Neidio i'r prif gynnwy

Teitl yr adroddiad

'Addysg gychwynnol athrawon yn y sectorau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol'

Manylion yr adroddiad

Mae’r ymateb cyflym hwn yn sylfaen i waith Grŵp Llywio Datblygu’r Gweithlu Ôl-16 Llywodraeth Cymru, ac mae’n seiliedig ar yr astudiaeth gwmpasu ar ddysgu proffesiynol ôl-16 a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru yn 2019.

Roedd pum amcan i’r adolygiad:

  1. Sefydlu nifer, dull astudio a chefndir galwedigaethol dysgwyr ar raglenni Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg / Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg AHO mewn sefydliadau addysg uwch a sefydliadau addysg bellach breiniol yng Nghymru.
  2. Nodi canfyddiadau arweinwyr cyrsiau o ansawdd cynnwys y cyrsiau, eu cryfder a’r meysydd i’w gwella, a’r heriau presennol o ran eu darpariaeth eu hunain a’r sector cyfan.
  3. Nodi canfyddiadau arweinwyr cyrsiau o gynnwys y cwricwlwm, p’un a ydynt yn cyflawni eu diben, a’r cysylltiad â safonau proffesiynol.
  4. Gwerthuso i ba raddau y mae arweinwyr cyrsiau yn elwa ar rwydweithiau proffesiynol i gefnogi eu gwaith.
  5. Ymchwilio i brofiadau myfyrwyr presennol Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg / Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg o’r rhaglen.

Comisiynwyd y cyngor gan Gangen Datblygu’r Gweithlu Ôl-16 yr Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau, ac mae’n sail i ddatblygu’r prosiect ymhellach.

Crynodeb o’r prif ganfyddiadau

Mae arweinwyr cyrsiau rhaglenni AGA Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol yn ymroddedig dros ben i’w hyfforddeion a’u rhaglenni, ac yn rhoi gwerth ar bwysigrwydd lleoliadau gwaith a mentora. Fodd bynnag, mae llawer o’r gwaith hwn yn cymryd cryn amser ac yn seiliedig ar ewyllys da. 

Yn gyffredinol, mae yna ddiffyg cysondeb ar draws sector AGA Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol, ac nid oes llawer o gyfleoedd i arweinwyr a thimau gyfarfod, datblygu addysgeg a rhannu arferion da.

Nid oes trefniant cenedlaethol i oruchwylio’r sector yn strategol, sy’n arwain at ddiffyg eglurder ynghylch datblygu’r gweithle yn gyffredinol.

Yn bwysig iawn, mae’r ffaith nad oes dull gweithredu cenedlaethol ar gyfer dysgu proffesiynol, yn wahanol i’r sector addysg orfodol, yn golygu nad oes yr un hyblygrwydd i’r hyfforddeion ag a ddarperir i’r rheini sy’n hyfforddi mewn ysgolion, o ran gweithio yn y naill sector neu’r llall, ac mae’n ychwanegu at yr argraff bod y sector AHO rywsut yn israddol i’r sector addysg orfodol.

Mae’r gyfran o hyfforddeion yn 2019 a oedd yn cael unrhyw ran o’u profiad addysgu drwy’r Gymraeg yn sylweddol is nag a oedd yn wir yn achos y gweithlu presennol, ac mae hyn yn bryder. Nid yw hyn yn argoeli’n dda o ran y dyhead a nodir yn ‘Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr’ i ehangu darpariaeth ôl-16 cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog.

Mae’r adolygiad yn cynnwys 9 argymhelliad i gyd, pedwar ar gyfer Llywodraeth Cymru, sydd wedi’u nodi isod; a phump ar gyfer darparwyr:

Y pum argymhelliad i ddarparwyr:

Argymhelliad 5
Gwella darpariaeth mentora i hyfforddeion AGA.

Argymhelliad 6
Cynyddu’r cyfleoedd i hyfforddeion ymgymryd â’u profiad addysgu a chwblhau agweddau ar eu rhaglen hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg.

