Rydym yn gwella’r ffordd rhwng Llanddewi Felffre, Penblewin a Redstone Cross.
Trosolwg
Pam rydym yn ei wneud?
Mae’r rhan fwyaf o’r A40 rhwng Sanclêr a Hwlffordd yn lôn gerbydau sengl. Rydym am uwchraddio’r ffordd bresennol er mwyn gwella diogelwch a chynnwys llwybrau beicio a cherdded newydd.
Dyma’r problemau cyfredol:
- dim ond ychydig o fannau sydd i basio cerbydau araf
- gwelededd gwael
- llawer o fynedfeydd ar y ffordd
- gall traffig gynyddu dros 30% yn yr haf
- mae’r ffordd yn hollti’r cymunedau
- mae'r A40 yn mynd drwy Landdewi Felffre lle mae terfyn cyflymder o 40mya. Mae hynny’n golygu bod amseroedd teithio’n wael. Mae’r ffordd yn beryglus i yrwyr am eu bod efallai’n rhy barod i fentro pasio cerbydau arafach.
- nid yw prif linell yr A40 na Chyffordd Redstone Cross o’r safon ofynnol
Gwnaethom nodi yn yr Astudiaeth o'r A40 i'r Gorllewin o Sanclêr fod angen y cynllun hwn. Gwnaethom adolygu a diweddaru'r astudiaeth yn 2015 er mwyn cadarnhau y dylem barhau â'r prosiect.
Sut mae’r gwaith yn dod yn ei flaen
Rydyn ni wedi:
- mae’r swyddfa ar y safle bellach ar agor ar gyfer gweithrediadau
- rydym wedi cwblhau ein hymchwiliadau i’r ecoleg yn llwyddiannus
- rydym wedi dechrau clirio llystyfiant yn barod i ddechrau ar y gwaith
- rydym wedi dechrau symud cyfleustodau
- rydym wedi dechrau gwaith ar bontydd, cwlfertau, a tanffyrdd
- rydym wedi dechrau cloddwaith ar raddfa fawr ar draws y cynllun cyfan
- fel rhan o’n hymrwymiad i’r amgylchedd, rydym wedi planu oddeutu 100,000 o goed
Er mwyn caniatáu i’r gwaith hwn gael ei wneud yn ddiogel, rhaid inni ddefnyddio mesurau traffig dros dro. Rydym yn ystyried effaith y gwaith ar ddefnyddwyr y ffordd, trigolion, a’n gweithlu cyn ein bod yn rhoi unrhyw fesurau rheoli traffig yn eu lle. Os hoffech ragor o wybodaeth am y cynllun hwn, ewch i A40 Gwelliannau rhwng Llanddewi Felffre a Redstone Cross (Traffig Cymru).
Rydym yn ddiolchgar ichi am eich cefnogaeth a'ch amynedd wrth inni fwrw ymlaen â’r prosiect cyffrous hwn.
Amserlen
Ymchwiliad lleol cyhoeddus: Mawrth a Thachwedd 2020
Gwneud gorchmynion ar gyfer y cynllun: Mawrth 2021
Caffael contractiwr: rhwng hydref 2020 a haf 2021
Gwaith adeiladu yn dechrau: haf 2021
Adeiladu'n dod i ben: hydref 2024
Beth rydym yn ei wneud
Rydyn ni am:
- wella’r ffordd a’i gwneud hi’n haws teithio i gyrchfannau gwaith, cymuned a thwristiaeth pwysig
- ei gwneud hi’n haws teithio i Hwlffordd, y dref sirol, Ardal Fenter y Ddau Gleddau a phorthladdoedd Abergwaun, Aberdaugleddau a Doc Penfro
- ei gwneud hi’n haws i’r gymuned fynd i rannau eraill y pentref a’r ardal
- lleihau effaith llygredd a thraffig ar y gymuned er mwyn gwella ei hiechyd a’i lles
- lleihau nifer a difrifoldeb gwrthdrawiadau
- gwneud cyffordd Redstone Cross yn fwy diogel
- ei gwneud hi’n haws teithio ar feic, ar geffyl ac ar droed
- ei gwneud hi’n haws i’r gymuned leol ddefnyddio’r rhwydwaith trafnidiaeth leol i deithio i’r prif hybiau trafnidiaeth
Byddwn yn
- adeiladu ffordd newydd 6km o hyd, ar linell wahanol i’r ffordd bresennol
- adeiladu cylchfan newydd i’r dwyrain o Landdewi Felffre i fynd i’r pentref
- adeiladu cyffordd newydd i’r gorllewin o Landdewi Felffre
- gwella cylchfan Penblewin
- adeiladu cyffordd newydd yn Redstone Cross
- adeiladu dwy bont i gario’r ffyrdd presennol
- adeiladu tanffyrdd ar gyfer draeniau a mamaliaid
- adeiladu llwybrau beiciau a cherdded ar hyd yr hen heol
Rydyn ni am gynnal prosiect sy’n gynaliadwy, a chymryd camau i leihau neu niwtraleiddio gwastraff a charbon.
Sut ydym ni’n ymgynghori
Diweddariad Ffordd Llanfallteg
Dewch i gwrdd â'r tim rheoli prosiect yn ein sesiwn galw-i-mewn ar Ddydd Llun 29 Ionawr yn Neuadd Bentref Llanddewi Felffre rhwng 10yb i 5yh.
Ar Dydd Mercher 31 Ionawr byddwn yn Neuadd Bentref Llanfallteg rhwng 10yb a 5yh.
Llanddewi Felffre i Benblewin
Gwnaethom ymgynghori â’r cyhoedd yn 2006 yn ystod y broses o ddatblygu’r llwybr a ffefrir. Gwnaethom drafod â busnesau Sir Benfro yn ystod yr astudiaeth a gynhaliwyd yn 2015.
Cynhaliwyd dwy arddangosfa gyhoeddus ym mis Ebrill a mis Hydref 2017. Ar ôl i’r Gorchmynion drafft gael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2019, gwnaethom benderfyniad i gynnal ymchwiliad lleol cyhoeddus, oherwydd gwrthwynebiadau a ddaeth i law mewn ymateb i'r Gorchmynion drafft. Cynhaliwyd cyfarfod cyn-ymchwiliad ym mis Ionawr 2020.
Cynhaliwyd yr ymchwiliad lleol cyhoeddus ym mis Mawrth 2020.
Penblewin i Redstone Cross
Cynhaliwyd dwy gyfres o arddangosfeydd ym mis Ebrill 2019 i roi gwybodaeth i'r cyhoedd.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Medi 2019.
Cynhaliwyd arddangosfa arall i roi gwybodaeth i’r cyhoedd ym mis Rhagfyr 2019.
Cynhaliwyd arddangosfeydd am yr Gorchmynion drafft ym mis Awst 2020 ar ôl i'r gorchmynion drafft gael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2020.
Ar ôl i’r Gorchmynion drafft gael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2020, gwnaethom benderfynu cynnal ymchwiliad lleol cyhoeddus, oherwydd y gwrthwynebiadau a ddaeth i law mewn ymateb i'r Gorchmynion drafft.
Cynhaliwyd ymchwiliad lleol cyhoeddus ym mis Tachwedd 2020.