Neidio i'r prif gynnwy
Llun ardduniadiol o'r A55 Abergwyngregyn i Dai'r Meibion

Rydym yn mynd i’r afael â phroblemau ar y rhwydwaith ar y darn hwn o’r A55.

Statws:
Wedi ei gwblhau
Rhanbarth / Sir:
y gogledd-ddwyrain (Gwynedd)
Dyddiad dechrau:
hydref 2020
Dyddiad gorffen:
gwanwyn 2023
Cost:
£30 miliwn (gan gynnwys £20.775 miliwn o arian gan yr UE)
Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Pam rydym yn ei wneud

Yr A55 yw’r prif lwybr ar hyd arfordir y gogledd ac mae’n rhan o Rwydwaith Trafnidiaeth Traws-Ewropeaidd (TEN-T) Euroroute E22. Mae hefyd yn gyswllt pwysig, ar hyd lonydd gwledig, i drefi a chymunedau lleol. Mae hefyd yn cynnig cyswllt â’r de a’r Canolbarth drwy’r A470 gogledd de.

Cafodd y darn hwn o’r A55 ei uwchraddio’n gerbytffordd ddeuol  ddiwedd y 1960au ac o’r herwydd, nid yw’n cydymffurfio â’r safonau cyfredol ar gyfer cefnffyrdd. Mae’n dueddol o ddioddef llifogydd.

Sut mae’r gwaith yn dod yn ei flaen

Rydym wedi gorffen gwneud gwelliannau ar hyd yr A55 ac wedi gorffen adeiladu darn newydd o ffordd y sir.

Dechreuon ar y gwaith yn Hydref 2021 a daeth y gwaith i ben yng ngwanwyn 2023.

Beth rydym wedi’i wneud

Rydym wedi gwella diogelwch ar hyd 2.2km o’r A55 drwy ddileu wyth bwlch yn y llain ganol. Roedd y bylchau hyn yn caniatáu i gerbydau amaethyddol groesi’r ffordd ac roedd hyn yn beryglus i ddefnyddwyr y ffordd. Adeiladom ddarn newydd o ffordd y sir a fydd yn caniatáu i gerbydau gael mynediad i ffermydd.

Adeiladom lwybr teithio llesol 3.6km o hyd rhwng cyffordd 12 a 13, a fydd yn galluogi defnyddwyr i gerdded a beicio yn fwy diogel.

Rydym wedi darparu lleiniau caled metr o hyd ar hyd y llain ganol ac ar ymyl y gerbytffordd a rhwystr concrit ar hyd y llain ganol i wella diogelwch.

Rydym wedi gwella 800 metr o lwybr amlddefnydd wrth ymyl y gerbytffordd tua’r gorllewin ar yr A55. Bydd hyn yn sicrhau bod y llwybr cerdded a beicio yn fwy diogel rhwng Abergwyngregyn a Llanfairfechan. 

Rydym hefyd wedi gwella system ddraenio’r ffordd i leihau’r risg o lifogydd yn yr ardal. Mae gwelliannau wedi’u gwneud yn y gorffennol drwy waith draenio a gynhaliwyd yn 2017.

Rydym wedi cwblhau’r rhan fwyaf o’r gwaith oddi ar y A55 ac wedi cadw dwy lôn o draffig ar yr A55 ar agor i leihau ar y tarfu.

Dyluniwyd y cynllun gwella i ystyried bioamrywiaeth a datblygu cynaliadwy. Crëwyd pwll dŵr i gyfyngu ar faint o ddŵr sy’n llifo i gyrsiau dŵr, a chwlfertau i annog dyfrgwn a physgod. Gosodwyd pibau sych ar draws yr A55 i ganiatáu mamaliaid bach i groesi yn ddiogel.

Roedd y gwaith o osod wyneb newydd wedi cynnwys sicrhau bod y wyneb newydd yn achosi cyn lleied o sŵn a phosibl ar ôl ymgynghori â thrigolion Abergwyngregyn.

Sicrhawyd £20.775 miliwn o gymorth ariannol drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop i gyflawni'r gwelliannau hyn.

Amserlen

Cyhoeddi'r gorchmynion drafft: hydref 2016
Dechrau'r contract gwaith galluogi: diwedd 2018
Cwblhau'r contract gwaith galluogi: gwanwyn 2019
Dechrau'r prif waith adeiladu: hydref 2020
Cwblhau rhan newydd y gefnffordd: gwanwyn 2023
Cyfnod ôl-ofal amgylcheddol: gwanwyn 2023 tan wanwyn 2028

Camau nesaf

Byddwn ni'n comisiynu'r arwyddion negeseuon newidiol newydd a chamerâu teledu cylch cyfyng. Bydd y rhain yn gysylltiedig â Chanolfan Rheoli Traffig Gogledd Cymru.

Byddwn yn dechrau cyfnod ôl-ofal amgylcheddol pum mlynedd nawr bod y gwaith adeiladu wedi ei gwblhau. Bydd hyn yn cynnwys monitro rhywogaethau i sicrhau bod y mesurau lliniaru a'r gwelliannau amgylcheddol sy'n cael eu cynnwys yn y cynllun hwn yn gweithio.

Image
Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop

Cyhoeddiadau

Adroddiadau, datganiadau amgylcheddol a chynlluniau