Rydym yn gwneud gwelliannau i'r ffordd rhwng Llanddewi Felffre, Penblewin a Redstone Cross.
Trosolwg
Beth rydym yn ei wneud
Rydym yn uwchraddio'r A40 rhwng Sanclêr a Hwlffordd i wella diogelwch ac ymgorffori llwybrau beicio a cherdded newydd.
Bydd hynny’n cynnwys:
- ffordd newydd '2 + 1', gyda mwy o leoedd i oddiweddyd yn ddiogel
- cylchfan newydd i'r dwyrain o Landdewi Felffre, i gael mynediad i'r pentref
- cyffordd newydd i'r gorllewin o Landdewi Felffre
- gwella cylchfan Penblewin
- cyffordd newydd yn Redstone Cross
- dwy bont newydd, yn Redstone Road a Ffordd Llanfallteg
- gwella'r system ddraenio
- adeiladu tanffyrdd ar gyfer mamaliaid, i gefnogi'r ecosystem leol
- creu llwybrau beicio a cherdded newydd i annog teithio llesol
Bydd y ffordd ar gau dros dro drwy gydol y broses adeiladu. Am yr wybodaeth ddiweddaraf, ewch i wefan Traffig Cymru.
Rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth a'ch amynedd wrth i ni barhau i wneud cynnydd ar y prosiect pwysig hwn.
Sut mae'r gwaith yn dod yn ei flaen
Rydym wedi:
- cwblhau'r cloddwaith mawr ac mae'r gwaith tirlunio a phlannu yn mynd rhagddo ar hyn o bryd
- adeiladu cylchfan newydd Penblewin, gyda'r A40 newydd ar agor i draffig o Jacob's Park i gyffordd orllewinol Llanddewi Felffre
- gosod wyneb ar 11.45km (7.11 milltir) o briffordd, y mae 6.54km (4.06 milltir) ohoni'n gefnffordd newydd
- cwblhau pontedd newydd Redstone Road a Llanfallteg
- adeiladu ceuffosydd, a thanffyrdd
- gosod sylfeini ar gyfer arwyddion traffig a rhwystrau diogelwch ac rydym yn gosod arwyddion traffig ar hyn o bryd
- plannu miloedd o goed
Amserlen
Ymholiadau lleol cyhoeddus: gwanwyn a hydref 2020
Gorchmynion a wnaed ar gyfer y cynllun: mawrth 2021
Caffael contractwr: hydref 2020 i haf 2021
Gwaith adeiladu'n dechrau: haf 2021
Gwaith adeiladu'n dod i ben: gwanwyn 2025
Pam rydym yn gwneud y gwaith
Y problemau cyfredol yw:
- gwelededd gwael yn Redstone Cross
- diffyg mannau ar gyfer goddiweddyd cerbydau araf
- amseroedd teithio gwael
- gall traffig gynyddu dros 30% yn ystod yr haf
- mae prif reilffordd yr A40 a Chyffordd Croes Redstone yn is na'r safon ofynnol
- mae'r ffordd yn hollti cymuned Llanddewi Felffre
- mae sawl mynedfa yn agor ar y ffordd
Rydym am wneud y canlynol:
- gwneud cyffordd Redstone Cross yn fwy diogel
- lleihau nifer a difrifoldeb y damweiniau
- darparu lleoedd mwy diogel i oddiweddyd
- lleihau amseroedd teithio
- gwella mynediad i Ardal Fenter Haven, porthladdoedd yn Abergwaun, Aberdaugleddau a Doc Penfro, a thref sirol Hwlffordd
- ei gwneud yn haws cael mynediad i swyddi, adnoddau cymunedol ac atyniadau twristaidd
- lleihau traffig a llygredd yn Llanddewi Felffre
- ei gwneud hi'n haws i bobl sy'n byw yn Llanddewi Felffre fynd o gwmpas y pentref
- ei gwneud hi'n haws teithio ar feic, marchogaeth a cherdded
Gwnaethom nodi yn yr astudiaeth o'r A40 i'r Gorllewin o Sanclêr fod angen y cynllun hwn. Gwnaethom adolygu a diweddaru'r astudiaeth yn 2015 i gadarnhau y dylem barhau â'r prosiect hwn.
Rydym am gyflawni prosiect sy'n gynaliadwy a chymryd camau i leihau neu wrthbwyso gwastraff a charbon.
Sut ydym ni’n ymgynghori
Ffordd Llanfallteg:
- Sesiynau galw heibio cyhoeddus yn neuaddau pentref Llanddewi Felffre a Llanfallteg ym mis Ionawr 2024
Redstone Cross:
- Digwyddiad ymgysylltu â'r gymuned yng Nghanolfan Gymunedol Bloomfield ym mis Chwefror 2024
A40 Llanddewi Felffre i Benblewin:
- Ymgynghoriad cyhoeddus yn 2006 tra'n datblygu'r llwybr a ffefrir
- Ymgysylltu â busnesau Sir Benfro yn 2015
- Gwnaethom gynnal arddangosfeydd cyhoeddus ym mis Ebrill a mis Hydref 2017
- Cyfarfod cyn-ymchwiliad ym mis Ionawr 2020
- Ymchwiliad lleol cyhoeddus ym mis Mawrth 2020.
Rhwng Penblewin a Redstone Cross:
- Arddangosfeydd i roi gwybodaeth i'r cyhoedd ym mis Ebrill 2019
- Ymgynghoriad cyhoeddus rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2019
- Arddangosfa i roi gwybodaeth i’r cyhoedd ym mis Rhagfyr 2019
- Arddangosfa ym mis Awst 2020, yn dilyn cyhoeddi gorchmynion drafft
- Ymchwiliad lleol cyhoeddus ym mis Tachwedd 2020.
