwr yn parhau i gael addysg addas er gwaethaf y tarfu angenrheidiol o ganlyniad i'n hymateb i bandemig COVID-19 yn un o'r themâu a oedd yn sail i Cadw'n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu.   

Gwnaethom gydnabod bod risg y byddai addasu ysgolion a lleoliadau at ddibenion gwahanol yn cael yr effaith fwyaf ar rai o'n dysgwyr mwyaf agored i niwed a dan anfantais. Roeddem hefyd yn ymwybodol iawn y byddai'r camau a gymerwyd wrth inni symud i'r cam nesaf o addysg yn hanfodol i'n dysgwyr agored i niwed a dan anfantais – yn gyntaf o ran eu llesiant, ac yna o ran eu dysgu.

Nod canllawiau a ddosbarthwyd i rieni oedd targedu rhieni grwpiau agored i niwed a dan anfantais yn benodol. Mae'r canllawiau wedi cael eu cyhoeddi mewn amrywiaeth o ieithoedd lleiafrifol er mwyn rhoi cymorth arbennig i'r rhieni a'r gofalwyr hynny y gall Saesneg fod yn iaith ychwanegol iddynt. Ysgolion fydd â'r ddealltwriaeth a'r wybodaeth orau am eu dysgwyr a nhw sydd yn y sefyllfa orau i hyrwyddo'r Cynllun Parhad Dysgu wrth iddynt barhau i fod yn gyfrifol am ddarparu dysgu.

Cyhoeddwyd canllawiau i helpu rhieni a gofalwyr a sefydlwyd adran benodol ar Hwb.

Fel rhan o ‘Cadw'n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu’ neilltuodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, hyd at £3m fel rhan o raglen Technoleg Addysg Hwb er mwyn cefnogi dysgwyr a oedd wedi'u hallgáu'n ddigidol mewn ysgolion a gynhelir, lle nad oedd darpariaeth bresennol ar waith gan eu hysgol na'u hawdurdod lleol. Diffinnir dysgwyr sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol fel ‘dysgwyr nad oes ganddynt fynediad i ddyfais briodol sydd wedi'i chysylltu â'r rhyngrwyd i allu cymryd rhan mewn gweithgareddau ar-lein yn eu cartrefi’.

Llwyddodd Llywodraeth Cymru i sicrhau bargen cysylltedd cenedlaethol gyda gweithredwyr symudol mawr i gael dyfeisiau MiFi a sefydlu ateb technegol, a oedd yn galluogi pob awdurdod lleol i addasu dyfeisiau ysgolion a oedd ganddynt eisoes.  Amrywiodd y ffordd yr aethpwyd ati i wneud hyn o awdurdod lleol i awdurdod lleol, ond roedd wedi'i ysgogi'n bennaf gan ddealltwriaeth yr ysgol o anghenion y dysgwr unigol. Hyd yn hyn, mae 10,848 o ddyfeisiau MiFi a 9,717 o drwyddedau meddalwedd wedi'u darparu i awdurdodau lleol ledled Cymru. Yn seiliedig ar adborth gan awdurdodau lleol, drwy eu trefniadau eu hunain neu drwy ein cymorth a ddarperir yn genedlaethol, rydym ar ddeall bod darpariaeth i ddysgwyr a oedd wedi'u hallgáu'n ddigidol bellach ar waith. Mae mwy o wybodaeth ar gael.

Ar 17 Awst, cyhoeddwyd Canllawiau ar gyfer cefnogi dysgwyr sy’n agored i niwed a dan anfantais wrth i ysgolion a lleoliadau gynyddu eu gweithrediadau.  Mae'n cynnwys cyngor sy'n ymwneud â dysgwyr o gymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.  Mae'r canllawiau yn cydnabod yr heriau penodol y gall dysgwyr eu hwynebu ac yn cynnig cyngor a chanllawiau i helpu ysgolion i gefnogi eu llesiant a'u dysgu yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.

Mae'r materion pwysig hyn bellach yn cael ystyriaeth arbennig drwy'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, sef rhaglen sydd newydd ei hariannu er mwyn mynd i'r afael â phroblemau ymddieithrio a cholli addysg o ganlyniad i darfu ar addysg amser llawn.

Mae pedwar maes pwysig lle yr ystyrir anghenion Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a grwpiau eraill o ddysgwyr yr effeithiwyd yn andwyol arnynt.

Yn gyntaf, cyfanswm gwerth y prosiect Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau yw £30m.  Bydd y mwyafrif helaeth o'r swm hwn (98.5%) yn mynd yn syth i ysgolion, ac mae'r model cyllido yn cynnwys pwysoliad er mwyn sicrhau bod ysgolion sydd â niferoedd uwch o ddysgwyr sy'n cael prydau ysgol am ddim, dysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, dysgwyr sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol a dysgwyr o gefndiroedd Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael cyfran fwy o gyllid. Mae'r cyllid hwn yn ychwanegol at ffrydiau cyllido presennol, gan gynnwys y Grant Datblygu Disgyblion £100m a'r £10m o gyllid sy'n mynd i awdurdodau lleol er mwyn cefnogi dysgwyr o gymunedau Lleiafrifoedd Ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr.

