Neidio i'r prif gynnwy

Mae adeiladau Llywodraeth Cymru ledled Cymru yn cael eu defnyddio gan y GIG i ddarparu gofal achub bywyd ac i gefnogi’r ymateb cenedlaethol i bandemig y coronafeirws (COVID-19).

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

O Fangor yn y Gogledd i Sain Tathan yn y De, mae adeiladau sy’n eiddo i’r Llywodraeth yn cael eu haddasu at ddibenion gwahanol fel rhan o’r ymdrech genedlaethol.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd: 

Mae’r Coronafeirws yn cyflwyno heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen ond ar draws Cymru rydyn ni’n gweld pobl, busnesau a sefydliadau yn gwneud eu gorau glas i’w goresgyn. 

Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn gallu darparu ei hystâd i helpu’r GIG ac i gefnogi’r gwaith o gynhyrchu offer hanfodol newydd a fydd yn achub bywydau.

Rydyn ni hefyd yn parhau i weithio gyda’n partneriaid ar ein hystâd i gefnogi’r GIG a gwasanaethau cyhoeddus mewn ymateb i’r pandemig.

Mae Diwydiant Cymru, mewn partneriaeth â’r GIG, yn defnyddio swyddfa newydd yng Nghanolfan Dechnoleg Waterton, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i gydgysylltu ymdrechion i gynhyrchu peiriannau anadlu ychwanegol.

Mae unedau ym Mharc Menai, Bangor wedi’u neilltuo i’w defnyddio gan Gofal Sylfaenol Arfon, sy’n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ar gyfer ymgynghoriadau a phrofion meddygol brys.

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gan weithio gyda Phrifysgol Abertawe, yn meddiannu rhan o adeilad profion anninistriol Llywodraeth Cymru ym Mhort Talbot fel canolfan i storio a dosbarthu cyflenwadau i drin y Coronafeirws.

Mae ysbyty maes â lle ar gyfer 1,000 o welyau yn cael ei greu yn adeilad Llywodraeth Cymru yn Bay Studios, Abertawe. Mae’r adeilad ar hyn o bryd wedi’i osod i Roy Thomas, perchennog safle Bay Studios.

Mae’r Ganolfan Arloesi ym maes Gwella Clwyfau, yn Ynysmaerdy ger Llantrisant yn caniatáu i Ysbyty Brenhinol Morgannwg ddefnyddio ei hadeilad.

Mae Invacare, sydd wedi’i leoli yng Nghanolfan Dechnoleg Sony, yn darparu cynhyrchion meddygol i’r GIG, gan gynnwys matresi ar gyfer Ysbyty Nightingale yng Nghanolfan Excel Llundain ac eraill.

Mae TJM Laser yn gweithio gyda’r Bathdy Brenhinol i gynhyrchu feisorau ar gyfer y GIG. Mae am gael ei leoli dros dro ym Mharc Busnes Bro Tathan er mwyn cwrdd y galw dyddiol am feisorau. Mae eisoes wedi cynhyrchu mwy na 200,000 o feisorau a bydd symud i Fro Tathan yn ei alluogi i gynhyrchu 15,000 ohonynt y dydd.

Mae Airbus yn aelod o gonsortiwm VentilatorChallengeUK ar draws y DU i greu peiriannau anadlu yn gyflym, ac maent yn defnyddio AMRC Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, i gynhyrchu’r peiriannau anadlu ym Mrychdyn.