Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Amcan yr ymgynghoriad hwn yw gofyn ichi am eich barn am ein cynnig i ddynodi Traeth Col-huw (Llanilltud Fawr) a Thraeth Penarth yn ddyfroedd ymdrochi o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 ar gyfer tymor ymdrochi 2022.

Mae’n ofynnol ar i Lywodraeth Cymru nodi dyfroedd ymdrochi poblogaidd yng Nghymru, monitro ansawdd eu dŵr a rhoi gwybodaeth i ymdrochwyr am ansawdd y dŵr ar y safleoedd sydd wedi’i dynodi.  Yng Nghymru, mae’r tymor ymdrochi’n para o 15 Mai tan 30 Medi.

 

Un o’r gofynion o dan y Rheoliadau yw bod Llywodraeth Cymru bob blwyddyn yn adolygu ac yn cyhoeddi’r rhestr o ddyfroedd ymdrochi sydd wedi’u dynodi yng Nghymru.

Pwrpas yr Ymgynghoriad

Nod yr ymgynghoriad hwn yw ceisio barn pobl am ein cynnig i ddynodi Traeth Col-Huw (Llanilltud Fawr) a Thraeth Penarth yn ddyfroedd ymdrochi dynodedig o dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 ar gyfer tymor ymdrochi 2022.

O dan Reoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013, mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru restru'r holl ardaloedd ymdrochi poblogaidd yng Nghymru bob blwyddyn.  Amcan y Rheoliadau yw diogelu iechyd ymdrochwyr rhag llygredd carthion drwy fonitro enterococci’r coluddion ac E.coli a rhoi gwybodaeth i'r cyhoedd fel y gall pobl wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch ble a phryd i ymdrochi.

Nifer yr ymdrochwyr yw'r maen prawf y bydd Llywodraeth Cymru'n ei ddefnyddio wrth ystyried a yw'n briodol dynodi safle, ac yn benodol yng nghyswllt unrhyw seilwaith neu gyfleusterau a ddarperir, neu fesurau eraill a gymerir i hyrwyddo ymdrochi ar y safle.

Y sefyllfa bresennol

Cyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi 2006/7/EC sy'n rhoi’r fecanwaith ar gyfer dynodi dyfroedd ymdrochi yn y DU ac mae’n rhan o gyfraith yr UE sydd wedi’i chadw yng Nghymru. Mae Rheoliadau Dŵr Ymdrochi 2013 yn pennu'r gofynion statudol sy'n gysylltiedig â rheoli dyfroedd ymdrochi yng Nghymru.

Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru nodi ardaloedd ymdrochi poblogaidd yng Nghymru bob blwyddyn. Amcan y Rheoliadau yw diogelu iechyd ymdrochwyr a rhoi gwybod i ymdrochwyr am y peryglon iechyd sy'n gysylltiedig ag ansawdd dŵr gwael. 

Ar hyn o bryd mae gan Gymru 105 o ddyfroedd ymdrochi dynodedig. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n profi ansawdd dŵr y dyfroedd ymdrochi hyn yn ystod y tymor ymdrochi, sydd yng Nghymru'n rhedeg o 15 Mai tan 30 Medi.  Disgrifir dyfroedd ymdrochi dynodedig fel rhagorol, da, boddhaol neu wael gan ddibynnu ar ganlyniadau samplu ansawdd dŵr. Mae'r dosbarthiadau ansawdd dŵr ymdrochi yn seiliedig ar ddau baramedr microbiolegol: enterococci’r coluddion ac E.coli.

Yn 2021, roedd pob un o'r 105 o ddyfroedd ymdrochi a oedd wedi’u dynodi yng Nghymru yn bodloni'r safon ofynnol ar gyfer ansawdd dŵr ymdrochi. Cyhoeddir canlyniadau dyfroedd ymdrochi dynodedig unigol yng Nghymru ar wefan Llywodraeth Cymru yn: Canlyniadau Dwr Ymdrochi Cymru 2021. Mae dyfroedd ymdrochi yn werthfawr oherwydd y cyfleoedd hamdden y maent yn eu darparu i bobl Cymru, yr economi leol a thwristiaeth. Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo hefyd i ddechrau dynodi dyfroedd mewndirol Cymru ar gyfer hamdden.

Cais i ddynodi Traeth Col-Huw (Llanilltud Fawr) yn Ddŵr Ymdrochi

Cawsom gais gan Gyngor Bro Morgannwg i ystyried dynodi Traeth Col-Huw (Llanilltud Fawr) (GR:SS956674) yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2022.  

Tystiolaeth a gwybodaeth a dderbyniwyd gan Gyngor Bro Morgannwg o blaid y cais i ddynodi Traeth Col-Huw (Llanilltud Fawr)

Fel rhan o’r cais, darparwyd arolygon o Draeth Col-Huw (Llanilltud Fawr) a ddangosodd i ragor na 5,000 o bobl, yn nofwyr ac yn ymdrochwyr, ddefnyddio'r traeth yn ystod cyfnod yr haf rhwng 1 Mehefin a 5 Medi 2021. Dros yr un cyfnod nodwyd gan yr arolwg bod dros 2,500 o bobl eraill wedi defnyddio’r traeth.