Yn ail, mae'r egwyddorion arweiniol yn cynnwys cyfeiriad at gymorth i ddysgwyr â'r angen mwyaf; y carfanau hynny yr effeithiwyd arnynt fwyaf sy'n cynnwys dysgwyr Du ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Mae'r egwyddorion hefyd yn cyfeirio at gwricwlwm cytbwys sydd wedi'i gynllunio i ailennyn diddordeb dysgwyr yn yr ysgol ni waeth beth fo eu man cychwyn, a gorchymyn i wario'r cyllid ar bobl a all helpu dysgwyr i ddychwelyd a gwneud cynnydd yn gyflym. Yn olaf, rydym wedi nodi egwyddor cydweithredu fel y gall ysgolion weithio gyda'i gilydd, eu hawdurdodau lleol a'u rhanbarthau a grwpiau cymunedol ac asiantaethau eraill i ddiwallu anghenion dysgwyr unigol a'u teuluoedd.

Yn drydydd, rydym yn darparu lefel o gyllid ar gyfer cydweithredu rhanbarthol fel bod rhanbarthau, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, megis prifysgolion a'r sector gwirfoddol, yn gallu cydweithio i sicrhau bod y datrysiadau a ddarperir i ysgolion a ganddynt yn strategol gydlynol ac i wneud y defnydd gorau o gapasiti a galluoedd asiantaethau ar lawr gwlad. Yn olaf, fel rhan o'n cynllun cenedlaethol i reoli COVID-19, byddwn yn nodi ein disgwyliadau gan ysgolion os bydd rhagor o darfu ar addysg amser llawn mewn ysgolion. 

Rydym yn disgwyl i ysgolion ddatblygu cynllun sy'n nodi sut, beth a phryd y byddant yn darparu mynediad parhaus at y cwricwlwm, yn benodol:

  • darparu dulliau addysgu ac asesu o ansawdd uchel i hyrwyddo cynnydd o ddechrau tymor yr hydref
  • cyflawni dulliau addysgegol dysgu cyfunol sy'n berthnasol ym mhob senario er mwyn gwella'r arlwy addysgol
  • rhoi dulliau addysgegol hyblyg ar waith i sicrhau nad yw dysgwyr yn colli cyfleoedd os byddant i ffwrdd o'r ysgol am gyfnod.

Bydd yn ofynnol i ysgolion amlinellu mewn cynllun ysgol neu gynllun clwstwr sut y byddant yn sicrhau'r canlynol:

  • hawl i gyswllt yn seiliedig ar nifer o oriau dyddiol
  • hawl i weithgareddau dysgu cydamserol ‘byw’ yn seiliedig ar nifer o oriau dyddiol
  • hawl ac ymrwymiad dysgwyr i amser hunanastudio anghydamseredig yn seiliedig ar adnoddau
  • hawl i ddysgu ac addysgu arbenigol, yn enwedig mewn perthynas â dysgwyr a chymwysterau penodol

Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)

Rydym wedi rhoi amrywiaeth eang o fesurau ar waith i helpu dioddefwyr i geisio cymorth. Mae ein llinell gymorth ‘Byw Heb Ofn’ yn rhoi cymorth i siaradwyr ieithoedd eraill drwy LanguageLine. Rydym yn gweithio drwy Bawso i sicrhau bod y rhai nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf yn gallu cael cymorth yn ddiogel.Rydym hefyd wedi darparu deunyddiau ymgyrchu mewn perthynas â'r cymorth sydd ar gael mewn Arabeg, Tsieinëeg, Hindi, Pwyleg, Pwnjabeg ac Wrdw.

