Sut i ddefnyddio’r PIN actifadu er mwyn actifadu eich cyfrif Cynnig Gofal Plant.
Cynnwys
Actifadu eich lleoliad gofal plant
Bydd eich cais cofrestru yn cael ei adolygu gan eich awdurdod lleol (ALl).
Mae'r adolygiad hwn yn cynnwys yr ALl yn ffonio’r lleoliad i wirio hunaniaeth a rhai manylion cofrestru.
Unwaith y bydd hyn wedi'i wneud ac y bydd yr ALl yn gallu cymeradwyo'r cais, bydd PIN Actifadu’n cael ei anfon drwy bost y llywodraeth i gyfeiriad eich lleoliad fel y mae wedi'i gofrestru gydag AGC, o fewn 48 awr. Y person arweiniol sy’n actifadu’r gwasanaeth gan ddefnyddio’r PIN actifadu ar ôl mewngofnodi i gyfrif Cynnig Gofal Plant Cymru.
Os nad yw eich lleoliad yn gallu derbyn post, bydd angen ichi drafod hyn gyda'r ALl pan fyddan nhw’n eich ffonio chi i ddilysu eich cofrestriad.
Bydd angen ichi gadw’r PIN Actifadu hwn yn ddiogel er mwyn ei rannu gydag unrhyw ddefnyddwyr eraill sydd am ymuno â chyfrif y lleoliad.
Os yw’r person arweiniol yn gadael cyflogaeth y lleoliad, eu cyfrifoldeb nhw yw i rannu’r PIN gydag arweinydd newydd y lleoliad er mwyn iddyn nhw gael mynediad at y gwasanaeth digidol.
Nid yw’r PIN actifadu wedi cyrraedd
Os nad yw eich PIN wedi cyrraedd, cysylltwch â ni am gymorth.