Lluniwyd yr arolygon gan nifer o grwpiau a sefydliadau sy'n defnyddio ac yn gweithredu ar y safle, gan gynnwys grŵp nofio.

Darparwyd gwybodaeth am yr ymgynghori a chymorth lleol ar gyfer y dynodiad arfaethedig. Rhoddodd y Cyngor wybod i CNC o'u bwriad i wneud cais am gael dynodi'r traeth, cyn cyflwyno'r cais. Darparwyd ffotograffau yn dangos aelodau o'r cyhoedd yn y dŵr ac ar y traeth.  Darparwyd ffotograffau hefyd a oedd yn cynnwys tystiolaeth o arwyddion a gwybodaeth gyhoeddus, toiledau cyhoeddus, cyfleusterau storio beiciau, parcio, biniau sbwriel ac ailgylchu, man picnic a chaffi ar lan y traeth a llithrfa newydd i hwyluso mynediad i'r traeth. Mae'r Cyngor hefyd yn dweud bod achubwyr bywyd yr RNLI yn bresennol o fis Gorffennaf i fis Medi.

Gwybodaeth am Draeth Col-Huw (Llanilltud Fawr).

Cais i ddynodi Traeth Penarth yn Ddŵr Ymdrochi

Cawsom gais gan aelod o’r cyhoedd i ystyried dynodi Traeth Penarth (ST 18947119) yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2022.

Tystiolaeth a gwybodaeth a dderbyniwyd gan aelod o’r cyhoedd o blaid y cais i ddynodi Traeth Penarth

Roedd y cais yn cynnwys tystiolaeth ar y cyfryngau cymdeithasol o'r defnydd o’r traeth, gydag unigolion a grwpiau, gan gynnwys grwpiau nofio, sy’n defnyddio’r traeth yn cefnogi'r dynodiad. Roedd y dystiolaeth yn cynnwys nifer y nofwyr a chyfnodau defnyddio’r traeth. Nododd y cais y bu cynnydd yn nifer yr ymdrochwyr ar y safle dros y ddwy flynedd ddiwethaf a bod cynifer â 100+ o nofwyr yn defnyddio’r dŵr gydol y flwyddyn, yn enwedig yn yr haf. Cafwyd ffotograffau o grwpiau o oedolion yn mynd i’r dŵr ac yn dod ohono. Roedd un llun yn dangos cymaint â 40 o bobl yn y dŵr ar un adeg.

Nid oedd tystiolaeth yn y cais am gyfleusterau na gwybodaeth amgylcheddol/cyhoeddus ar y safle.

Gwybodaeth am Benarth.

Y camau nesaf ar ôl ymgynghori

Caiff yr holl ymatebion i’r ymgynghoriad hwn eu dadansoddi a’u hystyried a bydd Llywodraeth Cymru’n cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion hynny.

Cwestiynau ymgynghori

Cwestiwn 1

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i ddynodi Traeth Col-huw (Llanilltud Fawr) yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2022?

Beth yw’ch barn am y cynnig a’ch rhesymau/tystiolaeth o blaid y farn honno?

Cwestiwn 2

Ydych chi’n cytuno neu’n anghytuno â’r cynnig i ddynodi Traeth Penarth yn ddŵr ymdrochi ar gyfer tymor ymdrochi 2022?

Beth yw’ch barn am y cynnig a’ch rhesymau/tystiolaeth o blaid y farn honno?

Cwestiwn 3

Byddem yn hoffi clywed eich barn am yr effeithiau y byddai’n cynigion yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut y gellir cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?

Cwestiwn 4

 Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut y credwch y gellir llunio neu newid y camau gweithredu sy’n cael eu cynnig er mwyn cael effeithiau cadarnhaol, neu fwy o effeithiau cadarnhaol, ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Cwestiwn 5

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol yn y ddogfen hon. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, defnyddiwch y lle hwn i’w nodi

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 15 Chwefror 2022.

Ymatebwch i’r ymgynghoriad hwn trwy ateb y cwestiynau ar y ffurflen ymateb.  Gallwch gyflwyno’ch ymatebion trwy:

E-bost: dwr@llyw.cymru

neu’r

Post:

Cangen Ddŵr (Ymgynghori ar Ddyfroedd Ymdrochi)
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Os oes gennych gwestiynau am yr ymgynghoriad hwn, e-bostiwch dwr@llyw.cymru neu ffoniwch 03000255509.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru   
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

e-bost: Data.ProtectionOfficer@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu
0303 123 1113

Gwefan: https://ico.org.uk/

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG44042

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Mae’r ddogfen hon ar gael hefyd yn Saesneg / This document is also available in English.