Rydym yn cynnig sesiynau e-ddysgu i staff mewn gorsafoedd profi ac i swyddogion olrhain cysylltiadau; wedi arddangos posteri mewn gorsafoedd profi a chynnwys gwybodaeth mewn pecynnau profi gartref; wedi hyrwyddo ein llinell gymorth ‘Byw Heb Ofn’; wedi cynnig sesiynau e-ddysgu i wirfoddolwyr, gyrwyr danfon nwyddau, gweithwyr post ac unrhyw un a all ddod i gysylltiad ag aelwydydd, ac wedi darparu hyfforddiant ‘Gofyn a Gweithredu’ i weithwyr proffesiynol rheng flaen a'r rhai sy'n darparu gofal iechyd sylfaenol yn benodol. Rydym hefyd yn darparu cyllid grant i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr VAWDASV o gefndiroedd Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Rydym yn hyrwyddo ein prif linell gymorth a gwefan ‘Byw Heb Ofn’ sy'n llinell gymorth 24/7 am ddim i ddioddefwyr cam-drin domestig. Gall staff y llinell gymorth ddefnyddio LanguageLine, felly gallant roi cymorth i ddioddefwyr/goroeswyr mewn ieithoedd eraill. Rydym hefyd yn hyrwyddo dulliau cysylltu ‘tawel’, megis negeseuon testun, e-bost a sgwrsio ar y we. Mewn argyfwng, rydym yn annog pobl i gysylltu â'r gwasanaethau brys drwy ffonio 999 ac, os na fydd y galwr yn gallu siarad, gwasgu 55 pan fydd y gweithredwr yn ateb.  Mae gan Bawso, a ariennir yn graidd gan Lywodraeth Cymru, linell gymorth hefyd, a chaiff ei dargyfeirio i ‘Byw Heb Ofn’ y tu allan i oriau.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyd-gadeirio'r Grŵp Arwain ar Drais ar Sail Anrhydedd gyda Bawso a Gwasanaeth Erlyn y Goron. Mae cynllun gweithredu'r Grŵp Arwain wrthi'n cael ei adolygu a bydd yr argymhellion yn yr adroddiad Economaidd-gymdeithasol yn llywio'r gwaith o ddatblygu rhan o gynllun gweithredu newydd. Yn benodol, bydd y Grŵp Arwain yn gyfrifol am nodi'r risgiau penodol y mae COVID-19 yn eu peri i ddioddefwyr/goroeswyr VAWDASV sydd o gefndiroedd Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, y rhwystrau a wynebir ganddynt wrth geisio cael cymorth sy'n wahanol i'r rhwystrau a wynebir yn fwy cyffredinol, a pha fesurau ychwanegol y dylid eu rhoi ar waith i oresgyn y risgiau a'r rhwystrau penodol hynny.

Nod ein hymgyrch gyfathrebu, ‘Ddylai neb fod yn ofnus gartre’ oedd darparu gwybodaeth i'r rhai a oedd yn byw gyda chyflawnwyr yn ystod y cyfyngiadau symud am sut i gael cymorth yn ddiogel, annog pobl sy'n gwylio a phobl eraill a oedd yn bryderus i adnabod arwyddion VAWDASV a helpu dioddefwyr i gael cymorth yn ddiogel, a dilyn sesiynau e-ddysgu i'w helpu i wneud hyn. Roedd ail gam yr ymgyrch yn seiliedig ar lacio'r cyfyngiadau symud a chafodd ei ddarlledu ar y teledu, ar y radio, mewn papur newydd ac ar Twitter a Facebook. Rydym wedi darparu deunyddiau ymgyrchu i'w rhannu mewn Arabeg, Tsieinëeg, Hindi, Pwyleg, Pwnjabeg ac Wrdw. Mae gan bob un o'n hymgyrchoedd cyfathrebu negeseuon gwahanol ar gyfer grwpiau â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys cymunedau Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Rydym am wneud mwy ac rydym yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ystyried taflenni gwybodaeth amlieithog. Rydym hefyd yn ystyried sut i ddefnyddio cyflwyniad fideo mewn ieithoedd gwahanol i roi gwybod i ddioddefwyr sut i gael cymorth brys gan yr heddlu drwy ffonio 999 a defnyddio'r opsiwn 55.

Casgliad

Mae'r ymateb hwn yn nodi'r camau sydd ar waith a'n bwriad i ddatblygu ymhellach yr argymhellion a nodir yn Adroddiad Is-Grŵp Economaidd-Gymdeithasol COVID-19 Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Nid yw'r camau yn hollgynhwysfawr a byddwn yn adeiladu arnynt ymhellach. Mae rôl barhaus yr Is-Grŵp Economaidd-gymdeithasol wrth fonitro cynnydd yn bwysig mewn perthynas â'r ymateb hwn er mwyn sicrhau ei fod yn parhau’n berthnasol ac yn gwneud y gwahaniaeth a fwriedir gan yr argymhellion. 

Mae'r gwaith o ddatblygu'r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol wedi dechrau a bydd hwn yn hanfodol er mwyn cefnogi'r argymhellion hyn ynghyd â nodi a chyflawni newidiadau a fydd yn mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau sefydledig y mae Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn eu profi yn eu bywydau. Fel rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cynllun a'i roi ar waith, byddwn yn gweithredu ar yr argymhelliad i sefydlu Uned Gwahaniaethau ar sail Hil yng Nghymru ynghyd â dulliau a strwythurau eraill sydd 

eu hangen er mwyn cyflawni ac ymwreiddio'n effeithiol y newidiadau cymdeithasol sydd eu hangen ar frys er mwyn ymdrin ag anghydraddoldeb hiliol yng Nghymru.

Bydd dealltwriaeth a chyngor yr Is-Grŵp Economaidd-gymdeithasol, ymhlith eraill, yn hanfodol er mwyn datblygu'r cynllun hwn a sicrhau ei fod yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol yng Nghymru yn effeithiol.