Neidio i'r prif gynnwy

Rydym am wella cefnffordd yr A470 wrth gylchfan Llangurig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Am newyddion traffig ewch i Traffig Cymru.

Ystyriodd yr adolygiad ffyrdd y prosiect hwn

Mae’r dudalen hon yn adlewyrchu ein rhaglen flaenorol ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd. Cafodd rhaglen newydd ei chyhoeddi yn y cynllun cyflawni trafnidiaeth.

Byddwn yn cyhoeddi tudalennau newydd ar y wefan er mwyn adlewyrchu’r rhaglen newydd.

Crynodeb

Statws y prosiect: Wedi’i gynllunio/gwaith dylunio rhagarweiniol (WelTAG Cam 3)
Rhanbarth/sir: canolbarth Cymru
Dyddiad dechrau: haf 2022
Dyddiad dod i ben: gwanwyn 2023
Cost: £5.1 milwn
Cynghorwyr technegol a dylunwyr: WSP
Wedi'u cofrestru â'r Cynllun Adeiladwyr Ystyriol: nac ydw

Beth ydym ni’n ei wneud

Rydym am gyflwyno Lôn Gyflymu Wahaniaethol (DAL) oddi ar gylchfan bresennol Llangurig. Bydd hyn yn caniatáu i draffig sy’n teithio tua’r gogledd oddiweddyd ar hyd yr A470 tuag at Cwmbelan.

Pam rydyn ni'n ei wneud

Rydym wedi nodi bod angen gwneud gwelliannau diogelwch ar gyffyrdd presennol ar hyd y rhwydwaith cefnffyrdd.

Cynnydd presennol

Rydym yn ymgynghori ar waith dylunio rhagarweiniol ac yn drafftio adroddiad cam 3 WelTAG.

Yr amserlen

Dyfarnu ymgynghorydd: gaeaf 2016
WelTAG cam 1: 2017 i 2018
WelTAG cam 2: 2018 i 2019
WelTAG cam 3: 2020 i 2021
Gwaith dylunio rhagarweiniol a pharatoi Gorchmynion: 2021
Gwaith dylunio: 2021/2022
Adeiladu: haf 2022 i gwanwyn 2023

Sut ydym ni’n ymgynghori

Ar hyn o bryd rydym yn cynnal ymgynghoriad ar y cynigion.

Y camau nesaf

Byddwn yn ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Yn dilyn hyn, byddwn yn argymell y newidiadau a ffefrir i'r cynllun erbyn gwanwyn 2021. 

Bydd y gwaith dylunio manwl yn dechrau yn ystod haf 2021.