Argymhelliad 7
Sicrhau bod pob hyfforddai yn cael lleoliadau profiad addysgu o ansawdd uchel sy’n cynnig cyfleoedd iddynt arsylwi arfer addysgu gref a datblygu medrau addysgu cynhwysfawr.

Argymhelliad 8
Sicrhau bod pob rhaglen AGA AHO yn ddigon hyblyg i fodloni anghenion yr ystod lawn o hyfforddeion.

Argymhelliad 9
Sicrhau y caiff rhaglenni eu llunio ar y cyd, gan ystyried anghenion hyfforddeion mewn SAUau a SABau, ac mewn ymgynghoriad â chyflogwyr AHO.

Mae’r pum argymhelliad hwn ar gyfer y sector i gyd yn ymwneud â gweithredu rhaglenni AGA Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol a’u cynnwys. Bydd swyddogion yn gweithio gyda Sefydliadau Addysg Uwch, Sefydliadau Addysg Bellach, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac eraill i ystyried anghenion y sector, ac i benderfynu ar ddyfodol rhaglenni AGA Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol.

Argymhelliad 1

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • Cynnal adolygiad strwythurol o ddarpariaeth AGA AHO, sy’n ystyried y themâu sy’n dod i’r amlwg a nodir yn yr adroddiad hwn ac anghenion datblygu ehangach y gweithlu

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Yn amodol ar gymeradwyo’r gyllideb, mae tîm Datblygu’r Gweithlu Ôl-16 yn bwriadu gweithredu’r argymhelliad hwn o fewn yr ychydig fisoedd nesaf er mwyn cyfrannu at baratoi’r Fframwaith Datblygu Proffesiynol Ôl-16. Rhoddir cyngor pellach i’r Gweinidog cyn diwedd y flwyddyn galendr.

Argymhelliad 2

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • Sicrhau y caiff data sy’n ymwneud â nifer, deilliannau a chyrchfannau hyfforddeion ar raglenni AGA AHO ei gasglu a’i gyhoeddi’n rheolaidd

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Bydd swyddogion yn ystyried sut gellir casglu’r data hwn mewn modd mwy strategol i lywio’r gwaith o ddatblygu polisi ymhellach ar gyfer y sector. Oherwydd yr amserlen dan sylw, mae’n debygol y gwneir y gwaith hwn gan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.

Argymhelliad 3

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • Brocera cyfleoedd i arweinwyr cyrsiau a staff cyflwyno mewn SABau a SAUau i ddatblygu rhwydweithiau dysgu proffesiynol sy’n canolbwyntio ar addysgeg AGA AHO

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Bydd swyddogion yn siarad â chydweithwyr o fewn Sefydliadau Addysg Bellach, Sefydliadau Addysg Uwch, Prifysgolion Cymru a Cholegau Cymru i ystyried y dull mwyaf effeithiol o weithredu’r argymhelliad hwn.

Argymhelliad 4

Dylai Llywodraeth Cymru:

  • Datblygu cymhelllion i annog hyfforddeion i addysgu ac astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Ymateb Llywodraeth Cymru:

Yn amodol ar gymeradwyo’r gyllideb, mae swyddogion yn bwriadu adolygu Cynllun Cymhellion presennol y sector Addysg Bellach mewn perthynas â rhaglenni AGA Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol er mwyn ystyried y ffordd fwyaf effeithiol o ddefnyddio’r cyllid; a byddant yn gweithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i benderfynu ar y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon o fynd i’r afael â’r materion a nodwyd yn yr adolygiad. Y bwriad yw i’r gwaith hwn fod yn rhan o gynllun gwaith y prosiect ar gyfer 2022-23 a bwydo i mewn i’r Fframwaith Datblygu Proffesiynol ar ddiwedd y prosiect yn 2023. Rhoddir cyngor pellach i’r Gweinidog o fewn yr ychydig fisoedd nesaf.

Manylion cyhoeddi

Cyhoeddodd Estyn yr adolygiad hwn ar 18th Hydref 2021.