Rydym yn mynd i’r afael â phroblemau ar y rhwydwaith ar y darn hwn o’r A55.
Cynnwys
Crynodeb
Statws y prosiect: presennol
Rhanbarth/sir: y gogledd-ddwyrain (Gwynedd)
Dyddiad dechrau: hydref 2020
Dyddiad gorffen: gwanwyn 2022
Cost: £30m
Contractwyr adeiladu: Contractwyr Alun Griffiths
Dylunwyr: Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy (YGC)
Pam rydym yn ei wneud
Yr A55 yw’r prif lwybr ar hyd arfordir y gogledd ac mae’n rhan o Rwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd (TEN-T) Euroroute E22. Mae hefyd yn gyswllt pwysig, ar hyd lonydd gwledig, i drefi a chymunedau lleol. Mae hefyd yn cynnig cyswllt â’r de a’r Canolbarth drwy’r A470 gogledd de.
Cafodd y darn hwn o’r A55 ei uwchraddio’n gerbytffordd ddeuol ddiwedd y 1960au ac o’r herwydd, nid yw’n cydymffurfio â’r safonau cyfredol ar gyfer cefnffyrdd. Mae’n dueddol o ddioddef llifogydd.
Y cynllun
Rydym yn gwella diogelwch ar hyd rhan 2.2km o’r A55 drwy:
- ddileu mynediad uniongrychol oddi ar yr A55
- dileu wyth bwch yn y llain ganol
Mae’r bylchau yn y llain ganol yn caniatáu i gerbydau sy’n symud yn araf groesi’r A55. Mae hyn yn beryglus i ddefnyddwyr y ffordd.
Rydym yn creu’r canlynol yn lle hyn:
- ffordd mynediad cyfun
- llwybr teithio llesol rhwng cyffordd 12 ac 13
Rydym yn gwella system ddraenio’r ffordd i leihau’r risg o lifogydd yn yr ardal. Mae gwelliannau wedi’u gwneud yn y gorffennol trwy waith draenio a gynhaliwyd yn 2017.
I leihau ar y tarfu, byddwn yn gyntaf yn cwblhau rhan fwyaf y gwaith oddi ar yr A55. Mae hyn yn cynnwys adeiladu y llwybr 1.3km mynediad cyfun a’r llwybr teithio llesol.
Cynnydd presennol
Yn ystod yr haf 2018 wnaethom ni cyhoeddi byddai'r cynllun yn mynd ymlaen.
Cyhoeddwyd y contractwr dylunio ar ddechrau 2020.
Cyhoeddwyd y contractwr adeiladu ar hydref 2020.
Amserlen
Cyhoeddi'r gorchmynion drafft: hydref 2016
Dechrau'r contract gwaith galluogi: diwedd 2018
Cwblhau'r contract gwaith galluogi: gwanwyn 2019
Dechrau'r prif waith adeiladu: hydref 2020
Cwblhau rhan newydd y gefnffordd: gwanwyn 2021
Camau nesaf
Bydd embargo ar waith ar y ffordd yn ystod yr haf ar yr A55. Bydd pedair lôn o draffig yn parhau i fod ar agor yn ystod y dydd. Bydd rheoli ar y traffig dros dro yn ystod yr dechrau 2021. Y bwriad yw cwblhau y gwaith erbyn gwanwyn 2022.