Neidio i'r prif gynnwy

Hoffwn wneud y gyffordd hon yn fwy diogel i bawb sy’n defnyddio’r ffordd

Statws:
Wedi ei gynllunio
Rhanbarth / Sir:
Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae'r prosiect hwn yn cael ei adolygu

Mae'r prosiect hwn yn cael ei ystyried ar hyn o bryd fel rhan o'r adolygiad ffyrdd.

Pam rydym yn ei wneud

Mae Nantycaws hanner ffordd rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin. Bydd y newidiadau hyn yn gwella’r gyffordd ac yn ein helpu i wella cyffyrdd eraill ar hyd yr A48.

Y gyffordd bresennol:

  • mae cyfradd uchel o wrthdrawiadau yno
  • mae llawer o fannau lle mae cerbydau’n cael damweiniau traffig ar gyflymder uchel
  • nid oes mynediad da at gyfleusterau lleol megis gorsaf wasanaeth/caffi na chanolfan ailgylchu
  • nid yw’n cynnig cyfleoedd i feicio na cherdded yn ddiogel
  • gellir gwella cymorth ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus gan fod problemau diogelwch i fysiau ar hyn o bryd

Hoffwn:

  • wneud y gyffordd yn fwy diogel i bawb sy’n defnyddio’r ffordd gan ddarparu cyffordd fwy diogel i yrwyr a bysiau
  • gwneud y sefyllfa’n haws i gerddwyr a beicwyr groesi’r A48.

Cynnydd presennol

Mae’r prosiect ar Gam 2 o Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) Llywodraeth Cymru ar ôl bod yn rhan o astudiaeth goridor Cam Un sy’n cynnwys holl goridor yr A48 rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin.

Bydd y cam hwn yn cynnwys:

  • sefydlu opsiwn a ffefrir
  • arolygon amgylcheddol
  • asesiad o effaith y gwelliannau
  •  ymgynghori â rhanddeiliaid lleol.

Amserlen

Cyhoeddi adroddiad WelTAG 1: yn gynnar yn 2022
Gorffen adroddiad Interim WelTAG 2: yn gynnar yn 2022
Disgwylir datblygu dyluniad manwl: 2022

Y camau nesaf

Unwaith rydym wedi penderfynu ar gysyniad y ffefrir byddwn yn datblygu’r astudiaeth drwy gam 3 WelTAG.

Beth rydym yn wneud

Hoffwn gyfuno cyffyrdd llai yn ardal Nantycaws yn un gyffordd bwrpasol. Bydd yr un gyffordd hon yn fwy diogel a hygyrch i bawb sy’n defnyddio’r ffordd.

Sut rydym yn ymgynghori

Rydym wedi bod yn ymgynghori â busnesau lleol a thirfeddianwyr yn yr ardal. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda:

  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • cynghorau cymuned
  • y gwasanaethau brys
  • grwpiau buddiant eraill (fel Sustrans)

Byddwn yn cynnal ymgynghoriad ehangach unwaith y byddwn wedi datblygu cysyniad a ffefrir i helpu i lywio'r gwaith datblygu manwl.

Cyhoeddiadau

Adroddiadau, datganiadau amgylcheddol a chynlluniau