Defnyddiwch y gwasanaeth hwn a’r opsiwn mewngofnodi i gytuno ar ofal plant gyda rhieni, cyflwyno ceisiadau neu newid manylion eich lleoliad.
Gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif os yw eich lleoliad wedi cofrestru eisoes ar gyfer gwasanaeth digidol newydd Cynnig Gofal Plant Cymru.
Bydd angen eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth er mwyn mewngofnodi i’ch cyfrif.
Bydd angen hefyd:
- eich rhif cofrestru Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), neu os ydych chi wedi cofrestru ag Ofsted, eich rhif cofrestru Ofsted
- y cod post ar gyfer eich lleoliad cofrestredig (y lleoliad ar eich cofrestriad naill ai gydag AGC neu Ofsted)