Neidio i'r prif gynnwy

Rydym am wella llif y traffig, diogelwch ar y ffyrdd a chyfleusterau teithio llesol wrth gylchfan Pont-y-pŵl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Am newyddion traffig ewch i Traffig Cymru.

Crynodeb

Statws: cynllun wedi’i gwblhau
Rhanbarth/sir: y de-ddwyrain Cymru
Dyddiad cychwyn: dechrau 2021
Dyddiad gorffen: gwanwyn 2021
Cost: tua £700k
 

Pam aethom ni ati

Ceir tagfeydd wrth y gyffordd hon yn ystod adegau prysur.

Mae cylchfan Pont-y-pŵl yn cysylltu’r A472 â rhwydwaith cefnffyrdd y De-ddwyrain. Ceir tagfeydd trwm wrth y gyffordd ar adegau prysur.

Mae Llywodraeth Cymru, Asiant Cefnffyrdd y De (SWTRA) a Chyngor Tor-faen wedi bod yn cydweithio i weld beth sydd angen ei wneud.

Nid oes darpariaeth ar gyfer cerddwyr, fel croesfannau a llwybrau beicio wrth gylchfan yr A4042 / A472. Roedd rhaid i gerddwyr fynd ar y llain las a chroesi’r A4042 i’r gogledd o’r gylchfan pan oedd bylchau yn y traffig, ac roedd hynny’n beryglus.

Cafodd y gwaith adeiladu ei gwblhau yn ystod gwanwyn 2021.

Beth wnaethom ni

Gwella’r marciau ar y ffordd, creu disgyblaeth well ar lonydd ac annog gyrwyr i ddefnyddio’r ddwy lôn i leihau’r ciwiau.

Adeiladu troedffordd newydd a chroesfan i gerddwyr dros yr A4042 rhwng canghennau Lower Mill a gwasanaethau’r gylchfan.

Defnyddiwyd dull rhagofalus o weithio i leihau’r effaith ar bathewod, moch daear, dyfrgwn, rhywogaethau cyffredin o fadfallod a chlymog Japan.

Gwnaed gwaith clirio’r llystyfiant yn ardal y coetir y tu allan i’r tymor nythu (1 Mawrth i 31 Awst).

Aethpwyd ati i osgoi’r ardaloedd bioamrywiaeth ac ailblannu blodau gwyllt.

Mae gwaith monitro’r safle ar ôl y gwaith yn parhau i sicrhau bod yr amgylchedd yn gweithio.

Sut rydym yn ymgynghori

Aethom ati i ymgynghori â’r prif randdeiliaid a busnesau lleol ym mhob cam o broses arfarnu Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru (WelTAG).

Bydd Alun Griffiths roi gwybod i fusnesau lleol ynglŷn â chau’r ffordd i osgoi tarfu diangen.

Ydy'r gwelliannau wedi gweithio?

Ar ôl i'r gwaith adeiladu gael ei gwblhau, rydym wedi defnyddio arolygon traffig ac arolygon lleol i gasglu'r wybodaeth isod.

Oherwydd yr amser rhwng gwrthdrawiad yn digwydd, a'r data gwrthdrawiadau yn cael eu rhyddhau'n swyddogol gan Awdurdod yr Heddlu, nid yw'n bosibl mesur effeithiolrwydd y cynllun o ran lleihau gwrthdrawiadau eto. Fodd bynnag, ymgynghorwyd â'n hasiant gweithredol, SWTRA, ac nid ydynt wedi adrodd am unrhyw achosion ers i'r cynllun gael ei weithredu. Mae hyn yn arwydd cynnar bod gwrthdrawiadau wedi lleihau ers i’r cynllun gael ei gwblhau.

Mae arolygon yn dangos bod cerddwyr yn cydymffurfio'n gyffredinol o ran defnyddio'r groesfan newydd i gerddwyr. Mae nifer y cerddwyr yn yr ardal wedi cynyddu'n sylweddol o gymharu â’r cyfnod cyn y cynllun.

Image
Image1: A4042 Northbound approaching the new pedestrian crossing.

Delwedd 1: A4042 tua'r gogledd wrth agosáu at y groesfan newydd i gerddwyr.

Image
Image 3: View of pedestrian crossing

Delwedd 2: A4042 tua'r de wrth agosáu at y groesfan newydd i gerddwyr.

Image
Image 2: A4042 Southbound approaching the new pedestrian crossing.

Delwedd 3: Golygfa o groesfan i gerddwyr.