Rydym am wella cefnffordd yr A487 i'r gogledd o Aberarth.
Cynnwys
Ystyriodd yr adolygiad ffyrdd y prosiect hwn
Mae’r dudalen hon yn adlewyrchu ein rhaglen flaenorol ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd. Cafodd rhaglen newydd ei chyhoeddi yn y cynllun cyflawni trafnidiaeth.
Byddwn yn cyhoeddi tudalennau newydd ar y wefan er mwyn adlewyrchu’r rhaglen newydd.
Crynodeb
Statws y prosiect: Wedi’i gynllunio/gwaith dylunio rhagarweiniol (WelTAG Cam 3)
Rhanbarth/sir: canolbarth Cymru
Dyddiad dechrau: hydref 2022
Dyddiad dod i ben: hydref 2023
Cost: £17.4 miliwn
Cynghorwyr technegol a dylunwyr: WSP
Wedi'u cofrestru â'r Cynllun Adeiladwyr Ystyriol: nac ydw
Beth ydym ni’n ei wneud
Rydym am gyflwyno dwy linell ddringo newydd ar yr A487 rhwng Aberarth a Llanon. Bydd hyn yn darparu cyfleoedd goddiweddyd i gyfeiriadau'r gogledd a'r de.
Pam rydyn ni'n ei wneud
Rydym wedi nodi bod angen gwneud gwelliannau diogelwch ar gyffyrdd presennol ar hyd y rhwydwaith cefnffyrdd.
Cynnydd presennol
Rydym yn ymgynghori ar waith dylunio rhagarweiniol ac yn drafftio adroddiad Cam 3 WelTAG.
Yr amserlen
Dyfarnu ymgynghorydd: gaeaf 2016
WelTAG cam 1: 2017 i 2018
WelTAG cam 2: 2018 i 2019
WelTAG cam 3: 2020 i 2021
Gwaith dylunio rhagarweiniol a pharatoi Gorchmynion: 2021
Gwaith dylunio: 2022
Adeiladu: hydref 2022 i hydref 2023
Sut ydym ni’n ymgynghori
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal ymgynghoriad ar y cynigion.
Y camau nesaf
Byddwn yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Yn dilyn hyn, byddwn yn argymell y newidiadau a ffefrir i'r cynllun erbyn haf 2021.
Bydd y gwaith dylunio manwl yn dechrau yn ystod 2022.